Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYNHADLEDD FIDEO
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elfed Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag
eitem 8 ar y rhaglen gan ei fod yn gweithio gyda gweithgor yr Eisteddfod. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23. Cofnodion: Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd. Cynigiodd
y Cynghorydd Huw Williams y Cynghorydd Ellie Chard, a chafodd ei eilio gan y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.
Oherwydd na chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd i’r bleidlais. PENDERFYNWYD penodi’r
Cynghorydd Ellie Chard yn Gadeirydd Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg ar gyfer y
flwyddyn Gyngor gyfredol. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23. Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau am Is-gadeirydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid gohirio’r mater tan y cyfarfod nesaf
oherwydd na chafwyd unrhyw enwebiadau a hefyd oherwydd bod rhai aelodau’n
absennol o’r cyfarfod. PENDERFYNWYD y dylid gohirio penodiad Is-gadeirydd tan y cyfarfod nesaf. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 (copi ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD MONITRO IAITH GYMRAEG BLYNYDDOL PDF 283 KB I drafod a chytuno ar gynnwys yr adroddiad Monitro Iaith Gymraeg blynyddol ar gyfer 2021/22 (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr Adroddiad Monitro’r Gymraeg blynyddol gan
yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu (adroddiad wedi’i ddosbarthu eisoes). Yn unol â Safonau’r Gymraeg a gyflwynwyd o dan Fesur y
Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi adroddiad erbyn 30
Mehefin bob blwyddyn yn amlinellu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â gofynion y Safonau
rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar 6ed blwyddyn
gweithrediad Safonau’r Gymraeg gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn
wahanol iawn i’r arfer. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi
ymrwymo’n llwyr i ymateb yn gadarnhaol i Safonau’r Gymraeg fel sydd wedi’i
adlewyrchu yn Strategaeth y Gymraeg 2017-2022 ac mae’r Cyngor yn dal yn gwbl
ymrwymedig i chwarae ei ran yn yr ymdrech genedlaethol i gynyddu nifer y
siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Yn 2021-22 roedd y Cyngor yn canolbwyntio’n benodol ar
weithrediad y Safonau Iaith o fewn yr awdurdod gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r 167 Safon o dan y penawdau Cynllunio Gwasanaethau,
Gwneud Polisïau, Hyrwyddo a Chadw Cofnodion. Er mwyn gwneud hyn roedd yn
hanfodol gweithio’n agos â Phencampwyr y Gymraeg ar draws yr Awdurdod i fonitro
cydymffurfiaeth staff pan oedd y rhan fwyaf o’r gweithlu’n dal i weithio
gartref. Rydym yn dal i gefnogi’r gweithlu fwy nag erioed gyda gweithrediad y
safonau a’n targed yw dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. I wneud hyn rydym yn
hyrwyddo cyrsiau Cymraeg er mwyn i staff allu cychwyn ar eu siwrnai iaith neu
gyrsiau magu hyder a gweithgareddau mewnol i helpu staff i ddatblygu a meithrin
eu sgiliau Cymraeg. Roedd y Cyngor yn aelod gweithredol o’r Bartneriaeth
Iaith a arweiniwyd gan Fenter Iaith Sir Ddinbych. Mae’r
fforwm yn cynnwys sawl sefydliad, lleol a chenedlaethol, sy’n gweithio’n
strategol tuag at hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Mae Cynllun y Gymraeg Mewn Addysg Sir Ddinbych
hyd 2032 yn cynnwys gwybodaeth am y bwriad i gyfuno Grŵp Strategol y
Gymraeg Mewn Addysg â Fforwm Iaith y Sir i oruchwylio gweithrediad a
gwerthusiad y cynllun. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud llawer o
waith hanfodol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn
allanol er mwyn sicrhau bod y Safonau Iaith yn cael eu gweithredu. Cynhaliodd y Cyngor ei bedwerydd Eisteddfod rhwng 18
Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y
digwyddiad yn rhan o ymdrechion y Cyngor i godi proffil y Gymraeg, i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r iaith ac i ddathlu diwylliant Cymru. Cynhaliwyd yr
Eisteddfod yn ystod cyfnod o gryn ffocws ar y Gymraeg gydag Eisteddfod yr
Urdd ar fin dychwelyd i’r Sir ym mis Mai
2022. Unwaith eto eleni, oherwydd Covid-19, cynhaliwyd Eisteddfod y Staff yn
ddigidol. Roedd ‘Mae Gen i Hawl’ yn ymgyrch genedlaethol i
ddathlu’r gwasanaethau iaith a gynigir gan Awdurdodau
Lleol a hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymwneud â nhw. Roedd yn
gyfle i hyrwyddo gwasanaethau iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych
ac i gynyddu’r niferoedd sy’n dewis eu defnyddio. Mae’r ymgyrch farchnata’n
siarad am rai o’r hawliau sydd gan y cyhoedd y ogystal â staff y Cyngor. Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –
|
|
Derbyn adroddiad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar ganlyniadau’r Eisteddfod a rôl y Cyngor yn y digwyddiad (copi ynghlwm). Cofnodion: lwyddiant Eisteddfod yr Urdd (wedi’i ddosbarthu eisoes). Daeth Eisteddfod yr Urdd yn ôl i Sir Ddinbych
fis diwethaf (30 Mai - 4 Mehefin) ar ôl iddi gael ei gohirio am ddwy flynedd.
Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn wreiddiol ym mis Mai 2020 ond
cafodd ei gohirio oherwydd Covid. Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i gynnal Gŵyl Triban
ac roedd mynediad i’r maes am ddim, gyda hynny wedi rhoi hwb i nifer yr
ymwelwyr. Ymwelodd dros 118,000 o bobl â’r eisteddfod
dros yr wythnos. Roedd mwy o
gystadleuwyr o Sir Ddinbych nag o unrhyw ran arall o Gymru sydd yn adlewyrchiad o waith caled yr Adran Addysg. Roedd Pabell Sir Ddinbych yn
cynnwys: ·
Theatr ·
Ardal hyrwyddo busnes ·
Ardal Celf a Chrefft ·
Gwasanaethau Cefn Gwlad ac Ieuenctid a thrac BMX a
oedd yn atyniad aruthrol. ·
Llu o berfformiadau ·
Ymweliadau gwleidyddol drwy gydol yr wythnos. Cafodd y babell nifer fawr o ymwelwyr gyda llawer o
deuluoedd o ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn wedi dod am
dro - demograffig nad ydynt fel arfer yn mynd i’r eisteddfod. Cynhyrchwyd gwaith celf gan ffoaduriaid sydd wedi dod i’r
ardal a oedd yn amlygu’r tebygrwydd rhwng eu diwylliant a diwylliant Cymru. Y gobaith yw hefyd y bydd yr Eisteddfod yn gadael
etifeddiaeth barhaol o ran ei dylanwad ar yr economi leol a’r fasnach
dwristiaeth gyda mwy a mwy o bobl yn dod i’r sir a rhanbarth Gogledd Ddwyrain
Cymru ehangach. Dywedodd llawer o bobl a ddaeth i babell Sir Ddinbych mai
hwn oedd y tro cyntaf iddynt ddod i’r sir ac y byddant yn dod yn ôl i dreulio
mwy o amser yma. Bydd yr Urdd yn cynnal astudiaeth o effaith ar yr economi yn y
dyfodol agos. Dylai’r Cyngor hefyd weithio’n agos â’r
Urdd a phartneriaid cymunedol eraill i ddod o hyd i gyfleoedd i fanteisio ar
weithgareddau’r Urdd a chynnal digwyddiadau rheolaidd eraill a fydd yn cynnal
bwrlwm a momentwm. Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –
PENDERFYNWYD y dylai
Pwyllgor Llywio’r Gymraeg nodi’r adroddiad ar Eisteddfod yr Urdd. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 313 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Gwasanaeth
Democrataidd i’w hystyried. Cododd yr Aelodau’r materion canlynol - ·
Cytunodd y Swyddogion y
byddent yn trafod unrhyw eitemau ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor y tu allan i’r
cyfarfod. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid
cymeradwyo a nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor |