Agenda and draft minutes
Lleoliad: Cabinet Room, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Paul Penlington ac Anton
Sampson. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. (copi wedi’i amgáu) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 (copi wedi’i amgáu) Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017. Materion yn
Codi: Fe drafododd y
cadeirydd mater oedd yn ymwneud ag eitem 7, Cynllun Strategol Cymraeg mewn
Addysg 2017-2020. Cafwyd eglurhad y gallai aelodau fynychu cyfarfodydd Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg, ond gofynnodd y pwyllgor a fyddai modd i
wahoddiadau gael eu hanfon i sicrhau bod aelodau yn ymwybodol o ddyddiadau’r
cyfarfodydd. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir
ac y dylai’r cadeirydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio am
ddatblygiadau gyda Safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych (copi wedi’i amgáu) Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r iaith Gymraeg, adroddiad ar
safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Fe atgoffodd yr
Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd, yr aelodau bod y safonau wedi
cael eu cyflwyno ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Fe soniodd yr
Arweinydd Tîm am y meysydd yr oedd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i
weithredu safonau’r Gymraeg: ·
Roedd
y fewnrwyd a oedd yn ffocws i holl weithwyr y Cyngor bellach yn ddwyieithog. ·
Roedd
gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig i staff y Cyngor, ac roedd sesiynau cyfarfod
yn cael eu cynnig i'r staff a hoffai ddatblygu eu Cymraeg y tu allan i’r
gwersi. ·
Fe
soniwyd hefyd am becyn croesawu i’r Cyngor a fyddai’n cael ei anfon i bobl sy’n
symud i’r ardal i roi gwybod iddynt am
Sir Ddinbych, ond hefyd i’w hannog i ddysgu Cymraeg. Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Fe
ganmolodd yr aelodau nod y Cyngor i gyflawni tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol yn ôl
y safonau ·
Mynegwyd
pryderon ynghylch sut byddai’r cyngor yn delio â chwynion tuag at yr iaith. Fe atebodd yr Arweinydd gan ddweud bod nifer y cwynion yn isel. Fodd
bynnag, byddai’r Cyngor yn delio ag unrhyw gwynion y byddant yn ei dderbyn.
Dywedodd yr aelod arweiniol bod y Cyngor yn defnyddio siopwyr cudd i sicrhau y
cydymffurfir â'r safonau. ·
Mewn
cysylltiad â thema gohebiaeth yn y safonau, gofynnwyd a oedd negeseuon peiriant
ateb yn eglur yn Gymraeg. Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod cefnogwyr y Gymraeg wedi helpu i sicrhau bod
negeseuon Cymraeg ar beiriannau ateb yn eglur a chywir. ·
Trafodwyd
gwersi Cymraeg i staff oedd yn dymuno siarad Cymraeg. Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig ar draws y
Cyngor i’r rhai oedd yn dymuno dysgu Cymraeg. Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth y
pwyllgor y byddai’r Prif Weithredwr newydd yn cael gwersi Cymraeg yn fuan.
Gofynnodd yr aelodau bod eu llongyfarchiadau’n cael eu hanfon ati. ·
Canmolodd
y pwyllgor y cadeirydd am agor y cyfarfod trwy gyfrwng y Gymraeg, a gofyn a
fyddai modd i holl gyfarfodydd y Cyngor gael eu hagor trwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd yr Arweinydd Tîm y gallai’r Cyngor wneud hyn a mynd y tu hwnt i’r
hyn roedd Safonau’r Gymraeg wedi’u hamlinellu. Ar ôl y
drafodaeth, dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau bod y Cyngor yn bwriadu
penodi rhagor o siaradwyr Cymraeg rhugl ac roedd yn gweithio’n agos gydag
Adnoddau Dynol i sicrhau y byddai hyn yn digwydd, er ei bod hi’n anodd penodi
staff sy’n siarad Cymraeg mewn i rai swyddi. PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad. |
|
STRATEGAETH Y GYMRAEG PDF 333 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio’r
Pwyllgor am Strategaeth y Gymraeg y Cyngor. (copi wedi’i amgáu) Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd
Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad i friffio’r Pwyllgor am
Strategaeth y Gymraeg y Cyngor. Fe nododd yr
Arweinydd Tîm y prif themâu a gafodd sylw yn y strategaeth a thynnwyd sylw
atynt yn yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol): ·
Thema 1: Cynllunio Strategol yr Iaith Gymraeg yn Sir
Ddinbych ·
Thema 2: Plant a Phobl Ifanc ·
Thema 3: Cymunedau ·
Thema 4: Busnes a'r economi ·
Thema 5: Gweinyddiaeth fewnol o fewn y Cyngor Dywedodd yr
arweinydd tîm wrth yr aelodau bod y Strategaeth ar gyfer 5 mlynedd, cyfnod
cymharol fyr ac y byddai’r cyngor yn mynd ati i ddatblygu strategaeth tymor
hirach. Fe dynnodd yr
Arweinydd Tîm sylw at meysydd lle mae Sir Ddinbych yn gweithio tuag at y themâu
o fewn y Strategaeth: ·
Cynigiodd y cyngor wersi Cymraeg i staff oedd yn dymuno
dysgu. ·
Mae mewnrwyd y Cyngor yn ddwyieithog. ·
Byddai pobl sy’n symud i fyw i’r Sir yn cael pecyn
croesawu i’r cyngor ac yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg. ·
Byddai adnoddau dynol yn hysbysebu rhagor o swyddi gyda’r
Gymraeg mewn golwg. Ar ôl i’r
Arweinydd Tîm amlinellu’r camau oedd yn cael eu cymryd yn unol â’r Strategaeth
aeth yr aelodau ymlaen i drafod y canlynol: ·
Roedd yn fanteisiol bod gan y Cyngor staff dwyieithog, yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig oedd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, ond
gofynnodd aelodau a oedd gan ysbytai ddigon o staff dwyieithog ar gyfer y
preswylwyr diamddiffyn oedd yn dymuno sgwrsio yn Gymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau na
allai’r Cyngor fynnu beth roedd sefydliadau eraill yn ei wneud. ·
Roedd y targed o 0.5% i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
yn gynnydd rhy isel, a chyda lefel mor isel ni fyddai Sir Ddinbych yn helpu i
gyflawni’r cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Wrth ymateb
dywedodd yr Arweinydd Tîm bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn gostwng
ac roedd angen targed realistig. Gallai’r cynnydd a osodwyd gael ei gynyddu yn y
dyfodol. ·
Cafodd parc dŵr SC2 ei drafod, a chytunodd aelodau
mai yn anaml iawn roedd acronymau yn cyfieithu’n dda i’r Gymraeg. Fe wnaethant argymell y dylai enwau safleoedd neu
brosiectau yn y dyfodol gael eu trafod i sicrhau bod modd byrhau’r enw yn
Gymraeg a Saesneg. ·
Mynegodd aelodau bryderon ynghylch diffyg Cymraeg oedd yn
cael ei ddysgu mewn rhai ysgolion. Gofynnwyd iddynt basio unrhyw bryderon ymlaen i’r
tîm addysg. Gofynnodd y cadeirydd i’r swyddogion ystyried y pryderon a gafodd eu mynegi
gan aelodau. PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad yn amodol ar y pwyntiau y soniwyd amdanynt
uchod. |
|
RÔL SWYDDOG Y GYMRAEG Ystyried adroddiad ar lafar gan
Arweinydd
Tîm -Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio’r Pwyllgor am Rôl y Swyddog
Iaith Cymraeg newydd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr eitem trwy groesawu Swyddog y Gymraeg
newydd i’r cyngor a dywedodd wrth yr aelodau y byddai’r Swyddog yn helpu’r
Cyngor i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Diolchodd y
Swyddog i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad a rhoddodd gyflwyniad i’r pwyllgor
ynglŷn â dyletswyddau a rôl Swyddog y Gymraeg. ·
Rhoi
cyngor a chymorth i uwch swyddogion, aelodau ac adrannau i weithredu a
chydymffurfio’n barhaol â Safonau’r Gymraeg a darparu arweiniad a chefnogaeth o ddydd i ddydd. ·
Defnyddio
dulliau arloesol a chreadigol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chodi proffil
yr iaith mewn modd sydd yn creu agwedd gadarnhaol tuag y Gymraeg o fewn y
Cyngor Sir a’r gymuned ehangach. ·
Darparu
hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg a sesiynau gramadeg y Gymraeg ·
Gweithio’n
agos gyda’r tîm AD i gynllunio gweithlu mewn perthynas â’r
Gymraeg Cafwyd y
drafodaeth ganlynol ar ôl y cyflwyniad: ·
Cyfieithiadau Cymraeg – gofynnwyd a fyddai Swyddog y Gymraeg yn
cyfieithu rhywfaint o waith mewnol i'r Cyngor. Cafwyd eglurhad mai rôl y Swyddog oedd sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych
yn dilyn Safonau’r Gymraeg yn hytrach nag ymgymryd â gwaith cyfieithu. ·
Dyletswyddau Swyddog y Gymraeg – Gofynnodd y pwyllgor am restr lawn o
ddyletswyddau’r Swyddog er mwyn iddynt allu anfon ymholiadau priodol. Cadarnhaodd y byddai rhestr o ddyletswyddau’n cael eu dosbarthu. ·
Arwyddion - Trafodwyd enwau strydoedd Cymraeg neu ddwyieithog, a pham nad oedd yna
gydymffurfiad ar draws Sir Ddinbych. Gofynnodd
yr aelodau bod Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn mynychu cyfarfod yn y
dyfodol i egluro beth oedd y broses arwyddion ar draws y Cyngor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
EISTEDDFOD YR URDD - DIWEDDARIAD PDF 222 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i ddiweddaru’r
Pwyllgor am gynnydd ar drafodaethau yn ymwneud â dychweliad Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd i’r sir yn 2020 ac amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau
i'r Cyngor (copi wedi’i amgáu) Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad i ddiweddaru’r
Pwyllgor am gynnydd ar drafodaethau yn ymwneud â dychweliad Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd i’r sir yn 2020 ac amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau
i'r Cyngor. Dywedodd yr
Arweinydd wrth yr aelodau mai Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych fydd y
lleoliad. Hwn oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013. Mae’r safle wedi’i ddewis gan ei fod eisoes
wedi cael ei brofi. Roedd y seilwaith eisoes ar y safle, yn ogystal â digon o
dir agored ar gyfer yr ŵyl, meysydd parcio a safle garafanau. Trafodwyd hefyd y
bydd y Cyngor yn sefydlu grŵp strategol i gydlynu trafodaethau â threfnwyr
Eisteddfod yr Urdd. Bydd angen i gyfarfod cyntaf y Grŵp Strategol gael ei
gynnal ym mis Mehefin 2018 ac yna bob chwarter ar ôl hynny. Cadeirydd y
Grŵp Strategol fydd Arweinydd y Cyngor. Dywedodd yr
Arweinydd Tîm wrth yr aelodau bod cynlluniau ar waith i hyrwyddo Sir Ddinbych
gyfan a denu pobl fydd yn mynychu'r Eisteddfod i ymweld â safleoedd eraill yn
Sir Ddinbych. Fe dynnodd yr Arweinydd Tîm sylw at nifer o fanteision y gallai’r
Eisteddfod ei chael ar yr economi leol: ·
Byddai
£6m- £8m yn cael ei wario yn yr ardal leol. ·
Roedd
30% o ymwelwyr yn aros dros nos ·
Roedd
78% o bobl yn gwario arian gyda busnesau lleol ·
Roedd
60% yn ymweld â’r Maes am o leiaf deuddydd ·
Mae
45%-60% yn teithio hyd at 90 munud i ymweld â’r Eisteddfod. Fe soniodd yr
Arweinydd Tîm am ffigurau Sir y Fflint a sut roeddynt wedi elwa ar ôl i’r
Eisteddfod gael ei chynnal yno, cafodd y data ei gasglu gan Beaufort Research: ·
Aeth
54% o ymwelwyr i siopau lleol ·
Aeth
54% i fwytai lleol ·
Aeth
33% i dafarndai lleol ·
Defnyddiodd
52% orsafoedd petrol lleol. Fe soniodd yr
aelodau y byddai wedi bod yn braf petai’r Eisteddfod wedi mynd i ardal arall o
fewn Sir Ddinbych. Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod y safle wedi cael ei ddewis yn
sgil llwyddiant yr Eisteddodd Genedlaethol a gynhaliwyd yno yn flaenorol. Trafodwyd
arwyddion a hyrwyddo Sir Ddinbych i lwyfannu Eisteddfod yr Urdd 2020. Dywedodd
yr Arweinydd Tîm y byddai arwyddion yn cael eu harddangos i hysbysebu mai Sir
Ddinbych fyddai’n llwyfannu'r Eisteddfod a byddai gan Sir Ddinbych bresenoldeb
yn Eisteddfod 2019 yng Nghaerdydd er mwyn hysbysebu mai Sir Ddinbych fyddai’n
llwyfannu’r Eisteddfod nesaf. Byddai hefyd yn ffordd o ddangos beth sydd
gan Sir Ddinbych fel sir i’w chynnig i ymwelwyr. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 298 KB Ystyried rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Awgrymodd y
cadeirydd y gallai cyfarfod arall gael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf, a chytunodd
swyddogion i chwilio am ddyddiad addas. Cynigiwyd bod
cefnogwr y Gymraeg yn cael ei g/wahodd i hysbysu'r aelodau o'u gwaith. Fe awgrymodd y
cadeirydd bod themâu unigol y strategaeth yn cael eu craffu yn fanwl ym mhob
cyfarfod, yn hytrach na’r strategaeth gyfan ym mhob cyfarfod.
|