Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Glasdir, Llanrwst

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Y Cynghorydd Hugh Evans - Cyngor Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Sam Rowlands– Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Gary Doherty - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Jason Devonport – Heddlu Gogledd Cymru

Teresa Owen – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Cynrychiolydd Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Wendy Jones – Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 386 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 25 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 i’w cymeradwyo.

 

Byddai PSB sy’n canolbwyntio fwy ar gamau gweithredu yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.

 

Bethan Jones (BIPBC) – Holodd a fyddai’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn gweithio’n agos gydag iechyd i sicrhau bod tai yn diwallu anghenion iechyd pobl. Roedd CSDd a CBSC yn y  camau ymgynghori a byddent yn gweithio’n agos gyda BIPBC.

 

Nododd Sian Williams y dylid cynnwys mynediad at ofodau gwyrdd yn y CDLl hefyd.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

 

3.

MATERION YN CODI

9:30am – 9:35am

Cofnodion:

Hysbysodd ID y Bwrdd bod cyfarfod agoriadol cyd-bwyllgor craffu'r BGC wedi'i gynnal ym mis Mai 2019. Etholwyd y Cyng. Brian Cossey o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel cadeirydd a'r Cyng. Graham Timms o Sir Ddinbych fel is-gadeirydd. 

 

Bu’r Pwyllgor yn craffu adroddiad blynyddol y BGC.  Mae’r cyd-bwyllgor yn datblygu eu cynllun gwaith i’r dyfodol.  Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Medi a bydd yn canolbwyntio ar flaenoriaeth yr amgylchedd.

 

Cytunwyd hefyd y byddai trefniadau craffu’r BGC yn cael eu trafod gyda BGCau eraill ar draws Cymru, gan mai Conwy a Sir Ddinbych yw'r rhai cyntaf i lunio cyd-bwyllgor. Y cysylltiadau ar gyfer y cyd-bwyllgor craffu yw Dawn Hughes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Rhian Evans yng Nghyngor Sir Ddinbych.

 

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 676 KB

Hysbysu'r aelodau o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

 

a.    PoblLles meddyliol

 

I dderbyn diweddariad ar lafar ar y flaenoriaeth lles meddwl.

 

Teresa Owen (Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus)

 

b.    CymunedGrym cymunedol

 

       i.        To receive an update on the Community Empowerment priority and to seek approval for the approach and resourcing of the weight management project. 

 

Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSD)

 

      ii.        I dderbyn diweddariad ar lafar am y rhaglen dan arweiniad y gymuned sy'n ymwybodol o ddementia.

 

Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, CGGSD)

 

c.    LleGwydnwch amgylcheddol

 

I dderbyn diweddariad ar flaenoriaeth Cydnerthedd yr Amgylchedd a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Sefyllfa Addewidion Gwyrdd y Gymuned a'r Amgylchedd.

 

Iwan Davies (Prif Weithredwr, CBSC)

 

Cwestiynau i'r Bwrdd eu hystyried

·         A ddylid cymryd ymagwedd ranbarthol at y blaenoriaethau? (e.e. amgylchedd)

·         Ymrwymo staff / adnoddau ariannol / penodi arweinwyr

·         Pwy all gyfrannu tuag at y blaenoriaethau (cynrychiolwyr ar bob gweithgor)

·         Sut mae gwaith y Bwrdd wedi'i sefydlu yn eich sefydliad?

 

 

9:35am – 10:35am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a.            Pobl – Lles Meddyliol

 

Eglurwyd nad oedd unrhyw brif wybodaeth i'w gyflwyno ers y diweddariad diwethaf.

 

Nodwyd nod BGCau eraill ar draws Cymru yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl yn wahanol. Awgrymwyd y gallai’r BGC gysylltu â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Tîm Gweithredu Lleol. Byddai’n fuddiol trafod pa elfennau o waith oedd yn cael eu cyflawni gan y ddau sefydliad. Roedd tirlun y gwaith sy’n cael ei gyflawni o ran iechyd meddwl wedi'i rannu'n glystyrau a byddai eglurder ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei gyflawni'n fuddiol.

