Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cyng. Hugh Evans – Cyngor Sir Ddinbych

Uwcharolygydd Simon Williams – Heddlu Gogledd Cymru

Byddai Cynghorydd Carol Marubbi yn hwyr i’r cyfarfod

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 464 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Tachwedd 2020 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

 

3.

OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU’R CYFARFOD pdf eicon PDF 391 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Hannah Edwards adroddiad olrhain camau gweithredu’r cyfarfod a thynnodd sylw'r Bwrdd at y camau gweithredu agored canlynol i’w hystyried ymhellach / gweithredu fel sy’n briodol -

 

·         roedd gweithdy wedi’i gynnal gyda Phrifysgol Glyndŵr ym mis Ionawr 2021 a byddai gweithdy dilynol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2021 os yw hynny'n bosibl

·         roedd cyfarfod yr Is-grŵp Cadernid Amgylcheddol wedi'i drefnu ar gyfer mis Mehefin 2021. Roedd grŵp datgarboneiddio rhanbarthol wedi’i sefydlu ac roedd gwaith yn parhau i geisio eglurhad pellach am ei gylch gorchwyl a’i gysylltiadau â’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.

·         roedd cyfarfod Is-grŵp Iechyd Meddwl a Lles wedi’i gynnal ym mis Ebrill 2021 ond roedd angen mireinio’r aelodaeth ymhellach ynghyd ag adolygu’r sefydliadau arweiniol gan fod Richard Firth wedi newid swyddi o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Roedd yr adolygiad wedi cael ei gynnwys fel eitem 7 ar y rhaglen a’r gobaith oedd y byddai Teresa Owen, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem honno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf

·         roedd y Bwrdd wedi cytuno yn y gorffennol gwahodd Alwen Williams, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i un o gyfarfodydd y dyfodol i drafod gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â chysylltedd digidol.  

Er mwyn rhoi trosolwg mwy cynhwysfawr o’r sefyllfa ledled Conwy a Sir Ddinbych, cytunodd y Bwrdd y byddai hefyd yn ddefnyddiol trafod prosiectau cysylltedd lleol eraill yn y drafodaeth honno er mwyn nodi unrhyw fylchau a chyfleoedd yn y dyfodol.  Nicola Kneale i ymgymryd â’r cam gweithredu hwnnw.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       nodi'r cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd, a

 

(b)       trefnu trafodaeth ar y cyd am isadeiledd digidol gan gynnwys gwaith i’w wneud gan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a phrosiectau cysylltedd lleol eraill mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.

MATERION YN CODI

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem lafar hon.

 

Cofnodion:

Nododd Aelodau’r prif faterion a oedd yn codi o gofnodion y cyfarfod diwethaf -

 

·         Tudalen 6, Eitem 2 – Prifysgol Glyndŵr – roedd y gweithdy gyda Phrifysgol Glyndŵr am flaenoriaethau BGC wedi’i gynnal ym mis Ionawr 2021

·         Tudalen 12, Eitem 10 – (pwynt bwled un) byddai’r cam gweithredu i sefydliadau partner enwebu cynrychiolwyr i eistedd ar yr Is-grŵp Prosiect Blaenoriaeth Lles Meddyliol yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod o dan eitem 7 ar y rhaglen

·         Tudalen 12, Eitem 10 – (pwynt bwled dau) roedd cyfarfod yr Is-grŵp Cefnogi Cadernid Amgylcheddol i ail-edrych ar y blaenoriaethau presennol wedi'i drefnu ar gyfer mis Mehefin 2021.  O ran y grŵp datgarboneiddio rhanbarthol, rhoddodd Sarah Schofield ychydig o wybodaeth gefndirol i’r Bwrdd gan esbonio bod y grŵp wedi’i sefydlu i ddechrau gan y cymdeithasau tai tua deunaw mis ynghynt i gydweithio ar ddatgarboneiddio ac ar ôl hynny roedd awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i fynychu.  

Cynigodd ddarparu adroddiad diweddaru neu unrhyw wybodaeth bellach yn ôl y gofyn.  Bu trafodaeth hefyd am y gwaith yr oedd Rhys Horan o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo fel rhan o agenda newid hinsawdd ehangach a sefydlu grŵp rhanbarthol.  O ystyried pwysigrwydd a’r pwyslais cynyddol ar newid hinsawdd, cytunodd y Bwrdd y byddai’n fanteisiol gwneud rhywfaint o waith i fapio’r gwahanol fentrau a grwpiau sy’n gweithio ar yr agenda hwn a chanfod y ffordd orau i’r BGC ychwanegu gwerth.  Awgrymodd Iwan Davies bod Rhys Horan mewn safle delfrydol i ymgymryd â’r gwaith a chynigodd gysylltu ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â hynny.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       nodi’r materion a oedd yn codi a’r cynnydd a wnaed ers y cyfarfod diwethaf, a

 

(b)       bod Iwan Davies yn cysylltu â Rhys Horan yn uniongyrchol ynglŷn â mapio gwahanol fentrau a grwpiau sy’n gysylltiedig â'r agenda newid hinsawdd.

 

 

5.

ENWEBIADAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD

Bydd y Cadeirydd yn arwain y drafodaeth ar yr eitem lafar hon i adolygu'r Gadeiryddiaeth a'r Is-gadeiryddiaeth yn unol ag Adran 7 o'r Cylch Gorchwyl.

10.10 am – 10.20 am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i adolygu’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn unol â Chylch Gorchwyl y Bwrdd.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ymgymryd â’r rôl dros y deuddeng mis diwethaf ond oherwydd newidiadau yn ei threfniadau gwaith yn y dyfodol, mae’n bosibl na fydd yn gallu parhau.  Roedd y Bwrdd yn cefnogi ailbenodi’r Cadeirydd presennol am ddeuddeng mis arall, os oedd hynny’n bosibl, a derbyniodd hithau’r rôl ar y dealltwriaeth y byddai’n rhaid ailystyried y swydd pe bai ei threfniadau gwaith yn newid yn y dyfodol.  Diolchodd i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus.

 

Gofynnwyd am enwebiadau hefyd ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd a oedd yn wag yn dilyn ymadawiad Judith Greenhalgh fel Prif Weithredwr CSDd.  Cynigwyd ac eiliwyd y dylid penodi Iwan Davies, Prif Weithredwr CBSC yn Is-gadeirydd.  Derbyniodd Mr Davies y penodiad.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD bod Siân Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) ac Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) yn cael eu penodi yn Gadeirydd ac Is-Gadeirydd (yn y drefn honno) y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus am y flwyddyn i ddod.

 

 

6.

CYMERADWYO ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2020/21 pdf eicon PDF 631 KB

Nicola Kneale (CSDd) a Fran Lewis (CBSC) i gyflwyno adroddiad blynyddol 2020/21 ar gyfer ei gymeradwyo (copi’n amgaeedig).

10.20 am – 10.30 am

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol drafft y BGC 2020/21 (a gylchredwyd eisoes) i’w gymeradwyo.  Roedd yn ddogfen statudol i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

 

Rhoddodd Nicola Kneale drosolwg o’r trydydd adroddiad blynyddol a oedd yn cwmpasu effaith pandemig y coronafeirws dros y flwyddyn ddiwethaf a dywedodd bod nifer o gamau gweithredu Cynllun Lles y BGC wedi cael eu gohirio tra bo sefydliadau sy’n aelodau o’r Bwrdd yn ymateb i’r argyfwng.  Cynhaliwyd adolygiad o’r blaenoriaethau a darparwyd trosolwg o gynnydd yn ystod y flwyddyn ynghyd â chamau gweithredu a oedd ar y gweill a chamau gweithredu i’r dyfodol.  Tynnodd sylw hefyd at y dasg dros y deuddeng mis nesaf sef cynhyrchu’r asesiad lles statudol (i’w drafod yn nes ymlaen ar y rhaglen).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol BGC 2020/21

 

[Nid oedd Teresa Owen (Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ymuno â’r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ar y rhaglen eto, felly penderfynwyd ystyried yr eitem yn nes ymlaen ar y rhaglen.]

 

 

7.

ASESIAD LLES AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED pdf eicon PDF 332 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y dull a'r cynnydd a wnaed o ran adnewyddu'r asesiad (copi’n amgaeedig).

10.45 am – 11.15 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale ei hadroddiad (a gylchredwyd eisoes) gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i ddatblygu Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych.  Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am grant BGC Gogledd Cymru a cheisiwyd cymeradwyaeth ar gyfer y cynigion rhanbarthol i gefnogi gwaith ymchwil ac ymgysylltu.

 

Roedd gofyn i Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad lles bob 5 mlynedd ac roedd gweithgor wedi’i sefydlu gyda phartneriaid y BGC i ddechrau’r broses honno.  Roedd adolygiadau cyflym wedi cael eu cynnal ar bynciau ac roedd unrhyw waith ymgysylltu diweddar wedi’i fapio.  Byddai gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu cynnal dros yr haf i hysbysu'r asesiad ac i’r gwrthwyneb hefyd.  Cynigwyd y byddai fersiwn drafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2021 yn barod ar gyfer ymgynghoriad.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gyflwyno’r grant cymorth BGC ar gyfer 2021/22, ac mae £87,273 ar gael ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.   Roedd meini prawf clir ar gyfer y cyllid a chynigiwyd bod y grant yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi themâu sy’n berthnasol i ranbarthau ac is-ranbarthau.   Roedd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi datblygu cynnig model partneriaeth i gefnogi’r gwaith ymchwil ac roedd CSDd yn arwain ar ddatblygu cytundeb model cyflenwi gwasanaeth amgen.  Roedd grŵp swyddogion BGC gogledd Cymru wedi datblygu cynnig ymgysylltu rhanbarthol i ffurfioli trefniadau i gefnogi ymgysylltiad.  Yn olaf cyfeiriwyd at fanteision gweithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wedi i grŵp swyddogion BGC Gogledd Cymru gyflwyno datganiad o ddiddordeb yn hyn o beth.

 

Diolchodd y Bwrdd i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a chydnabuwyd pwysigrwydd yr asesiad lles a fyddai’n sylfaen i gynlluniau strategol cyrff cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.  Yn ystod y ddadl ddilynol, tynnodd aelodau sylw at bwysigrwydd gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a oedd hefyd yn cynnal asesiad o anghenion, i sicrhau dull gweithredu cwbl gydlynol, a hefyd ffocws ar effaith Covid-19 wrth edrych tua’r dyfodol mewn perthynas â gwersi hirdymor.  Er bod y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr yn bwysig, roedd hefyd angen deall rhywfaint o’r ymchwil cenedlaethol mewn perthynas â datblygiadau yn y dyfodol.  Ymatebodd y swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·         rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â chydweithio’n agos â chydweithwyr BPRh i sicrhau bod y gwaith yn cael ei integreiddio a chysylltiadau'n cael eu gwneud

·         eglurwyd bod y BPRh yn cynnal asesiad o anghenion y boblogaeth yr un mor aml ag asesiad lles y BGCau ac y byddai eu gwaith yn bwydo i mewn i hynny – fodd bynnag byddai gwaith y BPRh yn canolbwyntio’n arbennig ar grwpiau cleientiaid tra bo gwaith y BGC yn seiliedig ar y boblogaeth gyffredinol ac ymyrraeth gynnar

·         wrth ysgrifennu’r penodau ar gyfer y nodau lles a chynnal dadansoddiad o’r sefyllfa yng Nghonwy a Sir Ddinbych, cadarnhawyd y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i Covid-19 ac y byddai gwaith ymchwil yn sail i ragdybiaethau ynglŷn â beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol – ond oherwydd bod hon yn sefyllfa sy’n parhau ar hyn o bryd, mae unrhyw gasgliadau sy’n cael eu cyrraedd yn rhai dyfaliadol a gobeithiwyd y byddai Prifysgol Glyndŵr, fel partner gweithredol, yn helpu i sicrhau bod y casgliadau yn yr asesiad yn cael eu hadolygu wrth i effaith y pandemig ddod yn fwy amlwg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

 

Cytunodd y Bwrdd bod angen i'r broses fod yn hyblyg er mwyn dod i gasgliadau a’u hadolygu wrth i’r sefyllfa ddatblygu a chroesawyd y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr fel rhan o’r profiad dysgu hwn a fyddai’n fanteisiol yn y broses honno.  Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am y gwaith caled sy’n cael  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CAFFAEL LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL pdf eicon PDF 235 KB

Nicola Kneale (CSDd) i gyflwyno'r adroddiad ar yr argymhelliad ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r cynnig gan CLES ynghylch adeiladu cyfoeth cymunedol a chaffael cynyddol (copi’n amgaeedig) .

 

Dolen gyswllt i Atodiad 1:

CYM-Section-20-Procurement-Review.pdf (futuregenerations.wales)

11.15 am – 11.35 am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) ar argymhelliad Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a’r cynnig gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ynglŷn ag adeiladu cyfoeth cymunedol a chaffaeliad blaengar.

 

Roedd dolen gyswllt wedi’i darparu i’r adroddiad gan Swyddfa Comisiynydd Lles Cenedlaethau’r Dyfodol am eu hadolygiad i gaffael Lles yng Nghymru, gan gynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus.  Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried yr adroddiad ynghyd â’r cynnig o gefnogaeth gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i’r BGC gymryd rhan mewn cynllun peilot, a ariennir gan LlC, i gael mynediad at yr arbenigedd a’r cymorth i archwilio dulliau adeiladu cyfoeth cymunedol ar gaffael blaengar.  Byddai ymrwymiad cynhwysedd yn ofynnol gan gydweithwyr caffael cyrff cyhoeddus i ddarparu prosiect effeithiol yn unol â'r dyddiad terfynu cyllid sef mis Rhagfyr 2021.  Roedd trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd ynglŷn â’r trefniadau ymarferol rhwng cydweithwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Os oedd y Bwrdd yn cefnogi’r cynllun, y bwriad oedd adrodd yn ôl unwaith y byddai’r cynllun peilot wedi’i gwblhau ar ddiwedd y flwyddyn galendr.

 

Ystyriodd y Bwrdd yr adroddiad ac roedd sefydliadau partner yn rhoi cefnogaeth gyffredinol i symud y cynllun peilot ymlaen.  Rhai materion i’w hystyried a gododd o’r ddadl ddilynol oedd goblygiadau cenedlaethol caffael ar gyfer y partneriaid mwy, herio pwyslais presennol LlC ar werth am arian a symud tuag at ailddiffinio gwerth gorau gan gymryd i ystyriaeth y cyd-destun ehangach a gwerth cymdeithasol gan gyfeirio at newid hinsawdd (gan gynnwys effaith carbon trwy'r gadwyn gyflenwi), caffaeliad lleol a buddion cymunedol.  Wrth ymateb i’r materion a godwyd, cadarnhaodd Nicola Kneale y byddai’n adborthi sylwadau ynglŷn â phwyslais ariannol caffaeliad i LlC gyda’r bwriad o gynnwys yr elfen honno o fewn cwmpas y gwaith, a byddai gofyn i LlC hefyd ymateb i’r argymhellion yn adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd.  Byddai modd ystyried rhai o’r materion cenedlaethol hynny ymhellach ar ôl i ganlyniadau’r cynllun peilot gael eu cyhoeddi.  Cytunodd hefyd sicrhau bod y Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cwmpasu’r prosiect ynghyd â chanlyniad y cynllun peilot.  Roedd Jo Whitehead yn ystyried hyn yn gam cadarnhaol os oedd cyllid gan LlC yn cynnwys cydnabyddiaeth y gallai costau caffaeliad gynyddu o ganlyniad i’r gwaith hwn.

 

Teimlai’r Bwrdd hefyd y gallent elwa o wybodaeth a hyfforddiant pellach ynglŷn â’r cysyniad o werth cymdeithasol a soniodd Tom Barham (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) am brofiad y Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol yng Ngogledd Cymru o ran mesur gwerth cymdeithasol a chytunodd i ddarparu sesiwn ymwybyddiaeth yn y cyfarfod nesaf.  Ar ddiwedd y ddadl ailadroddodd y Cadeirydd bod y Bwrdd yn cefnogi’r prosiect peilot ac edrychai ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Bwrdd -

 

(a)       yn cadarnhau yr hoffai gymryd rhan yn y rhaglen i gael mynediad at arbenigedd a chefnogaeth i archwilio dulliau adeiladu cyfoeth cymunedol, gyda ffocws ar gaffaeliad blaengar,

 

(b)       bod DVSC yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth am y cysyniad o werth cymdeithasol yn y cyfarfod nesaf, a

 

(c)        bod y swyddogion sy’n gyfrifol am arwain y prosiect hwn yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

9.

ADRODDIAD AR RWYSTRAU SENEDD CYMRU I WEITHREDU DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 YN LLWYDDIANNUS pdf eicon PDF 276 KB

Fran  Lewis (CBSC) i gyflwyno’r adroddiad sy’n darparu trosolwg i’r aelodau o’r canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer BGLl.

 

Dolen gyswllt i’r adroddiad:  Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn (senedd.cymru)

11.35 am – 11.55 am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Fran Lewis yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) gan ddarparu trosolwg o’r canfyddiadau a’r argymhellion ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.  Roedd dolen gyswllt i adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru wedi’i darparu gyda’r agenda.

 

Roedd yr ymchwiliad wedi’i arwain gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ac roedd yn canolbwyntio ar y rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a sut y gellid ei weithredu’n llwyddiannus yn y dyfodol.  Roedd rhai aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd, wedi cymryd rhan mewn sesiynau casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.  Cafodd y Bwrdd drosolwg o’r pedwar ar ddeg o argymhellion, gan gynnwys argymhellion 2, 4 a 10 a oedd â chysylltiad uniongyrchol â Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.  Yn y cam nesaf byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i ganfyddiadau’r ymchwiliad a byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno wedyn i’r Bwrdd.  Roedd swyddogion wedi croesawu rhai o’r argymhellion yn ymwneud â chyllid a gallu ariannu’r BGC yn briodol ynghyd â’r pwyslais ar gefnogaeth Swyddfa’r Comisiynydd i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Roedd y Cadeirydd wedi mynychu’r sesiynau casglu tystiolaeth fel cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Bwrdd Diogelu Cyhoeddus.  Roedd yn falch o nodi bod yr argymhellion yn adlewyrchu’r sgyrsiau yn y sesiynau yr oedd wedi’u mynychu, gydag adborth cyffredinol tebyg gan bob un o’r gwahanol sefydliadau a gynrychiolwyd, yn enwedig mewn perthynas â lefelau cefnogaeth, cyfarwyddyd gan y Comisiynydd a'r cyfyngiadau ariannol.  Byddai'n ddiddorol gweld ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru yn cael ei dderbyn a’i nodi, a

 

(b)       bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad.

 

 

10.

BLAENORIAETH LLES IECHYD MEDDWL – ADOLYGU’R SEFYDLIAD ARWEINIOL

Hannah Edwards, Swyddog Datblygu BGC i ddarparu diweddariad ar lafar.

10.30 am – 10.45 am

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Teresa Owen (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a oedd wedi cael ei galw i gyfarfod gweithredol brys.  Cytunwyd y dylid gohirio’r eitem tan y cyfarfod nesaf ac y dylai’r Cadeirydd drafod y mater yn uniongyrchol gyda Teresa Owen yn y cyfamser.

 

PENDERFYNWYD bod yr eitem yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

 

11.

CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 474 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig).

11.55 am – 12 noon

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o gynllun gwaith i'r dyfodol y BGC a thrafodwyd y materion canlynol -

 

·         byddai’r cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 16 Mehefin, yn weithdy caeedig i ddilyn ymlaen o’r gweithdy a gynhaliwyd ym mis Ionawr, fodd bynnag ers hynny roedd Prifysgol Glyndŵr wedi dweud na fyddent o bosibl ar gael ar y dyddiad hwnnw.  

Cytunodd y Cadeirydd drafod y mater gyda Phrifysgol Glyndŵr y tu allan i’r cyfarfod er mwyn ystyried dewisiadau posibl

·         ailddatganwyd yr eitemau a restrwyd ar gyfer y cynllun gwaith i’r dyfodol yn y cyfarfod ffurfiol nesaf ar 15 Medi, gan gynnwys y tair ffrwd waith sy’n cael blaenoriaeth, ac anogodd y Cadeirydd bawb a oedd yn rhan o’r gwaith hwnnw i barhau i gymryd rhan, er gwaethaf yr heriau eraill, er mwyn symud y blaenoriaethau hynny ymlaen. 

Ailddatganwyd hefyd yr eitemau a gytunwyd yn gynharach ar y rhaglen i’w cynnwys yn y cynllun gwaith i’r dyfodol ar gyfer mis Medi gan gynnwys (1) y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr isadeiledd digidol o safbwynt Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a throsolwg ehangach o brosiectau cysylltedd lleol, (2) y wybodaeth ddiweddaraf am y grŵp swyddogion carboneiddio rhanbarthol a gwaith mapio ychwanegol ar gyfer y gwahanol fentrau a grwpiau sy’n ymwneud â’r agenda newid hinsawdd, a (3) DVSC i ddarparu sesiwn ymwybyddiaeth o werth cymdeithasol

·         cafwyd trafodaeth ynglŷn â manteision rhoi gwybod i’r Bwrdd am waith adfer rhanbarthol sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Cydlynu Rhanbarthol, gan gynnwys eu meysydd blaenoriaeth, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau hynny a chysylltiadau posibl ar gyfer y BGC a ble gallent ychwanegu gwerth ar lefel leol. 

Ystyriwyd y gellid cylchredeg y wybodaeth hon i aelodau’r Bwrdd fel papur gohebiaeth neu ei chynnwys yn y sesiwn gweithdy ym mis Mehefin – cytunodd y Cadeirydd ystyried y ffordd orau o symud y mater ymlaen y tu allan i’r cyfarfod yn dibynnu ar argaeledd Prifysgol Glyndŵr ar gyfer y gweithdy.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo'r cynllun gwaith i'r dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyfraniadau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.43 am