Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Coed Pella, Conwy Road, Colwyn Bay LL29 7AZ

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Y Cyng. Hugh Evans – Cyngor Sir Ddinbych

Y Cyng. Sam Rowlands – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Jason Devonport – Heddlu Gogledd Cymru

Teresa Owen - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sam Owen - Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 468 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Tudalen 8- Adolygu Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) - cadarnhawyd bod un Cynghorydd Tref a Chymuned o Gonwy ac un Cynghorydd Tref a Chymuned o Sir Ddinbych yn cael eu cynnwys yn aelodaeth y PSB.

 

Cadarnhawyd y byddwn yn cysylltu â Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned Conwy i gyflwyno cynrychiolydd ac y byddwn yn cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych i ofyn am gynrychiolydd.   Ar ôl cytuno ar ddau gynrychiolydd, byddent yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd y PSB.

 

Cadarnhawyd y byddai gwahoddiad yn cael ei anfon at Gartrefi Cymunedol Cymru i gyflwyno cynrychiolydd tai i fynychu cyfarfodydd PSB.

 

PENDERFYNWYD

  1. Bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd ac y dylid archwilio hyn ymhellach cyn cyflwyno gwahoddiad. 
  2. Cysylltu â Chartrefi Cymunedol Cymru i gael enwebiad a fyddai’n cynrychioli Conwy a Sir Ddinbych ar y Bwrdd.  

 

 

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FLAENORIAETHAU’R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 221 KB

Hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

 

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) (copi ynghlwm)

 

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm)

2.15 p.m.– 3.00 P.M.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a)  Lles Meddyliol

 

Cyflwynodd Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru) y wybodaeth ddiweddaraf ar flaenoriaeth Lles Meddyliol.  Cadarnhaodd bod gwaith yn dechrau datblygu ar y flaenoriaeth hon, gyda chyfarfodydd wedi’u cynnal gyda BIPBC a Thîm Gweithredu Lleol (LIT) ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych.  

 

Yn edrych ar ganolbwynt gwledig ynghyd ag effaith Brexit.   Roedd gwaith llyfrgelloedd yn parhau gan gysylltu gyda LIT (Tîm Gweithredu Lleol) ac ICAN.   Roeddent yn sefydlu hyfforddiant iechyd meddwl a hunanladdiad ac yn gobeithio mynd â hynny ymhellach.   Byddai papur yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu i holl aelodau’r PSB.

 

Roedd adroddiad yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, gyda mesuriadau data ar gael mewn oddeutu wythnos.  Bydd hyn yn darparu’r sefyllfa ddiweddaraf ar y flaenoriaeth ac yn cynnwys dewisiadau ar gyfer symud elfen o’r gwaith ymlaen.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod y papur yn cael ei ddosbarthu i’r Bwrdd ddechrau mis Ionawr, i’w ystyried gan yr Aelodau.

 

Cytunwyd y byddai nodyn briffio cyn y cyfarfod yn cael ei gyflwyno gyda phecyn y rhaglen yn y dyfodol. 

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

 

Hysbysodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, y Bwrdd bod gwaith partneriaeth yn gweithio'n dda gyda chyfleoedd ar gyfer cydweithio'n cael eu harchwilio.   Bydd yr is-grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2020 i symud ymlaen â’r gwaith hwn. 

 

O ran rhaglen Ymwybyddiaeth o Ddementia dan arweiniad y Gymuned, nodwyd bod cryn dipyn o waith dan arweiniad y gymuned wedi'i weithredu.   Ym mis Ionawr 2020 bydd gwaith cynllunio ar gyfer wythnos Cyfeillgar i Ddementia yn dechrau yn barod ar gyfer Mai 2020.   Awgrymwyd bod y PSB yn cymryd dull cydweithredol i gefnogi gweithgareddau yn ystod Wythnos Dementia.

 

Hysbysodd HW yr aelodau bod DVSC wedi bod yn dderbynnydd llwyddiannus Cronfa Her yr Economi Sylfaenol i gefnogi ail-agor Neuadd y Farchnad Rhuthun gyda Chyngor Sir Ddinbych.   Bydd Neuadd y Farchnad yn cael ei rhedeg fel Menter Gymdeithasol i gefnogi twf economaidd cynhwysol yn yr ardal.  Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Rhuthun a phapurau’n cael eu rhannu gan Lywodraeth Cymru.  

 

Nid oedd gwaith ar ddigartrefedd wedi’i ddarparu oherwydd materion capasiti.    Cadarnhawyd cyn y gellir darparu diweddariad, roedd angen blaenoriaethu materion a chynnal gwaith pellach.   Roedd y Loteri Genedlaethol wedi darparu cyllid blaenoriaeth ar gyfer cynlluniau digartrefedd.

 

(c)  Gwydnwch amgylcheddol

 

Darparodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) y wybodaeth ddiweddaraf ar Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Yn dilyn cymeradwyaeth yr Addewidion Cymunedol ym mis Gorffennaf 2019 gan y Bwrdd, mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda thîm marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi ymgysylltiad y cynllun.   Mae cyfarfod wedi’i drefnu gyda Swyddogion Cyfathrebu o sefydliadau partner PSB i rannu a cheisio safbwyntiau ar y gwaith hwn a thrafod sut y gall partneriaid gynorthwyo i hyrwyddo ac annog cyfranogiad yn y cynllun.

 

Bydd yr Addewidion Cymunedol yn cael eu lansio’n ffurfiol yn y Flwyddyn Newydd.   Yn y cyfamser mae swyddogion yn defnyddio gweithgareddau ymgysylltu partneriaid fel lansiad ysgafn o’r cynllun i hysbysu grwpiau o ran sut y gallant gael cyfranogiad.

 

Roedd Datganiad y Sefyllfa Amgylcheddol wedi’i ddiwygio i ganolbwyntio ar 2 faes ymrwymiad, Carbon ac Ynni ac Addasu Newid Hinsawdd.

 

Hysbysodd FL yr aelodau bod mesurau drafft wedi’u nodi, ond roedd rhai camau gweithredu lle na nodwyd mesurau ar gyfer rhai camau gweithredu gan fod angen gwaith pellach i nodi’r cyfeiriad.   Bydd is-grŵp yr amgylchedd yn ailymgynnull yn y Flwyddyn Newydd i symud ymlaen â’r gwaith ac i gadarnhau’r mesuryddion perfformiad.  

 

Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer Bwrdd Rhaglen Amgylchedd Rhanbarthol gan y Cadeirydd.  

 

Yn dilyn digwyddiad amgylcheddol rhanbarthol a gynhaliwyd ym mis Medi 2019, roedd cynigion i sefydlu  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O FYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS– DRAFFT CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 3 MB

Derbyn Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – (copi ynghlwm)

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

3.00 p.m.– 3.20 P.M.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad Adolygiad PSB WAO - Drafft Cynllun Gweithredu (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion, yn ymwneud yn bennaf â chysylltiad gyda chymunedau a gwella craffu.

 

Trafodwyd y Cynllun Gweithredu drafft.   O ran argymhelliad 3A, ystyriodd yr aelodau y dylid defnyddio'r cynllun lles i gyflawni cynlluniau eraill.  Cytunwyd gan fod y cynllun lles wedi'i ddatblygu, yn dilyn ymgysylltiad helaeth, ac nad oes cynlluniau i ddiwygio eu blaenoriaethau, ni fyddai'n briodol cyflawni ymrwymiadau eraill ar hyn o bryd.   Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried hyn fel rhan o gynllun lles nesaf y PSB.

 

Cadarnhawyd bod y Cynllun Gweithredu drafft yn cael ei ddiweddaru o safbwynt yr Awdurdod Lleol, byddai’r Cynllun Gweithredu’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgorau Archwilio ynghyd â Chydbwyllgor Craffu’r PSB.

 

PENDERFYNWYD

  1. bod y cynllun gweithredu’n cael ei gymeradwyo'n dilyn y diwygiadau a awgrymwyd.
  2. Bod yr asesiad o effaith ar les yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth 2020.
  3. Bod y Bwrdd yn cefnogi Egwyddorion Ymgysylltu Cenedlaethol Cyfranogaeth Cymru
  4. Bod y Cynllun Gweithredu Drafft yn cael ei ddiweddaru a’i gyflwyno i Gydbwyllgor Craffu’r PSB a’r Pwyllgorau Archwilio.

 

 

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRANT RHANBARTHOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 331 KB

Derbyn diweddariad ar Grant Rhanbarthol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru (copi ynghlwm).

Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd) a Nicola Kneale (CSDd)

3.20 p.m.– 3.30 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale, adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am Grant Rhanbarthol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru.

 

Cyfanswm Grant Cefnogaeth PSB 2019/20 ar gyfer Gogledd Cymru gan Lywodraeth Cymru oedd £83,117.00. Roedd y cyllid yn cael ei gynnig ar ôl troed ehangach yn adlewyrchu ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol i geisio annog mabwysiadu dull cyson a lleihau dyblygu ymdrechion ar draws y PSBau.

 

Trafodwyd crynodeb y cynnig a chymeradwyaeth.  

 

Cadarnhawyd bod pob PSB ar gam gwahanol o ran datblygiad, asesu lles lleol a chynlluniau lles.   Roedd gwaith ar y meysydd hynny'n dameidiog a graddol ond yn parhau i ddatblygu drwy gydol y flwyddyn.   Roedd llawer o weithgarwch i gefnogi’r PSBau hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o fusnes presennol yr awdurdodau partner ac yn cael eu derbyn yn unol â'r capasiti sydd ar gael.

 

PENDERFYNWYD:

·         bod yr aelodau’n nodi’r cynnydd presennol mewn perthynas â dyraniad a gwariant Grant Cefnogaeth PSB ar gyfer 2019/20.

·         Dylai prosiectau PSB Conwy a Sir Ddinbych sydd wedi derbyn dyraniad o arian ond sydd heb wario eu dyraniad eto sicrhau bod anfonebau’n cael eu hanfon at Sir Ddinbych i’w prosesu neu gytuno i ddyrannu unrhyw danwariant posibl yn nyraniad y PSB i ategu at gronfa Prosiect Ymchwil Teithio.

 

 

7.

IECHYD A LLES pdf eicon PDF 584 KB

(a)  Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol I’w gadarnhau

(b)  Cyflwyniad ar y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu Lleol (Tesni Hadwin)

(c)  Ystyried cynigion ar gyfer cyllid trawsnewidiol 2020/21 (Bethan Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) (copi ynghlwm)

3.30 p.m.– 4.10 p.m.

 

 

Cofnodion:

(a)  Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol – nid oedd modd i gynrychiolwyr fynychu.  

Bydd yr eitem hon yn cael ei gohirio i gyfarfod yn y dyfodol.

 

(b)  Cyflwynodd Tesni Hadwin, Rheolwr Gwasanaethau Pobl Ddiamddiffyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu Lleol (LIT).  

 

Lansiwyd LIT yn 2017. Diben LIT yw darparu tîm amlddisgyblaethol, o'r gwaelod i'r brig, yn seiliedig ar le i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles, cytuno ar fodel gofal sy'n ofynnol yn lleol a chynhyrchu dewisiadau ar gyfer model amlddisgyblaethol sy'n gwella canlyniadau gwella pobl.   Mae LIT yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl sydd yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  

 

Ym mis Tachwedd 2019, dyfarnwyd £2,320,000 ar gyfer elfen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar gyfer Gogledd Cymru o'r Cyllid Trawsnewid.   Bwriad y gronfa oedd diwallu costau ychwanegol â chyfyngiad amser o gyflwyno modelau iechyd a gofal cymdeithasol newydd.  

 

Mae gwaith LIT yn gysylltiedig â llwybr integredig ICAN, yn symud o ymyraethau lefel isel i gefnogaeth lefel uchel -

·         Canolfan Gymunedol ICAN

·         Gofal Sylfaenol ICAN

·         Gofal heb ei drefnu ICAN, a

·         ICAN + cam i fyny / cam i lawr

 

Mae ymgyrch ICAN yn ceisio -

·         Rhoi llais i bobl gyda phrofiad bywyd

·         Symud canolbwynt gofal i atal ac ymyrraeth gynnar

·         Grymuso pobl i gynnal eu hiechyd meddwl a lles, ac

·         Annog sgyrsiau agored a llawn gwybodaeth am iechyd meddwl.

 

I gyflawni’r nodau, mae’r LIT wedi datblygu-

·         Llwybr cefnogaeth iechyd meddwl newydd ICAN

·         Rhaglen cyflogaeth gwaith ICAN

·         Hyfforddiant iechyd meddwl ICan

·         Cyfleoedd i wirfoddoli ICan

 

Hysbyswyd yr aelodau bod sawl canolfan gymunedol ICan wedi’u sefydlu ar draws Conwy a Sir Ddinbych, rhai ohonynt yn lansio ym mis Ionawr 2020. Mae’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth yn amrywio o un ganolfan i’r llall.   Mae hyn yn rhan o waith LIT i ymgymryd â newid y system gyfan ac ail-fuddsoddi adnoddau i fodel atal, er mwyn i bobl gael cefnogaeth gan ystod o ddewisiadau yn y gymuned.    

 

Hysbyswyd yr aelodau bod cynlluniau i ymgeisio ar gyfer rhagor o ganolfannau, yn bennaf yn y Rhyl a Llandudno.   Fodd bynnag mae angen sicrhau bod darpariaeth gyfartal ar draws y rhanbarthau, megis mewn ardaloedd gwledig.  Mae’r LIT hefyd yn dymuno datblygu model cymunedol cydweithredol.

 

Diolchodd y Bwrdd i Tesni am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf .

 

(c)  Darparodd Bethan Jones, BIPBC, adroddiad cryno o’r cynigion ar gyfer cyllid trawsnewid 2020/21.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant trawsnewid, ac yn hytrach na dyrannu’r cyllid, roedd yn rhaid cyflwyno cynigion ar gyfer yr arian.   Mae’r rhaglen wedi sefydlu pedwar prosiect, 

·         Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol – canolbwyntio ar ddatblygu lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol cyfunol (yn seiliedig ar ddaearyddiaeth y clystyrau gofal sylfaenol) a datblygu cysylltiadau gyda'r Timau Adnoddau Cymunedol.   Mae pedwar clwstwr ar draws Conwy a Sir Ddinbych.

·         Ymyrraeth gynnar a chefnogaeth ddwys integredig ar gyfer plant a phobl ifanc- yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel rhan o’r weledigaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau di-dor ar sail ardal.

·         Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru -  yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gofal brys integredig di-dor ar gyfer unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl neu sydd angen cefnogaeth ar unwaith. Mae prosiectau tebyg yn gweithredu yng Ngwynedd ac Ynys Môn a Sir y Fflint a Wrecsam.

·         Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd:

Datblygu model di-dor o wasanaethau anableddau dysgu- prosiect rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddatblygu model o wasanaethau anableddau dysgu yn seiliedig ar yr ‘hyn sydd o bwys’ i’r unigolion ac adeiladu ar gefnogaeth i deuluoedd, rhwydweithiau anffurfiol, a modelau tîm adnoddau cymunedol.

 

Y gwahaniaeth gyda’r cyllid trawsnewid yw mai dim ond ar ôl gwario arian y prosiect y gellir  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Ar y pwynt hwn (3.30 p.m.) cafwyd toriad am 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 3.50 p.m.

