Agenda and draft minutes
Rhif | Eitem |
---|---|
Hysbyswyd yr
Aelodau oherwydd materion technegol, y byddai’r Is-Gadeirydd Judith Greenhalgh
(CSDd) yn cadeirio’r cyfarfod. Roedd y
Cadeirydd Sian Williams yn bresennol dros y ffôn (Cyfoeth Naturiol Cymru) |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan: Teresa Owen -
Iechyd Cyhoeddus Cymru Y Cynghorydd Sam Rowlands – Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy Nicola Kneale - Cyngor Sir Ddinbych Cadarnhaodd Steve Price (CSDd) bod diweddariad i
aelodaeth BGC wedi dechrau. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 414 KB Cymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 i’w cymeradwyo. Materion sy’n
Codi - Tudalen 6 –
Materion sy’n Codi – cadarnhawyd y byddai cynrychiolydd Cynghorau Tref a
Chymuned yn aelod etholedig. Roedd yn
ymddangos y byddai Un Llais Cymru yn arwain gwaith ar hyn. Cytunwyd y byddai aelodau etholedig yn cael eu
gwahodd i’r BGC ar ôl penderfynu. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BGC 2018/2019 PDF 850 KB Derbyn Adroddiad Blynyddol 2018/19 y BGC (copi ynghlwm). Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon. 2.10 p.m – 2.25 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd Judith Greenhalgh (CSDd) Adroddiad Blynyddol BGC ar gyfer
2018/19. Rhoddodd Fran Lewis (CBSC) drosolwg byr o’r adroddiad, gofynnwyd i’r
aelodau roi sylwadau ar yr adroddiad a chymeradwyo’r cynnwys. Eglurwyd bod hwn yr ail adroddiad blynyddol a luniwyd gan y pwyllgor BGC.
Roedd y cynnwys o fewn yr adroddiad ar gyfer 2018/19 yn rhoi gwybodaeth mwy
cryno oedd yn alinio gwaith yn erbyn y blaenoriaethau BGC. Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad
a’r camau ar y gweill. Roedd yr Aelodau wedi amlygu’r nifer o gamau melyn yn yr adroddiad. Oherwydd yr amgylchiadau presennol yn sgil
Pandemig Covid-19, roedd aelodau yn deall y byddai gwaith pellach yn y meysydd
hyn wedi ei gwblhau. Dywedwyd bod
aelodau yn teimlo bod y gwaith a gwblhawyd yn unol â blaenoriaethau presennol y
BGC gyda llawer o waith a chynnydd wedi’i wneud yn y meysydd hyn. PENDERFYNWYD
cymeradwyo Adroddiad
Blynyddol BGC 2018/19 |
|
BLAENORIAETHAU LLES A COVID-19 PDF 200 KB Trafod y blaenoriaethau lles gan roi ystyriaeth i
Covid-19 ac ystyried a oes angen gwneud newidiadau (copi ynghlwm). Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon. 2.25 p.m - 3.35 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Iolo
McGregor (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi aelodau’r BGC
i gyrraedd cytundeb ar yr ymrwymiad i’w flaenoriaethau presennol yn sgil
pandemig Covid-19 a pha un a oes angen newidiadau. Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad
a’r ddau atodiad gan gynnwys y broses os cytunir ar newidiadau. Roedd
Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wedi amlygu’r blaenoriaethau LRS ac
Adferiad ar ôl Covid-19, gyda chais i’r BGC edrych ar gyd-nerthu cymunedol a
chefnogaeth i gymunedau lleol. Rhoddodd
y Cadeirydd gefndir byr i’r aelodau ar y Bwrdd Adferiad Rhanbarthol
(BARh). Dywedwyd bod y bwrdd yn edrych
ar ddull dramatig i faterion a sefyllfaoedd yn dilyn pandemig Covid-19 gan
gynnwys edrych ar adferiad a chynllunio posibl ar gyfer ail don o
achosion. Roedd gan y BARh 4 prif faes
ffocws oedd yn cynnwys: 1 –
Gwaith Tracio, Olrhain a Diogelu; 2 –
Adfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol; 3 –
Economi a Thwristiaeth; 4 -
Cydnerthu cymunedol Byddai’r
BARh yn gofyn i’r BGC ystyried cyd-nerthu cymunedol ynghyd â’i flaenoriaethau i
ychwanegu gwerth i adferiad cymunedol. Diolchodd
yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r atodiadau. Roeddent yn
cydnabod yr anhawster i newid blaenoriaethau.
Roedd yr Aelodau yn cytuno bod y blaenoriaethau BGC presennol yn gywir
ac yn parhau’n berthnasol i’r gymuned leol.
Teimlwyd bod elfennau o’r blaenoriaethau presennol hyd yn oed yn fwy
pwysig ac yn berthnasol yn yr hinsawdd presennol. Rhoddwyd pwyslais cryf ar iechyd meddwl o
fewn y gymuned. Roedd
Bethan Jones (Cyfarwyddwr Rhanbarth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
yn gwneud awgrym bod angen pwysais gwahanol o fewn y blaenoriaethau, gan
gyfeirio’n benodol at allgau digidol, iechyd meddwl ac ymfudiad Roedd Aelodau
yn trafod yr awgrymiadau hyn yn fwy manwl.
Nodwyd pwysigrwydd technoleg ac roedd ymgysylltu digidol wedi’i arsylwi
yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd aelodau yn mynegi pryderon nad oedd gan bob
aelod o’r cyhoedd fynediad i dechnoleg neu’n gallu cysylltu â thechnoleg. Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud â
chymunedau gwledig heb fynediad i TG a thechnoleg. Pwysleisiwyd
yr effaith tymor hir ar iechyd meddwl pobl o bob oed o fewn y gymuned. Trafodwyd yr effaith ar addysg tymor hir
plant ifanc a’r anghenion datblygu a allai godi o’r pandemig. Roedd
yr aelodau yn trafod y gall y cynnydd mewn pobl yn symud i Ogledd Cymru gynyddu
materion fel digartrefedd, cyflogaeth a’r effaith ar breswylwyr lleol. Teimlwyd
y gall y rhain i gyd ddod o fewn y blaenoriaethau presennol gan y BGC. Roedd
y Cadeirydd yn atgoffa’r aelodau am y dair flaenoriaeth bresennol gan y BGC
oedd yn cynnwys: a. Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed b. Cymuned - Rhoi
grym i gymunedau Lle – cefnogi cadernid amgylcheddol. Amlygwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr at bob BGC, i ofyn am gyfrannu at y
trafodaethau ynglŷn â chynllunio rhanbarthol ar gyfer adferiad mewn ymateb
i Covid. Roedd yr
Aelodau yn cytuno bod y tri maes lefel uchel o’r blaenoriaethau presennol yn
parhau’n briodol ac yn berthnasol. Roedd
y pwyllgor yn edrych ar bob un o’r dair blaenoriaeth yn unigol ac yn trafod
unrhyw newidiadau. Pobl – roedd yr
Aelodau yn cytuno i gynnwys lles meddyliol unigolion yn arbennig edrych ar les
meddyliol pobl ifanc, teimlwyd bod gan y BGC rôl i fonitro ac ymchwilio effaith
Covid. Yn yr un modd, teimlwyd bod angen
y cydbwysedd cywir o ymchwil i’r effaith ar iechyd meddwl pob oedran o fewn y
gymuned. Teimlwyd y byddai’n bwysig
edrych ar hyn ar lefel leol a lefel ranbarthol.
Roedd yr aelodau yn cytuno i ofyn am ymchwil pellach i’r pedwar prif faes ar gyfer darparu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Bydd Fran Lewis (CBSC) yn arwain y drafodaeth hon (copi ynghlwm). a. Adeilad Cyfoeth
Cymunedol, Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol; b. Cenhadaeth Ddinesig y BGC, Prifysgol
Glyndŵr 3.35 p.m. – 3.45 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fran
Lewis (CCBC) guided members through the documents (previously circulated). a. Community
Wealth Building, The Centre for Local Economic Strategies (CLES) - It
was explained the first correspondence had been due to presented to members in
March. Further correspondence had since been received to ask if PSB members and
officers felt it was required. The letter had invited PSB members to attend a
workshop, designed to look at community wealth building in Conwy and
Denbighshire. A formal response from
members had been requested. During
discussion members highlighted work had begun to address local economic
recovery in Conwy and Denbighshire. Progression had been made from other
services in both authorities, with emphasis on the importance of procurement
being highlighted. Work regionally in
this area would be valuable. It was
noted that a procurement representative from all authorities attends a North
Wales Social Value forum that included work done regionally and locally in this
area. Members felt the best forum to address this work would be the Roedd Fran Lewis (CBSC) yn arwain yr aelodau drwy’r ddogfen (dosbarthwyd
yn flaenorol) a. Adeilad
Cyfoeth Cymunedol, Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol - Eglurwyd fod yr ohebiaeth
gyntaf i fod i gael ei chyflwyno i’r aelodau ym mis Mawrth. Derbyniwyd gohebiaeth bellach ers hynny yn
gofyn os oedd aelodau a swyddogion BGC yn teimlo bod ei angen. Roedd y llythyr yn gwahodd aelodau’r BGC i
fynychu gweithdy, a ddyluniwyd i edrych ar adeilad cyfoeth cymunedol yng
Nghonwy a Sir Ddinbych. Gofynnwyd am
ymateb ffurfiol gan yr aelodau. Yn ystod trafodaeth roedd yr
aelodau yn amlygu fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael ag adferiad
economaidd lleol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Roedd cynnydd wedi’i wneud mewn gwasanaethau eraill yn y ddau awdurdod,
gyda phwyslais ar bwysigrwydd caffael yn cael ei amlygu. Byddai gwaith rhanbarthol yn y maes hwn yn
werthfawr. Nodwyd bod cynrychiolydd
caffael o bob awdurdod yn mynychu fforwm Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru oedd
yn cynnwys gwaith a wnaed yn rhanbarthol ac yn lleol yn y maes hwn. Roedd aelodau yn teimlo mai’r fforwm gorau i
fynd i’r afael â’r gwaith hwn oedd elfen datblygu economaidd o’r rhaglen waith
adfer. b. Cenhadaeth Ddinesig BGC, Prifysgol Glyndŵr – gwahoddiad (copi
ynghlwm) i wahodd aelodau BGC i weithdy wedi’i hwyluso gan Brifysgol
Glyndŵr i drafod anghydraddoldeb cymdeithasol. Amlygwyd bod adborth
cadarnhaol gan Sir y Fflint a Wrecsam yn dilyn gweithdy tebyg wedi cynnwys
gwaith adolygu a mynd i’r afael â’u blaenoriaethau BGC. Roedd y Cadeirydd yn awgrymu
bod angen mwy o wybodaeth a manylion pellach ar y wybodaeth o fewn y
gweithdy. Roedd yr aelodau yn cytuno i’r
Cadeirydd, Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru), gysylltu â Phrifysgol Glyndŵr
a Ken Perry, y cyflwynydd am fwy o wybodaeth. PENDERFYNWYD;
I.
Cytunodd yr Aelodau i gyfeirio'r
gwaith hwn at NWEAB; II.
Sian
Williams i gysylltu â Ken Perry i ofyn am fwy o wybodaeth a darparu adborth i
aelodau.
|
|
CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL PDF 438 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain
yr eitem hon (copi ynghlwm). a. C&D Tracker gweithredu
PSB b.
Cynllun Gwaith I'r Dyfodol-
Gwag 3.35 p.m. – 3.45 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
traciwr gweithredu a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried.
Gwnaed sylwadau
gan yr aelodau ar yr un cam gweithredu coch yn y Traciwr Gweithredu BGC. Nodwyd
bod y cam gweithredu yn cynnwys dyddiad Rhagfyr 2018. Yn dilyn trafodaeth, daeth aelodau i’r
casgliad fod y cam wedi’i ddisodli a gellir ei farcio wedi’i gwblhau. Cadarnhawyd y
byddai cyfarfod nesaf y BGC ar 21 Medi 2020.
Cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal o bell. Daeth yr aelodau i’r casgliad y byddai’r
eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y
cyfarfod nesaf: ·
Blaenoriaethau
BGC diwygiedig; ·
Diweddariad
ar themâu BGC; ·
Adroddiad
adborth o elfennau adfer a phwyllgorau. ·
Perfformiad
Tracio, Olrhain a Diogelu (er gwybodaeth) Roedd y
Cynghorydd Hugh Evans yn mynegi pryderon am y trefniadau Tracio, Olrhain a Diogelu
rhanbarthol mewn perthynas ag ail don. I
alluogi aelodau gael mwy o ddealltwriaeth leol am waith a gwblhawyd yn lleol i
leihau’r risg i Gonwy a Sir Ddinbych.
Cytunodd yr aelodau i ofyn am adroddiad ar berfformiad y Tracio, Olrhain
a Diogelu yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
gyda’r diweddariadau fel yr uchod. |
|
ADOLYGIAD SAC O BARTNERIAETHAU STRATEGOL PDF 3 MB Copi ynghlwm er
gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth yn unig. |
|
CRONFA GOFAL INTEGREDIG - BWRDD PARTNERIAETHAU RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU PDF 2 MB Copi ynghlwm er
gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
ADRODDIAD CRONFA GOFAL INTEGREDIG PDF 2 MB Copi ynghlwm er
gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
Diolchodd y
Cadeirydd, Sian Williams i Judith Greenhalgh, Is-Gadeirydd am gadeirio’r
cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 4.00pm. |