Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
MATERION O HYSBYSIAD Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion a phawb a fu wrthi’n trefnu a chymryd rhan yn
Eisteddfod gyntaf Staff y Cyngor ar 1 Mawrth 2019, a fu’n llwyddiant ysgubol. Rhoes
longyfarchiadau hefyd i Gymru am ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe
Gwlad 2019. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Ann
Davies, Tony Flynn a Tony Thomas (Is-gadeirydd). |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith
Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018. Cywirdeb – Sylwodd y Cynghorydd Meirick
Davies (1) nad oedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi’u henwi yn y cofnodion yn
ôl yr arfer, a (2) ar dudalen 8, eitem 7: dylid galw’r ysgol yn Ysgol Glan
Clwyd yn y cofnodion Cymraeg a’r rhai Saesneg, ac nid ‘Glan Clwyd School’. Materion yn Codi
– Tudalen 6,
Eitem 5: Rôl Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg. Holodd y Cadeirydd ynglŷn ag
ystyr yr ail bwynt bwled, ‘Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynglŷn â’r gofyniad
am siaradwyr Cymraeg’ – cadarnhaodd y swyddogion fod a wnelo hyn â’r drafodaeth
ynglŷn â thrafferthion recriwtio ar gyfer rhai swyddi proffesiynol lle’r
oedd mynnu bod y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd yn ei gwneud yn anos fyth. PENDERFYNWYD
y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018 a’u cymeradwyo fel rhai cywir. |
|
HUNANASESIAD SGILIAU IAITH PDF 437 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm)
sy’n manylu ar y dull i gynnal hunanasesiad o sgiliau iaith Gymraeg staff. Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli
Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) ynglŷn â’r dull o hunanasesu
sgiliau Cymraeg y staff. Wrth ymateb i Safonau’r Iaith Gymraeg roedd disgwyl i’r
Cyngor gynnal hunanasesiad yn flynyddol, ac roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol
yn ymdrin â hynny. Roedd arolygon yn y gorffennol wedi rhoi braslun o’r
sgiliau, ond roedd rhywfaint o ansicrwydd a oedd y canlyniadau’n rhoi gwir
ddarlun o’r sefyllfa oedd ohoni, a nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi dweud
nad oedd eu sgiliau cystal ag yr oeddent mewn gwirionedd. Gallai fod amryw
resymau am hynny, gan gynnwys diffyg hyder neu er mwyn lleihau disgwyliadau i
feithrin cyswllt â phobl yn Gymraeg. Credwyd y byddai gwybodaeth fanylach ynglŷn â’r
lefelau hunanasesu’n helpu staff i gwblhau asesiadau mwy cywir a darparu data
mwy cynhwysfawr ac ystyrlon fel y gallai gwasanaethau gynllunio eu darpariaeth
ddwyieithog.
Y bwriad
oedd cyflwyno’r un system â Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru, a soniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg fwy am y lefelau o 0 i 5.
Roedd disgwyl i bob staff gyflawni lefel 1 yn effeithiol, a oedd yn cynnwys
cyfarch pobl yn ddwyieithog yn unol â Safonau’r Gymraeg. Câi rhywfaint o waith ei wneud
hefyd er mwyn nodi’r ddarpariaeth o ran dysgu Cymraeg, a bwriedid dod ag
adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ynglŷn â’r cynnydd gyda hyfforddiant. Bu’r Aelodau’n trafod amryw agweddau ar yr adroddiad, a
chawsant yr wybodaeth ganlynol gan y swyddogion: ·
cyfrifoldeb pob gwasanaeth unigol oedd talu am
gyrsiau dysgu Cymraeg – roedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu rhai cyrsiau
am ddim ac anogwyd staff i gofrestru ar eu cyfer ·
yn ôl yr arolwg blaenorol roedd oddeutu 29% o’r
staff yn siarad Cymraeg, a oedd yn gyson â’r ganran o boblogaeth Sir Ddinbych
oedd yn medru’r iaith – fodd bynnag, ni chredwyd fod hynny’n adlewyrchu’r
sefyllfa mewn gwirionedd gan y nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi tanddatgan
eu gallu; roedd angen gweithio gyda’r staff i adnabod rhwystrau rhag asesu
lefelau sgiliau’n iawn, a byddai’r system newydd yn hwyluso hynny ·
Cynigiwyd cyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau o
ran gallu er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posib ar gyfer yr aelodau hynny o
staff oedd yn dysgu – Coleg Cambria a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd yn
darparu’r cyrsiau ·
roedd oddeutu deugain o aelodau o staff yn dilyn
cyrsiau oedd yn addas i’w sgiliau iaith, a’r bwriad oedd gweithio â’r Tîm
Cyswllt Adnoddau Dynol wrth lunio llyfryn i’r staff am y cyrsiau ffurfiol oedd
ar gael, ynghyd â dulliau eraill anffurfiol o feithrin sgiliau iaith fel
mentora, darparu cyfleoedd i sgwrsio yn Gymraeg, defnyddio llinynnau gwddf i
ddynodi siaradwyr Cymraeg ac yn y blaen ·
cydnabuwyd hefyd fod rhai aelodau o staff yn
dysgu Cymraeg yn eu hamser hamdden, ar ben y ddarpariaeth a gynigiai’r Cyngor,
ac nid oedd y data presennol yn adlewyrchu hynny. Hefyd, roedd rhai aelodau o
staff yn defnyddio ap i ddysgu Cymraeg – roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol
wrthi’n ceisio canfod pwy oedd y rhain, fel y gellid gwneud cofnod ac
adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yn well ·
nodwyd yr amrywiaeth o ran faint o Gymraeg a gâi
ei siarad ym mhrif swyddfeydd y Cyngor, a chytunodd yr aelodau ei bod yn gwneud
synnwyr i ganolbwyntio ar siarad Cymraeg a hybu sgiliau iaith i ddechrau, cyn
mynd ymlaen i weithio ar Gymraeg ysgrifenedig. Roedd y pwyllgor yn croesawu’r dulliau oedd ar waith, ac yn cytuno y dylai esbonio’r amryw lefelau sgiliau helpu’r staff i roi darlun mwy cywir o’u gallu. Roedd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed y câi staff eu hannog ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) yn
diweddaru aelodau ar gynnydd a waned gyda Safonau’r Gymraeg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Cyfathrebu a Rheoli
Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
aelodau ynglŷn â’r cynnydd o ran Safonau’r Gymraeg. Cyflwynwyd y Safonau yn Sir Ddinbych yn 2015 fel rhan o’r
drefn o’u cyflwyno mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, ac roeddent yn
deillio’n uniongyrchol o greu Mesur y Gymraeg a swydd Comisiynydd y Gymraeg. Roedd yn ofynnol i Sir
Ddinbych gydymffurfio â 167 o Safonau mewn pum maes allweddol – Darparu
Gwasanaethau; Llunio Polisïau; Gweithrediadau; Cadw Cofnodion a Hyrwyddo. Y nod oedd sicrhau y câi’r
Gymraeg ei thrin â’r un tegwch â’r Saesneg er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau
posib i aelodau o’r cyhoedd yn yr iaith o’u dewis. Gwnaethpwyd llawer o waith cyn
cyflwyno’r Safonau, ac roedd y Cyngor yn cyflawni rhai ohonynt eisoes – cafwyd
ymateb da gan y Gwasanaethau o ran sicrhau cydymffurfiaeth, ac roedd y Cyngor
yn cydymffurfio â’r mwyafrif helaeth o’r Safonau. Serch hynny, roedd angen gwneud mwy o
waith ynglŷn â hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a
bod hawl gan bawb a wahoddid i gyfarfodydd i gyfrannu yn Gymraeg. Roedd rhai
aelodau o staff yn anghyfarwydd â’r gofynion hynny, ond gellid mynd i’r afael â
hynny yn yr wythnosau oedd i ddod drwy gyfathrebu’n rhagweithiol. Byddai’r Cyngor yn dal i
hyrwyddo negeseuon ynglŷn â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, i sicrhau
ei fod yn dal i gydymffurfio ar lefel uchel. Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd – ·
roedd y Pwyllgor yn falch o weld lefel uchel o
gydymffurfiaeth â’r rhan helaeth o’r Safonau. Roedd hefyd yn cydnabod y camau a
gymerwyd i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth wrth iddynt
godi, gan gynnwys cynllun gweithredu wedi’i reoli a negeseuon rhagweithiol – cydnabuwyd
gwaith y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn hynny o beth, yn ogystal â chefnogaeth
Hyrwyddwyr y Gymraeg. Roedd y Swyddogion hefyd yn
cydnabod cefnogaeth yr Aelodau ac arweiniad pendant y Cyngor i gydymffurfio â
Safonau’r Gymraeg. ·
nodwyd anghysonder rhwng y fersiynau Cymraeg a
Saesneg o’r Safonau o ran eu rhifau, a bod yno Safon 29a yn y rhai Cymraeg ond
nid y rhai Saesneg, a oedd a wnelo â darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o
Saesneg i Gymraeg – cytunodd y swyddogion y byddent yn ymchwilio i’r anghysonder
hwn gyda’r nod o gadarnhau’r gofynion a sicrhau cysondeb rhwng y fersiynau
Cymraeg a Saesneg ·
soniodd yr aelodau am eu profiadau eu hunain o
gydymffurfiaeth/diffyg cydymffurfiaeth wrth ymwneud â’r Cyngor, a’r
trafferthion a gawsant wrth ddefnyddio cyfeiriadau e-bost Cymraeg
Anogwyd yr aelodau i adrodd ynghylch unrhyw achosion o ddiffyg
cydymffurfiaeth, a soniodd y swyddogion am y mesurau a gyflwynwyd eisoes er
mwyn hwyluso cydymffurfiaeth staff â safonau penodol, gan gynnwys dosbarthu
templedi, cardiau cyfarch dwyieithog ffonetig ac yn y blaen.
Fodd bynnag, derbyniwyd ei bod yn anochel y byddai rhai achosion
neilltuol yn codi ac os oedd staff yn gyndyn o gydymffurfio â’r Safonau dylid
eu hannog i wneud hynny; byddai dal i ddefnyddio’r Gymraeg fel mater o drefn yn
helpu i ddatblygu’r iaith ymhellach ·
cadarnhaodd y swyddogion y câi’r Comisiynydd
newydd wahoddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor ar ôl ei benodi ·
o ran hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal
cyfarfodydd yn Gymraeg, cadarnhaodd y swyddogion y dylid cynnig y dewis yn
rhagweithiol, a bod angen i staff feddwl ymlaen llaw wrth drefnu cyfarfodydd er
mwyn bodloni’r gofynion – cynigiwyd y dewis fel mater o drefn ar gyfer
cyfarfodydd cyhoeddus · nodwyd fod gwahanol awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus yn destun gwahanol Safonau na fyddai’n newid ond pe byddai Comisiynydd y Gymraeg yn cymryd golwg o’r newydd ar ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CANOLFAN IAITH YSGOL GLAN CLWYD Derbyn cyflwyniad
o rôl y Ganolfan Iaith newydd yn Ysgol Glan Clwyd. Cofnodion: Rhoes y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
ragarweiniad byr a rhywfaint o gefndir i ddatblygu Canolfan Iaith Gymraeg yn
Ysgol Glan Clwyd, yn sgil llwyddo gyda chais am grant gan Lywodraeth Cymru.
Byddai’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys darpariaeth cyn
ysgol ac addysg i oedolion. Roedd y Swyddog Moderneiddio Addysg a Rheolwr y
Rhaglen Moderneiddio Addysg yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, ac fe
gyflwynont fwy o fanylion ynglŷn â’r Ganolfan: ·
aethpwyd
ati i sefydlu’r Ganolfan ar ôl gweld cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg, gan
gynnwys darpariaeth cyn ysgol ·
byddai’r
prosiect yn creu seilwaith ar gyfer cyflawni amcanion y Cynllun Strategol
Cymraeg mewn Addysg, ac yn benodol: Deilliant 1 – mwy o blant saith oed yn cael
eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; Deilliant 2 – mwy o ddisgyblion yn parhau i
wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd;
a Deilliant 7 – cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus ·
roedd
y Ganolfan yn ffordd o ddefnyddio’r hen adeilad gwyddoniaeth a fu’n wag ers
cwblhau prosiect Ysgol Glan Clwyd ac wedi’i ddal mewn ymddiriedolaeth at
ddibenion addysgol ·
soniwyd
am y broses ymgeisio lwyddiannus, a’r ffaith bod Sir Ddinbych wedi cyflwyno’r
achos busnes gorau yng Nghymru. O ganlyniad i hynny cafwyd £1.5 miliwn gan
Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg a Chyllid Cyfalaf ar
gyfer Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar ·
ymhelaethwyd
ynghylch nodau’r prosiect o ran darpariaeth i ddisgyblion cyn ysgol, cefnogi
newydd-ddyfodiaid mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3,
cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau Cymraeg, safle posib ar gyfer partneriaid
darparu’r Gymraeg, a chynnydd bach yng
nghapasiti Ysgol Glan Clwyd. Gellid darparu addysg i oedolion hefyd y tu allan i oriau’r ysgol. ·
byddai’r
Ganolfan yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050. Croesawodd yr aelodau’r prosiect gan ddweud ei fod
yn ddatblygiad a buddsoddiad mawr o ran y Gymraeg yn Sir Ddinbych, a rhoesant
glod am atgyfnerthu’r cysylltiadau â phartneriaid a’r amrywiaeth helaeth o
fuddiolwyr y cynllun.
Mewn ymateb i
gwestiynau, cadarnhaodd y swyddogion y sefyllfa o ran y fynedfa dros dro i’r
Ganolfan newydd, ac ar sail yr amgylchiadau newydd roeddent wedi ymrwymo i
drafod y cynigion â’r trigolion gerllaw cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer
newid defnydd. O ran amserlen y prosiect, disgwylid
cwblhau’r gwaith ailwampio erbyn mis Ebrill 2020. Dywedodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts fod y buddsoddiad mawr yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’r
Gymraeg yn Sir Ddinbych. Byddai’n dod â buddion hirdymor ac yn gadael
etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol. Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â threfniadau cludiant, cadarnhaodd y
byddai’r sir gyfan yn elwa ar y Ganolfan newydd, ac y byddai’r gwaith
peripatetig yn parhau. PENDERFYNWYD
derbyn a nodi’r cyflwyniad ynglŷn â Chanolfan Iaith Gymraeg Ysgol Glan
Clwyd. Ar yr adeg hon (11.10 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
YMATEB GAN SWYDDFA COMISIYNYDD Y GYMRAEG Derbyn cyflwyniad
ar yr adborth a dderbyniwyd gan Comisiynydd y Gymraeg. Cofnodion: Esboniodd
yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd fod swyddogion Swyddfa’r
Comisiynydd yn cynnal gwiriadau ar hap er mwyn asesu pa wasanaethau’r Cyngor
oedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac asesu ansawdd y rheiny. Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg
gyflwyniad PowerPoint ynglŷn â’r
ymateb a gafwyd fis Rhagfyr 2018, gan gynnwys y wybodaeth ganlynol: Archwiliad Monitro 2017/18 – ·
ymatebodd y Cyngor i bob e-bost
Cymraeg a phob ymholiad yn Saesneg ar Facebook
·
fe gymerodd 11 diwrnod i
ymateb i un ymholiad Cymraeg ar Facebook
a 10 diwrnod i ymateb i’r un ymholiad yn Saesneg – nid oedd rheswm amlwg dros
yr anghysonder ·
nid oedd yr ymatebion i
negeseuon Facebook yn cynnwys
datganiad ynglŷn â gohebu yn Gymraeg – penderfynwyd cynnwys datganiad ar y
dudalen Facebook i ddweud y croesewid
gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Mesur llwyddiant – argaeledd
ac ansawdd gwasanaethau ·
dull newydd o asesu sgiliau
Cymraeg y staff ·
hyfforddiant Cymraeg i
staff ·
cynlluniau i gefnogi staff –
Clwb Cerdded Cymraeg/Eisteddfod y Cyngor/Côr Staff/Hysbysebu’r Safonau Mesur llwyddiant – annog defnydd o’r Gymraeg/deall profiadau’r
defnyddwyr ·
gweithio gyda busnesau i’w
hannog i ddefnyddio brandio dwyieithog a chyflogi gweithwyr dwyieithog ·
gweithio gyda’r Urdd a’r
Fenter Iaith i hyrwyddo’r Gymraeg ·
cyllid Llywodraeth Cymru ar
gyfer Canolfan Iaith newydd yn Ysgol Glan Clwyd ·
ymestyn Canolfan y Dderwen yn
y Rhyl er mwyn ehangu’r ddarpariaeth Cymraeg ·
recriwtio siaradwr Cymraeg
rhugl yn y Gwasanaethau Ieuenctid, a chynnal sesiynau pêl-droed Cymraeg yn y
Rhyl gyda thrigain o bobl ifanc yn cymryd rhan ·
gwaith mapio’n digwydd gyda
Fforwm Iaith y Sir ·
Grŵp Llywio’r Iaith
Gymraeg Mesur llwyddiant – ystyried yr effaith ar y Gymraeg/gweithredu’n fewnol ·
roedd y Cyngor yn fodlon fod
yno drefniadau cadarn ar waith ar gyfer ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth
benderfynu ynglŷn â pholisïau
neu ddyfarnu grantiau ·
bu’r ymateb i’r Safonau’n gadarnhaol
ac nid oedd fawr ddim wedi newid o gymharu â’r hyn y bu’r Cyngor yn ei wneud o
dan y Cynllun Iaith blaenorol – tybiwyd fod mwy o sesiynau un-i-un gyda staff
wedi’u cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a phrin y defnyddiwyd cyfieithwyr ar eu
cyfer. Roedd yr aelodau’n falch o weld y berthynas waith
ragorol rhwng y Cyngor a Swyddfa’r Comisiynydd, a oedd yn hwyluso datblygiad
pellach y Gymraeg yn Sir Ddinbych.
Rhoddwyd clod arbennig hefyd
i lwyddiant Côr y Staff, a oedd bellach yn derbyn ceisiadau i berfformio. Cafwyd
trafodaeth ynglŷn â defnyddio Facebook
yn Gymraeg a Saesneg, ac fe gadarnhaodd y swyddogion y gofynion a gytunwyd â
Swyddfa’r Comisiynydd o ran hynny, ac fel cynghorwyr roedd yr aelodau hefyd yn
rhannol gyfrifol am roi negeseuon dwyieithog a rhannu postiadau ar y ddwy
dudalen Facebook, yn ogystal â chodi
ymwybyddiaeth o’r dudalen Gymraeg.
Cadarnhaodd y swyddogion
hefyd y byddai’r Cyngor yn dal i amlygu’r dudalen Facebook Gymraeg, ac yn dal i gyhoeddi negeseuon yn Gymraeg a
Saesneg ar yr un pryd. Nododd yr aelodau bod ymateb Swyddfa’r
Comisiynydd yn adlewyrchu perfformiad y Cyngor bryd hynny, ac roedd llawer o
waith wedi’i wneud yn y cyfamser, gan gynnwys y Ganolfan Feithrin newydd yn y
Rhyl. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglyn â’r
ddarpariaeth Cymraeg ychwanegol yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl a chytunodd
y swyddogion i gysylltu â’r Tîm Moderneiddio Addysg i gael mwy o fanylion, ac
adrodd yn ôl i’r aelodau wedi hynny. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad
cadarnhaol, gan ddweud mor galonogol oedd y cynnydd a wnaethpwyd a’r holl waith
oedd yn mynd rhagddo i gynnwys y Gymraeg a’i hyrwyddo. PENDERFYNWYD
derbyn a nodi’r cyflwyniad ynglŷn ag ymateb Comisiynydd y Gymraeg. |
|
GWAITH PARTNER IAITH PDF 211 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm)
yn ymwneud â gwaith y Partner Iaith, y fforwm traws sirol yn edrych ar sut y
gellir datblygu’r Gymraeg yn strategol ar draws y sir. Cofnodion: Cyflwynodd
yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes) gan roi cyflwyniad PowerPoint
ynglŷn â Phartner Iaith, sef fforwm draws-sirol a oedd yn ymchwilio i
ffyrdd y gellid datblygu’r Gymraeg yn strategol ledled y sir. Swyddogaeth y Partner Iaith oedd: ·
cyfrannu at darged Llywodraeth
Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy weithredu gweledigaeth
leol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych ·
ehangu cyfleoedd i bobl
ddefnyddio’r Gymraeg ·
codi ymwybyddiaeth o werth y
Gymraeg ·
cydweithio â phartneriaid i
drafod, rhannu syniadau ac osgoi dyblygu gwaith ·
gweithio ar lefel partneriaeth
i nodi unrhyw fylchau yn narpariaeth y Gymraeg a mynd ati i fodloni’r anghenion ·
hybu’r Gymraeg yn yr economi
leol a gwasanaethau cyhoeddus ·
pwysleisio gwerth
economaidd-ddiwylliannol yr iaith yn y diwydiant twristiaeth ·
pwysleisio mor bwysig yw’r
iaith i’r sefydliadau hynny sy’n gyfrifol am brosiectau adfywio. Roedd
Partner Iaith yn cynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Cyngor, ac roedd
wedi bod yn ystyried cyfleoedd ar gyfer cyd-hyrwyddo, monitro Strategaeth Iaith
Gymraeg y Cyngor a chynnal digwyddiadau hyrwyddo allweddol ar y cyd ledled y
sir. Roedd
y gwaith diweddaraf yn cynnwys mapio’r gweithgareddau oedd yn cael eu trefnu ym
meysydd hamdden, plant, pobl ifanc, cymunedau, busnesau, teuluoedd a phobl
hŷn. Er bod llawer yn digwydd yn y
trefi mawr, roedd llai o weithgareddau yn ardaloedd gwledig y sir, ardaloedd ar
yr arfordir a rhai ardaloedd yn ne Sir Ddinbych. Mewn ymateb i hynny roedd
Partner Iaith yn argymell: ·
dal i fapio gweithgareddau nad
oedd y sefydliadau partner yn eu harwain ·
dadansoddi’r canfyddiadau
erbyn mis Medi 2019 ·
gwneud argymhellion a gâi eu
cynnwys mewn cynllun gwaith i'r dyfodol ar gyfer Partner Iaith ·
cefnogi pwyllgorau iaith oedd
eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, ac ystyried sefydlu
pwyllgorau ychwanegol yn yr ardaloedd hynny oedd â mwy o angen. Nododd
yr aelodau’r gwaith a wnaethpwyd gan Partner Iaith, a’r modd yr oedd yn
cyflawni ei raglen waith bresennol. Cyfeiriwyd at y sefydliadau
eraill oedd yn bartneriaid, a’r gwaith da a wnaethpwyd wrth hyrwyddo a
datblygu’r Gymraeg, a gan ystyried yr amrywiaeth o wahanol sefydliadau,
cytunodd yr aelodau y byddai’n fuddiol cael adroddiad ynglŷn â strwythurau
partneriaeth y sefydliadau hynny, sut oedd y partneriaid yn rhyngweithio â’i
gilydd, a sut oeddent yn cael eu hariannu (gan gynnwys cyfraniadau gan y
Cyngor). Amlygwyd
hefyd mor bwysig oedd swyddogaeth y cymunedau a’r angen i feithrin cyswllt â
hwy wrth hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg ymhellach. O ran costau, nodwyd y
darparwyd cyllid ar gyfer swydd Swyddog y Gymraeg, ond heblaw am hynny nid oedd
cyllideb neilltuol ar gyfer datblygu’r Gymraeg, a disgwylid y byddai unrhyw
gostau’n cael eu talu o’r cyllidebau presennol. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r perygl y gallai ymddangos nad oedd y Cyngor yn rhoi digon o
arian at hyn, gan nad oedd yno gyllideb benodol, dywedodd y swyddogion fod y
gwasanaethau’n neilltuo cyllid ac nad oedd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth
wedi’u nodi. Hefyd, nid oedd unrhyw wasanaethau yn methu â chyflawni eu safonau
o ran y Gymraeg. Ychwanegodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts y dylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol wrth wneud unrhyw
newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisïau
cenedlaethol i’w gweithredu yn lleol, gan gynnwys newidiadau yn y cwricwlwm
addysg. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
dull o gyflawni rhaglen waith bresennol Partner Iaith. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 340 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
i’w ystyried, a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol: ·
Y
wybodaeth ddiweddaraf am Eisteddfod yr Urdd – eitem sefydlog ar raglenni
cyfarfodydd yn y dyfodol ·
Adroddiad
Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg – Gorffennaf ·
Darpariaeth
Hyfforddiant Cymraeg – Gorffennaf ·
Sesiwn
briffio ynglŷn â Sefydliadau Partner oedd wrthi’n hyrwyddo a datblygu’r
Gymraeg – Gorffennaf. Nodwyd y câi’r eitem y gofynnodd y pwyllgor amdani
o’r blaen ynglŷn ag elfen fusnes Safonau’r Gymraeg ei chyflwyno fis
Tachwedd. PENDERFYNWYD,
yn ddibynnol ar yr uchod, derbyn a nodi’r rhaglen gwaith i'r dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |