Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Confrence Room 1a, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Tony Flynn.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. (copi wedi’i amgáu)

 

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod

fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 350 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018 (copi

wedi’i amgáu)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018:

 

Tudalen 1 - Dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies nad oedd ei bresenoldeb ef wedi cael ei nodi.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

PENCAMPWYR IAITH pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm -Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd I ddiweddaru’r Pwyllgor Llywio am waith y Pencampwyr Iaith o fewn yr awdurdod (copi wedi’i amgáu).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad ar Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm y tri Hyrwyddwr a’r adrannau yr oeddent yn eu cynrychioli -

 

·         Margaret Watkins - Cefnogaeth i Gymunedau

·         Bethan Parry - Cyfleusterau, Asedau a Thai

·         Eleri Williams - Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau wrth y Pwyllgor bod rôl Hyrwyddwr Yr Iaith Gymraeg yn gwbl wirfoddol. Roedd y gwaith a oedd yn cael ei wneud yn ychwanegol i’w gwaith dyddiol a chanmolodd yr unigolion am weithredu y tu hwnt i’w dyletswyddau.

 

Amlinellodd Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg rywfaint o’r gwaith y maent wedi’i wneud ar gyfer y Cyngor -

 

·         Normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn swyddfeydd, drwy ddefnyddio cortynnau gwddf, bathodynnau a phosteri dwyieithog.

·         Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a mapio gallu’r gweithlu. Annog staff i gymryd rhan mewn cyrsiau Cymraeg, rhannu deunyddiau a allai gynorthwyo â mentora dysgwyr.

·         Gweithredwyd y fframwaith ‘Mwy Na Geiriau’ yn fewnol a gyda phartneriaid gofal, roedd hyn yn cynnwys -

Ø  Hyrwyddo urddas a pharch gyda’r defnyddiwr yn ganolog

Ø  Cyflwyno’r egwyddor ‘cynnig gweithredol’

Ø  Sicrhau ansawdd y gofal (anghenion iaith)

Ø  Cynnal safonau proffesiynol – cyfathrebu yn allweddol

Ø  Diwallu anghenion iaith defnyddwyr mwyaf diamddiffyn y gymdeithas

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y cwestiynau canlynol -

 

·         Canmolodd y Pwyllgor y gwaith yr oedd Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg wedi’i wneud ond gofynnwyd pa mor hyderus oedd y Cyngor y byddai rheolwyr yn gallu gweithredu Safonau’r Iaith Gymraeg yn y gweithle. Mewn ymateb, dywedodd Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg y byddent yn gwirio eu hadrannau i sicrhau bod y safonau yn cael eu rhoi ar waith.

·         Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynglŷn â’r gofyniad am siaradwyr Cymraeg.

·         Awgrymodd y Pwyllgor y dylid dechrau holl gyfarfodydd y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Cytunodd y Pwyllgor bod sawl aelod o staff yn gallu sgwrsio yn Gymraeg ond bod hyder yn broblem fawr. Ymatebodd yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd gan ddweud y byddai holiadur yn cael ei ddosbarthu yn fuan i gael gwell syniad o allu’r staff o fewn y Cyngor. Sicrhaodd y Pwyllgor, pan fo gwell syniad ar gael, y byddai’n mynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg hyder yn briodol.

·         Tynnwyd sylw at y gwahaniaeth mawr rhwng nifer yr Hyrwyddwyr a nifer y Staff yn y Cyngor, a gofynnwyd a fyddai angen mwy o Hyrwyddwyr i gyfateb â nifer y staff. Sicrhawyd y Pwyllgor bod sawl aelod o staff yn cynorthwyo â Safonau’r Gymraeg nad ydynt yn Hyrwyddwyr.

 

Canmolodd y Cadeirydd yr holl waith caled sydd wedi'i wneud gan Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD – Bod y Pwyllgor yn cytuno i’r argymhelliad ac yn cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2019.

 

 

6.

GWASANAETHAU IEUENCTID A'R URDD pdf eicon PDF 264 KB

Ystyried adroddiad gan Swyddog Arweiniol- Lles Cymunedol i esbonio’r gwaith sy’n mynd ymlaen i weithio gyda phobl ifanc er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir (copi wedi’i amgáu).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol: Lles Cymunedol (RE) a Swyddog Datblygu Sir Ddinbych, Urdd (LE) adroddiad ar Gydweithio rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a’r Urdd.

 

Dangosodd y ddau Swyddog gyflwyniad i’r Pwyllgor a oedd yn tynnu sylw at y meysydd yr oedd y Cyngor a’r Urdd wedi cydweithio arnynt yn ystod y bartneriaeth 8 mlynedd:

 

·         Cydweithiwr Ieuenctid y Gymraeg

·         Hunanasesiad Blynyddol

·         Cytundeb Lefel Gwasanaeth Blynyddol

·         Cyfarfodydd monitro a chynllunio rheolaidd rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyfarwyddwr Rhanbarthol yr Urdd.

 

O fewn y cyflwyniad, tynnwyd sylw at sawl maes allweddol, yr uchafbwyntiau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed:

 

·         Cyd-ddarpariaeth

·         4247 o bobl ifanc yn cymryd rhan

·         1970 mewn cysylltiad uniongyrchol â Chlybiau

·         45 o bobl ifanc yn gwirfoddoli

·         45 wedi cofrestru ar Fforwm Ieuenctid yr Urdd

 

Nododd LE'r gweithgareddau a gynhaliwyd:

 

·         Roedd gwirfoddoli yn llwyddiannus, drwy annog pobl ifanc i wneud gwaith gwirfoddol a allai arwain at gyflogaeth.

·         Tynnwyd sylw at gystadlaethau a oedd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a hyder drwy gystadlu yn yr Eisteddfod a chystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon. ,

 

Amlinellodd RE rai o’r gwasanaethau sydd â darpariaethau drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y Cyngor:

 

·         Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd – gwasanaeth gwybodaeth i rieni sy’n gwbl ddwyieithog.

·         Arweinwyr Chwaraeon achredu yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg – darparu ar y cyd gan staff Cyngor Sir Ddinbych a'r Urdd

 

Yn dilyn y cyflwyniad ar Wasanaethau Ieuenctid a’r Urdd, codwyd y cwestiynau canlynol gan yr Aelodau:

 

·         Canmolwyd yr Urdd am ei waith gyda phobl ifanc, yn enwedig ym maes chwaraeon, dywedwyd bod yr Urdd yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr mewn Prifysgolion, yn enwedig yn Ne Cymru. Gofynnwyd a oedd Prifysgolion yng Ngogledd Cymru’n gweithio’n agos gyda’r Urdd. Mewn ymateb, dywedodd LE wrth yr Aelodau bod yr Urdd yn gweithio’n agos gyda Phrifysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru ac yn annog pobl ifanc i wirfoddoli.

·         Cynghorodd Aelod arall y dylai’r Cyngor weithio’n agos gyda cholegau a Phrifysgolion yn y Gogledd, a mynychu Diwrnodau Gyrfaoedd, ond dywedodd bod angen i’r Cyngor wneud mwy i ddenu pobl ifanc, sydd wedi gadael yr ardal, yn eu holau, yn enwedig gyda Gwasanaethau Ieuenctid.

 

Canmolodd yr Aelodau'r adroddiad a’r cyflwyniadau.

 

PENDERFYNWYD - Bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

7.

YSGOL GLAN CLWYD LANGUAGE CENTRE

I dderbyn cyflwyniad gan Arweinydd Tîm -Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ar swyddogaeth y Ganolfan Iaith newydd yn Ysgol Glan Clwyd

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad mewn perthynas â Chanolfan Iaith Ysgol Glan Clwyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Sir Ddinbych wedi gwneud cais am grant i ddatblygu canolfan iaith, grant y Cyngor oedd y mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Caniatawyd swm o £1.8 miliwn i greu’r ganolfan. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor hefyd y byddai £500,000 yn ychwanegol ar gael.

 

Byddai’r ganolfan ar gael i holl drigolion Sir Ddinbych o 3 mlwydd oed i fyny.

 

Yn dilyn y cyflwyniad byr, codwyd yr eitemau canlynol yn ystod trafodaeth:

 

·         Gan fod y safle yn Llanelwy, gofynnodd Aelodau o Ogledd a De’r Sir a fyddai’r safle o fudd i’r ardaloedd yr oeddent yn eu cynrychioli. Dywedwyd bod gan y Cyngor system cludiant cyhoeddus ardderchog a byddai modd i bobl fynychu, hefyd gellid trafod cysylltiadau cludiant yn y dyfodol.

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd y safle yn gysylltiedig ag Ysgol Glan Clwyd, ymatebodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc gan ddweud bod y Ganolfan Iaith Gymraeg yn rhannu safle gyda’r ysgol. Bydda’r ddau safle yn cael eu rhedeg ar wahân.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd y Swyddog a oedd i fod i adrodd ar yr eitem yn bresennol yn y cyfarfod. Cytunwyd y byddai’r eitem yn cael ei thrafod yn llawn yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD – Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cytuno bod adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 433 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu).

 

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor eisiau ychwanegu unrhyw beth at y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Gofynnwyd pam na chafodd yr eitem ‘enwi strydoedd’ ei thrafod yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelod bod yr eitem ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol ac y byddai’n cael ei thrafod yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. Mewn ymateb, dywedwyd y gellid cyflwyno’r eitem ger bron yn Pwyllgor Craffu yn hytrach na Phwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg, cytunwyd bod yr eitem ar enwi strydoedd yn cael ei chyflwyno i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod adran fusnes y Safonau yn cael ei thrafod yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

Awgrymodd y Swyddog Iaith Gymraeg bod Menter Iaith yn cael gwahoddiad i'r cyfarfod nesaf i drafod y gwaith maent yn ei wneud yn y Sir.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y drafodaeth ar yr Adran Fusnes yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, a hefyd y posibilrwydd o wahodd Menter Iaith.

 

PENDERFYNWYD - Yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.