Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO.
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Bethan Jones –
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Y Cyng. Hugh
Evans – Cyngor Sir Ddinbych Y Cynghorydd Sam
Rowlands – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 306 KB Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 27 Gorffennaf 2020 (copi’n amgaeedig). 9.30 am – 9.40 am Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 27
Gorffennaf 2020. Materion Sy'n Codi – Tudalen 9, Eitem 5
Cynnig o Gefnogaeth: Cenhadaeth Dinesig Bwrdd Gwasanaethau Lleol, Prifysgol
Glyndŵr – adroddodd y Cadeirydd ar ei drafodaethau gyda Nina Ruddle,
Prifysgol Glyndŵr, ynglŷn â’u cynnig i hwyluso gweithdy i adolygu
blaenoriaethau’r Bwrdd a beth yw'r ffordd orau o'u symud ymlaen. Cymerodd Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y
Fflint a Wrecsam ran mewn gweithdy tebyg a dderbyniwyd yn dda. Ystyriodd y Bwrdd y byddai teilyngdod mewn
cymryd y cynnig a byddai sesiwn gweithdy ar wahân yn cael ei drefnu at y
dibenion hynny. Roedd cyfarfod anffurfiol o’r Bwrdd yn cael ei drefnu ar gyfer
25 Ionawr, 2021, a chytunwyd i ddefnyddio’r dyddiad hwn ar gyfer sesiwn o’r
gweithdy os yw’n bosib. Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu â Nina Ruddle,
Prifysgol Glyndŵr i sicrhau eu hargaeledd i hwyluso’r gweithdy ar 25
Ionawr, 2021. PENDERFYNWYD – (a) derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 fel cofnod
cywir, a (b) bod y cadeirydd
yn cysylltu â Phrifysgol Glyndŵr gyda'r bwriad iddynt hwyluso sesiwn
gweithdy ar gyfer y Bwrdd ar 25 Ionawr, 2021. |
|
DIWEDDARIAD AR Y FLAENORIAETH CADERNID AMGYLCHEDDOL PDF 319 KB Cael diweddariad
gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar y Flaenoriaeth Cadernid Amgylcheddol (copi’n
amgaeedig). 9.40 am – 10.15 am Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) gan Gyfoeth Naturiol Cymru,
sy'n darparu diweddariad ar gynnydd ac adolygiad o’r pum maes gwaith yn y
flaenoriaeth Cadernid Amgylcheddol gan yr Is-grwpiau Cefnogi Cadernid
Amgylcheddol fel y gofynnwyd gan y Bwrdd yn sgil pandemig Covid-19, ac
amlinellwyd dau brosiect y cyflwynwyd i broses grant Dyrannu Cyllid Strategol
Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Adroddodd Helen Millband ar ganfyddiadau'r adolygiad ynghyd ag argymhellion
yr Is-grŵp. Er bod y pum
maes gwaith yn cael eu hystyried i fod yn berthnasol o hyd, argymhellwyd bod y
prosiectau canlynol yn cael eu gohirio oherwydd capasiti neu nid yw'r amser yn
iawn yn ystod pandemig (1) gweithio gyda chymunedau i ddatblygu addewidion a
newidiadau gwyrdd, (2) edrych ar y broses graffu i wneud y mwyaf o fuddion
cymunedol o ddatblygiadau adeiladau, a (3) gweithio gyda thimau cynllunio i
sicrhau bod materion amgylcheddol yn cael eu hystyried wrth gynllunio
datblygiadau newydd. Awgrymwyd hefyd y
dylid datblygu blaenoriaeth newydd ynglŷn â gofodau gwyrdd a glas ar gyfer
cymunedau a nododd trafodaethau ynghylch gweithio o gartref a theithio dau is
weithred newydd dan y gam gweithredu lleihau carbon. Cafodd crynodeb o’r
meysydd gwaith hynny eu manylu yn yr adroddiad.
Trafodwyd syniadau am brosiectau ar gyfer £25,000 Cyfoeth Naturiol Cymru
gan yr is-grŵp, ac mae dau brosiect wedi cael eu cymryd ymlaen ar ôl y cyfarfod
sy’n ymwneud â (1) rhaglen pweru beics trydan ar yr Arfordir (£12,000) a (2)
Coetir Cymunedol Glan Morfa (£13,000). Yn ystod
trafodaeth, cydnabuwyd y materion ynglŷn â chapasiti, ond roedd
amharodrwydd ar gyfer gohirio’r blaenoriaethau a nodwyd, yn benodol y buddion
amgylcheddol, a oedd wedi cael eu creu oherwydd y pandemig a'r momentwm
parhaus, a brwdfrydedd y cyhoedd o ran hynny. Adroddodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill bod Sir Ddinbych wedi newid ei gyfansoddiad yn ddiweddar i
sicrhau bod pob penderfyniad yn rhoi sylw i i’r effaith amgylcheddol ac roedden
nhw am ystyried y polisi buddion cymunedol cyn hir ac roedd yn pryderu y byddai
gohirio'r blaenoriaethau hynny yn profi i fod yn wrthgynhyrchiol. Roedd y farn
honno’n cael ei rhannu gan y Cynghorydd Goronwy Edwards, o wybod bod gymaint o
waith wedi cael ei gynnal wrth ymgysylltu gyda phreswylwyr a chynghorau
tref/cymuned o fewn Conwy ac roedd awydd gan gymunedau i gael eu cynnwys, ac
roedd yn teimlo y dylid datblygu hynny ymhellach. Er mwyn egluro’n bellach,
adroddodd Helen Millband bod yr is-grŵp yn teimlo bod capasiti yn
gyfyngedig ac roeddent wedi cwestiynu a oedd yn addas gyrru’r addewidion
amgylcheddol hyn ymlaen pan roedd cymunedau yn mynd i’r afael â sawl mater
arall. Serch hynny, byddai barn y Bwrdd yn cael ei adrodd yn ôl i'r
Is-grŵp. Fe wnaeth Helen MacArthur gydnabod y gwaith caled a gynhaliwyd yn
nhermau ymgysylltu â'r gymuned, ond petai’r blaenoriaethau hyn yn cael eu
gohirio, fe amlygodd bwysigrwydd deall effaith y camau hynny, a’r amserlen ar
gyfer eu datblygu yn y dyfodol. Cyfeiriodd Judith Greenhalgh at gyfoeth
ymgysylltu â'r gymuned a oedd wedi codi o’r ymgynghoriad cyfredol ar
Strategaeth Hinsawdd ac Ecoleg Sir Ddinbych, a thra bo sefydliadau statudol yn
cael hi’n anodd o ran capasiti, roedd y cymunedau yn ymatebol iawn ac roedd
hi’n teimlo y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddal ddychymyg y cyhoedd ar
y mater hwn. Trafododd y Bwrdd y flaenoriaeth arfaethedig newydd ynghylch gofodau gwyrdd a glas. Ehangodd Helen Millband ar y cyfle i adeiladu ar y frwdfrydedd newydd ar gyfer yr amgylchedd lleol yn ystod y cyfnod clo cyntaf a’r posibilrwydd o helpu i adfer a chysylltu i ddatblygu mewn perthynas â blaenoriaeth “Cefnogi Lled Meddyliol Da i bob oed”. Adroddodd ymhellach ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
DIWEDDARIAD AR FLAENORIAETH YMRYMUSO'R GYMUNED – EITHRIO DIGIDOL PDF 194 KB Bydd Nicola
Kneale (CSDd) yn arwain y drafodaeth ar yr eitem hon am y cyfleoedd i wella
isadeiledd digidol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. 10.15 am – 10.45 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nicola Kneale yr adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) yn manylu ar
y cyfleoedd ar gyfer gwella isadeiledd digidol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn
dilyn cytundeb y Bwrdd yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf bod angen canolbwyntio
ar bobl sy’n cael eu heithrio’n ddigidol a sgiliau digidol. [Cynigiwyd
adroddiad ar sgiliau digidol ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.] Cynghorwyd aelodau o’r safle gyfredol mewn perthynas â chysylltedd digidol
a’r gefnogaeth sy’n bodoli ar gyfer gwella isadeiledd digidol. Roedd gan y ddwy
sir lawer o ardaloedd gwledig gyda eiddo “gwyn” (eiddo sy’n derbyn llai na
30Mb). Roedd gan BT Openreach gynllun i
gyflwyno cysylltiadau ffeibr ar draws rhannau o'r siroedd erbyn mis Mehefin
2022, ond ni fyddai llawer o’r eiddo yn rhan o’r cynllun. Roedd cyllid gan
gynllun taleb Rural Gigabite ar gael i’r sawl nad ydynt yn rhan o'r cynllun
ffeibr a byddai cynllun arall gan y llywodraeth, Rhwydweithiau Ffeibr Llawn
Lleol, yn cyflwyno cysylltiadau ffeibr llawn i adeiladau cyhoeddus o rŵan
hyd at fis Mawrth 2021 (er efallai fydd ychydig o lithriant). Serch hynny, hyd
yn oed ar ôl cyflwyno’r cynlluniau, byddai gan sawl ardal gysylltedd gwael o
hyd. Mae Sir Ddinbych wedi buddsoddi mewn Swyddog Digidol (Chwefror 2020 –
Mawrth 2021) a roedd Conwy wedi cynllunio i benodi Swyddog Digidol (Ionawr –
Rhagfyr 2021) gyda gwahanol ddulliau o weithio i fynd i’r afael â’r mater.
Roedd dadansoddiad o’r isadeiledd digidol wedi arwain at nifer o argymhellion i
effeithio ar welliant, a oedd yn cynnwys proses flaenoriaethau ar gyfer
cymunedau; cyllid hirdymor ar gyfer swyddi Swyddog Digidol, a dull ar y cyd o
weithio o wybod y nifer yr eiddo “gwyn” sy'n ffinio’r siroedd. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd cysylltedd da sydd wedi dod i'r amlwg yn
ystod y pandemig gyda mwy o bobl yn gweithio o gartref a busnesau yn symud rhai
o'u gweithgareddau ar-lein, a oedd yn darparu achubiaeth i sawl cymuned wledig
hefyd. Awgrymodd y Cynghorydd Goronwy Edwards y dylid cynnal trafodaethau gyda
BT Openreach o wybod yr ymagwedd dameidiog er mwyn darparu cyfle iddynt
gydweithio ar ddull cydlynol o weithio i fynd i'r afael ag anghenion y
cymunedau yn well. Cefnogwyd
argymhelliad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar ddiffiniad o ‘gymunedau
gwledig’ gyda BT er mwyn blaenoriaethu’r cymunedau gyda’r diffy cysylltedd
mwyaf. Cadarnhaodd Judith Greenhalgh bod cysylltedd digidol wedi cael ei
gydnabod gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) fel blaenoriaeth
uchel. I sicrhau nad oedd gwaith yn cael ei ddyblygu, awgrymodd i geisio
diweddariad gan BUEGC er mwyn galluogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau
sut y gallant atodi’r cynlluniau gwaith hynny.
Cytunwyd i estyn gwahoddiad i Alwen Williams o’r BUEGC i gyfarfodydd yn
y dyfodol i drafod y mater yn fanylach.
Cytunwyd hefyd i sicrhau a oedd mater wedi cael ei godi fel
blaenoriaethau mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill gyda’r posibilrwydd
ar gyfer dull o weithio ar y cyd er mwyn ymdrechu i gael mwy o ddylanwad mewn trafodaethau
yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru neu BT Openreach. PENDERFYNWYD – (a) bod aelodau’n
nodi’r sefyllfa gyfredol o ran Cysylltedd Digidol (manylion yn Atodiad 1 yr
adroddiad), ynghyd â dadansoddiad o Gryfderau, Cyfyngiadau, Gwendidau a Bygythiadau
ar gyfer bob pwnc; (b) gwahodd Alwen
Williams o BUEGC i gyfarfod yn y dyfodol i drafod y ffrydiau gwaith sy’n cael
eu cynnal i fynd ‘ir afael â chysylltedd digidol yn yr ardal, a (c) cysylltu â
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill i sicrhau a oeddent wedi nodi cysylltedd
digidol fel maes blaenoriaeth gyda’r posibilrwydd o ddarparu ymateb gydlynol
mewn unrhyw drafodaethau gyda Bt Openreach a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ar y pwynt hwn (10.40am) ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
DIWEDDARIAD AR Y FLAENORIAETH LLES MEDDYLIOL PDF 211 KB Cael diweddariad
gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrafod pa gamau gweithredu a gymerir ar lefel
boblogaeth leol i roi sylw i les meddyliol, a phrosiectau posibl cyfredol y
gellir symud ymlaen â nhw i gefnogi'r flaenoriaeth a nodir (copi'n amgaeedig). 10.45 am – 11.20 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn
darparu cefndir i les meddyliol ynghyd â’r camau gweithredu a nodwyd a
phrosiectau arfaethedig i fynd i’r afael â lles meddyliol a chefnogi
blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o wella lles meddyliol i bawb.
Gofynnodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am adolygiad yn sgil pandemig
Covid-19, gan ganolbwyntio ar les pobl ifanc. Darparodd Richard
Firth ychydig o gefndir i’r maes blaenoriaeth a oedd yn arwain at yr adolygiad
diweddaraf, a llywiodd yr aelodau drwy'r gwaith a wnaed ynghylch lles meddyliol
yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac effaith pandemig y coronafeirws. Canfu’r
adroddiad bod y pedwar prosiect posib a nodwyd ar gyfer blaenoriaeth Lles
Meddyliol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn parhau i fod ar gael, ac
argymhellwyd bod dewis yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn benodol yn cael ei
ymgorffori i'r prosiectau o wybod yr effaith sylweddol mae'r pandemig wedi ei
gael ar y grŵp hwnnw, a allai ganolbwyntio ar sefydliadau addysgol. Er y
gellir ystyried y pum maes blaenoriaeth fel endid ar wahân, roedd gorgyffwrdd
sylweddol, ac ailadroddwyd pob un o'r meysydd prosiectau posib a nodwyd, a
restrir isod - ·
Lles
meddyliol y gymuned ffermio/pobl sy’n byw yn y wlad ·
Llyfrgelloedd
ar gyfer lles meddyliol ·
Adfer
y pum ffordd at les meddyliol ·
Tîm Gweithredu Lleol / ICON ·
Lles
Meddyliol mewn Lleoliadau Addysgol Cydnabu’r Aelodau ddilysrwydd pob un o'r prosiectau posib ac fe gafwyd
trafodaeth am ba brosiectau yr oeddent yn dymuno eu symud ymlaen, a lle
gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ychwanegu gwerth i’r gwaith sylweddol
oedd eisoes wedi cael ei gynnal. Yn ystod trafodaeth, mynegwyd cefnogaeth i faes prosiect newydd a nodwyd,
sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc o wybod y dystiolaeth a amlygwyd yn yr
adroddiad, ynghyd â lles meddyliol cymunedau ffermio/gwledig sydd wedi cael eu
heffeithio’n sylweddol gan y pandemig, ynghyd â heriau yn y dyfodol, megis
Brexit. Fel rhan o’r trafodaethau hynny,
nodwyd y gellir integreiddio agweddau o'r tri phrosiect arall i’r ddau faes
blaenoriaeth hynny o wybod natur trawsffiniol y gwaith hwnnw. Amlygwyd y
cysylltiadau rhwng gwaith is-grŵp Cadernid Amgylcheddol a buddion gofodau
gwyrdd, gyda’r flaenoriaeth cefnogi lles meddyliol da, a nododd aelodau bod
cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus
Cymru i drafod y mater. Codwyd y posibilrwydd o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn darparu cefnogaeth a chysylltiadau i’r trydydd sector/sector gwirfoddol, ond
roedd Wendy Jones yn teimlo bod y grwpiau cymunedol hynny’n gweithio orau heb
ymyrraeth neu gyfeiriadaeth. Serch hynny, trafodwyd pwysigrwydd bod sefydliadau
partner yn gwneud eu hunain ar gael i ddarparu cymorth i grwpiau cymunedol pan
caiff eu cysylltu, er mwyn adeiladau ar y cysylltiadau a'r perthnasau
cadarnhaol hynny. Oherwydd diffyg capasiti yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, awgrymwyd
bod aelodau’n enwebu’r personél priodol o fewn eu sefydliadau i gyfrannu at
ddarparu’r prosiectau y cytunwyd arnynt.
PENDERFYNWYD – (a) cadarnhau’r
prosiectau ar gyfer blaenoriaeth lles meddyliol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
fel a ganlyn - ·
Lles meddyliol y gymuned
ffermio/pobl sy’n byw yn y wlad ·
Lles Meddyliol mewn Lleoliadau
Addysgol, a (b) bod pob
sefydliad partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn enwebu unigolyn i eistedd
ar yr is-grŵp Prosiect Blaenoriaeth Lles Meddyliol erbyn diwedd mis
Tachwedd 2020. |
|
ASESIAD LLES A GRANT BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS LLYWODRAETH CYMRU Bydd Nicola
Kneale (CSDd) yn arwain y drafodaeth ar yr eitem lafar hon. 11.20 am – 11.40 am Cofnodion: Rhoddodd Nicola
Kneale ddiweddariad ar lafar ynglŷn â grant Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd
Gwasanaethu Cyhoeddus ac Asesiad Lles. Nid oedd grant blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (tua £85,000 i
ranbarth Gogledd Cymru) wedi cael ei ddyrannu i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf oherwydd Covid-19. O wybod yr ymarfer
ystadegol ac ymgysylltu sylweddol ar Asesiadau Lles oedd fod i gael eu cynnal,
gobeithiwyd y byddai cyllid yn cael ei roi i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn
y flwyddyn ariannol nesaf i helpu gyda datblygu’r gwaith hwnnw. Cynghorwyd Aelodau o Weithgor a sefydlwyd
gan Lywodraeth Cymru i drafod y grant a’r meini prawf, a ffyrdd eraill o
gefnogi'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth gyflawni Asesiadau Lles o wybod y
pwysau sylweddol ar gapasiti sefydliadau partner. Roedd trafodaethau’n cynnwys a ellir
defnyddio'r grant i helpu i gomisiynu capasiti dadansoddol neu olygyddol i
gyflawni'r asesiadau, yn ogystal â, a ellir ennill rhai arbedion maint o
ddefnyddio gwaith ymchwil cenedlaethol a phrofi’r casgliadau hynny ar lefel
leol. Cytunodd y Bwrdd,
petai grant yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, dylid canolbwyntio'r
gwario ar Asesiadau Lles oherwydd eu pwysigrwydd ar gyfer datblygu cynlluniau
strategol yn y dyfodol. Nododd y Bwrdd drafodaethau’r Gweithgor a chefnogi’r
dull o weithio a gymerwyd o ran hynny, a'r achos a wnaed ar gyfer diogelu
cyllid. Nodwyd hefyd y byddai swyddogion yn dechrau rhoi cynllun ar waith ar
gyfer llunio Asesiadau Lles a cytunodd y Bwrdd i dderbyn adroddiad yn eu
cyfarfod nesaf ar y cynnydd mewn perthynas â hynny. Adroddodd y
Cadeirydd ar adolygiad Llywodraeth Cymru o Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r
Dyfodol, ac fe fynychodd sesiwn budd-ddeiliad yn ddiweddar ar ran y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Nodwyd bod sefydliadau cyhoeddus yn disgyn dan y
rheoliadau a bydd gofyn iddynt roi mewnbwn, gyda sesiynau pellach i ddod yn y
misoedd nesaf. Codwyd nifer o faterion
gan sefydliadau, a oedd yn cynnwys diffyg cyllid a’r disgwyliad bod cyflawni’n
rhan o’r swydd, ynghyd â’r lefel o gefnogaeth a dderbyniwyd a'r cydbwysedd
rhwng herio a chraffu. Codwyd materion eraill ynghylch caffael ac ariannu
prosiectau ar y cyd. Roedd sefydliadau wedi cael eu gwahodd i sesiynau yn y
dyfodol gyda Phwyllgor y Senedd i ddarparu adborth o safbwynt sefydliadu, a
byddai'r cadeirydd yn mynd i sesiwn ym mis Ionawr gydag adroddiad i'w ddisgwyl
ym mis Chwefror/Mawrth 2020. PENDERFYNWYD – (a) derbyn yr
adroddiad ar lafar ar Grant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Asesiad Lles, yn
ogystal â dull o weithio y Gweithgor wrth wneud achos am gyllid a chefnogi
cyflawniad yr Asesiad Lles, a (b) cyflwyno
adroddiad cynnydd ar y sefyllfa bresennol ar gyfer llunio Asesiad Lles i
gyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL COFRESTR RISG BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 215 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain y drafodaeth ar yr eitem hon, i adolygu’r Gofrestr Risg Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (copi’n amgaeedig). 11.40 am – 11.50 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nicola
Kneale adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) a oedd yn cyflwyno’r Gofrestr Risg ar
gyfer adolygiad blynyddol. Amlygwyd
diwygiadau ers yr adolygiad diwethaf, fel a ganlyn - BGC 1 - Y risg fod gan y BGC gyllid, adnoddau a chapasiti annigonol i gyflawni'r
blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Lles.
Roedd sgoriau risg cynhenid a gweddillol wedi cael eu hisraddio o A2 i
B3 a D3 a C3 yn ôl eu trefn. BGC 3 - Y risg fod y BGC yn methu sicrhau’r effaith fwyaf bosibl y gall ei gyflawni
drwy ddull cydweithredol. Mae’r sgôr risg gweddilliol wedi ei israddio o B2 i
C2. BGC 5 (risg newydd) - Y risg fod yna donnau pellach o Covid-19 lle
byddai’n ofynnol i aelodau o'r BGC ganolbwyntio eu sylw ar ymateb. Ystyriodd
Aelodau’r risgiau y sgoriau a chamau lliniaru yn y Gofrestr Risg lawn, ynghyd
â’r diwygiadau a amlygwyd ers yr adolygiad diwethaf. PENDERFYNWYD cymeradwyo Cofrestr Risg y BGC. |
|
CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL PDF 352 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig). 11.50 am – 11.55 am Cofnodion: Cyflwynwyd copi o raglen gwaith i'r dyfodol y BGC
a thrafodwyd y materion canlynol - ·
cadarnhawyd yr eitem y cytunwyd arni yn flaenorol
ar y rhaglen ar gyfer cynhwysiant yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol, gan gynnwys
(1) gwahodd Alwen Williams, BUEGC i fynd i gyfarfod yn y dyfodol, (2)
diweddariad ar yr Asesiad Lles a chynllun gan swyddogion, a (3) y diweddariad
arferol ar bob un o flaenoriaethau’r Bwrdd. ·
cadarnhaodd
y cadeirydd y byddai’n cysylltu â Phrifysgol Glyndŵr gyda'r bwriad iddynt
hwyluso sesiwn gweithdy ar gyfer Ionawr (i’w agor i bob is-grŵp). ·
cytuno
i gynnwys y datblygiad fferm wynt ar y môr fel eitem bosib ar gyfer y dyfodol
ac i asesu ei berthnasedd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar yr adeg briodol,
yn benodol yn nhermau unrhyw fuddion cymunedol y gellir eu deillio o’r prosiect
hwnnw. ·
cytuno
i gynnwys eitem i roi diweddariad yn nhermau y cam gweithredu sy’n ymwneud ag
Adroddiad Archwilio Cymru’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo'r rhaglen gwaith i'r dyfodol. |
|
TRACIO CAMAU GWEITHREDU’R CYFARFOD PDF 401 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig). 11.55 am – hanner dydd Cofnodion: Cyflwynwyd copio o ddogfen tracio camau gweithredu’r cyfarfod i’w
hystyried. Nododd Aelodau bod y mwyafrif o’r camau gweithredu
wedi cael eu trafod yn gynharach yn y cyfarfod ac roeddent yn parhau neu eisoes
wedi cael eu cwblhau. O ran cyfarfodydd
Cydgraffu Conwy a Sir Ddinbych yn y dyfodol, nodwyd y byddai’r cyfarfod nesaf
yn cael ei gynnal ar 8 Ionawr, 2021 – byddai’r rhaglen gwaith i'r dyfodol yn
cynnwys diweddariad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â’r
Adroddiad Blynyddol. PENDERFYNWYD nodi'r
cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd. |
|
MATERION YN CODI Bydd y Cadeirydd
yn arwain y drafodaeth ar yr eitem lafar hon. Hanner dydd - 12.05pm Cofnodion: Nododd Aelodau’r
prif faterion sy’n codi o’r cyfarfod - ·
cam
gweithredu ar gyfer sefydliadau partner i roi manylion i Richard Firth (Iechyd
Cyhoeddus Cymru) o’u henwebiadau i eistedd ar yr Is-grŵp Blaenoriaeth Lles
Meddyliol. ·
Yr
Is-grŵp Cefnogi Cadernid Amgylcheddol i ailymweld â’r blaenoriaethau
presennol ac ymgymryd â gwaith cymunedol mewn perthynas â hynny. |
|
AMDDIFFYNFEYDD MÔR HEN GOLWYN – DIWEDDARIAD PDF 1 MB Copi’n amgaeedig
er gwybodaeth Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
PROFI, OLRHAIN, DIOGELU YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 558 KB Copi’n amgaeedig
er gwybodaeth Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
ADRODDIAD CYLLID HYBLYG CONWY PDF 230 KB Copi’n amgaeedig
er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyfraniad. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.42am. |