Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by Video Conference

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cynghorydd Hugh Evans – Cyngor Sir Ddinbych

Jo Whitehead - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 320 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 17 Mai 2021 (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021 fel cofnod cywir.

 

 

3.

OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU’R CYFARFOD pdf eicon PDF 394 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Hannah Edwards adroddiad olrhain camau gweithredu’r cyfarfod a thynnodd sylw'r Bwrdd at y camau gweithredu agored canlynol i’w hystyried ymhellach / gweithredu fel sy’n briodol -

 

·         Roedd dau gam gweithredu cyntaf wedi eu hamlygu, ‘defnyddio’r adnodd prawfesur polisïau gwledig ar gyfer y tri maes blaenoriaeth’ ac ‘wrth ymgymryd â’r adolygiad o’r asesiad ar effaith, ystyried a oes unrhyw feysydd cydraddoldeb mae'r Bwrdd angen bod yn ymwybodol ohonynt’. Roedd y bwrdd yn cytuno na ellir cau’r camau hyn, fodd bynnag, awgrymwyd amlygu pwyntiau allweddol y camau i asesu yn hytrach na chael diweddariadau ym mhob cyfarfod Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus.

·         Byddai’r diweddariad iechyd meddwl a lles yn cael ei drafod yn fwy manwl yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd.

 

 

4.

MATERION YN CODI

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem lafar hon.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion o’r cofnodion blaenorol wedi eu trafod. 

 

 

5.

DIWEDDARIAD CYNNYDD ASESU LLES A CHYMERADWYO YMGYNGHORI AC AMSER CYNLLUN pdf eicon PDF 254 KB

Nicola Kneale (CSDd) a Fran Lewis (CBSC) i gyflwyno'r Diweddariad Cynnydd Asesiad Llesiant a cheisio Cymeradwyaeth ar yr Ymgynghoriad a Chynllunio'r llinell amser.

2:05pm – 2:35pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi diweddariad i’r BGC ar gynnydd yr Asesiad Lles ac i ddechrau paratoi amserlen ar gyfer ymgynghori. 

 

Mae Asesiad o Lesiant statudol wrthi’n cael ei gynhyrchu, a fydd yn sail i gynllun llesiant nesaf y BGC (y mae’n rhaid ei gyhoeddi erbyn Mai 2023 fan bellaf) a chynlluniau llesiant ei sefydliadau cyfansoddol. Bwriadwyd i ddrafft fod yn barod ym mis Tachwedd 2021, fyddai’n mynd drwy broses ymgynghoriad statudol.

 

Roedd Nicola Kneale yn egluro er mwyn galluogi dealltwriaeth o’r cyfoeth o wybodaeth gymhleth oedd wedi’i chynnwys o fewn yr Asesiad Lles, byddai cyflwyniad o gasgliadau allweddol o’r dadansoddiad o gynnwys yr Asesiad yn sail i'r ymgynghoriad a bod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Eglurodd Nicola Kneale nad oedd yn fwriad i drafod datblygiad y cynllun yn fanwl heddiw, ond bod aelod arweiniol o’r BGC yn cael ei nodi a bod cynnig ar gyfer datblygu’r Cynllun Lles yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. 

 

Roedd yna gonsensws ymhlith aelodau’r bwrdd na fyddai un arweinydd yn ddigonol, oherwydd ymrwymiadau gwaith ond hefyd heb wybodaeth o feysydd eraill o fewn ardal y BGC. Roedd Bethan Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ynghyd â Sarah Schofield (Adra) a Tom Barham (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) wedi cytuno i arwain ar y mater cynllun llesiant ar y cyd.

 

Roedd Iwan Davies CBSC wedi ail-gadarnhau’r hyn a drafodwyd yn ystod camau cynnar y BGC ble cytunwyd y byddai'n canolbwyntio ar feysydd nad oedd sefydliadau eraill yn gweithio arnynt.  Roedd hyn i osgoi dyblygu gwaith.

 

Roedd y bwrdd yn teimlo mai gwaith y dyfodol y BGC ddylai adolygu newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar lefel mwy lleol gyda CBSC a CSDd a chytunwyd y byddai’n fuddiol gwahodd gweithgorau lleol ar bynciau penodol a gofyn sut y gallai’r BGC eu cefnogi. 

 

PENDERFYNWYD

 

(i)    Bod y BGC yn nodi’r cynnydd a wnaed gyda’r asesiad o lesiant, ac yn cymeradwyo’r llinell amser ar gyfer ymgynghori.

(ii)  Bod y prif gasgliadau o’r asesiad lles yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer ymgynghori ar yr asesiad.

(iii) Bod y BGC yn nodi cynhyrchu’r amserlen ar gyfer yr Asesiad o Lesiant a bod Bethan Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ynghyd â Sarah Schofield (Adra) a Tom Barham (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) yn cael eu penodi fel cyd aelodau arweiniol y bwrdd i weithio gyda swyddogion i ffurfio cynnig i gynhyrchu’r cynllun llesiant nesaf.

 

 

6.

DIWEDDARIAD AR ARDALOEDD BLAENORIAETH

Derbyn diweddariad ar y meysydd blaenoriaeth ganlynol -

 

(a)  Lles meddwl - Swyddog Iechyd Cyhoeddus Cymru

(b)  Grymuso Cymunedol (gan gynnwys diweddariad ar seilwaith digidol) - Nicola Kneale

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol (gan gynnwys cytuno ar ymrwymiadau amgylcheddol) - Justin Hanson / Helen Millband

 

2:35pm – 3:05pm

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar y meysydd blaenoriaeth i’r BGC -

 

(a)  lles meddyliol – hysbyswyd y BGC fod Louise Woodfine (Ymgynghorydd ardal y canol) wedi’i phenodi fel cynrychiolydd newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag oherwydd ymrwymiadau blaenorol nid oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod.    Roedd angen trafodaeth bellach ar arweinydd blaenoriaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(b)  Ymrymuso'r Gymuned (gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar seilwaith digidol) – rhoddodd Nicola Kneale y wybodaeth ddiweddaraf i’r bwrdd ar y gwaith a wnaed. Roedd y cynlluniau cysylltedd a oedd ar y gweill ar hyn o bryd wedi eu hamlygu -

·         Roedd cyflwyno ffibr llawn Llywodraeth Cymru yn dod i ben ym mis Mehefin 2022,

·         Roedd Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol yn anelu i osod band eang ffibr llawn mewn adeiladau cyhoeddus.  Yna byddai Openreach yn cysylltu eiddo ar hyd y llwybr ac yng  nghyffiniau adeiladau cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd yna rai pryderon gyda chynnydd gan ei fod yn dod i ben ym mis Medi 2021, roedd y mater yn cael ei archwilio gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).

·         Prosiect Gigabit Llywodraeth Y DU, cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghyllideb y gwanwyn 2020 ond cafodd ei ddal yn ôl gan oedi ac adolygiadau.  Roedd yn seiliedig ar addewid y llywodraeth i sicrhau bod gan 85% o eiddo’r DU fynediad i fandeang gigabit erbyn 2025, roedd yna hyd at 234,000 o eiddo gwledig yng Nghymru yn y cwmpas.

·         Ychydig iawn o eiddo fyddai’n methu cael mynediad i’r band eang cyflym iawn, byddai’r eiddo hyn yn cael eu dynodi fel ‘eiddo gwyn’. Byddai BUEGC hefyd yn rhoi sylw i’r eiddo hyn drwy’r prosiect Ychydig Ganran Ddiwethaf.

·         Roedd Partneriaeth Ffibr Cymunedol yn defnyddio’r cynllun Taleb Band Eang Gigabit ac roedd yn gynllun cymhorthdal llywodraeth ar draws y DU i ddarparu cysylltiadau ffibr llawn wedi eu diogelu at y dyfodol i gartrefi a busnesau.  Fodd bynnag, roedd yna rai heriau gan na fyddai rhai ardaloedd yn gallu cydgrynhoi’r talebau hyn i dalu am weithredu ffibr mewn rhai cymunedau. 

·         Roedd gosod ffibr yn ddrud, felly mae’r eiddo hynny sy’n arbennig o anodd eu cyrraedd yn annhebygol o gael eu cynnwys mewn cynlluniau uwchraddio gan Openreach ac ni fydd yr arian ar gael gan CFPs yn ddigonol.  Heb ymrwymo buddsoddiad allanol yn yr ardaloedd hyn sy'n anodd i'w cyrraedd, maent yn annhebyg o gael eu huwchraddio am beth amser. 

 

Roedd y Bwrdd yn diolch i Nicola am y wybodaeth ddiweddaraf ar fater cymhleth.  Roedd Graham Boase (CSDd) yn awgrymu y gall y BGC edrych ar gysylltedd fel blaenoriaeth, gan ei fod yn effeithio ar bob sefydliad.  Roedd yn sylweddoli na allai’r BGC weithredu gwaith, fodd bynnag, gallai ddylanwadu sefydliadau oedd yn ymgymryd â’r gwaith y soniwyd amdano a herio’r sefydliadau ar pa un a gyflawnwyd y gwaith. Gallai hyn wneud cynnydd gyda’r gwaith.

 

Trafodwyd y gallai'r sefydliadau trydydd sector dderbyn rôl i helpu i symud cymunedau i gael cefnogaeth a chyllid i wella cysylltedd. 

 

Codwyd band eang lloeren a sut yr oedd technoleg wedi’i ddatblygu a gallai fod yr unig ddewis oedd yn hyfyw i rai o’r ardaloedd gwledig yng Nghymru. 

 

(c)  Gwytnwch amgylcheddol – rhoddodd Jason Hanson (Cyfoeth Naturiol Cymru) gyflwyniad i'r BGC yn amlygu gwaith a wnaed o ran y flaenoriaeth gwytnwch amgylcheddol. 

 

Roedd yr is-grŵp wedi adolygu pob blaenoriaeth ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn cais y BGC i wneud hynny. Roedd yr is-grŵp wedi cyfarfod ddwywaith ers y cyfarfod BGC ddiwethaf. Roedd yna ffocws yn bennaf ar adolygu a newid blaenoriaeth 1, y datganiad polisi amgylcheddol. Y chwech blaenoriaeth oedd -

 

1.    Gweithio gyda’n partneriaid BGC i ddatblygu datganiad polisi amgylcheddol,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 361 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig).

 

3:05pm – 3:10pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o gynllun gwaith i'r dyfodol y BGC a thrafodwyd y materion canlynol -

 

·         Hysbysodd y cadeirydd y pwyllgor y byddai’r cyfarfod nesaf yn cynnwys

-          Derbyn trosolwg o’r prif gasgliadau o’r asesiad lles a chymeradwyo’r asesiad ar gyfer ymgynghori

-          Adolygu canfyddiadau’r is-grŵp, ynglŷn â datblygu’r cynllun llesiant nesaf.

-          Derbyn gwybodaeth ar yr Addewid Sector Cyhoeddus a Gweithwyr Llawrydd

-          Adolygu canfyddiadau ac argymhellion y peilot Adeilad Cyfoeth Cymunedol a Chaffael Cynyddol.

-           

·         Nid oedd aelodau’r bwrdd yn awgrymu unrhyw eitemau pellach i’w trafod.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo'r cynllun gwaith i'r dyfodol.

 

 

8.

ANFFURFIOL - CAMAU NESAF YN DILYN BGC MIS MEHEFIN

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem lafar hon gan drafod y camau nesaf ar gyfer y BGC yn dilyn gweithdy mis Mehefin.

 

3:10pm – 3:40pm

 

 

Cofnodion:

Daeth y cyfarfod i ben am 16:10

 

 

9.

ER GWYBODAETH - HADDEWID SECTOR CYHOEDDUS A GWAITH ANNIBYNNOL pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

Roedd yr eitem hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod.

 

 

10.

ER GWYBODAETH - MENTRAU NEWID HINSAWDD MAPIO A CHYLCH GORCHWYL AR GYFER GOGLEDD CYMRU GRWP SWYDDOGION CARBONEIDDIO pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Roedd yr eitem hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod. 

 

 

11.

ER GWYBODAETH - GWYBODAETH CYFRANOGI CYNLLUN KICKSTART pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Roedd yr eitem hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod.