Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Gorffenaf 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 09
Gorffennaf 2019. PENDERFYNWYD: y dylid derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Gorffennaf 2019 fel
cofnod cywir. |
|
ADBORTH COMISIYNYDD CYMRAEG PDF 245 KB Derbyn diweddariad ar wiriadau cydymffurfio a wneir gan Gomisiynydd Cymraeg. Cofnodion: Eglurodd yr Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd
y byddant yn creu adroddiad blynyddol a oedd yn adolygu negeseuon e-bost,
cwynion, galwadau ffôn, gwefan ayyb. Roedd y canlyniadau diweddaraf yn
gadarnhaol iawn. Dywedodd bod problemau bychain ynghylch negeseuon e-bost,
lle’r roedd nifer o e-byst Cymraeg wedi cael eu hanfon i’r sir ac atebwyd un
e-bost yn unig yn y Gymraeg. Roedd dogfennau, llyfrau, polisïau ayyb i gyd yn
ddwyieithog, er roedd arnynt angen sicrhau bod gwasanaethau yn ystyried y lefel
o’r Gymraeg i bob swydd. Cytunodd yr Aelodau y gallai fod yn fuddiol i Gomisiynydd
y Gymraeg fynychu cyfarfod briffio’r cyngor, neu’r cyngor llawn. Diolchodd Comisiynydd y Gymraeg i bawb am y gwahoddiad yn
y cyfarfod. Hefyd diolchodd i'r Cynghorydd Graham Timms am ei gyflwyno yn y
Gymraeg. Roedd y Comisiynydd eisiau diweddaru'r aelodau o'r sefyllfa gyfredol,
cyflwynodd Dylan Jones o’r tîm Comisiynydd Y Gymraeg. Hefyd roedd y Comisiynydd
eisiau hysbysu’r aelodau y bydd newidiadau yn cael eu gwneud. Dywedwyd wrth yr aelodau bod adroddiad yn cael ei
gyhoeddi bob blwyddyn sy’n adolygu safonau o fewn yr Awdurdod Lleol, cwynion a
sut yr ymdriniwyd â hwy. O ran newid, roeddynt wedi gweld gwahaniaeth mawr. Ers
penodi Swyddog Iaith Gymraeg, mae gwahaniaeth mawr wedi bod yn fewnol. Amlygwyd mai’r newid sylweddol yn fewnol i Sir Ddinbych
oedd symud y Gwasanaeth Hamdden. Byddai angen ei fonitro i sicrhau bod yr un
lefel o safonau yn cael ei ddefnyddio. Dywedodd y Comisiynydd eu bod wedi adolygu recriwtio
rhwng mis Mehefin a Rhagfyr 2018. Roedd 85 o swyddi yn cael eu hysbysebu ar y
pryd, roedd 75 yn Gymraeg yn ddelfrydol a 10 yn Gymraeg yn hanfodol. Dywedodd y
Comisiynydd y dylai bod categorïau eraill ar y swydd o ran y Gymraeg, roedd
angen adolygu'r broses gyfredol. Eglurodd y Comisiynydd bod ychydig o newid yr oedd wedi
rhoi ar waith ers dechrau ei swydd. Dywedodd ei fod angen sicrhau bod adnoddau ar gael i
gyflawni ymchwiliadau ac ymchwil manwl a chywir. Y rheswm dros hyn yw y gallai’r Comisiynydd gynnal
ymchwiliad heb gael unrhyw wybodaeth gan yr Awdurdod Lleol. Ar ôl dechrau’r
ymchwiliad yna byddai'n rhaid ei gwblhau'n llawn. Byddai’r comisiynydd yn cyflawni’r ymchwiliad, cyflwyno
adroddiad i’r Awdurdod Lleol, yna byddai’r Awdurdod Lleol yn derbyn y broblem
ac yn adolygu sut y byddent yn stopio’r un broblem rhag digwydd yn y dyfodol. Amlygodd y Comisiynydd a’r aelodau'r rhwystrau y mae
Iwerddon yn ei gael gyda'r iaith Gaeleg, a'r pryder bod ieithoedd swyddogol yn
marw. Nid oedd eisiau'r un problemau godi yng Nghymru, mae tua
9% o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r dydd, bob dydd, mae
Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod eisiau’r ffigur hwn fod yn 20% erbyn 2050. Dywedodd y Comisiynydd ei fod eisiau cwblhau gwaith
ynghylch lefel Sgil Iaith Gymraeg. Eglurodd yn ystod ymweliad diweddar i ysgol,
ei fod yn amlwg bod myfyrwyr chweched dosbarth yn deall Cymraeg ond yn cael
trafferthion i ymateb yn y Gymraeg. Teimlodd bod angen rhywbeth mewn lle i
sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i siarad Cymraeg ar ôl y byd addysg. Mae myfyrwyr yn gadael addysg heb wybod bod yr iaith
Gymraeg yn sgil. Dyma’r rheswm fod y Comisiynydd eisiau canolbwyntio ar
bolisïau recriwtio, teimlodd petai 75 o swyddi wedi’u rhestru fel Cymraeg yn
ddymunol, yna nid oes digon o feddwl wedi cael ei roi wrth asesu’r rôl hon. Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod safonau yn
bwysig, ond mai dim ond megis dechrau yw hyn. Teimlodd bod agwedd yn
flaenoriaeth, fodd bynnag roedd gwaith gwych wedi cael ei wneud eisoes yn yr
Awdurdod Lleol. Yn y sir, rydym wedi gweld buddsoddiadau sylweddol mewn ysgolion, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNNYDD GYDA SAFONAU IAITH CYMRU (HUNAN ASESU) Ystyried diweddariad gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar yr Hunanasesiad. Cofnodion: PENDERFYNWYD: bod aelodau
wedi trafod yr eitem yn yr eitem flaenorol a chytunwyd i barhau i’r eitem nesaf
ar y rhaglen. |
|
DIWEDDARIAD EISTEDDFOD YR URDD Derbyn diweddariad gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar y cynnydd gyda'r Eisteddfod yr Urdd. Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd
wrth aelodau fod 1,600 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ŵyl gyhoeddi.