 

 

8.

GWELLIANT CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Iain Roberts (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

4.10 p.m.– 4.30 p.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Rhaglenni, Gwelliant Cymru, Iain Roberts, gyflwyniad ar gyfer Cymru iachach.

 

Ym mis Hydref 2019, ail-lansiwyd 1000 o Fywydau a Mwy fel Gwelliant Cymru.

 

Gwelliant Cymru oedd Gwasanaeth Gwelliant Cymru Gyfan ar gyfer GIG Cymru.  

 

Diben Gwelliant Cymru oedd cefnogi creu’r system iechyd a gofal cymdeithasol o'r ansawdd gorau yn y byd.

 

Y weledigaeth oedd bod holl staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella’n barhaus yn yr hyn maent yn ei wneud, a sut maent yn ei wneud gyda’i gilydd - er mwyn i bobl yng Nghymru gael y gofal ac iechyd o’r ansawdd gorau posibl. 

 

Y nod oedd arwain, hyfforddi a hyrwyddo gwelliant, i ymgorffori ethos o welliant fel rhan ganolog o iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Byddai’r ymagwedd newydd yn golygu:

·         Aliniad cliriach o raglenni gwaith cenedlaethol y gellir eu newid i fod yn berthnasol i gyd-destun lleoliadau lleol

·         Ymrwymiad i adeiladu gallu i wella ar draws yr holl lefelau staffio

·         Fframwaith cyflawni wedi’i adnewyddu i daenu a rhannu gwelliannau’n fwy effeithiol

·         System o fesur i gefnogi’r gallu i ddangos gwerth a chanlyniad

·         Symudiad cymdeithasol "calonnau a meddyliau" sy'n creu egni a chymell newid

·         Rhwydwaith o welliant cenedlaethol sy’n gryfach ar draws Cymru drwy gynhadledd flynyddol, sioeau teithiol lleol a dosbarthiadau meistr.

·         Papurau Gwyn a Chanllawiau i gefnogi dysgu ac arwain agweddau

 

Diolchodd y Bwrdd i Iain am ei gyflwyniad.   Cadarnhaodd y Bwrdd y byddent yn adlewyrchu ar y wybodaeth a gyflwynwyd ac ystyried lle bo angen cefnogaeth gan Welliant Cymru.

 

 

9.

GWASNAETH YNNI LLYWODRAETH CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Rhys Horan (Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Cymru)

4.30 p.m.– 4.55 p.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Strategol, Rhys Horan, o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar Wasanaeth Ynni a Chyfleoedd Rhanbarthol a sut y gellir cefnogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Byddai’r Gwasanaeth Ynni yn darparu cefnogaeth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

 

Byddai’r gwasanaeth yn cynorthwyo gyda chynllunio ariannol a chyllid e.e. benthyciadau heb log a grantiau.

 

Roedd y prosiectau sy’n cael eu cefnogi’n cynnwys:

·         Effeithlonrwydd ynni ystâd gyfan - gosod effeithlonrwydd ynni ar draws safleoedd amrywiol i leihau'r defnydd o ynni a chostau (er enghraifft insiwleiddio a goleuadau Effeithlon ac uwchraddio systemau gwresogi ar gyfer adeiladau'r awdurdod lleol)

·         Datblygu ynni adnewyddadwy – gosod ynni adnewyddadwy mewn sawl safle i leihau costau a chynhyrchu incwm.  

Paneli solar wedi’u cysylltu â phrosiectau effeithlonrwydd ynni.

·         Uwchraddio goleuadau stryd – Uwchraddio goleuadau stryd i leihau’r defnydd o ynni a chostau (er enghraifft newid i lampau deuod allyrru golau (LED), rheolyddion clyfar a lleihau oriau goleuo)

·         Prosiectau Ynni Adnewyddadwy – Cynlluniau sector cyhoeddus neu sy’n eiddo i'r gymuned i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac incwm o wynt, solar, ynni dŵr a storio ynni.

 

Sefydlwyd y Gwasanaeth Ynni oddeutu 2 flynedd yn ôl ac yn ddibynnol ar ddarpariaeth prosiect.   Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys nifer o bartneriaid gwahanol - Yr Ymddiriedolaeth Garbon, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Rhaglen Cronfa Cymru, a Phartneriaethau Lleol.

 

Y weledigaeth oedd darparu’r uchafswm posibl o ran buddion economaidd, cymdeithasol, ecolegol a lles lleol o drawsnewid i economi twf glân erbyn 2035 a bod yn allforiwr net o drydan carbon isel drwy gydweithrediad trawsffiniol a chydweithrediad rhanbarthol.

 

Diolchodd y Bwrdd i Rhys am ei gyflwyniad a chadarnhau bod cwmpas i weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol ar flaenoriaeth yr amgylchedd, yn enwedig o ran datganiad sefyllfa’r amgylchedd. 

 

Penderfynwyd bod blaenoriaeth yr amgylchedd yn arwain i archwilio gyda Gwasanaeth Ynni LlC er mwyn gweld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 342 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

4.50 p.m.– 4.55 p.m.

 

 

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. 

 

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 27 Ionawr 2020 a fyddai’n weithdy anffurfiol.   Ar hyn o bryd nid oes thema ar gyfer y gweithdy anffurfiol.  Gofynnodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am awgrymiadau gan yr aelodau a byddant yn ystyried a fydd y gweithdy’n cael ei gynnal .

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

 

 

11.

Unrhyw Fater Arall

Y wybodaeth ddiweddaraf ar Yr Economi Sylfaenol gan Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych)

4.55 p.m.– 5.00 p.m.

 

 

Cofnodion:

Darparodd Prif Weithredwr, DVSC, Helen Wilkinson y wybodaeth ddiweddaraf ar lansiad Llywodraeth Cymru o ddigwyddiad Economi Sylfaenol.  

 

Pwysleisiodd bod angen sicrhau, fel PSB, bod hyn yn cael ei gysylltu â gweithio rhanbarthol a chaffael.  

 

Byddai ymagwedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi PSBau i ddefnyddio ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol.   Byddai dulliau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynorthwyo i wneud cynnydd cyflym.

 

Roedd cyfle i’r PSB gan fod y Bwrdd yn cynnwys aelodau’r trydydd sector ac roedd gan CSDd 2 brosiect yn barod.  

 

Cadarnhaodd Sioned Rees bod trafodaethau wedi’u cynnal yn LlC lle y ceisiwyd data ar gyfer Gogledd Cymru. 

 

Cadarnhawyd y gellir darparu’r wybodaeth ar gyfer cyfarfod Mawrth 2020, ar gyfer trafodaeth ar gyfleoedd posibl.

 

Penderfynwyd bod yr economi sylfaenol yn cael ei gynnwys fel testun yng nghyfarfod Mawrth 2020.

 

 

12.

ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O FYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig

 

 

13.

ADRODDIAD AR YR ECONOMI SYLFAENOL pdf eicon PDF 968 KB

Copi ynghlwm er gwybodaeth

 

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig

 

 

14.

ADOLYGIAD CLlLC A LLC O BARTNERIAETHAU STRATEGOL pdf eicon PDF 295 KB

Copi ynghlwm er gwybodaeth

 

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig

 

 

 

Ar y pwynt hwn, eglurodd Fran Lewis i'r Bwrdd mai dyma cyfarfod olaf Hannah Edwards, Swyddog Datblygu PSB (CBSC) gan y byddai ar gyfnod mamolaeth o fis Ionawr 2020. Diolchodd y Bwrdd i Hannah am ei gwaith a dymuno'n dda iddi ar ei chyfnod mamolaeth.   Byddai swyddogion CSDd yn derbyn yr awenau dros dro yn absenoldeb Hannah.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.55pm.