Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Video conference

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan –

Tom Barham - Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Hugh Evans – Cyngor Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Carol Marubbi - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mark Hughes – Cyfoeth Naturiol Cymru

Louise Woodfine – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Jo Whitehead – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Helena Kirk – Cymdeithas Tai Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Graham Timms – Cyngor Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Nigel Smith – Cyngor Sir Ddinbych

Hannah Edwards – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Yn y cyfwng hwn, cadarnhaodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Bethan Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Estynnodd pawb eu gwerthfawrogiad iddi am ei chyfraniadau i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 294 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

3.

OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU'R CYFARFOD pdf eicon PDF 273 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yn eitem hon (copi ynghlwm)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd, Iwan Davies, adnodd Tracio Camau Gweithredu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD bod adnodd Tracio Camau Gweithredu’r cyfarfod yn cael ei nodi.

 

4.

Materion yn Codi

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yn eitem Iafar hon

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi i’w trafod.

 

Yn y cyfwng hwn, newidiwyd trefn y Rhaglen.

 

5.

DATBLYGU CYNLLUN LLES CONWY A SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 208 KB

I roi gwybod i aelodau am y camau nesaf i ddatblygu’r Cynllun Lles (copi ynghlwm).

2.35 p.m. – 2.45 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale yr Adroddiad ar Ddatblygu Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r casgliadau o Weithdy Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2002.   Roedd pedwar o feysydd blaenoriaeth wedi codi o’r gweithdy ac mae’r meysydd fel a ganlyn:

·         Tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldeb

·         Swyddi, uwchsgilio ac uchelgais pobl ifanc

·         Tai - fforddiadwyedd a gwytnwch, a

·         Chapasiti ymchwil ac ymgysylltu.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar broses y camau nesaf ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran datblygu Cynllun Lles y BGC ac roedd yn anelu i resymoli’r nifer o flaenoriaethau yn ôl lle y gallai ychwanegu’r gwerth mwyaf.

 

Barnwyd mai’r rhan yn ymwneud â dylanwad a rheolaeth o’r dadansoddiad oedd bwysicaf er mwyn rhoi ystyriaeth ddigonol i lle y gallai’r BGC ychwanegu’r gwerth gorau a dylanwad cryf o fewn pob thema. 

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaethau -

·         Awgrymwyd fod y BGC yn canolbwyntio ar faterion sy’n benodol i Gonwy a Sir Ddinbych a sut y gallent ddylanwadu ar y materion hynny.  Dylid osgoi dyblygu gwaith gyda phartneriaid eraill ac roedd angen monitro hyn.

·         Llawer mwy o waith i’w wneud ar yr Agenda Werdd a sut y gallai BIPBC gynorthwyo.

·         Cytunwyd i sicrhau fod gwerth ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer yr hinsawdd ac argyfwng natur gydag ymagweddau rhanbarthol.

·         Cyflwynwyd yr adroddiad ar gyfer trafodaeth ac nid ar gyfer penderfyniad a roddodd y cyfle i aelodau i gael adnoddau ac i ymchwilio ymhellach er mwyn i benderfyniad gael ei wneud ar sail gwybodaeth.

 

Diolchodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol i’r aelodau am eu mewnbwn a chadarnhaodd y byddai swyddogion yn asesu rôl yr arweinyddiaeth a lle y byddai’r BGC yn cael effaith yn ogystal â beth oedd yn digwydd ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,

 

·         Fod y BGC wedi ystyried cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys materion na chawsant eu trafod fel rhan o weithdy’r BGC ym mis Ionawr ac atodiadau.

·         Fod y BGC yn ystyried beth fyddai’r blaenoriaethau yn y dyfodol ac argymhellwyd fod aelodau’r BGC yn cytuno i ganolbwyntio ar 3 o flaenoriaethau ar y mwyaf yn eu hymagwedd o ran arwain.

 

6.

ASESIAD LLES CONWY A SIR DDINBYCH 2022 - CYMERADWYAETH I'W GYHOEDDI pdf eicon PDF 371 KB

I geisio cymeradwyaeth i gyhoeddi’r Asesiad Lles cyn y dyddiad statudol sef 5 Mai 2022 (copi ynghlwm)

2.05 p.m. – 2.35 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Amanda Jones, ei bod wedi dod i’r swydd yn lle Fran Lewis a chyflwynodd Asesiad Lles 2022 - Adroddiad cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Darparwyd trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar yr asesiad lles a gofynnwyd am gymeradwyaeth gan y BGC ar gyfer cyhoeddi’r asesiad lles cyn y dyddiad cau sef 5 Mai 2022.

 

Yn dilyn trafodaeth fer - 

 

PENDERFYNWYD fod:

 

·         Y BGC yn cymeradwyo’r asesiad lles ar gyfer ei gyhoeddi

·         Nodi’r adborth a’r argymhellion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ac i swyddogion fynd i’r afael â’r rhain dros y 3 mis nesaf.

 

7.

GRANT CEFNOGI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU 2022-23 pdf eicon PDF 265 KB

I roi gwybod i aelodau am y Grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ranbarth Gogledd Cymru yn 2022-23 (copi ynghlwm).

2.45 p.m. – 2.55 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Amanda Jones, y Grant Cefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru 2022-23 (wedi’i gylchredeg eisoes).

 

Darparwyd gwybodaeth i’r BGC am y grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (LLC) i ranbarth Gogledd Cymru yn 2022-23 a sut mae’r arian wedi’i ddyrannu ar draws y meini prawf a nodir gan LLC, gan gynnwys manylion am y math o weithgareddau a gynigir. 

 

Byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn monitro cynnydd y gwaith a ariennir, gan sicrhau rheolaethau ariannol digonol.  Byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu trwy rwydwaith BGC Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod –

 

·         Aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r adroddiad, ac yn arbennig y swm bychan sydd ar gael a'r meini prawf sy'n berthnasol.

·         Bod gan aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y cyfle i awgrymu meysydd o waith y gellir eu datblygu gyda’r cyllid cefnogi sydd ar gael. Gall y gwariant yn erbyn y grant fod yn eitem sefydlog ar raglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel y gellir darparu diweddariadau, ac ystyried meysydd a fyddai’n elwa o’r buddsoddiad.

 

8.

ADEILADU CYFOETH CYMUNEDOL A CHAFFAEL BLAENGAR - DIWEDDARIAD CYNNYDD

Rhoi diweddariad cynnydd i aelodau.

3.05 p.m. – 3.15 p.m.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Amanda Jones ddiweddariad ar lafar am Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a Chaffael Blaengar.

 

Roedd y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol yn edrych ar y broses caffael i fewnosod lleihau carbon.   Derbyniwyd adroddiad a byddai cyfarfod terfynol gyda’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol yn cael ei gynnal ar ddechrau mis Ebrill.   Yn dilyn y cyfarfod byddai’r wybodaeth yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Hinsawdd Conwy a Bwrdd Newid Hinsawdd Sir Ddinbych.  Byddai gwybodaeth hefyd yn cael ei gyflwyno yn y BGC a byddai John Hannigan o’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r diweddariad ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a Chaffael Blaengar.

 

9.

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU AR Y CYD BGC CONWY A SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 395 KB

Rhoi trosolwy I’r aelodau o gyfarfod diweddar y pwyllgor.

2.55 p.m. – 3.05 p.m.

 

Cofnodion:

Nodwyd

 

 

 

EGWYL – 3.00 P.M. – 3.15 P.M.

 

10.

BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - TROSOLWG O'R RHAGLEN

Alwen Williams i roi diweddariad ar lafar.

3.15 p.m. – 3.35 p.m.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru, Alwen Williams gyflwyniad yn rhoi trosolwg o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.   Cafodd y cyflwyniad ei gylchredeg i holl aelodau’r BGC yn dilyn y cyfarfod er gwybodaeth.

 

Cadarnhawyd bod y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn creu’r Bwrdd Uchelgais yng Ngogledd Cymru.   Roedd angen denu buddsoddiad preifat i’r rhanbarth a fyddai yna’n denu swyddi a sgiliau newydd i’r ardal.   Roedd gwaith ar y gweill i atal sgiliau rhag gadael y rhanbarth.

 

Cadarnhawyd hefyd y byddai’n fanteisiol i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a BGC y rhanbarth gydweithio i gefnogi blaenoriaethau’r BGC.   Byddai hyn yn atal dyblygu gwaith.

 

Bu i’r aelodau ddiolch i Alwen Williams am fynychu.

 

PENDERFYNWYD bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r cyflwyniad gan Alwen Williams, Bwrdd Uchelgais.

 

11.

CYNLLUN GWAITH YMLAEN pdf eicon PDF 430 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yn eitem hon (copi ynghlwm)

3.35 p.m. – 3.45 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 3.50 P.M.