Agenda and draft minutes
Lleoliad: YR YSTAFELL FWRDD, CANOLFAN OPTIC, LLANELWY, LL17 0JD
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Andy Jones – Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Judith Greenhalgh – Cyngor Sir Ddinbych |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 310 KB Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 30
Tachwedd 2017 i’w cymeradwyo. Materion yn codi - Tudalen 8 – Cynllun
Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych – nodwyd fod Graham Boase, CSDd, yn bresennol
i ddarparu trosolwg o’r Cynnig Twf Rhanbarthol. Tudalen 8 – Goblygiadau
Brexit – nodwyd y byddai Sioned Rees, Llywodraeth Cymru, yn dilyn yr elfen
ariannu. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2017 fel cofnod cywir. |
|
MATERION YN CODI<0} PDF 300 KB (a) Llythyr BIPBC – Newidiadau i’r aelodaeth
(copi ynghlwm) (b) Enwebiad ar gyfer cyfweliad ffôn y Tîm
Diogelu Cenedlaethol (copi ynghlwm) 9.30
a.m. – 9.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Llythyr BIPBC – Newidiadau i’r Aelodaeth Roedd llythyr (a
gylchredwyd yn gynharach) wedi ei dderbyn gan Gary Doherty, Prif Weithredwr
BIPBC, yn cynghori fod aelodau BIPBC ar y BGC yn newid. Eglurodd Iwan Davies, CBSC fod gan y Bwrdd
Iechyd ddau aelod statudol a oedd yn cynnwys Cadeirydd a Phrif Weithredwr y
Bwrdd neu berson(au) a enwebwyd ganddynt. Roedd y Cadeirydd yn parhau i
ddirprwyo ei le i Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal ac roedd Gary Doherty ei hun
yn bwriadu mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol. (b)
Enwebiad ar gyfer y Tîm Diogelu Cenedlaethol Darparwyd
gwybodaeth gefndir ar y Tîm Diogelu Cenedlaethol yn ogystal â sgript ar gyfer
cyfweliadau ffôn gyda sefydliadau sy’n fudd-ddeiliaid (a gylchredwyd yn
flaenorol). Teimlai swyddogion y dylai’r BGC gael y cyfle i ystyried p’run ai i
gymryd rhan yn yr arolwg ai peidio.
Dymunai aelodau gefnogi’r gwaith hwnnw a chael eu cyfweld ond ystyriwyd
ei bod yn rhy gynnar yn y broses a chytunwyd i ymdrin â’r mater eto unwaith yr
oedd y blaenoriaethau wedi eu datblygu mewn mwy o fanylder a PHENDERFYNWYD yn unol â hynny. |
|
CYNLLUN LLES – CYMERADWYAETH DERFYNOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 254 KB Cymeradwyo
Cynllun Lles Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (copi ynghlwm) a’i gyhoeddi ar y
wefan – adroddiad gan y Cadeirydd. 9.45 a.m. – 9.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad (a gylchredwyd yn gynharach) yn rhoi adborth i aelodau gan fyrddau
gweithredol y partneriaid statudol mewn perthynas â Chynllun Lles Conwy a Sir
Ddinbych 2018 – 2023 a cheisio cymeradwyaeth i grynodeb a fersiwn technegol y
Cynllun a chymeradwyaeth i’w gyhoeddi ar y wefan. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Cynllun wedi bod trwy systemau llywodraethu
sefydliadau partner a bod yr holl sefydliadau sy’n aelodau o’r BGC wedi cytuno
i’r cynllun. Roedd nifer o ymholiadau wedi eu codi gan Gyfoeth
Naturiol Cymru a oedd wedi eu cynnwys yn nogfennaeth yr adborth a darparodd
Siân Williams wybodaeth bellach ynglŷn â hyn. Roedd Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi mynegi pryder fod diffyg manylion yn nhermau beth fyddai'n
cael ei wneud i gwrdd â'r amcanion ond roedd wedi ei sicrhau mai'r cam nesaf
oedd i lunio'r manylion hyn. Yn ystod y drafodaeth ymhelaethodd ar y dull
fforensig a fabwysiadwyd gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried pob un o
19 o Gynlluniau Lles y BGC a darparodd drosolwg o’r canlyniad. O ran
Cynlluniau’r BGC yr adborth gan aelodau oedd tra bod yna wahaniaethau yn
nhermau cyflwyno, nid oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol ym mhrif themâu a
dyheadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Cymru. Codwyd yr angen i osod
y Cynllun o fewn sefydliadau partner fel mater allweddol a sicrhau ymgysylltu
ar draws awdurdodau a phartneriaid, ac ystyriodd aelodau sut y byddai'r Cynllun
yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau eraill o fewn eu sefydliadau.
Cytunwyd y dylai adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi ac y
dylid cynnal trafodaeth bellach ar sut yr oedd partneriaid yn gweithredu’r
Cynllun o fewn eu sefydliadau a sut roeddent yn dylanwadu ar gamau gweithredu. Roedd y Cadeirydd
yn cydnabod y gwaith allweddol oedd wedi ei wneud er mwyn llunio'r Cynllun a
diolchodd i bawb fu'n rhan o hynny. PENDERFYNWYD – (a) cymeradwyo’r
crynodeb a’r fersiwn technegol o Gynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2018 – 2023
(manylion yn atodiad A a B i’r adroddiad); (b) cymeradwyo
cyhoeddi’r Cynllun Lles ar wefan BGC Conwy a Sir Ddinbych a (c) chyflwyno
adroddiad cynnydd i gyfarfod mis Medi a chynnal trafodaeth bellach ar sut yr
oedd y Cynllun yn cael ei weithredu o fewn sefydliadau partner. |
|
BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – CYNNIG TWF RHANBARTHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a Pharth
Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych. 9.50 a.m. – 10.30 a.m. Cofnodion: Rhoddodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth
Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych, gyflwyniad power point ar y Cynnig Twf Rhanbarthol. Cynghorwyd aelodau ynglŷn â rôl Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r gwaith o ddatblygu Cynnig Twf i Ogledd
Cymru ar gyfer buddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraethau Cymru a’r DU a’r
potensial am bwerau datganoledig. Darparwyd manylion hefyd ynglŷn â’r
Bwrdd Twf Cysgodol gan gynnwys aelodaeth a threfniadau llywodraethu yn ogystal
â’r broses lunio penderfyniadau a fyddai mor gynhwysol â phosib o fewn
cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth. Byddai Swyddfa Rhaglen Ranbarthol yn cael ei
sefydlu i gyflawni prosiectau. Roedd y Cynnig Twf wedi ei rannu i dair thema allweddol – cysylltu, gwydn a
CAMPUS. Roedd prosiectau ar hyn o bryd
yn cael eu mireinio ac ymhelaethodd Graham Boase ar bob un o’r 12 ymyrraeth
strategol o dan y penawdau canlynol – (1) Safleoedd ac Adeiladau (Cyflogaeth);
(2) Galluogydd Tai; (3) Mynediad i Ynni; (4 a 5) Canolbwynt Adnodd Technoleg ac
Arloesi; (6) Cronfa Twf Busnes; (7) Canolbwynt Sgiliau a Chyflogaeth; (8)
Cronfa Sgiliau a Chyflogaeth; (9) Academïau Sgiliau; (10) Cysylltedd Digidol; (11) Cronfa Gludiant Ranbarthol; (12)
Corff Cludiant Rhanbarthol. Y cyfanswm cyllid dyheadol fyddai ei angen yw £343m o fuddsoddiad cyfalaf a
£55.4m o refeniw i gefnogi'r darparu hyd at 2035. Pe byddai’r lefel honno o
fuddsoddiad yn cael ei sicrhau byddai’n dod â £1bn o’r sector preifat i Ogledd
Cymru a fyddai'n cael effaith allweddol ar yr economi. Rhoddodd Arweinyddion Conwy a Sir Ddinbych eu
persbectif eu hunain ar y Cynnig Twf fel y gwnaeth partneriaid eraill gan
bwysleisio risgiau i'w rheoli yn nhermau isadeiledd lleol i ymdopi gyda galw
ychwanegol; effaith ar ddarparwyr gwasanaeth a pheidio creu anghyfartaledd
pellach mewn cymunedau, yn ogystal â chyfleoedd a synergedd gyda Cynllun Lles y
BGC, yn arbennig yn nhermau tai, iechyd, addysg a gwella ansawdd bywyd ar gyfer
preswylwyr. Ystyriwyd fod gan yr holl bartneriaid rôl i’w chwarae o ystyried yr
amrediad o themâu trawsbynciol a chyfeiriwyd at bwysigrwydd y trydydd sector,
gan gynnwys y gymuned gymdeithasol a mentrau busnes. Teimlwyd hefyd y byddai
ymgysylltu pellach gyda phartneriaid sector cyhoeddus yn helpu i gefnogi'r
camau gweithredu a’r isadeiledd cymdeithasol ac y byddai’n werth ehangu
cynrychiolaeth y sector cyhoeddus ar y Bwrdd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hugh
Evans at fanylion y Cyd-gronfa Ffyniant i leihau anghyfartaledd a theimlai y
dylid gwneud mwy i ddylanwadu ar y drafodaeth honno. Cytunodd Graham Boase i roi adborth ynglŷn â safbwyntiau aelodau a
threfnu i’r cyflwyniad ynghyd â thaflen yn crynhoi'r prosiectau cyfredol i gael
eu cylchredeg. PENDERFYNWYD yn ddibynnol ar sylwadau'r aelodau uchod,
fod y cyflwyniad ar y Cynnig Twf Rhanbarthol yn cael ei dderbyn a'i nodi. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y BLAENORIAETHAU PDF 323 KB (a) Pobl – Lles Meddyliol
(b) Cymuned – Grym
Cymunedol (Wendy Jones/Helen Wilkinson) (c) Lle – Cadernid
Amgylcheddol (copi ynghlwm) – Iwan Davies/Teresa Owen (d) Adolygiad
canlyniadol o aelodaeth Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (adroddiad ar lafar gan
y Cadeirydd) 10.30 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd
diweddariad ar y cynnydd o ran y blaenoriaethau fel a ganlyn - (a) Pobl – Lles Meddyliol Dywedodd Siân Williams,
Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw’r Is-Grŵp wedi llwyddo i gyfarfod eto ac y
byddai’n adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf. (b) Cymuned – Grym Cymunedol Dywedodd Nicola Kneale, CSDd, fod Cyngor
Gwasanaeth Gwirfoddol Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Sir Ddinbych yn
arwain ar y flaenoriaeth hon. Roedd
cyfarfod wedi ei gynnal i drafod a nodi’r meysydd hynny y dylid canolbwyntio
arnynt a oedd yn cynnwys tai, cyfleoedd cyflogaeth ac isadeiledd cynaliadwy ac
roedd yna lawer yn y Cynnig Twf a fyddai’n cyfrannu at hynny. Byddai sesiwn yn cael ei threfnu i edrych ar
gyfleoedd cydweithio ac ychwanegu gwerth. (c) Lle – Gwydnwch amgylcheddol Cyfeiriodd Iwan Davies, CBSC at nodiadau'r
cyfarfod a gynhaliwyd (a gylchredwyd yn gynharach) a soniodd am y camau nesaf i
ymgymryd â'r hyn a nodwyd. Nododd aelodau ei bod yn parhau yn gyfnod cynnar
iawn ar y gwaith o gefnogi’r meysydd blaenoriaeth a gofynnodd y Cadeirydd am
adroddiad cynnydd pellach ar gyfer cyfarfod mis Medi gyda mwy o fanylion ar yr
effeithiau a’r canlyniadau. (d) Adolygiad Dilynol Aelodaeth y
BGC Atgoffodd y Cadeirydd
yr aelodau y cytunwyd yn wreiddiol i gadw aelodaeth y BGC yn fach ac o bosib
ehangu aelodaeth yn ddibynnol ar y meysydd blaenoriaeth.
Gofynnodd i'r aelodau adael iddi wybod os yr oeddent yn ystyried y
byddai o fudd yn strategol i ehangu'r aelodaeth honno. PENDERFYNWYD nodi'r
cynnydd o ran y blaenoriaethau a darparu diweddariad pellach ar gyfer cyfarfod
mis Medi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar hyn (gohebiaeth ynghlwm). 11.15 a.m. – 11.35 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd llythyr gan Gadeirydd Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i Gadeiryddion y Byrddau Gwasanaethau
Cyhoeddus (cylchredwyd yn flaenorol) yn ceisio trafodaeth bellach ar y ffordd
orau ymlaen i ddatblygu perthnasoedd gwaith cryf rhwng Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y Cadeirydd am glywed safbwyntiau'r aelodau
ar y cynigion fel yr oeddent yn cael eu nodi yn yr adroddiad, ac yn benodol yr
egwyddor sylfaenol fod "Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb
am gamau gweithredu a’r hyn gaiff eu cyflawni o ran datblygiadau iechyd a gofal
yn lleol, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cymryd
cyfrifoldeb am osod egwyddorion strategol ar lefel ranbarthol". Tra roedd gan aelodau beth cydymdeimlad
gyda’r cynigion a thra roeddent yn cefnogi gwell cysylltiadau i gydweithio mwy,
teimlwyd, o ystyried y ddeddfwriaeth wahanol sy'n llywodraethu gwaith y ddau
Fwrdd, na fyddai'r BGC yn gallu cwrdd â'i rwymedigaethau statudol pe bai’n
gweithio i’r egwyddor gaiff ei gynnig.
Hefyd teimlwyd nad oedd rôl y BGC yn cyflawni’r Cynllun Lles lleol wedi
ei wneud yn glir o fewn yr adroddiad heb unrhyw gyfeiriad at flaenoriaethau
lleol. Cytunwyd i ymateb i'r llythyr ar
y sail hwnnw a hefyd gwahodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i
gyflwyno eu blaenoriaethau rhanbarthol i gyfarfod y BGC yn y dyfodol. PENDERFYNWYD cyflwyno
ymateb i'r llythyr gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru gan nodi
safbwyntiau’r aelodau ar y cynigion fel y cyfeirir atynt uchod ac estyn
gwahoddiad iddynt i fynychu cyfarfod y BGC yn y dyfodol i gyflwyno eu
blaenoriaethau rhanbarthol. |
|
CYLLID GRANT BGC GOGLEDD CYMRU – CAIS 2018/19 PDF 277 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, ar y
grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ogledd Cymru (copi ynghlwm). 11.35 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans, CSDd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar y grant
sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ranbarth Gogledd Cymru yn 2018-19 a sut yr
oedd y cronfeydd wedi eu clustnodi ar draws y meini prawf a nodwyd gan
Lywodraeth Cymru. Cynigiwyd y
cyllid ar batrwm bwrdd iechyd a siom oedd nodi mai cyfanswm y grant a
ddyfarnwyd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru oedd £83,117, gyda’r
cyllid yn cael ei dalu ar ddiwedd y cyfnod cyllido. Byddai adroddiadau cynnydd yn cael eu darparu
i Lywodraeth Cymru yn chwarterol. Teimlai’r
Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i gael dealltwriaeth o'r grantiau gwahanol a’r
cyfundrefnau mewn grym o ran cynnig a chytunodd os oedd yna brosiect a fyddai'n
cael effaith sylweddol ar yr ardal ei bod yn bwysig gwybod pa ffrydiau cyllido
posib fyddai ar gael. Gofynnodd am i’r wybodaeth gael ei chysylltu â’r
wybodaeth ar Gyllid Cymreig Ewropeaidd pan fyddai ar gael. PENDERFYNWYD – (a) bod aelodau'r
BGC wedi darllen a deall yr adroddiad, ac yn benodol wedi cymryd sylw o'r
symiau sydd ar gael a'r meini prawf sy’n weithredol, a (b) bod gan aelodau
o’r BGC y cyfle i awgrymu meysydd gwaith y gellir eu datblygu gyda’r cyllid
cefnogi sydd ar gael. Gall y gwariant yn erbyn y grant fod yn eitem sefydlog ar
raglen y BGC, fel y gellir darparu diweddariadau a rhoi ystyriaeth i feysydd a
fyddai’n elwa o’r buddsoddiad. |
|
DIWEDDARIAD AR Y FLAENORIAETH GORFFORAETHOL – HEDDLU GOGLEDD CYMRU Derbyn adroddiad
ar lafar gan yr Uwch-arolygydd Sian Beck. 11.45 a.m. – 12.05 p.m. Cofnodion: Rhoddodd Siân Beck, Heddlu Gogledd Cymru
gyflwyniad power point ar flaenoriaethau strategol Heddlu Gogledd Cymru, gan
roi manylion ar y galw am adnoddau a'r amcanion a nodwyd gan Gomisiynydd yr
Heddlu a Throsedd. Yn ystod y cyflwyniad cynghorwyd aelodau
ynglŷn â’r canlynol - ·
yr
elfennau gwahanol o drosedd dreisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn
gofyn am ymagwedd o weithio mewn partneriaeth i'w ddatrys. ·
y
cynnydd mewn trosedd a gofnodwyd oedd o ganlyniad i gofnodi trosedd yn well ·
y
gwahaniaethau rhwng troseddau gyda chymhlethdod uchel ac isel gyda'r mathau o
drosedd sydd ar gynnydd yn droseddau cymhleth sydd angen adnoddau ychwanegol. ·
adroddwyd
ar 12 dynladdiad rhwng Gorffennaf 2016 a Medi 2017 ·
manylu
ar Flaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd yn ogystal â sut fyddai’r Heddlu
yn ymateb i’r meysydd blaenoriaeth hynny – Cam-drin Domestig, Caethwasiaeth
Fodern, Trosedd wedi'i Threfnu, Cam-drin Rhywiol a Chreu Cymdogaethau Mwy
Diogel ·
o dan
flaenoriaeth y Drosedd wedi’i Threfnu pwysleisiwyd fod ‘Llinellau Sirol’ yn
fater mwy na chyffuriau oedd yn torri ar draws nifer o feysydd thematig eraill
a mathau o drosedd. ·
ymgysylltu
gyda'r cyhoedd a phartneriaid, gan gynnwys y defnydd o’r cyfryngau
cymdeithasol. Rhoddodd yr Uwcharolygydd Beck eglurhad ar nifer o
faterion mewn ymateb i gwestiynau a thrafododd aelodau’r meysydd hynny lle
byddai dull o weithio mewn partneriaeth o fudd.
Roedd gan aelodau ddiddordeb arbennig yn y ‘Llinellau Sirol’ lle
teimlwyd y gallai partneriaid gael effaith gadarnhaol, yn arbennig o ran staff
rheng flaen a fyddai yn y sefyllfa orau i adnabod nodweddion penodol a helpu i
ddiogelu dioddefwyr. Cadarnhaodd yr
Uwcharolygydd Beck fod y ‘Llinellau Sirol’ yn fygythiad enfawr ac roedd swyddog
wedi ei nodi i ddarparu’r cyflwyniad ar y ‘Llinellau Sirol’ gyda’r bwriad o
godi ymwybyddiaeth o’r materion oedd yn rhan o hyn a chefnogi ymagwedd aml
asiantaeth. Anogodd y Cadeirydd
bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r mater o fewn eu sefydliadau ac i dderbyn y
cyflwyniad ar y ‘Llinellau Sirol’.
Cytunwyd i gylchredeg yr wybodaeth berthnasol i’r holl bartneriaid. Roedd peth trafodaeth hefyd yn canolbwyntio
ar y newidiadau i’r drefn o recriwtio swyddogion yr heddlu a thrafodwyd system
fynediad newydd dair haen a thrafododd partneriaid yr heriau’n ymwneud â
recriwtio o fewn eu sectorau unigol eu hunain a phwysigrwydd cynllunio ar gyfer
olyniaeth. Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwcharolygydd Beck am ei
chyflwyniad llawn gwybodaeth. PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad ar flaenoriaethau
strategol Heddlu Gogledd Cymru a’i nodi. |
|
CYFLEOEDD I FYND I’R AFAEL Â RISGIAU SEFYDLIADOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cadeirydd. 12.05 p.m. – 12.25 p.m. Cofnodion: Arweiniodd y Cadeirydd y drafodaeth ar risgiau
sefydliadol o ystyried fod cyfarfodydd y BGC nawr yn cael eu cynnal yn
gyhoeddus a phwysleisiodd yr angen i ystyried pan fo materion ar gyfer eu
trafod mewn sesiwn gaeedig. Cytunodd aelodau i neilltuo tua awr yng nghyfarfod
mis Mehefin i drafod, mewn sesiwn gaeedig, y risgiau a'r pwysau ar eu
sefydliadau ac i ystyried yr effaith ar bartneriaid ac unrhyw ganlyniadau
anfwriadol, a lle bo hynny'n bosib adnabod datrysiadau aml asiantaeth. PENDERFYNWYD YN UNOL Â
HYNNY. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 429 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain yr eitem hon. 12.25 p.m. – 12.30 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd copi o raglen gwaith i’r dyfodol y BGC
a thrafodwyd y materion canlynol - ·
Dywedodd
Megan Vickers y nodwyd fod angen gwell cydweithredu o ran ymgysylltu â’r
cyhoedd a bod cyfarfod cychwynnol wedi ei drefnu ar draws Conwy a Sir Ddinbych
i ystyried y mater ymhellach. ·
Cytunwyd
fod manylion y cyfarfod yn cael ei gylchredeg i aelodau ac yr adroddir ar y
mater yng nghyfarfod y BGC yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at ddatblygiad cyd gytundeb archwilio i gefnogi'r BGC a thrafodwyd yr
amserlen – o ystyried ei bwysigrwydd gobeithiai’r Cadeirydd gael cynnig clir ar
gyfer cyfarfod mis Mehefin< ·
Cytunwyd
i symud y 'Cyflwyniad ar Iechyd Meddwl' a'r 'Wobr Draig Werdd' o eitemau'r
dyfodol ar y rhaglen waith ·
Diweddariad
ar Dirwedd Partneriaeth – pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i fod yn eglur ar y
llywodraethu a'r broses o lunio penderfyniadau o gylch rhai o'r partneriaethau
a chytunwyd i gadw’r eitem honno ar y rhaglen waith ·
Cyfeiriwyd
at y papur gwyrdd ar adrefnu llywodraeth leol a thra cytunwyd fod angen i’r
holl sefydliadau partner fod yn ymwybodol o’r cynigion cytunwyd i beidio ymateb
fel BGC i’r ymgynghoriad cyffredinol hwnnw. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r rhaglen waith. |
|
UNRHYW FATER ARALL Cofnodion: Dim Daeth y cyfarfod
i ben am 12.40 p.m. |