Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Ellie
Chard, Tony Flynn a Joe Welch. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Cododd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd eitem yn ymwneud â phenodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd.
PENDERFYNWYD: bod y Cynghorydd Graham Timms yn cael ei benodi'n
Gadeirydd a'r Cynghorydd Emrys Wynne yn cael ei benodi'n Is-Gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019 (gweler yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 19 Mawrth
2019. PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019
fel cofnod cywir. |
|
EISTEDDFOD YR URDD - DIWEDDARIAD Derbyn cyflwyniad
gan Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar Eisteddfod yr Urdd. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd (ATCRhY) adroddiad er mwyn rhoi
diweddariad am y cynnydd hyd yn hyn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych
2020. Dywedodd yr Arweinydd y byddai
Eisteddfod yr Urdd ar y rhaglen o heddiw ymlaen, i sicrhau fod yr aelodau’n
cael y newyddion diweddaraf. Byddai seremoni
gyhoeddi’n cael ei chynnal i hyrwyddo’r Eisteddfod ym mis Hydref. Byddai’r
digwyddiad yn dechrau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, ac yn gorymdeithio ar hyd y
Stryd Fawr ac yn parhau i Gaeau Bastion, Prestatyn. Cafodd yr aelodau wybod nad oedd yna gynllun
wrth gefn, felly byddai’r digwyddiad yn ddibynnol ar y tywydd. Roedd disgwyl y
bydd tua 2,000 o bobl yn y digwyddiad ym mis Hydref. Roedd ysgolion eisoes wedi
dechrau paratoi posteri a baneri ar gyfer y digwyddiad. Fe fydd Swyddogion yr
Urdd wedi’u lleoli ar hyd y stryd ac yn y digwyddiad yn hyrwyddo ac yn rhoi
gwybodaeth i’r cyhoedd. Diogelwch –
Cynhaliwyd Asesiad Risg mewn cysylltiad â diogelwch ffordd i gerddwyr a
cherbydau; gan gynnwys cau ffyrdd. Dywedodd yr
Arweinydd Tîm fod yr Urdd wedi gwneud cais am stiwardiaid i gynorthwyo â’r
digwyddiad, yn bennaf at ddibenion diogelwch. Dywedodd fod y tîm
Cysylltiadau Cyhoeddus yn gweithio’n agos gyda’r Urdd i sicrhau y bydd y
digwyddiad yn llwyddiannus, fe fyddai stondinau ar y cae yn ystod y prynhawn i
blant a phobl ifanc. Unwaith y bydd y
digwyddiad ym mis Hydref wedi bod, bydd y tîm yn canolbwyntio ar Eisteddfod
2020. Dylid sefydlu is-bwyllgor
ym mis Medi er mwyn dechrau cynllunio ar gyfer Maes yr Eisteddfod. Y
flaenoriaeth oedd pabell neu adeilad ar gyfer y prif lwyfan. Cadarnhaodd y
Rheolwr Tîm fod cynllun cyfathrebu eisoes ar waith, byddai gwefan a chyfrifon
cyfryngau cymdeithasol yn cael eu sefydlu i sicrhau llif cyson o wybodaeth i'r
cyhoedd. Trwyddedu Cafodd yr Aelodau
wybod fod Sir Ddinbych eisoes wedi cytuno gyda’r Urdd i gael un trwydded oedd
yn cynnwys pob perfformiad ac ati. Yn bennaf, Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol yr Eisteddfod fyddai hyrwyddo’r digwyddiad, hyrwyddo Sir
Ddinbych ei hun; pethau i wneud, lleoedd i aros, cynlluniau cludiant ac ati. Maes arall a
fyddai’n cael sylw fyddai delwedd Sir Ddinbych, bydd hyn yn cynnwys plannu
blodau ar gylchfannau, addurno’r strydoedd a sicrhau fod Sir Ddinbych yn cael
ei chyflwyno mewn modd da. Dywedodd y Rheolwr
Tîm y bydd diweddariad misol yn cael ei ddarparu i Aelodau o fis Medi ymlaen er
mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru a rhag ofn eu bod eisiau cymryd
rhan. Bydd Sir Ddinbych yn bresennol yn
yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst hefyd. Wrth ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag apelio am wirfoddolwyr, dywedodd y Rheolwr Tîm eu bod
wedi cysylltu â chlybiau rygbi, clybiau pêl-droed, y wasg, cymunedau ac ati ac
roedd yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol. O ran addurno, fe
eglurodd y byddent yn gweithio’n agos gyda'r gwasanaethau priffyrdd a’r
amgylchedd i sicrhau fod Sir Ddinbych cyfan yn cael ei addurno ar gyfer y
digwyddiad. Fe atgoffwyd yr
Aelodau fod y digwyddiad yn cael ei drefnu a’i redeg gan yr Urdd. Rôl yr
awdurdod lleol oedd hyrwyddo a marchnata’r digwyddiad, roedd yr ALl hefyd yn
gyfrifol am drwyddedau, rheoliadau, safonau diogelwch y stondinau, diogelwch o
ran cyrraedd a gadael y Maes ac ati. PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r cyflwyniad am Eisteddfod yr Urdd. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL I GOMISIYNYDD Y GYMRAEG PDF 268 KB Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar yr Adroddiad Blynyddol i
Gomisiynydd y Gymraeg (gweler yn amgaeedig). Cofnodion: Rhoddodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli
Ymgyrchoedd (ATCRhY) gyflwyniad am yr Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y
Gymraeg. Roedd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Sir Ddinbych
bob blwyddyn er mwyn i Gomisiynydd y Gymraeg eu darllen ac os bydd ganddo
unrhyw bryderon, bydd yn trefnu cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn adolygu prosesau a datblygiadau o
fewn y Cyngor. Un o ddigwyddiadau llwyddiannus y tîm oedd Eisteddfod y
Cyngor, gyda staff o adrannau gwahanol yn cymryd rhan. Y bwriad gwreiddiol oedd
cynnal Eisteddfod y Cyngor bob dwy flynedd, ond yn sgil ei lwyddiant a’r galw,
bydd yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Fe soniodd y Rheolwr Tîm am rai o’r prosiectau parhaus
sydd ar waith. Yn ddiweddar, roeddynt wedi darparu hyfforddiant i aelodau staff
oedd yn gallu siarad Cymraeg ond yn ddim yn teimlo’n gyfforddus yn ysgrifennu
Cymraeg, rhoddodd y cwrs hyder i staff a bu'n llwyddiant. Dywedodd Swyddog y Gymraeg fod 22 aelod o staff wedi
cofrestru i ddechrau gwersi Cymraeg ym mis Medi. Roedd staff yn cefnogi
gweithgareddau megis clybiau cerdded a sesiynau paned a sgwrs. Serch hynny, fe
ddywedodd ei bod hi’n cael problemau trefnu gweithgareddau i bob lefel, ond
roedd y gweithgareddau presennol yn addas i'r aelodau staff. Fe soniodd y Rheolwr Tîm am un peth penodol
roedd yr Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg wedi’i godi, ac roedd yn rhywbeth mae Sir
Conwy eisoes wedi’i gyflwyno. Roedd modd actifadu gosodiad ar e-byst i alluogi
dysgwyr i ddewis opsiynau megis Siaradwr Cymraeg, Dysgwr ac ati. Fe eglurodd
fod yna nifer o newidiadau technolegol y gellir ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg. Cafodd yr aelodau wybod fod yn rhaid nodi unrhyw gwynion
am y Gymraeg yn yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg. Dim ond 2 gŵyn
swyddogol oedd yn yr adroddiad blaenorol, sef enw SC2 a'r ail oedd poster 'ddim
yn gweithio' dros dro ar beiriant parcio. Fe ddywedodd pan fo cwynion yn cael eu derbyn, mae'r tîm
yn eu datrys ac yn cynllunio er mwyn sicrhau na dderbynnir rhagor o gwynion. Meysydd eraill i gael sylw oedd; Ø Nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Ganolfan Alwadau Ø Nifer yr aelodau staff sy’n cael gwersi Cymraeg Ø Cynllun Strategol Addysg Gymraeg Dywedodd y Rheolwr Tîm eu bod yn derbyn adroddiad
blynyddol am gynnydd y staff sy’n mynychu gwersi Cymraeg. Trwy’r adroddiad
byddent yn adolygu a ydi’r cwrs yn briodol i’r aelod o staff neu a fyddent yn
elwa mwy ar gwrs arall. Wrth ddod â'i gyflwyniad i ben cyn i’r aelodau gael cyfle
i ddweud eu dweud, dywedodd y dylid cyhoeddi’r adroddiad, os oedd yr aelodau’n
hapus ag o. Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne bryder ynghylch
arwyddion ffordd. Fe eglurodd fod yna broblem gyda chwmnïau allanol yn
defnyddio arwyddion ffordd dwyieithog. Roedd yn cydnabod nad oedd hyn yn
broblem enfawr, ond roedd cwynion yn cael eu mynegi o’u herwydd. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm eu bod yn cysylltu â’r adran
berthnasol pan maent yn cael gwybod am broblem ac yn gofyn iddynt gael gwared
ar yr arwyddion. Mae’r tîm wrthi’n rhoi system ar waith i sicrhau fod pob
arwydd sydd wedi’i gyfieithu’n cael ei anfon atynt i’w wirio. Fe ychwanegodd
fod yn rhaid i gontractwyr trydydd parti ddilyn Safonau Cymraeg yr Awdurdod. Dywedodd fod yna ychydig o broblemau’n fewnol hefyd, wrth i staff greu eu harwyddion papur eu hunain heb ddilyn Safonau’r Gymraeg. Ar y cyfan serch hynny, roedd Sir Ddinbych yn dda iawn. Roedd y Rheolwr Tîm yn cydnabod efallai fod staff wedi gweithio mewn Awdurdodau Lleol eraill yn y gorffennol heb fod yn ymwybodol o Safonau Cymraeg Sir Ddinbych, felly yn sgil hyn, roeddynt wedi awgrymu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
PAPUR BRIFFIO AR SEFYDLIADAU PARTNER PDF 291 KB Derbyn
diweddariad gan Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar y Papur
Briffio ar Sefydliadau Partner (gweler yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm adroddiad am sefydliadau partner. Fe eglurodd mai sefydliad oedd
‘Partner Iaith’ oedd yn cydweithio fel un corff ar gyfer y Gymraeg. Roedd
tudalen 2 yr adroddiad yn egluro rôl eu gwaith. Fel partner iaith,
maent eisiau adolygu’r gweithgareddau yn Gymraeg a gweld beth arall y gellir ei
ychwanegu, ac adolygu’r meysydd sydd ddim yn cael digon o sylw ac ati. PENDERFYNWYD: bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
FERSIWN DDRAFFT POLISI ENWI A RHIFO STRYDOEDD PDF 195 KB Derbyn adroddiad
gan y Gweinyddwr Perfformiad a Systemau ar y Polisi Enwau a Rhifau Strydoedd
Drafft (gweler yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Gweinyddwr Perfformiad a Systemau Rhaglenni yr adroddiad am Bolisi Enwi a Rhifo
Strydoedd. Y rheswm roedd yr
adroddiad wedi dod gerbron Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg oedd mater oedd yn
ymwneud â chyfieithiad o’r polisi. Fe ysgrifennwyd
y polisi drafft yn Saesneg heb unrhyw ystyriaeth y byddai’r ramadeg yn newid ar
ôl iddo gael ei gyfieithu; felly gofynnwyd i’r grŵp adolygu’r ddogfen o
safbwynt y Gymraeg cyn iddi ddychwelyd i’r pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd. Wrth ymateb i
ymholiad ynglŷn ag enwi strydoedd, dywedodd y Gweinyddwr fod y polisi
presennol sef Deddf Iechyd y Cyhoedd 1925 yn nodi, pan fo stryd yn cael ei
henwi, boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg, mai dyna fyddai’r teitl cyfreithiol
swyddogol. Fe eglurodd nad
ydynt yn annog yr arfer o newid enwau cyfreithiol gan y byddai’n achosi
problemau i breswylwyr a’r Gwasanaethau Brys. Yr unig adeg y byddai enw’n cael
ei newid yn gyfreithiol fyddai petai’r gwasanaeth brys yn cael trafferth dod o
hyd i’r cyfeiriad. Dywedodd y
Gweinyddwr y dylai preswylwyr gynnig unrhyw newidiadau. Bu cais diweddar gan
breswylydd yn llwyddiannus; roedd enwau ar dai ar stryd yn Nyserth yn hytrach
na rhifau. Roedd hyn wedi achosi problemau i’r gwasanaeth ambiwlans. Lluniodd y
preswylwyr ddeiseb gan olygu fod y newid wedi cael ei gymeradwyo, ac ers y
newid ni fu unrhyw broblemau. Mynegodd y
Cynghorydd Emrys Wynne ei bryder y byddai enwau pwysig yn cael eu colli trwy’r
broses bresennol. Dywedodd os oes yna gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yna dylid
gwneud hynny heb unrhyw rwystrau. Cytunodd y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts nad oedd modd cyfieithu Saesneg mewn rhai achosion.
Cynigiodd fod y polisi’n cael ei adolygu eto. Gofynnodd pam fod angen enwau
dwyieithog yng Nghymru lle nad yw hynny’n digwydd mewn gwledydd eraill. Cynigiodd fod y polisi’n cael ei adolygu a
lle y bo’n bosibl, fod enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio. Roedd yn teimlo fod
technoleg, codau post, GPS ac ati sydd ar gael heddiw yn golygu y dylai fod yn
hawdd lleoli unrhyw gyfeiriad, boed yn enw Cymraeg neu Saesneg. Eiliodd y
Cynghorydd Arwel Roberts gynnig y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Roedd y Cynghorydd
Graham Timms yn cytuno hefyd. Roedd yn teimlo y dylai unrhyw ystadau, ffyrdd
newydd ac ati gael enw Cymraeg. Roedd yn cytuno y dylid edrych eto ar y polisi
a’i rannu i ymgynghori arno. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (CDC) wrth yr aelodau nad oes modd i’r
Pwyllgor wneud unrhyw benderfyniadau ffurfiol, serch hynny gallai wneud
argymhelliad yn seiliedig ar drafodaethau a dadleuon y pwyllgor y dylid
adolygu’r polisi ymhellach i awgrymu fod pob tŷ, stryd newydd ac ati yn
cael enw Cymraeg. Byddai’r polisi yn
dychwelyd gerbron y Pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd, ac yna’r Cabinet. Y
penderfyniad fyddai i symud ymlaen â’r ystyriaethau ac argymhellion o Bwyllgor
Llywio’r Gymraeg a Phwyllgor Craffu neu beidio. Tynnodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies sylw at y ffaith y gallai rhai enwau strydoedd
fod yn anghywir mewn cronfeydd data gan fod pobl yn tueddu i ddefnyddio’r enw
anghywir fel arferiad. Fe awgrymodd fod y pwyllgor yn adolygu’r polisi cyfan yn
drylwyr. PENDERFYNWYD: bod Pwyllgor Llywio'r Gymraeg yn argymell adolygiad o Bolisi
Enwi Strydoedd Cymraeg. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 339 KB Ystyried rhaglen
gwaith i'r dyfodol y pwyllgor (gweler yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor i’w ystyried, a chytunodd yr aelodau ar yr
ychwanegiadau canlynol: • Partner Iaith –
Gwaith Mapio • Comisiynydd Cymraeg i fynychu'r cyfarfod
nesaf PENDERFYNWYD: - yn ddibynnol ar yr uchod,
derbyn a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.06pm. |