 

Cytunwyd mai Lles Meddyliol fyddai canolbwynt cyfarfod nesaf y BGC.

 

b.         Cymuned – Grym Cymunedol

 

Cyflwynodd Judith Greenhalgh  - Prif Weithredwr (JG) y  wybodaeth ddiweddaraf ar agwedd Gymunedol o flaenoriaeth y BGC.

 

Mae’n debyg y byddai gweithrediad y prosiect Rheoli Pwysau wedi’i leoli yn y Rhyl yn Sir Ddinbych, byddai gwaith agos gyda BIPBC ar y prosiect. Byddwn yn ceisio enwebiadau ar gyfer sefydliadau i weithio ar y prosiect a’u dychwelyd i’r BGC.

 

Canmolwyd gweithdy ymwybyddiaeth o ddementia, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia, fel digwyddiad a arweiniwyd gan y gymuned, gyda budd-ddeiliaid yn bresennol. Roedd adroddiad o effaith yn cael ei gynhyrchu a fyddai’n cael ei gyflwyno yn yr hydref; wedi derbyn yr adroddiad byddai digwyddiad ar y cyd rhwng CSDd a CBSC yn cael ei drefnu i ymgysylltu ag ardal fwy.

 

Tynnwyd sylw at ymwybyddiaeth o ddementia gan y bwrdd a holwyd a fu gohebiaeth gyda Chymdeithas Alzheimer. Nodwyd na fu gohebiaeth, ond byddai trafodaethau’n cael eu cynnal yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y Gymraeg o fewn sefydliadau sy’n gyfeillgar i Ddementia ac  a oedd digon o waith yn cael ei gyflawni gyda staff sy'n siarad Cymraeg. Mewn ymateb, nodwyd bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o ddifrif, nodwyd bod swyddi gwag presennol o fewn DVSC wedi’u nodi gyda'r Gymraeg yn hanfodol. Cytunwyd y gellir hysbysebu swyddi gwag drwy safleoedd CSDd hefyd.

 

PENDERFYNWYD – bod adroddiad cynnydd ar brosiectau dementia’n cael eu dychwelyd i’r BGC yn yr hydref, gan gynnwys ystyriaethau ar gyfer ehangu’r gwaith a chynnwys partneriaid.

 

c.         Lle – Gwydnwch amgylcheddol

 

Cyflwynodd Iwan Davies Prif Weithredwr (ID) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Diben yr adroddiad oedd bod aelodau yn nodi'r cynnydd gyda’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol.

 

Mewn perthynas â’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol, cytunodd y Bwrdd y byddent yn cymeradwyo'r gwaith.  Cynigodd y Cadeirydd bod unrhyw ddiwygiadau terfynol yn cael eu dosbarthu i'r swyddogion prosiect erbyn diwedd Gorffennaf.   

 

Hysbyswyd y Bwrdd bod cynllun cyfathrebu’n cael ei ddatblygu i lansio’r cynllun.  Mae cyllid yn cael ei geisio o grant rhanbarthol BGC i gefnogi’r gwaith hwn.

 

Mewn perthynas â’r Datganiad Polisi Amgylcheddol, eglurwyd y byddai’n fuddiol pe bai’r bwrdd yn cytuno canolbwyntio ar nifer penodol o ymrwymiadau o fewn y datganiadau polisi amgylcheddol fel blaenoriaethau cychwynnol.   

 

Yr ymrwymiadau a awgrymwyd i ganolbwyntio arnynt oedd y ddau gyntaf, sef:

 

·         Lleihau ein defnydd o garbon ac ynni, felly erbyn 2030 byddem yn sector cyhoeddus carbon niwtral.

·         Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu o’n gweithgareddau, felly erbyn 2050 byddai dim gwastraff yn cael ei anfon i’w dirlenwi.

 

Cynghorwyd y byddai dull partneriaeth tuag at yr ymrwymiadau yn fuddiol; gyda’r polisi amgylcheddol yn benodol, gan fod gan yr holl sefydliadau o fewn y BGC eu dulliau eu hunain o ddelio ag ymrwymiad carbon niwtral. Hysbyswyd y bwrdd bod gweithdy i drafod newid hinsawdd wedi'i drefnu ar gyfer 18 Medi.

 

Hysbyswyd y bwrdd bod CSDd a CBSC wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn ceisio sicrhau bod y ddwy sir  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2018/19 - CYMERADWYAETH DERFYNOL pdf eicon PDF 423 KB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018/19 i'w gymeradwyo'n derfynol.

 

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

10:35am – 10:40am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad blynyddol drafft (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Eglurwyd y ceisir cymeradwyaeth derfynol o’r Adroddiad Blynyddol, a gofynnwyd a oedd unrhyw sylwadau.

 

Nid oedd unrhyw sylwadau gan aelodau’r bwrdd.

 

PENDERFYNWYD bod adroddiad blynyddol y BGC 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

6.

TROSOLWG CYFOETH NATURIOL CYMRU

I dderbyn adroddiad ar lafar gan Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) ar drosolwg o Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

10.40am – 11:00am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Sian Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan NRW.

 

Hysbyswyd y bwrdd y bu ad-drefnu yn ddiweddar o fewn NRW, roedd Gogledd Cymru wedi’i rannu’n ddau ranbarth Gorllewin a Dwyrain. Roedd rhanbarthau’r Gorllewin yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, a rhanbarth y Dwyrain yn cynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Byddai gan y ddau ranbarth eu blaenoriaethau a’u datganiadau Amgylcheddol, ac roedd bron pob swydd yn yr aildrefniad wedi’i llenwi.

 

PENDERFYNWYD -bod y pwyllgor yn nodi’r trosolwg gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

7.

TROSOLWG PROSIECT UWCH CONWY

I dderbyn cyflwyniad gan Euros Jones (Cyfoeth Naturiol Cymru) ar brosiect Uwch Conwy cyn yr ymweliad safle.

 

11:00am – 11:15am

 

Diwedd Y Cyfarfod Ffurfiol

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Sian Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) drosolwg o'r ymweliad safle i Benmachno.

 

Nodwyd nad oedd yr ymweliad safle i Benmachno yn brosiect sy'n gysylltiedig â'r BGC yn uniongyrchol. Ond nodwyd y gwaith partneriaeth da a gyflawnwyd ar y safle. Byddai’r ymweliad safle hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei gyflawni o ran atal llifogydd yn yr ardal.

 

Daeth y cyfarfod ffurfiol i ben am 10:49.

 

 

8.

YMWELIAD SAFLE I GWM PENMACHNO

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol.

 

 

9.

ADOLYGIAD O YMWELIAD SAFLE

I adolygu'r ymweliad safle a thrafod sut mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi'r prosiect.

1.15pm – 1.45pm

 

 

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol.

 

 

10.

ADOLYGU'R CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 355 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

 

1.45pm – 1.55pm

 

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL - ADOLYGIAD O BARTNERIAETHAU STRATEGOL

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol.

 

 

12.

ER GWYBODAETH - EITEMAU SYDD WEDI'U RHANNU'N ELECTRONIG

A)   Astudiaethau llywodraeth leol Swyddfa Archwilio CymruAdolygiad o’r Bwrdd ac effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth (Wedi'i gylchredeg ar 08/05/19)

 

B)   Astudiaethau llywodraeth leol Swyddfa Archwilio Cymru - Cais am Dystiolaeth (Wedi'i gylchredeg ar 22.05.2019)

 

1.55pm – 2:00pm

 

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol.