Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

Hysbyswyd yr Aelodau oherwydd materion technegol, y byddai’r Is-Gadeirydd Judith Greenhalgh (CSDd) yn cadeirio’r cyfarfod.  Roedd y Cadeirydd Sian Williams yn bresennol dros y ffôn (Cyfoeth Naturiol Cymru)

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

 

Teresa Owen - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y Cynghorydd Sam Rowlands – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Nicola Kneale - Cyngor Sir Ddinbych

 

Cadarnhaodd Steve Price (CSDd) bod diweddariad i aelodaeth BGC wedi dechrau. 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 414 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 i’w cymeradwyo.

Materion sy’n Codi -

 

Tudalen 6 – Materion sy’n Codi – cadarnhawyd y byddai cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned yn aelod etholedig.  Roedd yn ymddangos y byddai Un Llais Cymru yn arwain gwaith ar hyn.  Cytunwyd y byddai aelodau etholedig yn cael eu gwahodd i’r BGC ar ôl penderfynu. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

3.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BGC 2018/2019 pdf eicon PDF 850 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol 2018/19 y BGC (copi ynghlwm).

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

 

2.10 p.m – 2.25 p.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd Judith Greenhalgh (CSDd) Adroddiad Blynyddol BGC ar gyfer 2018/19.

 

Rhoddodd Fran Lewis (CBSC) drosolwg byr o’r adroddiad, gofynnwyd i’r aelodau roi sylwadau ar yr adroddiad a chymeradwyo’r cynnwys. 

Eglurwyd bod hwn yr ail adroddiad blynyddol a luniwyd gan y pwyllgor BGC. Roedd y cynnwys o fewn yr adroddiad ar gyfer 2018/19 yn rhoi gwybodaeth mwy cryno oedd yn alinio gwaith yn erbyn y blaenoriaethau BGC.  Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad a’r camau ar y gweill. 

 

Roedd yr Aelodau wedi amlygu’r nifer o gamau melyn yn yr adroddiad.  Oherwydd yr amgylchiadau presennol yn sgil Pandemig Covid-19, roedd aelodau yn deall y byddai gwaith pellach yn y meysydd hyn wedi ei gwblhau.  Dywedwyd bod aelodau yn teimlo bod y gwaith a gwblhawyd yn unol â blaenoriaethau presennol y BGC gyda llawer o waith a chynnydd wedi’i wneud yn y meysydd hyn. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol BGC 2018/19

 

4.

BLAENORIAETHAU LLES A COVID-19 pdf eicon PDF 200 KB

Trafod y blaenoriaethau lles gan roi ystyriaeth i Covid-19 ac ystyried a oes angen gwneud newidiadau (copi ynghlwm).

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

 

2.25 p.m - 3.35 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Iolo McGregor (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi aelodau’r BGC i gyrraedd cytundeb ar yr ymrwymiad i’w flaenoriaethau presennol yn sgil pandemig Covid-19 a pha un a oes angen newidiadau.    Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad a’r ddau atodiad gan gynnwys y broses os cytunir ar newidiadau. 

Roedd Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wedi amlygu’r blaenoriaethau LRS ac Adferiad ar ôl Covid-19, gyda chais i’r BGC edrych ar gyd-nerthu cymunedol a chefnogaeth i gymunedau lleol.  Rhoddodd y Cadeirydd gefndir byr i’r aelodau ar y Bwrdd Adferiad Rhanbarthol (BARh).  Dywedwyd bod y bwrdd yn edrych ar ddull dramatig i faterion a sefyllfaoedd yn dilyn pandemig Covid-19 gan gynnwys edrych ar adferiad a chynllunio posibl ar gyfer ail don o achosion.    Roedd gan y BARh 4 prif faes ffocws oedd yn cynnwys:

1 – Gwaith Tracio, Olrhain a Diogelu;

2 – Adfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

3 – Economi a Thwristiaeth;

4 - Cydnerthu cymunedol

Byddai’r BARh yn gofyn i’r BGC ystyried cyd-nerthu cymunedol ynghyd â’i flaenoriaethau i ychwanegu gwerth i adferiad cymunedol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r atodiadau. Roeddent yn cydnabod yr anhawster i newid blaenoriaethau.  Roedd yr Aelodau yn cytuno bod y blaenoriaethau BGC presennol yn gywir ac yn parhau’n berthnasol i’r gymuned leol.  Teimlwyd bod elfennau o’r blaenoriaethau presennol hyd yn oed yn fwy pwysig ac yn berthnasol yn yr hinsawdd presennol.    Rhoddwyd pwyslais cryf ar iechyd meddwl o fewn y gymuned. 

 

Roedd Bethan Jones (Cyfarwyddwr Rhanbarth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yn gwneud awgrym bod angen pwysais gwahanol o fewn y blaenoriaethau, gan gyfeirio’n benodol at allgau digidol, iechyd meddwl ac ymfudiad Roedd Aelodau yn trafod yr awgrymiadau hyn yn fwy manwl.  Nodwyd pwysigrwydd technoleg ac roedd ymgysylltu digidol wedi’i arsylwi yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd aelodau yn mynegi pryderon nad oedd gan bob aelod o’r cyhoedd fynediad i dechnoleg neu’n gallu cysylltu â thechnoleg.    Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud â chymunedau gwledig heb fynediad i TG a thechnoleg.

Pwysleisiwyd yr effaith tymor hir ar iechyd meddwl pobl o bob oed o fewn y gymuned.  Trafodwyd yr effaith ar addysg tymor hir plant ifanc a’r anghenion datblygu a allai godi o’r pandemig. 

Roedd yr aelodau yn trafod y gall y cynnydd mewn pobl yn symud i Ogledd Cymru gynyddu materion fel digartrefedd, cyflogaeth a’r effaith ar breswylwyr lleol. 

Teimlwyd y gall y rhain i gyd ddod o fewn y blaenoriaethau presennol gan y BGC.

 

Roedd y Cadeirydd yn atgoffa’r aelodau am y dair flaenoriaeth bresennol gan y BGC oedd yn cynnwys:

a. Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed b. Cymuned - Rhoi grym i gymunedau Lle – cefnogi cadernid amgylcheddol.

 

Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr at bob BGC, i ofyn am gyfrannu at y trafodaethau ynglŷn â chynllunio rhanbarthol ar gyfer adferiad mewn ymateb i Covid.

Roedd yr Aelodau yn cytuno bod y tri maes lefel uchel o’r blaenoriaethau presennol yn parhau’n briodol ac yn berthnasol.  Roedd y pwyllgor yn edrych ar bob un o’r dair blaenoriaeth yn unigol ac yn trafod unrhyw newidiadau. 

 

Pobl – roedd yr Aelodau yn cytuno i gynnwys lles meddyliol unigolion yn arbennig edrych ar les meddyliol pobl ifanc, teimlwyd bod gan y BGC rôl i fonitro ac ymchwilio effaith Covid.  Yn yr un modd, teimlwyd bod angen y cydbwysedd cywir o ymchwil i’r effaith ar iechyd meddwl pob oedran o fewn y gymuned.  Teimlwyd y byddai’n bwysig edrych ar hyn ar lefel leol a lefel ranbarthol. 

Roedd yr aelodau yn cytuno i ofyn am ymchwil pellach i’r pedwar prif faes ar gyfer darparu  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CYNNIG CEFNOGAETH pdf eicon PDF 333 KB

Bydd Fran Lewis (CBSC) yn arwain y drafodaeth hon (copi ynghlwm).

 

a. Adeilad Cyfoeth Cymunedol, Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol;

b. Cenhadaeth Ddinesig y BGC, Prifysgol Glyndŵr

 

3.35 p.m. – 3.45 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fran Lewis (CCBC) guided members through the documents (previously circulated). 

 

a. Community Wealth Building, The Centre for Local Economic Strategies (CLES) -

It was explained the first correspondence had been due to presented to members in March. Further correspondence had since been received to ask if PSB members and officers felt it was required. The letter had invited PSB members to attend a workshop, designed to look at community wealth building in Conwy and Denbighshire.  A formal response from members had been requested.

 

During discussion members highlighted work had begun to address local economic recovery in Conwy and Denbighshire. Progression had been made from other services in both authorities, with emphasis on the importance of procurement being highlighted.  Work regionally in this area would be valuable.  It was noted that a procurement representative from all authorities attends a North Wales Social Value forum that included work done regionally and locally in this area. Members felt the best forum to address this work would be the Roedd Fran Lewis (CBSC) yn arwain yr aelodau drwy’r ddogfen (dosbarthwyd yn flaenorol) 

 

a. Adeilad Cyfoeth Cymunedol, Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol -

Eglurwyd fod yr ohebiaeth gyntaf i fod i gael ei chyflwyno i’r aelodau ym mis Mawrth.  Derbyniwyd gohebiaeth bellach ers hynny yn gofyn os oedd aelodau a swyddogion BGC yn teimlo bod ei angen.  Roedd y llythyr yn gwahodd aelodau’r BGC i fynychu gweithdy, a ddyluniwyd i edrych ar adeilad cyfoeth cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.    Gofynnwyd am ymateb ffurfiol gan yr aelodau. 

 

Yn ystod trafodaeth roedd yr aelodau yn amlygu fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael ag adferiad economaidd lleol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Roedd cynnydd wedi’i wneud mewn gwasanaethau eraill yn y ddau awdurdod, gyda phwyslais ar bwysigrwydd caffael yn cael ei amlygu.    Byddai gwaith rhanbarthol yn y maes hwn yn werthfawr.    Nodwyd bod cynrychiolydd caffael o bob awdurdod yn mynychu fforwm Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru oedd yn cynnwys gwaith a wnaed yn rhanbarthol ac yn lleol yn y maes hwn.  Roedd aelodau yn teimlo mai’r fforwm gorau i fynd i’r afael â’r gwaith hwn oedd elfen datblygu economaidd o’r rhaglen waith adfer.

 

b. Cenhadaeth Ddinesig BGC, Prifysgol Glyndŵr – gwahoddiad (copi ynghlwm) i wahodd aelodau BGC i weithdy wedi’i hwyluso gan Brifysgol Glyndŵr i drafod anghydraddoldeb cymdeithasol. Amlygwyd bod adborth cadarnhaol gan Sir y Fflint a Wrecsam yn dilyn gweithdy tebyg wedi cynnwys gwaith adolygu a mynd i’r afael â’u blaenoriaethau BGC.   

Roedd y Cadeirydd yn awgrymu bod angen mwy o wybodaeth a manylion pellach ar y wybodaeth o fewn y gweithdy.  Roedd yr aelodau yn cytuno i’r Cadeirydd, Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru), gysylltu â Phrifysgol Glyndŵr a Ken Perry, y cyflwynydd am fwy o wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD;

       I.        Cytunodd yr Aelodau i gyfeirio'r gwaith hwn at NWEAB;

      II.                Sian Williams i gysylltu â Ken Perry i ofyn am fwy o wybodaeth a darparu adborth i aelodau.    

 

6.

CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 438 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon (copi ynghlwm).

 

a.      C&D Tracker gweithredu PSB

 

b.   Cynllun Gwaith I'r Dyfodol- Gwag

 

3.35 p.m. – 3.45 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd traciwr gweithredu a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. 

 

Gwnaed sylwadau gan yr aelodau ar yr un cam gweithredu coch yn y Traciwr Gweithredu BGC. Nodwyd bod y cam gweithredu yn cynnwys dyddiad Rhagfyr 2018.  Yn dilyn trafodaeth, daeth aelodau i’r casgliad fod y cam wedi’i ddisodli a gellir ei farcio wedi’i gwblhau. 

 

Cadarnhawyd y byddai cyfarfod nesaf y BGC ar 21 Medi 2020.  Cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal o bell.  Daeth yr aelodau i’r casgliad y byddai’r eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf:

·         Blaenoriaethau BGC diwygiedig;

·         Diweddariad ar themâu BGC;

·         Adroddiad adborth o elfennau adfer a phwyllgorau. 

·         Perfformiad Tracio, Olrhain a Diogelu (er gwybodaeth)

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Evans yn mynegi pryderon am y trefniadau Tracio, Olrhain a Diogelu rhanbarthol mewn perthynas ag ail don.  I alluogi aelodau gael mwy o ddealltwriaeth leol am waith a gwblhawyd yn lleol i leihau’r risg i Gonwy a Sir Ddinbych.    Cytunodd yr aelodau i ofyn am adroddiad ar berfformiad y Tracio, Olrhain a Diogelu yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn y cyfarfod nesaf.      

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyda’r diweddariadau fel yr uchod.

 

7.

ADOLYGIAD SAC O BARTNERIAETHAU STRATEGOL pdf eicon PDF 3 MB

Copi ynghlwm er gwybodaeth.

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig.

8.

CRONFA GOFAL INTEGREDIG - BWRDD PARTNERIAETHAU RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 2 MB

Copi ynghlwm er gwybodaeth.

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig.

 

9.

ADRODDIAD CRONFA GOFAL INTEGREDIG pdf eicon PDF 2 MB

Copi ynghlwm er gwybodaeth.

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig.

 

Diolchodd y Cadeirydd, Sian Williams i Judith Greenhalgh, Is-Gadeirydd am gadeirio’r cyfarfod. 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.00pm.