Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Simon Smith – Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr

Helen Wilkinson – Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Hugh Evans – Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych            

 

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 399 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 i’w cymeradwyo.

 

Materion yn Codi –

 

Cyfanswm y cyllid oedd ar gael ar gyfer y cynnig twf a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU oedd £120 miliwn, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai’n cyfateb cyllid llywodraeth y DU. Roedd y cyfanswm hwnnw o £240 miliwn yn llai na hynny a ragwelwyd. Byddai’r cynnig twf yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Bwrdd ar ôl cael gwybod rhagor am y prosiect.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 19 Medi 2018.

 

 

3.

MATERION YN CODI pdf eicon PDF 488 KB

a.    Y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau cydgraffu y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus

 

b.    Gweithdy byrddau iechyd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus conwy a sir ddinbychamlinelliad o’r sesiwn

 

 

9:30am – 9:40am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)    Diweddariad ar drefniadau cyd-graffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Cadarnhawyd bod y ddau Gyngor wedi cytuno i sefydlu cydbwyllgor craffu a fyddai’n cynnwys wyth cynghorydd o bob cyngor. Roedd y broses o benodi’r aelodau yn mynd yn ei blaen a hysbyswyd y Bwrdd y gellid cynnal cyfarfod cyntaf cydbwyllgor craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

 

b)   Gweithdy Byrddau Iach BGC Conwy a Sir Ddinbych – amlinelliad o’r sesiwn

 

Ni chodwyd unrhyw faterion mewn perthynas â’r gweithdy.

 

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM OBLYGIADAU BREXIT A CHYLLID YR UE pdf eicon PDF 445 KB

I dderbyn cyflwyniad ar y diweddariad Brexit a goblygiadau cyllid yr UE.

 

9.40am – 10.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Peter York (CSDd) a Barbara Burchell (CBS Conwy) oblygiadau Brexit o ran Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy.                                       

 

Hysbyswyd yr aelodau bod y cyflwyniad yn seiliedig ar senario ‘dim cytundeb’ Brexit a oedd yn amlygu materion allweddol posibl a allai effeithio CSDd a CBSC.

 

Roedd llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei chreu i gymryd lle cyllid yr UE. Fodd bynnag, roedd diffyg eglurder o ran y cyllid arfaethedig yn gwneud paratoadau ar gyfer y dyfodol yn anodd.

 

Codwyd pryderon am y posibilrwydd o anrhefn gyhoeddus a throseddau casineb, fel y rheiny a adroddwyd ar ôl y refferendwm ar aelodaeth o’r UE. Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd bod y materion hyn yn cael eu monitro’n agos gan Heddlu Gogledd Cymru.

 

Codwyd bod pryder am nifer dinasyddion yr UE a oedd yn byw yn y ddwy sir ar hyn o bryd, gan y cyflogwyd tua 3,000 o ddinasyddion y DU ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Byddai hyn yn effeithio sawl sector o fewn y rhanbarth, yn enwedig y Sector Gofal. Roedd swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn cysylltu â chyflogwyr lleol i ddarparu gwybodaeth am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ac yn annog dinasyddion yr UE i ymgeisio. Byddai hyn yn caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus barhau i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.

 

Byddai’r camau nesaf ar gyfer CBS Conwy yn cynnwys canfod swyddogion arweiniol ar gyfer bob gwasanaeth a effeithir (e.e. AD, cyfreithiol ac ati) a chymryd ymagwedd tîm prosiect tuag at Brexit. Byddai gwybodaeth yn parhau i gael ei chasglu a diweddariadau gwybodaeth rheolaidd yn cael eu darparu. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu adlewyrchu’r ymagwedd hon. Hysbyswyd y Bwrdd hefyd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi llunio pecyn cymorth parodrwydd i gefnogi awdurdodau lleol.

 

Darparodd Sioned Rees (LlC) ddiweddariad o safbwynt cenedlaethol, gan hysbysu’r Bwrdd y gallai Cymru golli 9% o’i GDP drwy adael yr UE mewn senario ‘dim cytundeb’. Byddai gostyngiad o’r fath yn cael effaith andwyol ar gyllid llywodraeth leol.

 

Hysbyswyd y Bwrdd bod LlC a’r GIG yn gweithio ar asesiad risg ar gyfer Brexit. Nid oedd yr effaith ar fewnforio’n hysbys eto, roedd hyn yn golygu bod byrddau iechyd yn casglu ynghyd cyflenwadau o feddyginiaethau a bwyd.

 

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflogi 200 o swyddogion i gynorthwyo gyda Brexit, a gofynnodd y Bwrdd a fyddai cyfle i rannu’r adnodd hwn i gefnogi sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD –

 

i.          Nodi’r wybodaeth.          

ii.         Bod Sioned Rees yn trafod gyda chydweithwyr yn LlC y posibiliadau o ran rhannu adnoddau Brexit i gefnogi sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

 

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 770 KB

      I.        PoblLles meddyliol (Sian Williams)

    II.        Cymuned – Grym cymunedol (Judith Greenhalgh)

   III.        LleGwydnwch amgylcheddol (Teresa Owen)

 

10:10am – 11:00am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd Nicola Kneale (CSDd) y Bwrdd y cynhaliwyd ymarfer mapio i sicrhau nad oedd y themâu o’r 6 blaenoriaeth wreiddiol ar goll neu wedi’u dileu o’r 3 blaenoriaeth ddiwygiedig. Gellid gweld canlyniadau’r mapio yn eitem 5 o’r pecyn adroddiadau, lle cynhwyswyd y mwyafrif o’r themâu.                              

 

a)    Pobl – Lles Meddyliol   

 

Cynhaliwyd gweithdy yn Llanrwst ddiwedd mis Tachwedd gyda nifer dda’n mynychu ac roedd yr ymateb iddo’n gadarnhaol. Byddai adroddiad yn cael ei lunio ar y gweithdy i’w gylchredeg ym mis Ionawr.

 

Roedd y gweithdy’n dangos bod llawer o waith yn mynd yn ei flaen eisoes yn yr ardal hon i fapio’r gwasanaethau a’r mentrau presennol ar gyfer lles meddyliol, ac i nodi unrhyw ddyblygu neu fylchau. Awgrymwyd bod posibilrwydd y gellid defnyddio’r Timau Gweithredu Lleol i lywio neu gyflawni’r cynlluniau gweithredu ar gyfer y flaenoriaeth hon.

 

Nododd y Bwrdd bod y galw am ofal iechyd meddwl yn y rhanbarth yn cynyddu’n gyflym, a bod angen rhagor o adnoddau ar adeg o gyni ariannol cynyddol ar gyfer awdurdodau lleol.               

 

Cytunodd y Bwrdd i graffu ar yr adroddiad ar ôl ei gyhoeddi ym mis Ionawr er mwyn blaenoriaethu gwaith i fynd i’r afael â’r meysydd a allai gael yr effaith fwyaf.

 

b)   Cymuned – Grym Cymunedol            

 

Tywyswyd y Bwrdd i adran gyfleoedd yr adroddiad ar ragnodi cymdeithasol (eitem 5b) - a ddatblygwyd yn dilyn sgyrsiau rhwng Nina Ruddle (Prifysgol Glyndŵr), Dr Glynne Roberts (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Mefty Haider (CNC) a Nicola Kneale (CSDd).

 

Canolbwyntiodd y Bwrdd ar yr agweddau y gallai’r BGC ychwanegu gwerth yn y maes hwn, gan fod llawer o waith yn digwydd eisoes o ran rhagnodi cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Cafwyd trafodaeth lle - 

 

  • Teimlodd y Bwrdd bod posibiliadau o ran y BGC yn archwilio rhagnodi cymdeithasol yn nhermau rheoli pwysau (cyfle B).                
  • Cytunodd yr aelodau y byddai’n ddefnyddiol mynd ar drywydd cyfle C (datblygu data iechyd gofodol ar lefel LSOA). Byddai hyn yn cysylltu â’r asesiad llesiant a hefyd yn cyd-fynd â llunio lle. Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o ganolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig i ddechrau (efallai cymunedau gwledig ac arfordirol ar draws y ddwy sir).
  • Dylid gweld rhagnodi cymdeithasol fel ymagwedd a’i defnyddio i gefnogi bob un o’r 3 blaenoriaeth yn hytrach na fel cam gweithredu.

 

Hysbysodd Debbie Neale (CGGSDd) y Bwrdd y byddai CGGSDd yn arwain ar elfen Dementia’r flaenoriaeth gan eu bod wedi derbyn Cyllid Gofal Canolraddol (ICF) i godi ymwybyddiaeth ac i gyflenwi hyfforddiant dementia ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Croesawodd y Bwrdd y diweddariad a gofynnodd am gael adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd CBS eu bod yn y camau cyntaf o ddod yn sefydliad cyfeillgar i ddementia.        

 

c)    Lle – Gwydnwch Amgylcheddol  

 

Darparwyd diweddariad ar y flaenoriaeth hon fel a ganlyn –

 

      Sefydlwyd gweithgorau i yrru gwaith yn ei flaen gyda swyddogion amgylcheddol o bartneriaid y BGC.            

      Byddai dwy fersiwn ar gyfer yr addunedau gwyrdd, un ar gyfer cymunedau a busnesau ac un arall ar gyfer unigolion.   

      Byddai canllaw yn cael ei ddatblygu i gefnogi cymunedau i gyflawni’r adduned, fyddai’n cynnwys gwybodaeth ar argaeledd adnoddau pellach a chyllid posibl.         

      O ran y gwaith polisi amgylcheddol cyffredinol, roedd gwybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn o bryd ar agweddau penodol (e.e. gwastraff, llifogydd, bioamrywiaeth, carbon ac ynni ac ati). Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu fframwaith y gallai bob partner weithio tuag ato yn eu hamser eu hunain.

      Cydnabuwyd bod angen datblygu gwaith partneriaeth ymhellach, ac mae bwriad i sefydlu rhwydweithiau rhithwir ar gyfer y gwahanol agweddau amgylcheddol.

 

Hysbysodd Siân Williams (CNC) y Bwrdd bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynllunio i archwilio’r themâu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNNIG NEWID HINSAWDD

I dderbyn adroddiad llafar ar gynnig rhanbarthol ar newid yn yr hinsawdd.

 

11:00 am – 11:15am

 

Cofnodion:

Yn dilyn y drafodaeth yn ystod y diweddariadau ar flaenoriaethau’r BGC, roedd y Bwrdd yn fodlon i’r Cadeirydd a swyddogion allweddol drafod y cynnig ar lefel ranbarthol ac adrodd yn ôl i’r BGC.

 

PENDERFYNWYD – I’r Bwrdd dderbyn diweddariad yn y dyfodol ar ddatblygiad y cynnig o ran newid hinsawdd.

 

7.

CYNGOR CONWY - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL

I dderbyn cyflwyniad ar gynllun corfforaethol Cyngor Conwy

 

11:15am – 11:30am

 

Cofnodion:

Rhoddodd Iwan Davies (CBSC) gyflwyniad ar y Cynllun Corfforaethol ac amlygodd ei feysydd allweddol. Amlinellwyd bod y cynllun corfforaethol yn uchelgeisiol ond yn realistig mewn cyfnod o anawsterau cyllidol. Byddai’r Cynllun Corfforaethol yn rhedeg ochr yn ochr â chyfnod ethol llywodraeth leol o 2017-2022.

 

Roedd yr wyth blaenoriaeth fel a ganlyn –

 

Ø  Addysg a Sgiliau - Roedd CBSC eisiau cael ei gydnabod i fod yn cynnig addysg ardderchog ynghyd â rhoi sylw i wella addysg a pherfformiad ar draws y system ysgolion gyfan, fel bod gan bobl ifanc y sgiliau i allu manteisio ar gyfleoedd o ran swyddi.

Ø  Diogel – Sicrhau bod preswylwyr CBSC yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel o fewn y Sir, a hefyd sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu.                

Ø  Tai – Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy, priodol, o ansawdd da sy’n gwella ansawdd eu bywydau.    

Ø  Iechyd - Hybu dewisiadau a ffyrdd iach o fyw gan wedyn leihau’r gofynion ar wasanaethau cyhoeddus. Byddai CBSC yn cryfhau gwaith partneriaeth rhwng gwasanaethau Gofal Iechyd a Chymdeithasol i ddarparu mynediad syml a di-dor i Ofal Iechyd a Chymdeithasol pan fo’u hangen.                                             

Ø  Economi – Cael economi hyderus oedd yn wydn ac yn gynaliadwy. Annog syniadau newydd a gweithio’n rhagweithiol gyda busnesau i hyrwyddo amodau y gallent dyfu oddi mewn iddynt.

Ø  Yr Amgylchedd – Cymunedau i fod yn wydn ac yn barod i fabwysiadu’r heriau amgylcheddol a wynebir gan y byd. Canolbwyntio ar wella amddiffynfeydd llifogydd, cynyddu ailgylchu a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

Ø  Diwylliant – Canolbwyntio ar ddathlu diwylliant, y Gymraeg a defnyddio’r celfyddydau i wneud y gorau o lesiant.

Ø  Llais - Canolbwyntio ar adolygu sut y bu’r Cyngor yn ymgysylltu, cyfathrebu ac yn gweithio gyda chymunedau ac yn newid y modd y mae’r Cyngor yn gweithredu i fod yn fwy blaengar, modern ac effeithlon.

 

Yn dilyn y cyflwyniad ar y cynllun corfforaethol, dangoswyd blaenoriaethau’r Cabinet hefyd –

 

  1. Cyngor 21ain Ganrif, Gwydn a Chynaliadwy yn y tymor hwy             
  2. Cymunedau Cryf, Grymus a Gwydn yn Camu i Fyny
  3. Ysgolion effeithiol, yn Canolbwyntio ar Safonau Darparu
  4. Tai Fforddiadwy, Darpariaeth Garlam 
  5. Twf Economaidd, Dewisol a Heb Gyllid Digonol ond yn Allweddol i Ffyniant

 

Ystyriwyd rhaglen foderneiddio CBS Conwy. Rhan allweddol o’r rhaglen oedd swyddfeydd newydd Coed Pella ym Mae Colwyn a oedd wedi agor yn ddiweddar. Byddai’r adeilad yn adfywio Bae Colwyn ac yn gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

 

Codwyd yr heriau a oedd yn wynebu Conwy yn y cyflwyniad hefyd -

 

      Roedd y galw am gymorth ym maes tai ac atal digartrefedd yn cynyddu.

      Pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a chynaliadwyedd y sector gofal.

      Cyflawniad addysgol a newidiadau allweddol i’r cwricwlwm.

      Adolygiad o ddarpariaeth gwasanaeth a chydweithredu â chynghorau tref a chymuned.

 

Diolchodd y Bwrdd i’r Prif Weithredwr am y cyflwyniad llawn gwybodaeth, a nododd y tebygrwydd rhwng y cynllun â chynllun corfforaethol CSDd.

 

PENDERFYNWYDNodi’r diweddariad ar Gynllun Corfforaethol CBSC.

 

 

8.

RHAN 9 PAPUR BWRDD LLYWODRAETHU - YMATEB O GYFARFOD GRŴP Y PRIF WEITHREDWR

I dderbyn adroddiad ar Rhan 9 papur Bwrdd Llywodraethu ac ymateb o gyfarfod grŵp y prif weithredwr

 

11:30am – 11:45am

 

Cofnodion:

Rhoddodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr CSDd, ddiweddariad i’r Bwrdd ar Bapur Llywodraethu rhan 9. Bu’r papurau’n cael eu cylchredeg cyn ei phenodiad fel Prif Weithredwr CSDd.

 

Roedd llinellau atebolrwydd clir ynghyd â phartneriaeth a meysydd datblygu gwaith rhwng y BGC a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Byddai papur terfynol y Bwrdd Llywodraethu’n cael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn y dyfodol.

 

Holodd y Bwrdd am faterion o ran cydweithredu rhwng y BGC a chyrff eraill, a thrafododd p’un a ellid gwneud gwaith i werthuso’r strwythur o dan y BGC i gefnogi cyflawni eu gwaith.

 

Hysbyswyd y Bwrdd y byddai adroddiad ar ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol ar BGC’au yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Roedd nodau’r ymchwiliad, yn wreiddiol, yn cynnwys archwilio sut yr oedd BGC’au yn targedu gwelliannau ar gymunedau difreintiedig. Fodd bynnag, maent wedi’u diwygio ers hynny i ganolbwyntio ar weithrediad ac effeithiolrwydd BGC’au.

 

PENDERFYNWYDNodi’r wybodaeth.        

 

9.

80 O NEWIDIADAU SYML - ADRODDIAD GAN Y COMISIYNYDD CENEDLAETHAU'R DYFODOL pdf eicon PDF 203 KB

I dderbyn adroddiad ar 80 o Newidiadau SymlAdroddiad gan y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

 

11:45am – 11.55am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale (CSDd) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar ddogfen swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar Y Gallu i Greu: Newidiadau Syml, sy’n nodi 80 newid y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i’w helpu i wneud y gorau o’u cyfraniad at y saith nod llesiant.                                

 

Pwysleisiwyd bod y newidiadau ar gyfer cyrff cyhoeddus yn bennaf, fodd bynnag, roedd y tabl o fewn adran 4.1 o’r adroddiad yn amlygu’r meysydd y gallai’r BGC gydweithio arnynt. Teimlodd y Bwrdd bod rhai syniadau da yn y ddogfen, ac roedd yn cydnabod bod sefydliadau’n defnyddio rhai ohonynt eisoes, ond roedd yn gweld bod rhai meysydd y gallai eu gwella. Cytunodd y Bwrdd nad oedd creu haen ychwanegol o waith i weithredu’r newidiadau hyn yn opsiwn oedd ar gael.                    

 

Teimlodd Aelodau’r Bwrdd y gallent wneud mwy ar y cyd i wella cyfleoedd o ran secondiadau. O ran y gwaith a nodwyd ym meysydd blaenoriaeth y BGC, roedd posibilrwydd y gellid eu datblygu fel prosiect bach a’u cyflawni drwy gyfleoedd ar gyfer secondiadau.

 

Byddai Prif Weithredwr CBSC (ID) yn mynd â’r ddogfen i gyfarfod o uwch reolwyr CBSC ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd ar y casgliadau o’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD – Nodi’r adroddiad.          

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail eu bod yn cynnwys y posibilrwydd o orfod datgelu gwybodaeth eithriedig.

 

(Ar y pwynt hwn, cytunodd y Bwrdd i newid trefn yr adroddiadau er mwyn rhoi cyfle i siaradwyr gwadd wneud cyflwyniad).

 

10.

AMDDIFFYNFEYDD MÔR A PHERYGL O LIFOGYDD HEN GOLWYN

I Derbyn cyflwyniad cyfrinachol ar amddiffynfeydd môr Hen Golwyn a pherygl llifogydd.

 

12:10pm – 12.25pm

 

Cofnodion:

Dangoswyd i’r Bwrdd gyflwyniad gan Dyfed Rowlands (Rheolwr Perygl Llifogydd ac Isadeiledd) yn amlygu’r pryderon o ran amddiffynfeydd y môr ar bromenâd Bae Colwyn.

 

Roedd y mater o ran Amddiffynfa’r Môr wedi’i nodi fel risg A1 ar y gofrestr risg, oedd yn risg critigol. Nodwyd cynllun 10 mlynedd ar gyfer yr amddiffynfeydd môr yn 2010 i fynd i’r afael â’r pryderon.

 

Hysbyswyd y Bwrdd bod yr amddiffynfeydd môr presennol yn dyddio o’r cyfnod Fictoraidd ac nad oeddynt yn addas bellach. Roedd y morglawdd wedi’i godi ar dywod a graean, y gellid eu llusgo allan yn ystod stormydd. Gallai hyn greu gwagleoedd y tu ôl i’r morglawdd, fyddai’n gwanio’r ffordd sy’n rhedeg yn gyfagos iddo.

 

Roedd yr amddiffynfeydd môr yn agos i Linell Reilffordd  Caergybi i Gaer a Gwibffordd yr A55. Pe bai’r amddiffynfeydd yn methu, gallai’r rhain gael eu heffeithio’n ddifrifol. Roedd pibell garthffosiaeth Dŵr Cymru’n rhedeg o dan y ffordd hefyd, wrth ymyl y morglawdd.

 

Roedd y costau cynnal parhaus ar gyfer y morglawdd yn destun pryder. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, gwariwyd £300k yn trwsio difrod i’r morglawdd a’i gyffiniau. Cyfrannodd Dŵr Cymru 50% o’r costau ar gyfer y gwaith atgyweirio diweddaraf. Roed y diffyg buddsoddiad gan randdeiliaid eraill wedi achosi pryder, yn enwedig yn y cyfnod hwn o gyni ariannol. Roedd cyllid CRMO Llywodraeth Cymru’n ffrwd gyllido y gellid ei defnyddio gan CBSC i amddiffyn y ffryntiad.

 

Awgrymodd y Bwrdd y dylid cynnal asesiad risg ac effaith manwl, i ystyried yr effaith ar isadeiledd a materion cymdeithasol ehangach. Cytunwyd y byddai CBS Conwy’n arwain ar yr asesiad ac yn casglu gwybodaeth er mwyn cael darlun cliriach o’r effaith bosibl ar Gonwy a Gogledd Cymru. Cynigiodd Judith Greenhalgh (CSDd) adnoddau CSDd i helpu gyda chasglu gwybodaeth ar gyfer asesiad effaith, gan y byddai unrhyw ddiffyg yn y morglawdd yn effeithio ar Sir Ddinbych hefyd.

 

PENDERFYNWYD – Bod

 

  1. y Bwrdd yn cydnabod y risg o ran yr amddiffynfeydd môr.
  2. CBSC yn coladu gwybodaeth am yr asesiad risg ac effaith manwl.                 

 

 

11.

DATBLYGU COFRESTR RISG Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS A HERIAU ARWEINYDDIAETH

I dderbyn adroddiad cyfrincachol ar gofrestr risg datblygu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a heriau arweinyddiaeth (copi ynghlwm)

 

11:55am – 12:10pm

 

Cofnodion:

Awgrymodd y Cadeirydd y byddai’r eitem hon yn cael ei thrafod yn fanylach mewn cyfarfod o’r BGC yn y dyfodol. Hysbyswyd y Bwrdd bod swyddogion wedi dechrau mapio risgiau corfforaethol allweddol partneriaid, y gellid eu cylchredeg i aelodau’r Bwrdd. Awgrymodd y Bwrdd y gellid trafod risgiau yng ngweithdy’r BGC yn Ionawr, cyn eu trafod eto yng nghyfarfod nesaf y BGC ym Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD – Ystyried y gofrestr risg a’r heriau o ran arweinyddiaeth yng ngweithdy nesaf y BGC ac yng nghyfarfod y BGC ym Mawrth 2019.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 425 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon.

 

12:25pm – 12:30pm

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y BGC (a gylchredwyd yn flaenorol) i’w hystyried. Cadarnhaodd yr Aelodau yr agenda a’r adroddiadau oedd i’w cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y BGC ym Mawrth 2019, fel a ganlyn:

 

  • Adroddiad Blynyddol y BGC
  • Cynghorau gwasanaethau gwirfoddol Conwy a Sir Ddinbych – adroddiad dilynol ar y cymorth y gallai’r BGC ei gynnig
  • Cynllunio Senarios ar gyfer y dyfodol
  • Cynlluniau Datblygu Lleol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych – Ymgynghoriad ar y Cam Cyntaf
  • Cymunedau yn Gyntaf – Prosiectau etifeddiaeth        
  • Cofrestr Risg y BGC a Heriau Arweinyddiaeth

 

Awgrymodd y Bwrdd y gellid ychwanegu’r Cynnig Twf i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, nodwyd mai Jane Richardson (CBSC) a Graham Boase (CSDd) oedd y swyddogion allweddol i gysylltu â hwy ar gyfer yr eitem hon.

 

PENDERFYNWYD – Cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.