Dywedodd fod llawer o ysgolion wedi cymryd rhan ac roedd ymateb y Rhyl wedi
creu argraff go iawn ar yr Urdd.
Busnes a Thwristiaeth – roedd gan y grŵp strategol
nifer o syniadau, er enghraifft roeddent am i ganolfan feiciau Llandegla
fynychu, SC2, stondinau agored sy’n hyrwyddo eu busnes. Celf a Dylunio – y syniad oedd sicrhau bod rhywbeth yn
digwydd trwy gydol yr wythnos. Er enghraifft, cystadleuaeth ddylunio barhaus a
oedd yn annog pobl i ddychwelyd. Ardal chwaraeon – roedd staff 5x60 yn dod â gwahanol
chwaraeon i mewn trwy gydol yr wythnos, gydag offer. Ysgolion – roedd sioeau ysgolion cynradd yn cael eu
cynllunio eisoes, roedd y sioeau ar agor i flwyddyn 5 a 6, a byddai sioe
ysgolion uwchradd hefyd. PENDERFYNWYD: derbyn a
nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Eisteddfod. |
|
STRATEGAETH IAITH GYMRAEG - BUSNES AC ECONOMI Derbyn cyflwyniad gan Rheolwr y Tîm a’r Rhaglen Datblygu Economaidd a Busnes ar yr ochr Fusnes gyda’r Safonau Cymraeg. Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Tîm Datblygiad Economaidd a Busnes
gyflwyniad PowerPoint i’r pwyllgor am Brosiect Peilot Cymraeg mewn Busnes. I ddechrau, nododd fod y mwyafrif o ymatebion wedi dweud
y byddai’n costio arian, fodd bynnag roedd enghreifftiau i’w gweld yn yr
astudiaeth achos i brofi y byddai’n fanteisiol yn ariannol. At ddibenion y cofnodion, chwaraewyd fideo i’r pwyllgor. Roedd y fideo yn trafod cefnogaeth a chyngor o ran y
Gymraeg a hefyd Cynnyrch Cymreig Lleol. Astudiaethau Achos – roedd y rhaglen yn annog busnesau i
ymgysylltu â staff. Er enghraifft, roedd gwesty’r Oriel House yn darparu
priodasau cwbl Gymreig ac roedd ystadegau yn profi bod cynhyrchiant yn cynyddu.
Tynnodd y Rheolwr Tîm Datblygiad Economaidd a Busnes sylw
at y ffaith fod y galw am Gyrsiau Cyfryngau Cymdeithasol wedi cynyddu. Dywedodd hefyd fod y tîm EBT yn llai o lawer a allai
achosi oedi mewn prosesau. Dywedwyd wrth aelodau eu bod yn chwilio am fusnesau lleol
i ymuno â phabell CSDd yn yr Eisteddfod. Dywedwyd wrth y pwyllgor fod y tîm wedi bod yn gweithio
ar fasnachwyr profiadol. Gweithio ar sut gall busnesau a siopau fod yn fwy
cyfeillgar a chroesawgar, cerddoriaeth ac ati. Dywedodd y Cadeirydd fod busnesau yn chwarae rhan
hanfodol wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Roedd angen annog staff sy’n
wynebu’r cyhoedd i ymgysylltu â’r Gymraeg. Diolchodd i’r Rheolwr Tîm Datblygiad
Economaidd a Busnes am fynychu a chroesawodd y tîm yn ôl i gyfarfodydd y
dyfodol. I gloi’r eitem hon ar y rhaglen, dywedwyd bod y Rheolwr
Tîm Datblygiad Economaidd a Busnes yn gadael yr awdurdod a hwn fyddai ei
gyfarfod olaf. Diolchodd y pwyllgor iddo am ei waith a dymuno’n dda iddo. PENDERFYNWYD: bod y
pwyllgor yn derbyn a nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Iaith
Gymraeg. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 317 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor i’w
hystyried. PENDERFYNWYD: derbyn a
nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor. Daeth
y cyfarfod i ben am 13:00pm |