Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Ellie
Chard, Tony Flynn, Paul Penlington ac Emrys Wynne. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn bresennol y cyngor. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas y dylid
penodi'r Cynghorydd Graham Timms yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Arwel Roberts. Gan nad oedd
unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD y
dylid penodi'r Cynghorydd Graham Timms yn Gadeirydd Pwyllgor Llywio'r Iaith
Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ddinesig bresennol. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is
Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn bresennol y cyngor. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer
Is-gadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Ann
Davies y dylid penodi’r Cynghorydd Tony Thomas yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Anton Sampson. Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac
o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD
y dylid penodi'r Cynghorydd Tony Thomas yn Is-gadeirydd Pwyllgor Llywio'r Iaith
Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ddinesig bresennol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
DATBLYGIAD STRATEGOL YR IAITH GYMRAEG PDF 219 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchu (copi’n
amgaeedig) yn manylu ar y gwaith sydd wedi ei wneud o ran datblygiad strategol
yr iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych, yn unol â deddfwriaeth genedlaethol a
Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor ei hun. Cofnodion: Gan
ystyried mai hwn oedd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg, roedd
swyddogion o’r farn y byddai’n ddefnyddiol darparu cyd-destun a diweddariad ar
Safonau’r Gymraeg a’r gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn
enwedig o ran gofynion deddfwriaethol. Er bod gwaith y Pwyllgor yn
canolbwyntio ar Safonau’r Gymraeg, roedd eitemau ar y rhaglen hefyd yn cynnwys
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a’r Fframwaith Mwy Na Geiriau, er mwyn
rhoi ymwybyddiaeth i aelodau o’r gwaith a wneir drwy fforymau eraill yn y
gymuned ehangach. Cyflwynodd
yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a rhoddodd gyflwyniad PowerPoint a oedd yn cynnwys - ·
y sefyllfa hanesyddol pan fyddai
awdurdodau lleol unigol yn datblygu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer y Gymraeg
a oedd yn amrywio’n fawr o ran ansawdd ·
deddfwriaeth newydd ar ffurf
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r bwriad i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn
cael eu trin yn gyfartal ·
creu Comisiynydd y Gymraeg a
datblygu safonau’r Gymraeg ·
mae 169 o Safonau’r Gymraeg
wedi’u cyhoeddi a’u categoreiddio dan y themâu: gohebiaeth, hybu, llunio polisi
a gweinyddiaeth fewnol, ac roedd y Cyngor wedi ymateb iddynt mewn ffordd
gadarnhaol ·
rôl a phwerau Comisiynydd y
Gymraeg o ran sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ·
Strategaeth y Gymraeg
(cymeradwywyd mis Chwefror 2017) sydd wedi amlygu pum maes allweddol i’w
datblygu gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych o 0.5%
dros y pum mlynedd nesaf gyda bwriad o ystyried targed hirdymor i gynyddu nifer
y siaradwyr Cymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf, a ·
chyfrifoldeb strategol am
Safonau’r Gymraeg a thrin materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Tynnwyd sylw Aelodau at yr adroddiad a mesurau eraill i gryfhau a hybu’r
Gymraeg yn yr awdurdod gan gynnwys; penodi Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg;
sesiynau galw heibio i staff; cortynnau gwddf Iaith Gwaith; llofnodion e-bost
dwyieithog; Cysill a Microsoft Office yn Gymraeg; ateb y ffôn; y fewnrwyd;
casglu gwybodaeth am staff; prif linell ffôn y cyngor; gwobrau rhagoriaeth
staff; diwylliant/ethos y sefydliad; ymarfer siopwr cudd a chyflwyno
cydymffurfio â’r Gymraeg mewn heriau gwasanaeth. Roedd swydd Swyddog Iaith Gymraeg yn cael ei
hysbysebu ar hyn o bryd i gynorthwyo ymhellach â datblygiad strategol y Gymraeg
yn yr awdurdod. Er bod staff a
chynghorwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i Safonau’r Gymraeg, roedd lle i wella o
hyd. Trafododd Aelodau amrywiol agweddau ar yr adroddiad gyda swyddogion, gan
gynnwys - ·
Strategaeth y Gymraeg – cyfeiriwyd at y targed 0.5% ac roedd rhai
yn ystyried ei fod wedi’i osod yn rhy isel. Gan ystyried y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd
diweddar, roedd yn bwysig gosod targed realistig yn y tymor byrrach (byddai’r
canlyniad yn cael ei fesur gan y cyfrifiad yn 2021) a’r bwriad oedd gosod
targed mwy heriol dros y tymor hirach.
