Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Oherwydd nifer yr ymddiheuriadau a dderbyniwyd, ni fyddai’r cyfarfod yn gworwm.  Felly, cytunwyd gan bawb yn bresennol i barhau gyda’r cyfarfod a darparu’r argymhellion i’r Bwrdd eu hystyried trwy e-bost a’u hadolygu a’u cymeradwyo nhw yn y cyfarfod BGC nesaf.

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 437 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Dim materion yn codi.

 

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR FLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 298 KB

Hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych)

(c)  Gwydnwch amgylcheddol

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm) gan y Cadeirydd

2.10 p.m. – 3.00 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru).  Cadarnhaodd bod gweithdy wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2018. Roedd wedi trafod lles meddwl da i bob oedran i alluogi pobl i fyw yn effeithiol ac i osgoi problemau iechyd meddwl yn y dyfodol.

 

Mae datblygu mentrau a chyfleoedd i gysylltu  â blaenoriaethau eraill wedi’u nodi.  Mae’r term lles meddwl yn eithaf aneglur.  Felly byddai gwaith yn parhau yn y misoedd nesaf i ddiffinio camau gweithredu a chyflwyno'r adroddiad mewn cyfarfod BGC yn y dyfodol.

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Cafwyd diweddariad ar flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Nicola Kneale, Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd).

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda Steve Grayson (BIPBC), Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Adrannau Hamdden yr Awdurdodau Lleol i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i fynd i’r afael â rheoli pwysau.  Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda Iechyd i sicrhau fod ymarferwyr a phartneriaid iechyd yn cynnig rhaglenni rheoli pwysau a lle i gyfeirio pobl er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i fentrau ‘presgripsiynu cymdeithasol’.

 

Mae wedi cael ymateb dda a bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu ar gyfer y dyfodol.  Roedd y cyfarfod wedi digwydd yr wythnos flaenorol a bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd BGC yn y dyfodol.

 

Cawn ddiweddariad ar raglen Ymwybyddiaeth Dementia dan arweiniad y Gymuned CSDd yn y cyfarfod nesaf.

 

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol

Cafwyd diweddariad gan Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) ar yr Addunedau Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi’r Amgylchedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol).

 

Ar ôl cymeradwyo’r Addunedau Gwyrdd yng nghyfarfod Gorffennaf, mae’r brandio wedi'i wella yn ôl y gofyn.  Cadarnhawyd bod yr adran farchnata yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael ei gomisiynu o’r grant BGC rhanbarthol i lansio a hyrwyddo addunedau.  Bydd lansio’r cynllun peilot yn digwydd ar ôl gorffen y pecyn gwaith ac yn cael ei gyfathrebu i'r timau marchnata gan sefydliadau BGC eraill.   

 

 Mae Datganiad Polisi'r Amgylchedd (Atodiad C) wedi cael ei adolygu yn unol â’r drafodaeth yng nghyfarfod mis Gorffennaf.  Mae bellach yn canolbwyntio ar ddau ardal ymrwymiad (ymrwymiad 1 – carbon a ynni ac ymrwymiad 2 – addasu i newid hinsawdd) gyda'r 7 ‘ymrwymiadau’ eraill blaenorol yn dod yn ganlyniadau yr ymrwymiad perthnasol.  Trwy ganolbwyntio ar yr ymrwymiadau penodedig bydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni yr ardaloedd allbwn eraill.  Cadarnhawyd bod angen nodi mesurau allweddol.   Cafodd cais ei wneud i bartneriaid enwebu swyddogion arweiniol i gefnogi'r gwaith o fewn eu sefydliadau.

 

Trafododd y Bwrdd yr amserlenni ynghlwm â chyflawni'r camau gweithredu a gynigir.  Pwysleisiwyd fod sefydliadau partner ar wahanol gyfnodau o gyrhaeddiad ar y dechrau ac yn gwerthfawrogi'r amser a gymerwyd i gyrraedd y gwahanol gamau yn amrywio rhwng partneriaid.  Felly nid oes amserlenni penodol i sefydliadau gyflawni'r gwaith ar wahân i'r amserlenni cenedlaethol.  Eglurwyd fod dyddiadau statudol wedi’u cynnwys yn y ddogfen, ond roedd y datganiad fwy am gefnogaeth ar y cyd a rhannu arferion da. 

 

 Cafwyd trafodaeth ynglŷn â ddylai lleihau carbon erbyn 2030 fod yn darged neu ddyhead.  Cytunwyd newid y geiriad i “uchelgais" i leihau allyriadau carbon erbyn 2030. 

 

Cadarnhawyd mewn gweithdy a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, bod llawer o drafod wedi bod ynglŷn â newid hinsawdd, materion arfordirol a gweithredu gan y gymuned.  Cadarnhaodd Dirprwy Arweinydd CBSC, y Cynghorydd Goronwy Edwards bod gwarchod yr arfordir angen bod yn un o'r prif flaenoriaethau gan ei fod yn bryder sylweddol i'r bobl y mae'n nhw'n eu cynrychioli.  I dawelu meddwl y Cynghorydd Edwards dywedwyd bod llifogydd arfordirol wedi’i gynnwys yn Natganiad Polisi’r Amgylchedd.

 

Roedd yr holl aelodau yn gytûn i’r Bwrdd ddatblygu dull rhanbarthol.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADOLYGU AELODAETH Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 230 KB

Adolygiad ffurfiol o aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl datblygu’r meysydd blaenoriaeth (copi ynghlwm).

 

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

3.00 p.m. – 3.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad o Aelodaeth BGC (wedi’i ddosbarthu’n barod).

 

Gofynnodd y Bwrdd i aelodaeth gael ei adolygu’n ffurfiol ar ôl datblygu’r meysydd blaenoriaeth.

 

Dechreuwyd y drafodaeth i ystyried y cynrychiolaethau canlynol:

(i)            Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

(ii)          Cynrychiolwyr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

(iii)         Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned, a

(iv)         Cynrychiolydd Tai ac Adfywio.

 

Mynegwyd pryder gan aelodau y gallai aelodaeth gynyddu’n ormodol ac felly ni fyddai gan y Bwrdd fodel darparu effeithiol.  

 

Awgrymwyd y dylai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri  a Chynrychiolydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Sir Ddinbych gael eu cynrychioli ar lefel is-grŵp. Argymhelliad pellach oedd bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu gwahodd i eistedd ar unrhyw grŵp rhanbarthol sydd yn cael ei sefydlu yn dilyn datblygu cynigion gweithdy'r amgylchedd.

 

Awgrymodd Aelodau fod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd ond yn cydnabod y trafferthion posib o benodi un cynrychiolydd i gynrychioli'r holl Gynghorau Tref a Chymuned.  Roedd Aelodau yn argymell y dylid edrych i fewn i hyn ymhellach. 

 

Awgrymodd Aelodau y dylai fod yna gynrychiolydd Adfywio Tai ar y Bwrdd.  Awgrymwyd gofyn i Gartrefi Cymunedol Cymru am enwebiad a fyddai’n cynrychioli Conwy a Sir Ddinbych.

 

Awgrymwyd ychwanegu Cadwch Cymru’n Daclus a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y rhestr rhanddeiliaid hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth, awgrymwyd croes gyfeirio’r rhestr o aelodau posib ar gyfer y grŵp rhanbarthol posib yn erbyn yr is-grŵp amgylchedd a chynrychiolwyr gweithdy.

 

PENDERFYNWYD

  1. Dyma’r aelodau yn argymell fod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd a bod hynny’n cael ei archwilio ymhellach cyn cyflwyno gwahoddiad.
  2.  Awgrymodd Aelodau y dylid gofyn i Gartrefi Cymunedol Cymru am enwebiad a fyddai’n cynrychioli Conwy a Sir Ddinbych ar y Bwrdd.

 

 

6.

CYDBWYLLGOR ARCHWILIO BGC: RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 231 KB

Rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar raglen gwaith i’r dyfodol pwyllgor archwilio’r BGC (copi ynghlwm).

 

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

3.15 p.m. – 3.25 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod cyfarfod Pwyllgor Craffu BGC ar y Cyd i gael ei gynnal ar ddydd Gwener, 27 Medi 2019 yn cael ei ganslo.

 

Cadarnhawyd bod cyfarfodydd Pwyllgor Craffu BGC ar y Cyd yn cymryd lle’r cyfarfodydd BGC.  Mae’r dyddiadau wedi eu gosod gan y Pwyllgor Craffu BGC ar y Cyd ac nid y Pwyllgor BGC.

 

PENDERFYNWYD – Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 

7.

IECHYD A LLES pdf eicon PDF 584 KB

            Llafar / Cyflwyniad:

(a)  Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

(b)  Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu Lleol

(c)  Ystyried cynigion ar gyfer cyllid trawsnewidiol 2020/21

3.25 p.m. – 4.15 p.m.

 

 

 

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan cyfarfod BGC ar 9 Rhagfyr 2019.

 

 

8.

COFRESTR RISG BGC pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried risgiau, a thrafod a chytuno ar weithredoedd i liniaru'r risgiau hynny (copi ynghlwm).

4.15 p.m. – 4.30 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale wedi cyflwyno adroddiad Cofrestr Risg (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i ystyried y risgiau ac i drafod a chytuno ar gamau gweithredu i leihau’r risgiau hynny.

 

PSB1 – y risg bod diffyg cyllid, adnoddau a chymhwysedd gan y BGC i gyflawni blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynllun Lles.     

 

Cadarnhawyd y byddai grant BGC Rhanbarthol o £80k.  Byddai’r risg yn cael ei israddio i D3 ond byddai’n cael ei fonitro.

 

PSB2 – y risg bod y sefydliadau partner ddim yn bwyllgor i’r Bwrdd.  

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol y byddai’r risg yn cael ei israddio i C3 gan fod sefydliadau yn ymrwymo'n dda gyda BGC Conwy a Sir Ddinbych.  Byddai’r sefyllfa yn cael ei fonitro, ac os byddai unrhyw broblemau yn codi byddai'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd.

 

PSB3 – y risg bod y BGC yn methu a gwneud y mwyaf o'r effaith posib y gellir ei gyflawni drwy ddull o gydweithio. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol eu bod yn disgwyl am adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y BGC.

 

PSB4 – y risg bod tirwedd partneriaeth cymhleth yn rhanbarthol ac yn is-ranbarthol yn cael effaith ar ddarparu’r Cynllun Lles. 

 

Roedd y sgôr yn briodol ar hyn o bryd ond byddai angen cymryd camau gweithredu i leihau’r risg.

 

PSB5 – y risg bod y cyllid sydd ar gael trwy’r UE ddim ar gael wedi Brexit gan effeithio ar y byd academaidd, diwydiannau amaethyddol a rhaglenni  amddifadedd.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd bod risg PSB5 yn risg i Awdurdodau Lleol ond ddim ar gyfer y BGC ac felly dylid ei dynnu o'r Gofrestr Risg.

 

PENDERFYNWYD bod Cofrestr Risg BGC yn cael ei ddiweddaru a’i ddosbarthu i’r holl aelodau BGC i’w gymeradwyo a’i arwyddo.

 

 

9.

GWASANAETH DEHONGLI IAITH ARWYDDION PRYDAIN - CYNLLUN PEILOT CONWY

Derbyn cyflwyniad gan Fran Lewis (CBSC) mewn perthynas â’r Gwasanaeth Dehongli Iaith Arwyddion Prydain – Cynllun Peilot Conwy.

4.30 p.m. – 4.45 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) gyflwyniad ar y Gwasanaeth Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (Cynllun Peilot Conwy).

 

Dyma gynllun peilot 12 mis fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019. Roedd y cynllun mewn cytundeb â Sign Solutions.

 

Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7/365 ac am ddim i’r cwsmer.  Mae’n darparu cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ar fideo i holl dderbynfeydd y cynghorau.  Mae preswylwyr yn gallu cofrestru gyda Sign Solutions ar eu ffonau clyfar, tabledi a gliniaduron gan leihau’r angen i fynychu swyddfeydd y cyngor mewn person.

 

Mae tri grŵp penodol o bobl gyda nam ar y synhwyrau:

·         Pobl ddall ac yn rhannol ddall

·         Pobl fyddar

·         Pobl byddar a dall (yn bwysig i nodi fod rhai unigolion sydd yn fyddar ac yn ddall yn gweld ac/neu’n clywed ychydig. Nid yw’n canolbwyntio ar faint mae unigolyn yn gallu ei weld a’i glywed ond yn hytrach ar yr effaith y mae dau nam ar y synhwyrau yn ei gael arnyn nhw.)

 

Mae uwchsgilio staff trwy’r cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth Byddardod wedi cael ei groesawu a hyd yma mae 200 o staff wedi cymryd rhan.  Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun peilot ar gael ar wefan y Cyngor https://www.conwy.gov.uk/en/Council/Contact-Us/Sign.aspx

 

Cafwyd ymateb cadarnhaol gan yr holl aelodau Bwrdd yn bresennol i’r cyflwyniad a’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y BGC yn nodi’r cyflwyniad ar y Gwasanaeth Dehongli Iaith Arwyddion Prydain – Cynllun Peilot Conwy.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 361 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried.  Cadarnhaodd aelodau y rhaglen a’r adroddiadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 9 Rhagfyr 2019 fel a ganlyn:

 

Eitemau i’w penderfynu:

 

      i.        Y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus -

a.    Lles Meddwl

b.    Ymrymuso’r Gymuned

c.    Gwydnwch amgylcheddol

 

Eitemau i’w trafod:

 

    ii.        Iechyd a Lles – Gohiriwyd yng nghyfarfod 23 Medi 2019.

a.     Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.

b.    Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu Lleol

c.    Ystyried cynigion ar gyfer cyllid gweddnewidiol 2020/21 (Bethan Jones, BIPBC)

 

   iii.        Gwasanaeth Ynni Cymru

   iv.        Economi Sylfaenol a BGC (Helen Wilkinson)

    v.        Diweddariad ar grantiau a dysgu o wariant.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rhaglen Waith.

 

 

11.

DIGWYDDIAD ECONOMI SYLFAENOL pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyniad a chofnodion digwyddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig.

 

 

12.

DIGWYDDIAD BPRH A BGC pdf eicon PDF 298 KB

Llythyr Gweinidogol ac adroddiad am y digwyddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth yn unig.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Cynhadledd Gwella 1000 o Fywydau Cymru 2019 Ailfeddwl Sut y Gallwn Wella

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) bod 1000 o fywydau yn cynnig cymorth i helpu BGC gyda lles iechyd meddwl.  MMae’n nhw’n canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd acíwt.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu BGC (CBSC) bod gwybodaeth ar gael ac y byddai’n ei ddosbarthu i’r holl Aelodau Bwrdd.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.45 p.m.