Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 472 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 12 Rhagfyr 2018 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 i’w cymeradwyo.

 

Dywedodd Helen Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) fod Debbie Neale wedi mynychu cyfarfod y Bwrdd ar ei rhan. Eglurodd mai Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych oedd yn arwain yr hyfforddiant ar Ddementia o fewn Sir Ddinbych ac nid Conwy. Cadarnhaodd y byddai’n trafod y mân wallau gyda Swyddog Datblygu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

3.

Materion yn Codi

·         Cydbwyllgor Craffu (diweddariad ar lafar gan Hannah Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

 

1.30 p.m. – 1.40 p.m.

 

Cofnodion:

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drefniadau Cydgraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

 

Cadarnhawyd bod Cyd Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi’i sefydlu. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ym mis Chwefror 2019.  

 

Byddai aelodaeth y Pwyllgor Craffu yn cynnwys 8 aelod etholedig o Gonwy ac 8 o Sir Ddinbych. Roedd y cyfarfod cyntaf am gael ei gynnal ar 21 Mai 2019 ac roedd Cynghorwyr wedi gofyn i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fynychu’r cyfarfod.

 

4.

ENWEBIADAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD

Derbyn enwebiadau i benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd i ddechrau’r rôl o fis Mehefin 2019 ymlaen.

1.40 p.m. – 1.50 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd.

 

Dywedodd nad oedd y Cadeirydd presennol nag ef fel Is-Gadeirydd yn bwriadu parhau yn eu rolau. Felly, gofynnodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd.

 

Enwebwyd ac eiliwyd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rôl y Cadeirydd.  Derbyniodd Sian y rôl ond awgrymodd y dylid penodi cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru arall i’r Bwrdd yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd.

 

Enwebwyd ac eiliwyd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, ar gyfer rôl yr Is-Gadeirydd.  

 

Mewn perthynas â mynychu cyfarfod cyntaf y cyd bwyllgor craffu, cytunodd yr aelodau y byddai o fudd i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd newydd fynychu’r cyfarfod, gyda chefnogaeth y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd presennol (os yw amserlenni yn caniatáu hynny).

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)            Mai Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru fydd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fis Mehefin 2019 ymlaen.

(ii)          Mai Judith Greenhalgh o Gyngor Sir Ddinbych fydd Is-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fis Mehefin 2019 ymlaen.

 

 

Ar y pwynt hwn, newidiwyd trefn yr Eitemau ar y Rhaglen.

 

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2018/2019 BGC CONWY A SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 508 KB

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad blynyddol drafft i’w ystyried yn y cydbwyllgor craffu BGC agoriadol ym mis Mai 2019. Bydd yr eitem hon hefyd yn cynnwys diweddariad ar y blaenoriaethau, adolygiad o aelodaeth BGC a thrafodaeth o flaenoriaethau’r dyfodol.

 

Fran Lewis a Hannah Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

2.40 p.m. – 3.10 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad blynyddol drafft (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Lluniwyd yr adroddiad i roi trosolwg bras o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi cynllun lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018. Roedd rhaid sicrhau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu adlewyrchu ar y meysydd yr oedd yn gwneud gwahaniaeth ynddynt yn unol â’r pum ffordd o weithio, ynghyd ag amlinellu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

 

Eglurwyd y byddai’r adroddiad blynyddol drafft yn cael ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor Craffu ym mis Mai cyn cael ei ail gyflwyno ger bron y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mehefin er mwyn cael ei gymeradwyo’n derfynol.  

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd aelodaeth y Bwrdd fel rhan o’r gwaith wrth symud ymlaen. Awgrymwyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Eryri i ymuno â’r Bwrdd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r Adran Tai ac Adfywio. Nodwyd, pe bai cynrychiolydd o'r Parc Cenedlaethol yn cael ei wahodd, byddai’n rhaid cynnwys cynrychiolydd o AHNE. Hysbyswyd y Bwrdd bod Cynghorau Tref a Chymuned hefyd wedi gofyn i gael cynrychiolydd ar y Bwrdd. Mynegwyd pryder y gallai aelodaeth gynyddu’n ormodol ac felly ni fyddai gan y Bwrdd fodel darparu effeithiol.  Cytunodd yr aelodau i adolygu aelodaeth yn ffurfiol yn ystod y cyfarfod nesaf.

·         Newid y rolau arweiniol ar gyfer y meysydd blaenoriaeth – roedd rhai aelodau o’r farn y byddai’n amser delfrydol i aelodau’r Bwrdd, sy’n arbenigwyr o fewn eu meysydd, gyflawni’r blaenoriaethau priodol.  Cytunwyd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar flaenoriaeth yr amgylchedd a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru / Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain ar y flaenoriaeth lles meddyliol.  Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i arwain y flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned gyda chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy.

·         Nodwyd nad oedd y ffaith ein bod yn Fwrdd agored ar gyfer y cyhoedd wedi’i chyfleu yn ddigon amlwg yn yr adroddiad.

·         Awgrymwyd y dylid cynnwys y cyfeiriad ar gyfer y 12 mis nesaf o fewn yr adroddiad.

·         Gofynnodd Helen Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) i gael golygu’r elfen ddementia yn y flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned.

  • Mewn perthynas â’r elfen ddigartrefedd yn y flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned, gofynnodd y Bwrdd i gael mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

·         Tynnu’r cyfeiriad at flaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

·         Er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwahaniaeth yr oedd y Bwrdd yn ei wneud, awgrymwyd y dylid cynnwys diagram i ddangos i ble yr oedd y llwybr yn arwain ac yr hyn yr oeddem eisiau ei gyflawni (os yn bosib yn y cylch hwn o adroddiadau).

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wrth yr aelodau eu bod yn dilyn dull rhanbarthol o ran Newid Hinsawdd. Bydd y dull hwn yn ddefnyddiol i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Trwy’r dull hwn bydd hefyd cyfle i gymharu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill.  Cadarnhaodd y byddai’n cyflwyno’r cynlluniau, y syniadau a’r wybodaeth ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar newid hinsawdd ar hyn o bryd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r newidiadau a geisiwyd yn cael eu gwneud i’r adroddiad blynyddol drafft a byddai’r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i Aelodau’r Bwrdd er mwyn iddynt roi eu sylwadau.  Oherwydd terfynau amser, byddai dyddiad cau yn cael ei osod ar gyfer unrhyw ddiwygiad gan y Bwrdd, cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgorau Craffu.

 

PENDERFYNWYD  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUN TAIR BLYNEDD 2019/2022 BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR pdf eicon PDF 2 MB

Derbyn ac ymateb i’r cynllun drafft tair blynedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Gary Doherty  (Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

1.50 p.m. – 2.10 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer y cynllun tair blynedd 2019/2022, a oedd yn ddogfen gwaith ar y gweill.

 

Eglurodd yr adroddiad sut yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio a beth oedd y blaenoriaethau allweddol. Y tri maes blaenoriaeth oedd:

·         Gwell iechyd a lleihad mewn anghydraddoldebau iechyd

·         Darparu gofal yn nes at y cartref, a

·         Gofal ardderchog yn yr ysbyty

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen gwella rhai meysydd allweddol. Er enghraifft, byddai ar y system TG angen fersiwn safonol ar draws y tri safle aciwt. Roedd angen gwneud gwaith ychwanegol i’r adran ar gyfer cleifion allanol er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu’n effeithiol.  Roedd canolbwyntio ar y 1000 diwrnod cyntaf yn lwybr i fodel gofalu newydd.  Newidiadau i iechyd meddwl ac i sicrhau lles cymunedol yn hytrach nag aros nes bod argyfwng.  

 

Eglurodd fod y Bwrdd Arweinwyr Rhanbarthol wedi bod yn edrych ar iechyd cyhoeddus ynghyd ag addysg i wneud gwahaniaeth.  

 

Byddai ôl troed carbon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn cael ei gynnwys o fewn y cynllun tair blynedd drwy ffyrdd amrywiol. Roedd y cynllun tair blynedd am gael ei gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd o fewn yr wythnos ac yna byddai’r adborth o gyfarfod y Bwrdd hwnnw yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol. Gofynnwyd i gysylltu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun tair blynedd â thair blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cytunodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i hyn.

 

PENDERFYNWYD nodi cynllun Tair Blynedd 2019/2022 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod diweddariad yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

 

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL CONWY A SIR DDINBYCH

Derbyn adroddiad ar lafar gan James Harland (CBSC) ac Angela Loftus (CSDd) ar y Cynlluniau Datblygu Lleol ac ymateb i’r ymgynghoriad.

2.10 p.m. – 2.40 p.m.

 

Cofnodion:

Rhoddodd James Harland, Rheolwr Polisi Cynllunio Strategol (CBSC) ac Angela Loftus, Rheolwr Tai a Chynllunio Strategol (CSDd), gyflwyniad llafar ar eu Cynlluniau Datblygu Lleol ac ymateb i’r ymgynghoriadau.

 

Eglurodd James Harland (CBSC) ei bod yn broses 3 blynedd a hanner o hyd. Roedd protocol ar y cyd rhwng CBSC a CSDd. Cynhaliwyd proses ymgysylltu dros 6 wythnos ac roedd y tair elfen allweddol a ystyriwyd fel a ganlyn:

(i)            Cynnig Twf

(ii)          Gofyniad Tai Fforddiadwy

(iii)         Capasiti. 

 

Roedd isadeiledd yn allweddol.  Roedd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda darparwyr gwasanaeth ac roedd cyfarfodydd hefyd yn cael eu cynnal gydag addysg ac iechyd.

 

Mae bwriad i fynd â hyn drwy ddemocratiaeth Conwy ym mis Mehefin / Gorffennaf.

 

Cadarnhaodd Angela Loftus (CSDd) bod proses ymgysylltu â CBSC wedi’i chynnal.  Roedd yr amserlen ar gyfer CSDd yn debyg iawn i CBSC. Cafwyd problemau tebyg. Edrych ar aneddiadau o fewn y sir a pha wasanaethau oedd yn weithredol. Canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol ac ymgymryd ag asesiadau o effaith ar les. Hefyd, ymgymryd ag asesiadau o effaith ar iechyd a fydd yn rhan o’r ymgynghoriad. Roedd angen mawr am dai fforddiadwy ond nid oedd yn debygol y byddai’r angen yn cael ei ddiwallu. Roedd yn bwysig cynyddu datblygiadau tai fforddiadwy.

 

Un her fawr oedd sut i gadw pobl ifanc o fewn y rhanbarth. Gofynnwyd i gadw tai fforddiadwy ar y rhaglen.  Cadarnhawyd o safbwynt hyfywedd, roedd CBSC a CSDd yn cydweithio i gynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad gan James Harland ac Angela Loftus.

 

8.

GRANT CEFNOGI BGC GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 271 KB

Derbyn diweddariad ar lafar ar Grant Cefnogi BGC Gogledd Cymru 2018/19 ac ystyried y cais cyllido dilynol ar gyfer 2019/20.

 

Nicola Kneale (Cyngor Sir Ddinbych)

3.10 p.m. – 3.20 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Strategol (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Bwrdd am y grant gan Lywodraeth Cymru oedd ar gael i ranbarth Gogledd Cymru yn 2019/2020 a sut yr oedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar draws y pedwar meini prawf sydd o fewn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Roedd yr arian ar gael i gefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i fodloni eu hymrwymiadau mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn benodol i gynorthwyo gyda datblygu cynlluniau lles, a’r datblygiad parhaus a chynnal asesiadau lles lleol.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            bod aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r adroddiad ac yn cefnogi cais 2019/2020 am gyllid.

(ii)          bod diweddariadau rheolaidd ar wariant grant yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd.

 

9.

CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL CONWY A SIR DDINBYCH

I dderbyn adroddiad ar lafar gan Wendy Jones (CGGC) a Helen Wilkinson (CGGSD) i drafod pa gymorth y gall BGC gynnig i’r trydydd sector.

3.20 p.m. – 3.40 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Helen Wilkinson, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Wendy Jones, Prif Swyddog, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, adroddiad llafar ar y gefnogaeth y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei roi i’r trydydd sector.

 

Roedd y ddau sector gwirfoddol eisoes wedi rhoi cyflwyniadau i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Roedd y cyflwyniadau wedi codi ymwybyddiaeth o’r gwaith yr oedd angen ei wneud ond cytunwyd i ailddosbarthu y cyflwyniadau i’r holl aelodau.    

 

Ariannwyd y sectorau gwirfoddol gan Lywodraeth Cymru a thaliadau gan bartneriaid amrywiol.  Roeddent yn annog yr aelodau i ystyried eu sectorau ar gyfer gwaith cydgynhyrchu.  Roedd Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy yn bwriadu darparu hyfforddiant ar ddiogelu data a diogelu.   Cadarnhawyd hefyd y byddai gweithdai cydgynhyrchu yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.

 

PENDERFYNWYD bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi cynnwys yr adroddiad llafar ac y dylid ailddosbarthu’r ddau gyflwyniad i’r holl aelodau er gwybodaeth.

 

 

10.

GWASANAETHAU LLYWODRAETH LEOL I GYMUNEDAU GWLEDIG (ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU) pdf eicon PDF 1 MB

I dderbyn yr adolygiad ac i ymateb i argymhelliad 2 yn yr adroddiad. 

Fran Lewis (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

3.40 p.m. – 3.55 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adolygiad yn asesu sut yr oedd llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i gymunedau gwledig a sut yr oedd cynghorau yn gweithio ag eraill.

 

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad, daeth yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad nad oedd cynghorau wedi canfod ffyrdd cynaliadwy o helpu cymunedau gwledig i oresgyn yr heriau yr oeddent yn wynebu ac roedd angen iddynt feddwl a gweithredu’n wahanol.

 

Roedd rhan o’r adroddiad yn adolygu sut yr oedd cynghorau a’u partneriaid yn bwriadu cefnogi a chynnal cymunedau gwledig yn y dyfodol drwy waith y Byrddau Gwasanaethau Lleol.

 

Roedd argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel a ganlyn:

 

Argymhellodd Swyddfa Archwilio Cymru y dylai partneriaid gwasanaethau cyhoeddus y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymateb y fwy effeithiol i’r heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig drwy:

·       Asesu cryfderau a gwendidau eu cymunedau gwledig gwahanol gan ddefnyddio offeryn prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad Llywodraeth Cymru a nodi a chytuno ar y camau gweithredu lleol a strategol sydd eu hangen i gefnogi cynaliadwyedd cymunedol; a

·       Sicrhau bod y Cynllun Lles Lleol yn nodi gweledigaeth sy’n fwy optimistaidd ac uchelgeisiol ar gyfer “lle” gyda chyd- flaenoriaethau a luniwyd ar y cyd gan bartneriaid a gyda dinasyddion i fynd i’r afael â'r newidiadau cytunedig.

 

Roedd angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus edrych ar yr offeryn prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad gan Lywodraeth Cymru y gellid ei ddefnyddio gydag unrhyw benderfyniad.  Cytunwyd y dylid gweithredu’r offeryn prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad â’r tair blaenoriaeth.

 

Cytunwyd bod gwaith yn cael ei wneud ond bod ddiffyg mewn adnoddau i fynd i’r afael â’r materion yn yr ardal wledig.  

 

Mynegwyd safbwyntiau bod yr adroddiad yn gynamserol a byddai llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn yn y dyfodol.  Mewn ymateb i’r argymhellion, awgrymwyd y dylid cyfeirio’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gyda’r Cynlluniau Datblygu Cyhoeddus, Cynnig Twf Gogledd Cymru a’r Cynllun Datblygu Gwledig a oedd yn gweithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

 

Cytunwyd i lunio ymateb drafft i’r argymhellion yn cynnwys cyfeirio at y meysydd gwaith uchod.

 

PENDERFYNWYD:

 (i)      nodi’r adroddiad a llunio ymateb i'r argymhellion.

 (ii)     gweithredu’r offeryn prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad â’r tri maes blaenoriaeth.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 416 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

3.55 p.m. – 4.00 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. Cadarnhaodd aelodau y rhaglen a’r adroddiadau a ddisgwyliwyd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mehefin 2019 fel a ganlyn:

·       Cymeradwyaeth o adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018/2019

·       Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Gynnig Twf Gogledd Cymru

·       Adroddiad ar ddull rhanbarthol tuag at newid hinsawdd

·       Y wybodaeth ddiweddaraf am Y 1000 Diwrnod Cyntaf

·       CGGSDd – Prosiect Cenedl sy’n deall Dementia

·       Cynllunio ar gyfer Sefyllfaoedd y Dyfodol

·       Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Cyllid Hyblyg

·       Gwaith ar Flaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·       Eitem Eithriedig – Trafodaeth ar ddatblygu cofrestr risg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a heriau arweinyddiaeth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.45pm.