Roedd dull amlochrog ar draws pob amrywiaeth oedran yn cael ei ddilyn ac
er bod pobl ifanc yn y system addysg yn faes twf sylweddol, y bwriad yn y tymor
hwy oedd cadw siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych drwy gyfleoedd cyflogaeth a
gweithio gyda dosbarthiadau addysg oedolion. ·
Gwobrau Rhagoriaeth Staff – roedd y gwobrau i anrhydeddu staff am eu
hymrwymiad a’u hymroddiad i ddatblygu’r Gymraeg yn y cyngor wedi’u croesawu’n
fawr ac adroddodd swyddogion am effaith gadarnhaol enillwyr y gorffennol gan
ymhelaethu am eu gwaith parhaus o ran hyrwyddo'r Gymraeg yn eu gwasanaeth eu
hunain a meysydd gwasanaeth eraill, gan rannu arfer gorau a hybu’r Gymraeg. · Casglu gwybodaeth am staff – wrth hunanasesu eu sgiliau ieithyddol, roedd llawer o staff yn amharod i adlewyrchu’n gywir eu gallu i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-2020 PDF 376 KB Ystyried
adroddiad gan Brif Reolwr Cefnogi Addysg (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2017 – 2020 a
manylu ar y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol
gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Prif Reolwr Cymorth Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 - 2020 y Cyngor a oedd yn dangos sut
byddai’r canlyniadau a’r targedau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu
cyflawni. Roedd
yr adroddiad hefyd yn manylu ar waith a wnaed hyd yma wrth aros am
gymeradwyaeth ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun drafft. Roedd
yr oedi o ran cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun wedi achosi
rhwystredigaeth ond disgwyliwyd y byddai cymeradwyaeth yn dod yn y Flwyddyn Newydd a byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno
i’r Cabinet i’w gymeradwyo wedyn. Roedd y Cynllun yn
canolbwyntio ar wella sgiliau, yn enwedig cyfathrebu ar lafar a dealltwriaeth
ac roedd yn gweithio tuag at y canlyniadau a ganlyn - ·
mwy o blant saith oed yn cael
eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ·
mwy o ddysgwyr yn parhau i
wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd ·
mwy o fyfyrwyr 14 - 16 oed yn
astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg ·
mwy o fyfyrwyr rhwng 14 - 19
oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion, colegau a dysgu
seiliedig ar waith ·
mwy o fyfyrwyr gyda sgiliau
uwch yn y Gymraeg ·
darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar
gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ·
cynllunio’r gweithlu a
datblygiad proffesiynol parhaus Eglurwyd
rôl y Grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg o ran cefnogi a monitro
gweithredu’r Cynllun a darparwyd manylion aelodaeth y Grŵp. Byddai’r gwaith sy’n cael ei
wneud yn cyfrannu at Lywodraeth Cymru yn cyflawni ei darged o un filiwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac roedd gan ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg
ran i’w chwarae. Fodd
bynnag, roedd canfyddiad bod y Cynllun yn ymwneud ag ysgolion cyfrwng Cymraeg
yn unig ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu ac annog cyfranogiad
ysgolion cyfrwng Saesneg – roedd cynyddu swm ac ansawdd Cymraeg a addysgir mewn
ysgolion cyfrwng Saesneg yn amcan allweddol. Yn olaf, tynnwyd sylw aelodau
at y gyfradd ymateb siomedig i’r ymgynghoriad ar y Cynllun drafft, er gwaethaf
sylw helaeth, ac roedd her wrth greu’r cynllun nesaf i sicrhau rhagor o fewnbwn
a rhagor o ymateb gan fudd-ddeiliaid. Codwyd
y materion canlynol wrth drafod – ·
cydnabuwyd pwysigrwydd
datblygu sgiliau ar gam cynnar i wella cynnydd, ynghyd â’r heriau o sicrhau bod
systemau priodol ar waith ar gyfer hwyrddyfodiaid i ysgolion i sicrhau eu
llwyddiant. ·
nid oedd tystiolaeth amlwg i
awgrymu bod disgyblion yn symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion cyfrwng
Saesneg i astudio ar gyfer cymwysterau Safon Uwch nac unrhyw ddata i ddangos
bod disgyblion yn cyflawni graddau is wrth iddynt gael eu haddysgu drwy gyfrwng
y Gymraeg ar y lefel honno. Roedd
y penderfyniad o ran lle i astudio i lawr i ddewis rhieni. Fodd bynnag nodwyd bod rhai pynciau yn cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig mewn rhai lleoliadau ac roedd
disgyblion yn trosglwyddo o un ysgol i’r llall gan ddibynnu ar yr amrywiaeth o
bynciau sydd ar gael. · roedd rhywfaint o drafodaeth yn canolbwyntio ar gategoreiddiad iaith ysgolion penodol a dywedwyd wrth aelodau fod nifer y plant a oedd yn parhau ag addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn trosglwyddo o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn cael ei fonitro gan Grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac roedd swyddogion yn datblygu strategaeth farchnata i sicrhau bod rhieni yn gwbl ymwybodol o’r ffeithiau wrth ddewis ysgol uwchradd i’w plentyn gyda bwriad o hyrwyddo’r cynnig Cymraeg – nod y grŵp Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd nid colli disgyblion o’r ffrwd Gymraeg ar lefel uwchradd; o ran Ysgol ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
FFRAMWAITH MWY NA GEIRIAU PDF 208 KB Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Datblygu Staff (copi'n amgaeedig) yn hysbysu aelodau o'r cynnydd
a wnaed o ran datblygu Fframwaith Mwy na Geiriau / More Than Words. Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Datblygu Staff yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod
i aelodau am y cynnydd a wnaed o ran datblygu’r fframwaith Mwy na geiriau/More
than just words a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012. Pwrpas
y fframwaith oedd hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd, gwasanaethau
cymdeithasol a gofal cymdeithasol a’r nod oedd sicrhau bod sefydliadau yn
cydnabod bod y Gymraeg yn rhan annatod o ofal a bod pobl a oedd angen
gwasanaethau yn Gymraeg yn cael cynnig hynny – gelwid hyn yn ‘Gynnig
Gweithredol’. Roedd
hon yn neges a oedd wedi’i hybu gyda’r staff i gyd, waeth a oeddent yn staff
mewnol neu staff a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau. Roedd
camau gweithredu i’w gweithredu gan y Cyngor yn 2017-18 yn cwmpasu’r meysydd a
ganlyn - ·
darparu manylion ar sut roedd
gwasanaethau yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd ochr yn ochr
â thargedau i sicrhau gwelliant ·
sicrhau bod gallu a
chymhwysedd iaith Gymraeg staff wedi’u cynnwys mewn gweithdrefnau adnoddau
dynol a recriwtio ·
rhannu arfer gorau o ran
darparu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith a sut i wneud ‘Cynnig Gweithredol’
gyda’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu mewn gwasanaethau a gomisiynir ·
darparu hyfforddiant ac
adnoddau iaith i’r holl staff a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg gynyddu eu hyder
o ran darparu gwasanaethau yn Gymraeg ·
darparu rhyngwynebau a
meddalwedd iaith Gymraeg i staff gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal
cymdeithasol i’w galluogi a’u helpu i weithio mewn ffordd ddwyieithog Croesawodd
yr Aelodau’r fframwaith, gan amlygu pwysigrwydd sicrhau bod pobl a oedd angen
gwasanaethau yn Gymraeg yn cael cynnig hynny, heb orfod gofyn, yn enwedig gan
fod staff yn delio gydag unigolion diamddiffyn iawn mewn llawer o achosion. Gan ymateb i gwestiynau
eglurodd swyddogion fod dewis iaith yn cael ei sefydlu ar y pwynt cyntaf o ran
ymholiad a’i drosglwyddo i sicrhau bod staff mewn gwahanol wasanaethau yn meddu
ar y sgiliau angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn dan sylw. Roedd gofal yn cael ei gymryd
o ran darparu gwasanaethau mewn cartrefi preswyl/nyrsio a lleoliadau gofal dydd
hefyd i sicrhau rhyngweithio priodol a thrwy wahanol weithgareddau er mwyn
meithrin hyder. Roedd
gwaith yn cael ei wneud i feithrin hyder staff o ran defnyddio’r Gymraeg a
dysgu’r eirfa ac roedd cynllunio’r gweithlu yn fater allweddol. O ran monitro cynnydd, roedd
angen adroddiad blynyddol ar Lywodraeth Cymru ar ddarparu camau gweithredu
penodol o ran gweithredu’r fframwaith a byddai monitro pellach hefyd yn cael ei
wneud mewn systemau monitro presennol, fel mewn arolygiadau AGGCC. Roedd yn ddymunol nodi bod y
Cyngor wedi cael adroddiadau cadarnhaol iawn gan rheoleiddwyr o ran y Gymraeg,
er ei bod yn daith barhaus o ran gwelliant. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 308 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor
i’w hystyried. Byddai’r Pwyllgor yn cyfarfod bob tri mis a byddai
dyddiadau cyfarfod ar gyfer mis Mawrth a mis Mehefin 2018 yn cael eu cadarnhau yn dilyn ymgynghori ag
aelodau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau waith y Pwyllgor o ran
Safonau’r Gymraeg a Strategaeth y Gymraeg a chytunwyd i ddosbarthu cylch
gorchwyl y Pwyllgor i aelodau i sicrhau rhwyddineb o ran cyfeirio. Yn dilyn ystyriaeth o’r eitemau yn y rhaglen
gwaith i’r dyfodol - PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m. |