Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

MATERION O HYSBYSIAD

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a phawb a fu wrthi’n trefnu a chymryd rhan yn Eisteddfod gyntaf Staff y Cyngor ar 1 Mawrth 2019, a fu’n llwyddiant ysgubol.  Rhoes longyfarchiadau hefyd i Gymru am ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ann Davies, Tony Flynn a Tony Thomas (Is-gadeirydd).

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 364 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018.

 

Cywirdeb – Sylwodd y Cynghorydd Meirick Davies (1) nad oedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi’u henwi yn y cofnodion yn ôl yr arfer, a (2) ar dudalen 8, eitem 7: dylid galw’r ysgol yn Ysgol Glan Clwyd yn y cofnodion Cymraeg a’r rhai Saesneg, ac nid ‘Glan Clwyd School’.

 

Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 5: Rôl Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg. Holodd y Cadeirydd ynglŷn ag ystyr yr ail bwynt bwled, ‘Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynglŷn â’r gofyniad am siaradwyr Cymraeg’ – cadarnhaodd y swyddogion fod a wnelo hyn â’r drafodaeth ynglŷn â thrafferthion recriwtio ar gyfer rhai swyddi proffesiynol lle’r oedd mynnu bod y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd yn ei gwneud yn anos fyth.

 

PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018 a’u cymeradwyo fel rhai cywir.

 

 

5.

HUNANASESIAD SGILIAU IAITH pdf eicon PDF 437 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) sy’n manylu ar y dull i gynnal hunanasesiad o sgiliau iaith Gymraeg staff.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) ynglŷn â’r dull o hunanasesu sgiliau Cymraeg y staff.

 

Wrth ymateb i Safonau’r Iaith Gymraeg roedd disgwyl i’r Cyngor gynnal hunanasesiad yn flynyddol, ac roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol yn ymdrin â hynny.  Roedd arolygon yn y gorffennol wedi rhoi braslun o’r sgiliau, ond roedd rhywfaint o ansicrwydd a oedd y canlyniadau’n rhoi gwir ddarlun o’r sefyllfa oedd ohoni, a nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi dweud nad oedd eu sgiliau cystal ag yr oeddent mewn gwirionedd. Gallai fod amryw resymau am hynny, gan gynnwys diffyg hyder neu er mwyn lleihau disgwyliadau i feithrin cyswllt â phobl yn Gymraeg.  Credwyd y byddai gwybodaeth fanylach ynglŷn â’r lefelau hunanasesu’n helpu staff i gwblhau asesiadau mwy cywir a darparu data mwy cynhwysfawr ac ystyrlon fel y gallai gwasanaethau gynllunio eu darpariaeth ddwyieithog.  Y bwriad oedd cyflwyno’r un system â Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a soniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg fwy am y lefelau o 0 i 5. Roedd disgwyl i bob staff gyflawni lefel 1 yn effeithiol, a oedd yn cynnwys cyfarch pobl yn ddwyieithog yn unol â Safonau’r Gymraeg.  Câi rhywfaint o waith ei wneud hefyd er mwyn nodi’r ddarpariaeth o ran dysgu Cymraeg, a bwriedid dod ag adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ynglŷn â’r cynnydd gyda hyfforddiant.

 

Bu’r Aelodau’n trafod amryw agweddau ar yr adroddiad, a chawsant yr wybodaeth ganlynol gan y swyddogion:

 

·         cyfrifoldeb pob gwasanaeth unigol oedd talu am gyrsiau dysgu Cymraeg – roedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu rhai cyrsiau am ddim ac anogwyd staff i gofrestru ar eu cyfer

·         yn ôl yr arolwg blaenorol roedd oddeutu 29% o’r staff yn siarad Cymraeg, a oedd yn gyson â’r ganran o boblogaeth Sir Ddinbych oedd yn medru’r iaith – fodd bynnag, ni chredwyd fod hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa mewn gwirionedd gan y nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi tanddatgan eu gallu; roedd angen gweithio gyda’r staff i adnabod rhwystrau rhag asesu lefelau sgiliau’n iawn, a byddai’r system newydd yn hwyluso hynny

·         Cynigiwyd cyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau o ran gallu er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posib ar gyfer yr aelodau hynny o staff oedd yn dysgu – Coleg Cambria a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd yn darparu’r cyrsiau

·         roedd oddeutu deugain o aelodau o staff yn dilyn cyrsiau oedd yn addas i’w sgiliau iaith, a’r bwriad oedd gweithio â’r Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol wrth lunio llyfryn i’r staff am y cyrsiau ffurfiol oedd ar gael, ynghyd â dulliau eraill anffurfiol o feithrin sgiliau iaith fel mentora, darparu cyfleoedd i sgwrsio yn Gymraeg, defnyddio llinynnau gwddf i ddynodi siaradwyr Cymraeg ac yn y blaen

·         cydnabuwyd hefyd fod rhai aelodau o staff yn dysgu Cymraeg yn eu hamser hamdden, ar ben y ddarpariaeth a gynigiai’r Cyngor, ac nid oedd y data presennol yn adlewyrchu hynny. Hefyd, roedd rhai aelodau o staff yn defnyddio ap i ddysgu Cymraeg – roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol wrthi’n ceisio canfod pwy oedd y rhain, fel y gellid gwneud cofnod ac adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yn well

·         nodwyd yr amrywiaeth o ran faint o Gymraeg a gâi ei siarad ym mhrif swyddfeydd y Cyngor, a chytunodd yr aelodau ei bod yn gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar siarad Cymraeg a hybu sgiliau iaith i ddechrau, cyn mynd ymlaen i weithio ar Gymraeg ysgrifenedig.

 

Roedd y pwyllgor yn croesawu’r dulliau oedd ar waith, ac yn cytuno y dylai esbonio’r amryw lefelau sgiliau helpu’r staff i roi darlun mwy cywir o’u gallu.  Roedd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed y câi staff eu hannog  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

SAFONAU’R GYMRAEG pdf eicon PDF 195 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar gynnydd a waned gyda Safonau’r Gymraeg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ynglŷn â’r cynnydd o ran Safonau’r Gymraeg.

 

Cyflwynwyd y Safonau yn Sir Ddinbych yn 2015 fel rhan o’r drefn o’u cyflwyno mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, ac roeddent yn deillio’n uniongyrchol o greu Mesur y Gymraeg a swydd Comisiynydd y Gymraeg.  Roedd yn ofynnol i Sir Ddinbych gydymffurfio â 167 o Safonau mewn pum maes allweddol – Darparu Gwasanaethau; Llunio Polisïau; Gweithrediadau; Cadw Cofnodion a Hyrwyddo.  Y nod oedd sicrhau y câi’r Gymraeg ei thrin â’r un tegwch â’r Saesneg er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posib i aelodau o’r cyhoedd yn yr iaith o’u dewis.  Gwnaethpwyd llawer o waith cyn cyflwyno’r Safonau, ac roedd y Cyngor yn cyflawni rhai ohonynt eisoes – cafwyd ymateb da gan y Gwasanaethau o ran sicrhau cydymffurfiaeth, ac roedd y Cyngor yn cydymffurfio â’r mwyafrif helaeth o’r Safonau.  Serch hynny, roedd angen gwneud mwy o waith ynglŷn â hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a bod hawl gan bawb a wahoddid i gyfarfodydd i gyfrannu yn Gymraeg. Roedd rhai aelodau o staff yn anghyfarwydd â’r gofynion hynny, ond gellid mynd i’r afael â hynny yn yr wythnosau oedd i ddod drwy gyfathrebu’n rhagweithiol.  Byddai’r Cyngor yn dal i hyrwyddo negeseuon ynglŷn â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, i sicrhau ei fod yn dal i gydymffurfio ar lefel uchel.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·         roedd y Pwyllgor yn falch o weld lefel uchel o gydymffurfiaeth â’r rhan helaeth o’r Safonau. Roedd hefyd yn cydnabod y camau a gymerwyd i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth wrth iddynt godi, gan gynnwys cynllun gweithredu wedi’i reoli a negeseuon rhagweithiol – cydnabuwyd gwaith y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn hynny o beth, yn ogystal â chefnogaeth Hyrwyddwyr y Gymraeg.  Roedd y Swyddogion hefyd yn cydnabod cefnogaeth yr Aelodau ac arweiniad pendant y Cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

·         nodwyd anghysonder rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Safonau o ran eu rhifau, a bod yno Safon 29a yn y rhai Cymraeg ond nid y rhai Saesneg, a oedd a wnelo â darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg – cytunodd y swyddogion y byddent yn ymchwilio i’r anghysonder hwn gyda’r nod o gadarnhau’r gofynion a sicrhau cysondeb rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg

·         soniodd yr aelodau am eu profiadau eu hunain o gydymffurfiaeth/diffyg cydymffurfiaeth wrth ymwneud â’r Cyngor, a’r trafferthion a gawsant wrth ddefnyddio cyfeiriadau e-bost Cymraeg  Anogwyd yr aelodau i adrodd ynghylch unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth, a soniodd y swyddogion am y mesurau a gyflwynwyd eisoes er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth staff â safonau penodol, gan gynnwys dosbarthu templedi, cardiau cyfarch dwyieithog ffonetig ac yn y blaen.  Fodd bynnag, derbyniwyd ei bod yn anochel y byddai rhai achosion neilltuol yn codi ac os oedd staff yn gyndyn o gydymffurfio â’r Safonau dylid eu hannog i wneud hynny; byddai dal i ddefnyddio’r Gymraeg fel mater o drefn yn helpu i ddatblygu’r iaith ymhellach

·         cadarnhaodd y swyddogion y câi’r Comisiynydd newydd wahoddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor ar ôl ei benodi

·         o ran hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg, cadarnhaodd y swyddogion y dylid cynnig y dewis yn rhagweithiol, a bod angen i staff feddwl ymlaen llaw wrth drefnu cyfarfodydd er mwyn bodloni’r gofynion – cynigiwyd y dewis fel mater o drefn ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus

·         nodwyd fod gwahanol awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus yn destun gwahanol Safonau na fyddai’n newid ond pe byddai Comisiynydd y Gymraeg yn cymryd golwg o’r newydd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CANOLFAN IAITH YSGOL GLAN CLWYD

Derbyn cyflwyniad o rôl y Ganolfan Iaith newydd yn Ysgol Glan Clwyd.

 

Cofnodion:

Rhoes y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ragarweiniad byr a rhywfaint o gefndir i ddatblygu Canolfan Iaith Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd, yn sgil llwyddo gyda chais am grant gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys darpariaeth cyn ysgol ac addysg i oedolion.

 

Roedd y Swyddog Moderneiddio Addysg a Rheolwr y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, ac fe gyflwynont fwy o fanylion ynglŷn â’r Ganolfan:

 

·         aethpwyd ati i sefydlu’r Ganolfan ar ôl gweld cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth cyn ysgol

·         byddai’r prosiect yn creu seilwaith ar gyfer cyflawni amcanion y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac yn benodol: Deilliant 1 – mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; Deilliant 2 – mwy o ddisgyblion yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd; a Deilliant 7 – cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus

·         roedd y Ganolfan yn ffordd o ddefnyddio’r hen adeilad gwyddoniaeth a fu’n wag ers cwblhau prosiect Ysgol Glan Clwyd ac wedi’i ddal mewn ymddiriedolaeth at ddibenion addysgol

·         soniwyd am y broses ymgeisio lwyddiannus, a’r ffaith bod Sir Ddinbych wedi cyflwyno’r achos busnes gorau yng Nghymru. O ganlyniad i hynny cafwyd £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg a Chyllid Cyfalaf ar gyfer Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar

·         ymhelaethwyd ynghylch nodau’r prosiect o ran darpariaeth i ddisgyblion cyn ysgol, cefnogi newydd-ddyfodiaid mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau Cymraeg, safle posib ar gyfer partneriaid darparu’r Gymraeg, a chynnydd bach yng  nghapasiti Ysgol Glan Clwyd.  Gellid darparu addysg i oedolion hefyd y tu allan i oriau’r ysgol.

·         byddai’r Ganolfan yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Croesawodd yr aelodau’r prosiect gan ddweud ei fod yn ddatblygiad a buddsoddiad mawr o ran y Gymraeg yn Sir Ddinbych, a rhoesant glod am atgyfnerthu’r cysylltiadau â phartneriaid a’r amrywiaeth helaeth o fuddiolwyr y cynllun.  Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y swyddogion y sefyllfa o ran y fynedfa dros dro i’r Ganolfan newydd, ac ar sail yr amgylchiadau newydd roeddent wedi ymrwymo i drafod y cynigion â’r trigolion gerllaw cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd.  O ran amserlen y prosiect, disgwylid cwblhau’r gwaith ailwampio erbyn mis Ebrill 2020. Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y buddsoddiad mawr yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Byddai’n dod â buddion hirdymor ac yn gadael etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol.  Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â threfniadau cludiant, cadarnhaodd y byddai’r sir gyfan yn elwa ar y Ganolfan newydd, ac y byddai’r gwaith peripatetig yn parhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r cyflwyniad ynglŷn â Chanolfan Iaith Gymraeg Ysgol Glan Clwyd.

 

Ar yr adeg hon (11.10 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

8.

YMATEB GAN SWYDDFA COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Derbyn cyflwyniad ar yr adborth a dderbyniwyd gan Comisiynydd y Gymraeg.

 

Cofnodion:

Esboniodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd fod swyddogion Swyddfa’r Comisiynydd yn cynnal gwiriadau ar hap er mwyn asesu pa wasanaethau’r Cyngor oedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac asesu ansawdd y rheiny.  Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg gyflwyniad PowerPoint ynglŷn â’r ymateb a gafwyd fis Rhagfyr 2018, gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

Archwiliad Monitro 2017/18 –

 

·         ymatebodd y Cyngor i bob e-bost Cymraeg a phob ymholiad yn Saesneg ar Facebook

·         fe gymerodd 11 diwrnod i ymateb i un ymholiad Cymraeg ar Facebook a 10 diwrnod i ymateb i’r un ymholiad yn Saesneg – nid oedd rheswm amlwg dros yr anghysonder

·         nid oedd yr ymatebion i negeseuon Facebook yn cynnwys datganiad ynglŷn â gohebu yn Gymraeg – penderfynwyd cynnwys datganiad ar y dudalen Facebook i ddweud y croesewid gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg.

 

Mesur llwyddiant – argaeledd ac ansawdd gwasanaethau

 

·         dull newydd o asesu sgiliau Cymraeg y staff

·         hyfforddiant Cymraeg i staff 

·         cynlluniau i gefnogi staff – Clwb Cerdded Cymraeg/Eisteddfod y Cyngor/Côr Staff/Hysbysebu’r Safonau

 

Mesur llwyddiant – annog defnydd o’r Gymraeg/deall profiadau’r defnyddwyr

 

·         gweithio gyda busnesau i’w hannog i ddefnyddio brandio dwyieithog a chyflogi gweithwyr dwyieithog

·         gweithio gyda’r Urdd a’r Fenter Iaith i hyrwyddo’r Gymraeg

·         cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan Iaith newydd yn Ysgol Glan Clwyd

·         ymestyn Canolfan y Dderwen yn y Rhyl er mwyn ehangu’r ddarpariaeth Cymraeg

·         recriwtio siaradwr Cymraeg rhugl yn y Gwasanaethau Ieuenctid, a chynnal sesiynau pêl-droed Cymraeg yn y Rhyl gyda thrigain o bobl ifanc yn cymryd rhan

·         gwaith mapio’n digwydd gyda Fforwm Iaith y Sir

·         Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg

 

Mesur llwyddiant – ystyried yr effaith ar y Gymraeg/gweithredu’n fewnol

 

·         roedd y Cyngor yn fodlon fod yno drefniadau cadarn ar waith ar gyfer ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth benderfynu ynglŷn â pholisïau neu ddyfarnu grantiau

·         bu’r ymateb i’r Safonau’n gadarnhaol ac nid oedd fawr ddim wedi newid o gymharu â’r hyn y bu’r Cyngor yn ei wneud o dan y Cynllun Iaith blaenorol – tybiwyd fod mwy o sesiynau un-i-un gyda staff wedi’u cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a phrin y defnyddiwyd cyfieithwyr ar eu cyfer.

     

Roedd yr aelodau’n falch o weld y berthynas waith ragorol rhwng y Cyngor a Swyddfa’r Comisiynydd, a oedd yn hwyluso datblygiad pellach y Gymraeg yn Sir Ddinbych.  Rhoddwyd clod arbennig hefyd i lwyddiant Côr y Staff, a oedd bellach yn derbyn ceisiadau i berfformio.  Cafwyd trafodaeth ynglŷn â defnyddio Facebook yn Gymraeg a Saesneg, ac fe gadarnhaodd y swyddogion y gofynion a gytunwyd â Swyddfa’r Comisiynydd o ran hynny, ac fel cynghorwyr roedd yr aelodau hefyd yn rhannol gyfrifol am roi negeseuon dwyieithog a rhannu postiadau ar y ddwy dudalen Facebook, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r dudalen Gymraeg.  Cadarnhaodd y swyddogion hefyd y byddai’r Cyngor yn dal i amlygu’r dudalen Facebook Gymraeg, ac yn dal i gyhoeddi negeseuon yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.  Nododd yr aelodau bod ymateb Swyddfa’r Comisiynydd yn adlewyrchu perfformiad y Cyngor bryd hynny, ac roedd llawer o waith wedi’i wneud yn y cyfamser, gan gynnwys y Ganolfan Feithrin newydd yn y Rhyl.  Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglyn â’r ddarpariaeth Cymraeg ychwanegol yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl a chytunodd y swyddogion i gysylltu â’r Tîm Moderneiddio Addysg i gael mwy o fanylion, ac adrodd yn ôl i’r aelodau wedi hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol, gan ddweud mor galonogol oedd y cynnydd a wnaethpwyd a’r holl waith oedd yn mynd rhagddo i gynnwys y Gymraeg a’i hyrwyddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r cyflwyniad ynglŷn ag ymateb Comisiynydd y Gymraeg.

 

 

9.

GWAITH PARTNER IAITH pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) yn ymwneud â gwaith y Partner Iaith, y fforwm traws sirol yn edrych ar sut y gellir datblygu’r Gymraeg yn strategol ar draws y sir.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan roi cyflwyniad PowerPoint ynglŷn â Phartner Iaith, sef fforwm draws-sirol a oedd yn ymchwilio i ffyrdd y gellid datblygu’r Gymraeg yn strategol ledled y sir.  Swyddogaeth y Partner Iaith oedd:

 

·         cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy weithredu gweledigaeth leol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych

·         ehangu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg

·         codi ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg

·         cydweithio â phartneriaid i drafod, rhannu syniadau ac osgoi dyblygu gwaith

·         gweithio ar lefel partneriaeth i nodi unrhyw fylchau yn narpariaeth y Gymraeg a mynd ati i fodloni’r anghenion

·         hybu’r Gymraeg yn yr economi leol a gwasanaethau cyhoeddus

·         pwysleisio gwerth economaidd-ddiwylliannol yr iaith yn y diwydiant twristiaeth

·         pwysleisio mor bwysig yw’r iaith i’r sefydliadau hynny sy’n gyfrifol am brosiectau adfywio.

 

Roedd Partner Iaith yn cynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Cyngor, ac roedd wedi bod yn ystyried cyfleoedd ar gyfer cyd-hyrwyddo, monitro Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a chynnal digwyddiadau hyrwyddo allweddol ar y cyd ledled y sir.  Roedd y gwaith diweddaraf yn cynnwys mapio’r gweithgareddau oedd yn cael eu trefnu ym meysydd hamdden, plant, pobl ifanc, cymunedau, busnesau, teuluoedd a phobl hŷn. Er bod llawer yn digwydd yn y trefi mawr, roedd llai o weithgareddau yn ardaloedd gwledig y sir, ardaloedd ar yr arfordir a rhai ardaloedd yn ne Sir Ddinbych.  Mewn ymateb i hynny roedd Partner Iaith yn argymell:

 

·         dal i fapio gweithgareddau nad oedd y sefydliadau partner yn eu harwain

·         dadansoddi’r canfyddiadau erbyn mis Medi 2019

·         gwneud argymhellion a gâi eu cynnwys mewn cynllun gwaith i'r dyfodol ar gyfer Partner Iaith

·         cefnogi pwyllgorau iaith oedd eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, ac ystyried sefydlu pwyllgorau ychwanegol yn yr ardaloedd hynny oedd â mwy o angen.

 

Nododd yr aelodau’r gwaith a wnaethpwyd gan Partner Iaith, a’r modd yr oedd yn cyflawni ei raglen waith bresennol.  Cyfeiriwyd at y sefydliadau eraill oedd yn bartneriaid, a’r gwaith da a wnaethpwyd wrth hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg, a gan ystyried yr amrywiaeth o wahanol sefydliadau, cytunodd yr aelodau y byddai’n fuddiol cael adroddiad ynglŷn â strwythurau partneriaeth y sefydliadau hynny, sut oedd y partneriaid yn rhyngweithio â’i gilydd, a sut oeddent yn cael eu hariannu (gan gynnwys cyfraniadau gan y Cyngor).  Amlygwyd hefyd mor bwysig oedd swyddogaeth y cymunedau a’r angen i feithrin cyswllt â hwy wrth hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg ymhellach.  O ran costau, nodwyd y darparwyd cyllid ar gyfer swydd Swyddog y Gymraeg, ond heblaw am hynny nid oedd cyllideb neilltuol ar gyfer datblygu’r Gymraeg, a disgwylid y byddai unrhyw gostau’n cael eu talu o’r cyllidebau presennol.  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r perygl y gallai ymddangos nad oedd y Cyngor yn rhoi digon o arian at hyn, gan nad oedd yno gyllideb benodol, dywedodd y swyddogion fod y gwasanaethau’n neilltuo cyllid ac nad oedd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth wedi’u nodi. Hefyd, nid oedd unrhyw wasanaethau yn methu â chyflawni eu safonau o ran y Gymraeg. Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol wrth wneud unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisïau cenedlaethol i’w gweithredu yn lleol, gan gynnwys newidiadau yn y cwricwlwm addysg.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r dull o gyflawni rhaglen waith bresennol Partner Iaith.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 340 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor i’w ystyried, a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am Eisteddfod yr Urdd – eitem sefydlog ar raglenni cyfarfodydd yn y dyfodol

·         Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg – Gorffennaf

·         Darpariaeth Hyfforddiant Cymraeg – Gorffennaf

·         Sesiwn briffio ynglŷn â Sefydliadau Partner oedd wrthi’n hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg – Gorffennaf.

 

Nodwyd y câi’r eitem y gofynnodd y pwyllgor amdani o’r blaen ynglŷn ag elfen fusnes Safonau’r Gymraeg ei chyflwyno fis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD, yn ddibynnol ar yr uchod, derbyn a nodi’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m.