Agenda and draft minutes
Lleoliad: Trwy Gynhadledd Fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Merfyn Parry a Huw Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972 Cofnodion: Dim. |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd
2022. Hysbysodd Swyddog
yr Iaith Gymraeg y pwyllgor na chynhaliwyd Eisteddfod y staff y flwyddyn hon;
cynhaliwyd yr ail Eisteddfod ar-lein a phrin oedd y bobl a gymerodd ran. Felly,
penderfynwyd gohirio’r Eisteddfod nesaf nes 2024. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 fel cofnod
cywir. |
|
DIWEDDARIAD MWY NA GEIRIAU PDF 293 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Datblygu Staff yn diweddaru'r pwyllgor ar y gwaith a gyflawnwyd gyda Mwy na Geiriau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Datblygu Staff yr adroddiad ynglŷn â’r Fframwaith ‘Mwy na Geiriau’
(a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd yr
adroddiad yn disgrifio datblygiad y fframwaith ‘Mwy na Geiriau’. Roedd y fframwaith ‘Mwy na Geiriau’ yn nodi sut ellid mynd ati ar y cyd i sicrhau cynnydd dan y themâu cyffredinol, diwylliant ac arweinyddiaeth. Roedd y camau y byddai’r Cyngor yn eu cymryd yn 2023-24 yn cynnwys: ·
Darparu
manylion ynglŷn â sut roedd y gwasanaethau’n
bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg ynghyd â thargedau i sicrhau
gwelliant ·
Cefnogi
a datblygu sgiliau Cymraeg
y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol ·
Rhannu
arferion gorau wrth ddarparu gwasanaethau
Cymraeg a sut i wneud ‘Cynnig Gweithredol’
gyda’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol
neu’r rhai mewn gwasanaethau a gomisiynir. ·
Darparu
hyfforddiant ac adnoddau iaith i’r holl
staff a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg fagu hyder wrth ddarparu
gwasanaethau yn Gymraeg. Mae’n ofynnol i Sir Ddinbych gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar gyflawni
camau gweithredu penodol wrth weithredu’r
fframwaith. Wrth ddal i fonitro
ar weithredu’r fframwaith, canolbwyntid ar brofiad y defnyddwyr
o’r gwasanaeth a’r systemau monitro presennol (er enghraifft, fel rhan o arolygiadau
Arolygiaeth Gofal Cymru). Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach – ·
Holodd
y pwyllgor ynglŷn â chostau’r fframwaith a chadarnhaodd y Swyddog Datblygu Staff nad oedd y fframwaith ‘Mwy na Geiriau’
yn creu costau
ychwanegol i’r Cyngor. ·
Soniodd
y pwyllgor am gostau dysgu Cymraeg gan holi a fedrai hynny
effeithio ar unrhyw wasanaethau a fyddai’n trefnu bod aelodau o’u tîm
yn cael gwersi
Cymraeg. Cadarnhawyd mai’r unig gost fyddai
cyflenwi staff ar adegau’r gwersi. ·
Hysbyswyd y pwyllgor bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector gofal mewnol yn
Sir Ddinbych yn 20%, o gymharu â 12% yn y sector preifat. Cytunodd y swyddogion a’r aelodau y byddai angen newid diwylliant
er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. PENDERFYNWYD
bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi’r
wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r fframwaith ‘Mwy na Geiriau’. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG Derbyn diweddariad llafar gan Swyddog Datblygu CSGA ar y Gymraeg mewn Addysg. Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Datblygu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y wybodaeth ddiweddaraf. Hysbysodd y swyddog
datblygu’r pwyllgor o’r
saith o dargedau yn y strategaeth, sef – I. Cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a lleoedd addysg yn yr iaith Gymraeg;
II.
Cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n mynychu
ysgolion cyfrwng Cymraeg ac
yn derbyn addysg drwy gyfrwng
y Gymraeg;
III.
Codi safonau addysg yn y Gymraeg
a sicrhau bod dysgwyr yn dod yn
rhugl yn y Gymraeg erbyn diwedd
eu haddysg orfodol;
IV.
Sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hintegreiddio’n llawn yng nghwricwlwm pob ysgol, gan
gynnwys ysgolion cyfrwng Saesneg;
V.
Darparu cymorth i athrawon
a gweithwyr addysg proffesiynol eraill er mwyn datblygu eu
sgiliau Cymraeg a’u gallu i addysgu;
VI.
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu
mewn ysgolion ac annog rhieni a’r
gymuned ehangach i arfer y Gymraeg
yn eu bywydau
beunyddiol;
VII.
Sicrhau fod addysg
Gymraeg yn hygyrch i bawb,
beth bynnag eu cefndir neu’u
hamgylchiadau.
Nod y targedau hyn oedd sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ac yn hygyrch i bawb a ddymunai ei dderbyn, a chodi safonau addysg Gymraeg ledled Cymru. Trafododd Aelodau’r materion canlynol yn fanylach –
· Wrth sôn am y targed cyntaf, bu’r aelodau’n trafod y lleoliadau niferus dan ddatblygiad a’r ffaith bod y datblygiad yn Ysgol Dewi Sant wedi’i oedi oherwydd pryderon Dŵr Cymru. Gobeithiai’r swyddogion, serch hynny, y datrysid y mater fel bod modd dal ati i ddatblygu’r cylch meithrin ar y safle. Roedd yno gais hefyd i ddod o hyd i leoliad addas yn Rhuthun. Dywedodd y swyddogion y gallai gymryd deuddeg mis neu fwy i gael y maen i’r wal yn Rhuthun, gan ei bod yn heriol dod o hyd i safle addas ar gyfer cylch meithrin yno. · Trafodwyd yr heriau gydag addysg a’r Gymraeg. Dywedodd yr aelodau bod Llywodraeth Cymru’n deall yr heriau hynny, ond ei bod yn dal yn anodd recriwtio athrawon Cymraeg a bod dewis y rhieni’n creu rhwystr arall i’r Gymraeg mewn addysg. · Cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi mwy o bwyslais ar fuddion y Gymraeg ac y dylai pobl weld yr iaith fel sgil y dylid ei glodfori a’i annog. Diolchodd y cadeirydd i’r swyddogion am ddod i’r cyfarfod a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r pwyllgor ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cytunodd yr aelodau y dylai’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fod yn eitem flynyddol ar y rhaglen.
PENDERFYNWYD bod Pwyllgor
Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ar yr adeg hon hysbyswyd
y cadeirydd nad oedd y pwyllgor â chworwm mwyach; torrodd y cyfarfod am egwyl o ddeg munud.
Ailddechreuodd y cyfarfod
am 12.00 pm. |
|
CANLYNIADAU CYFRIFIAD 2021 Derbyn diweddariad llafar gan Swyddog yr Iaith Gymraeg ynglŷn â chanlyniadau Cyfrifiad 2021. Cofnodion: Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg gyflwyniad i’r pwyllgor ynglŷn â’r canfyddiadau yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2021. Roedd cwestiynau’r cyfrifiad yn gofyn i unigolion asesu eu hunain. Gofynnid i’r unigolion ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir iddynt hwy. Gallai nifer o ffactorau ddylanwadau ar y modd yr oedd pobl yn asesu eu sgiliau a’u cofnodi. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd yr adroddiad yn amlygu bod nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg (tair oed a hŷn) wedi gostwng ers Cyfrifiad 2011 o 562,000 i 538,000, a oedd 1.2% yn llai. Y rhan o Gymru â’r ganran fwyaf o siaradwyr Cymraeg oedd y gogledd-orllewin, a’r de-ddwyrain oedd â’r ganran leiaf. Hysbysodd Swyddog yr Iaith Gymraeg y pwyllgor y bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ymhob awdurdod lleol heblaw am Gaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Yn Sir Gâr y cafwyd y gostyngiad mwyaf a hynny am yr ail gyfrifiad yn olynol. Roedd bron i dri chwarter o’r boblogaeth wedi nodi yn y cyfrifiad nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg. Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg wybodaeth i’r aelodau ynglŷn â phoblogaeth Cymru a fedrai fod wedi effeithio ar y cyfrifiad. · Roedd poblogaeth Cymru wedi cynyddu tua 1.4% ers 2011. · Roedd mwy o bobl a aned y tu allan i Gymru’n byw yma yn 2021 nag yn 2011 · Roedd canran y plant a phobl ifanc dan bymtheg yng Nghymru wedi gostwng ers 2011. Yna hysbysodd Swyddog yr Iaith Gymraeg y pwyllgor o’r canlyniadau yn Sir Ddinbych; yn 2011 gallai 22,236 o bob tair oed neu hŷn siarad Cymraeg, sef 24.5% o’r boblogaeth o 90,527. Yng Nghyfrifiad 2021, 20,942 o bobl a fedrai siarad Cymraeg, a oedd yn ostyngiad o 2.1%. Roedd cyfanswm y boblogaeth hefyd wedi cynyddu i 93,055. Diolchodd yr aelodau i Swyddog yr Iaith Gymraeg am y wybodaeth; er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nid oedd cyn waethed â’r disgwyl i lawer o bobl. Soniodd yr aelodau, fodd bynnag, nad oedd effaith Covid 19 ar y Gymraeg wedi dod i’r amlwg yn llwyr eto. PENDERFYNWYD bod Pwyllgor
Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi canlyniadau Cyfrifiad 2021. |
|
STRATEGAETH IAITH DRAFFT 2023-28 PDF 229 KB Derbyn adroddiad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r Strategaeth Iaith Gymraeg newydd (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog yr Iaith Gymraeg Strategaeth y Gymraeg 2023-28 (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r aelodau ynglŷn â’r amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r strategaeth newydd. Roedd yr adroddiad yn sôn am ddatblygu Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg yn Sir Ddinbych ac yn cyflwyno’r amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r strategaeth newydd. Roedd Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 wedi galluogi’r Llywodraeth i bennu
safonau yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg ac roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r holl
awdurdodau lleol fabwysiadu Strategaeth y Gymraeg wrth iddynt
ymateb i'r Safonau. Mabwysiadodd Cabinet Sir Ddinbych
y strategaeth bresennol ym mis Mawrth 2017, ac roedd hi’n ymdrin â’r
dull o hyrwyddo’r Gymraeg a
hwyluso’r defnydd ohoni yn y sir; roedd disgwyl y byddai’r Cyngor yn diwygio’r strategaeth
bum mlynedd wedi’i chyhoeddi. Roedd y Cyngor wedi ystyried sawl
enghraifft o arfer orau gan gynghorau
eraill, y wybodaeth ddemograffig oedd ar gael a llwyddiannau’r
strategaeth flaenorol. Roedd yr aelodau a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth eisoes wedi trafod
y meysydd â blaenoriaeth ac
wedi eu cymeradwyo
mewn egwyddor. Wrth ddrafftio’r strategaeth, roedd y Cyngor wedi ymgysylltu
ac ymgynghori â'r gwasanaethau a phartneriaethau mewnol ac allanol perthnasol. Roedd y Cyngor wedi comisiynu’r Ganolfan Cynllunio Iaith i ddadansoddi data, gwneud gwaith ymchwil a llunio adroddiad sicrwydd ar ein
Strategaeth y Gymraeg
2017-2022. Roedd gwaith yn digwydd ar
y cyd i drafod
y canfyddiadau y byddai rhai o’r camau gweithredu yn y Strategaeth yn seiliedig arnynt. Awgrymodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes bod Swyddog yr Iaith Gymraeg yn anfon y Strategaeth
at yr aelodau hynny o’r pwyllgor nad oeddent yn
bresennol, fel y gallent hwythau ymateb i’r Strategaeth. PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn cymeradwyo dull gweithredu’r Strategaeth, yr amserlen a’r
camau gweithredu. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 169 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol
y pwyllgor i’w hystyried. Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach – ·
Cytunodd y pwyllgor bennu eitem flynyddol ar y rhaglen ar
gyfer y Gymraeg mewn Addysg, ond
y dylid dod â’r mater gerbron y pwyllgor yn gynt
pe byddai mater o bwys yn codi yn
y cyfamser. ·
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai eitem ynghylch Strategaeth y Gymraeg ar raglen y cyfarfod
nesaf. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,
derbyn a nodi Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm |