Agenda and draft minutes
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Simon Smith – Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Helen Wilkinson – Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Y Cynghorydd Hugh Evans – Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 399 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 i’w cymeradwyo. Materion yn
Codi – Cyfanswm y
cyllid oedd ar gael ar gyfer y cynnig twf a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU oedd
£120 miliwn, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai’n cyfateb cyllid
llywodraeth y DU. Roedd y cyfanswm hwnnw o £240 miliwn yn llai na hynny a
ragwelwyd. Byddai’r cynnig twf yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol
y Bwrdd ar ôl cael gwybod rhagor am y prosiect. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy
a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 19 Medi 2018. |
|
a. Y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau cydgraffu y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus b. Gweithdy byrddau iechyd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus conwy a sir ddinbych – amlinelliad o’r sesiwn 9:30am – 9:40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a) Diweddariad ar drefniadau cyd-graffu’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Cadarnhawyd bod y ddau Gyngor wedi cytuno i sefydlu cydbwyllgor craffu a
fyddai’n cynnwys wyth cynghorydd o bob cyngor. Roedd y broses o benodi’r
aelodau yn mynd yn ei blaen a hysbyswyd y Bwrdd y gellid cynnal cyfarfod cyntaf
cydbwyllgor craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol cyn diwedd y flwyddyn ariannol
bresennol. b) Gweithdy Byrddau Iach BGC Conwy a Sir Ddinbych –
amlinelliad o’r sesiwn Ni chodwyd unrhyw faterion mewn perthynas â’r gweithdy. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM OBLYGIADAU BREXIT A CHYLLID YR UE PDF 445 KB I dderbyn cyflwyniad ar y diweddariad Brexit a goblygiadau cyllid yr UE. 9.40am – 10.10am Cofnodion: Cyflwynodd Peter York (CSDd) a Barbara Burchell (CBS Conwy) oblygiadau
Brexit o ran Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy. Hysbyswyd yr aelodau bod y cyflwyniad yn seiliedig ar senario ‘dim
cytundeb’ Brexit a oedd yn amlygu materion allweddol posibl a allai effeithio
CSDd a CBSC. Roedd llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd y byddai Cronfa Ffyniant
Gyffredin yn cael ei chreu i gymryd lle cyllid yr UE. Fodd bynnag, roedd diffyg
eglurder o ran y cyllid arfaethedig yn gwneud paratoadau ar gyfer y dyfodol yn
anodd. Codwyd pryderon am y posibilrwydd o anrhefn gyhoeddus a throseddau casineb,
fel y rheiny a adroddwyd ar ôl y refferendwm ar aelodaeth o’r UE. Rhoddwyd
sicrwydd i’r Bwrdd bod y materion hyn yn cael eu monitro’n agos gan Heddlu
Gogledd Cymru. Codwyd bod pryder am nifer dinasyddion yr UE a oedd yn byw yn y ddwy sir ar
hyn o bryd, gan y cyflogwyd tua 3,000 o ddinasyddion y DU ar draws Conwy a Sir
Ddinbych. Byddai hyn yn effeithio sawl sector o fewn y rhanbarth, yn enwedig y
Sector Gofal. Roedd swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn cysylltu â chyflogwyr
lleol i ddarparu gwybodaeth am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr
UE, ac yn annog dinasyddion yr UE i ymgeisio. Byddai hyn yn caniatáu i
ymgeiswyr llwyddiannus barhau i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Byddai’r camau nesaf ar gyfer CBS Conwy yn cynnwys canfod swyddogion
arweiniol ar gyfer bob gwasanaeth a effeithir (e.e. AD, cyfreithiol ac ati) a
chymryd ymagwedd tîm prosiect tuag at Brexit. Byddai gwybodaeth yn parhau i
gael ei chasglu a diweddariadau gwybodaeth rheolaidd yn cael eu darparu. Roedd
Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu adlewyrchu’r ymagwedd hon. Hysbyswyd y Bwrdd
hefyd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi llunio pecyn cymorth
parodrwydd i gefnogi awdurdodau lleol. Darparodd Sioned Rees (LlC) ddiweddariad o safbwynt cenedlaethol, gan
hysbysu’r Bwrdd y gallai Cymru golli 9% o’i GDP drwy adael yr UE mewn senario
‘dim cytundeb’. Byddai gostyngiad o’r fath yn cael effaith andwyol ar gyllid
llywodraeth leol. Hysbyswyd y Bwrdd bod LlC a’r GIG yn gweithio ar asesiad risg ar gyfer
Brexit. Nid oedd yr effaith ar fewnforio’n hysbys eto, roedd hyn yn golygu bod
byrddau iechyd yn casglu ynghyd cyflenwadau o feddyginiaethau a bwyd. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflogi 200 o swyddogion i gynorthwyo gyda
Brexit, a gofynnodd y Bwrdd a fyddai cyfle i rannu’r adnodd hwn i gefnogi
sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. PENDERFYNWYD
– i. Nodi’r wybodaeth. ii. Bod
Sioned Rees yn trafod gyda chydweithwyr yn LlC y posibiliadau o ran rhannu adnoddau
Brexit i gefnogi sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 770 KB I.
Pobl – Lles meddyliol (Sian Williams) II.
Cymuned – Grym cymunedol (Judith
Greenhalgh) III.
Lle – Gwydnwch amgylcheddol
(Teresa Owen) 10:10am – 11:00am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Hysbysodd Nicola Kneale (CSDd) y Bwrdd y cynhaliwyd ymarfer mapio i sicrhau
nad oedd y themâu o’r 6 blaenoriaeth wreiddiol ar goll neu wedi’u dileu o’r 3
blaenoriaeth ddiwygiedig. Gellid gweld canlyniadau’r mapio yn eitem 5 o’r pecyn
adroddiadau, lle cynhwyswyd y mwyafrif o’r themâu. a) Pobl – Lles Meddyliol Cynhaliwyd gweithdy yn Llanrwst ddiwedd mis Tachwedd gyda nifer dda’n
mynychu ac roedd yr ymateb iddo’n gadarnhaol. Byddai adroddiad yn cael ei lunio
ar y gweithdy i’w gylchredeg ym mis Ionawr. Roedd y gweithdy’n dangos bod llawer o waith yn mynd yn ei flaen eisoes yn
yr ardal hon i fapio’r gwasanaethau a’r mentrau presennol ar gyfer lles
meddyliol, ac i nodi unrhyw ddyblygu neu fylchau. Awgrymwyd bod posibilrwydd y
gellid defnyddio’r Timau Gweithredu Lleol i lywio neu gyflawni’r cynlluniau
gweithredu ar gyfer y flaenoriaeth hon. Nododd y Bwrdd bod y galw am ofal iechyd meddwl yn y rhanbarth yn cynyddu’n
gyflym, a bod angen rhagor o adnoddau ar adeg o gyni ariannol cynyddol ar gyfer
awdurdodau lleol. Cytunodd y Bwrdd i graffu ar yr adroddiad ar ôl ei gyhoeddi ym mis Ionawr er
mwyn blaenoriaethu gwaith i fynd i’r afael â’r meysydd a allai gael yr effaith
fwyaf. b) Cymuned – Grym Cymunedol Tywyswyd y Bwrdd i adran gyfleoedd yr adroddiad ar ragnodi cymdeithasol
(eitem 5b) - a ddatblygwyd yn dilyn sgyrsiau rhwng Nina Ruddle (Prifysgol
Glyndŵr), Dr Glynne Roberts (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Mefty Haider (CNC) a
Nicola Kneale (CSDd). Canolbwyntiodd y Bwrdd ar yr agweddau y gallai’r BGC ychwanegu gwerth yn y
maes hwn, gan fod llawer o waith yn digwydd eisoes o ran rhagnodi cymdeithasol
yng Ngogledd Cymru. Cafwyd trafodaeth lle -
Hysbysodd Debbie Neale (CGGSDd) y Bwrdd y byddai CGGSDd yn arwain ar elfen
Dementia’r flaenoriaeth gan eu bod wedi derbyn Cyllid Gofal Canolraddol (ICF) i
godi ymwybyddiaeth ac i gyflenwi hyfforddiant dementia ar draws Conwy a Sir
Ddinbych. Croesawodd y Bwrdd y diweddariad a gofynnodd am gael adroddiad mewn
cyfarfod yn y dyfodol. Cadarnhaodd CBS eu bod yn y camau cyntaf o ddod yn sefydliad cyfeillgar i
ddementia. c) Lle – Gwydnwch Amgylcheddol Darparwyd diweddariad ar y flaenoriaeth hon fel a ganlyn – •
Sefydlwyd gweithgorau i yrru gwaith yn ei flaen gyda
swyddogion amgylcheddol o bartneriaid y BGC. •
Byddai dwy fersiwn ar gyfer yr addunedau gwyrdd, un ar
gyfer cymunedau a busnesau ac un arall ar gyfer unigolion. •
Byddai canllaw yn cael ei ddatblygu i gefnogi cymunedau i
gyflawni’r adduned, fyddai’n cynnwys gwybodaeth ar argaeledd adnoddau pellach a
chyllid posibl. •
O ran y gwaith polisi amgylcheddol cyffredinol, roedd
gwybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn o bryd ar agweddau penodol (e.e.
gwastraff, llifogydd, bioamrywiaeth, carbon ac ynni ac ati). Byddai’r wybodaeth
hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu fframwaith y gallai bob partner weithio
tuag ato yn eu hamser eu hunain. •
Cydnabuwyd bod angen datblygu gwaith partneriaeth
ymhellach, ac mae bwriad i sefydlu rhwydweithiau rhithwir ar gyfer y gwahanol
agweddau amgylcheddol. Hysbysodd Siân Williams (CNC) y Bwrdd bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynllunio i archwilio’r themâu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNNIG NEWID HINSAWDD I dderbyn adroddiad llafar ar gynnig rhanbarthol ar newid yn yr hinsawdd. 11:00 am – 11:15am Cofnodion: Yn dilyn y drafodaeth yn ystod y diweddariadau ar flaenoriaethau’r BGC,
roedd y Bwrdd yn fodlon i’r Cadeirydd a swyddogion allweddol drafod y cynnig ar
lefel ranbarthol ac adrodd yn ôl i’r BGC. PENDERFYNWYD
– I’r Bwrdd dderbyn diweddariad yn y
dyfodol ar ddatblygiad y cynnig o ran newid hinsawdd. |
|
CYNGOR CONWY - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL I dderbyn cyflwyniad ar gynllun corfforaethol Cyngor Conwy 11:15am – 11:30am Cofnodion: Rhoddodd Iwan Davies (CBSC) gyflwyniad ar y Cynllun Corfforaethol ac
amlygodd ei feysydd allweddol. Amlinellwyd bod y cynllun corfforaethol yn
uchelgeisiol ond yn realistig mewn cyfnod o anawsterau cyllidol. Byddai’r
Cynllun Corfforaethol yn rhedeg ochr yn ochr â chyfnod ethol llywodraeth leol o
2017-2022. Roedd yr wyth blaenoriaeth fel a ganlyn – Ø Addysg a
Sgiliau - Roedd CBSC eisiau cael ei gydnabod i fod yn cynnig addysg ardderchog
ynghyd â rhoi sylw i wella addysg a pherfformiad ar draws y system ysgolion
gyfan, fel bod gan bobl ifanc y sgiliau i allu manteisio ar gyfleoedd o ran
swyddi. Ø Diogel – Sicrhau bod preswylwyr CBSC yn ddiogel ac yn
teimlo’n ddiogel o fewn y Sir, a hefyd sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu
diogelu. Ø Tai – Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety
fforddiadwy, priodol, o ansawdd da sy’n gwella ansawdd eu bywydau. Ø Iechyd - Hybu
dewisiadau a ffyrdd iach o fyw gan wedyn leihau’r gofynion ar wasanaethau
cyhoeddus. Byddai CBSC yn cryfhau gwaith partneriaeth rhwng gwasanaethau Gofal
Iechyd a Chymdeithasol i ddarparu mynediad syml a di-dor i Ofal Iechyd a Chymdeithasol
pan fo’u hangen. Ø Economi – Cael economi hyderus oedd yn wydn ac yn
gynaliadwy. Annog syniadau newydd a gweithio’n rhagweithiol gyda busnesau i
hyrwyddo amodau y gallent dyfu oddi mewn iddynt. Ø Yr Amgylchedd – Cymunedau i fod yn
wydn ac yn barod i fabwysiadu’r heriau amgylcheddol a wynebir gan y byd.
Canolbwyntio ar wella amddiffynfeydd llifogydd, cynyddu ailgylchu a buddsoddi
mewn ynni adnewyddadwy. Ø Diwylliant – Canolbwyntio ar
ddathlu diwylliant, y Gymraeg a defnyddio’r celfyddydau i wneud y gorau o
lesiant. Ø Llais - Canolbwyntio
ar adolygu sut y bu’r Cyngor yn ymgysylltu, cyfathrebu ac yn gweithio gyda
chymunedau ac yn newid y modd y mae’r Cyngor yn gweithredu i fod yn fwy
blaengar, modern ac effeithlon. Yn dilyn y cyflwyniad ar y cynllun corfforaethol, dangoswyd
blaenoriaethau’r Cabinet hefyd –
Ystyriwyd rhaglen foderneiddio CBS Conwy. Rhan allweddol o’r rhaglen oedd
swyddfeydd newydd Coed Pella ym Mae Colwyn a oedd wedi agor yn ddiweddar.
Byddai’r adeilad yn adfywio Bae Colwyn ac yn gwella mynediad i wasanaethau ar
gyfer preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Codwyd yr heriau a oedd yn wynebu Conwy yn y cyflwyniad hefyd - •
Roedd y galw am gymorth ym maes tai ac atal digartrefedd
yn cynyddu. •
Pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a chynaliadwyedd y
sector gofal. •
Cyflawniad addysgol a newidiadau allweddol i’r cwricwlwm. •
Adolygiad o ddarpariaeth gwasanaeth a chydweithredu â
chynghorau tref a chymuned. Diolchodd y Bwrdd i’r Prif Weithredwr am y cyflwyniad llawn gwybodaeth, a
nododd y tebygrwydd rhwng y cynllun â chynllun corfforaethol CSDd. PENDERFYNWYD – Nodi’r
diweddariad ar Gynllun Corfforaethol CBSC. |
|
RHAN 9 PAPUR BWRDD LLYWODRAETHU - YMATEB O GYFARFOD GRŴP Y PRIF WEITHREDWR I dderbyn adroddiad ar Rhan 9 papur
Bwrdd Llywodraethu ac ymateb o gyfarfod grŵp y prif weithredwr 11:30am – 11:45am Cofnodion: Rhoddodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr CSDd, ddiweddariad i’r Bwrdd ar
Bapur Llywodraethu rhan 9. Bu’r papurau’n cael eu cylchredeg cyn ei phenodiad
fel Prif Weithredwr CSDd. Roedd llinellau atebolrwydd clir ynghyd â phartneriaeth a meysydd datblygu
gwaith rhwng y BGC a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Byddai papur terfynol y
Bwrdd Llywodraethu’n cael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol yn y dyfodol. Holodd y Bwrdd am faterion o ran cydweithredu rhwng y BGC a chyrff eraill,
a thrafododd p’un a ellid gwneud gwaith i werthuso’r strwythur o dan y BGC i
gefnogi cyflawni eu gwaith. Hysbyswyd y Bwrdd y byddai adroddiad ar ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol ar BGC’au yn cael ei
gyhoeddi’n fuan. Roedd nodau’r ymchwiliad, yn wreiddiol, yn cynnwys archwilio
sut yr oedd BGC’au yn targedu gwelliannau ar gymunedau difreintiedig. Fodd
bynnag, maent wedi’u diwygio ers hynny i ganolbwyntio ar weithrediad ac
effeithiolrwydd BGC’au. PENDERFYNWYD – Nodi’r
wybodaeth. |
|
80 O NEWIDIADAU SYML - ADRODDIAD GAN Y COMISIYNYDD CENEDLAETHAU'R DYFODOL PDF 203 KB I dderbyn adroddiad ar 80 o Newidiadau Syml – Adroddiad gan y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol 11:45am – 11.55am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nicola Kneale (CSDd) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar
ddogfen swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar Y Gallu i Greu:
Newidiadau Syml, sy’n nodi 80 newid y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i’w
helpu i wneud y gorau o’u cyfraniad at y saith nod llesiant. Pwysleisiwyd bod y newidiadau ar gyfer cyrff cyhoeddus yn bennaf, fodd
bynnag, roedd y tabl o fewn adran 4.1 o’r adroddiad yn amlygu’r meysydd y
gallai’r BGC gydweithio arnynt. Teimlodd y Bwrdd bod rhai syniadau da yn y
ddogfen, ac roedd yn cydnabod bod sefydliadau’n defnyddio rhai ohonynt eisoes,
ond roedd yn gweld bod rhai meysydd y gallai eu gwella. Cytunodd y Bwrdd nad
oedd creu haen ychwanegol o waith i weithredu’r newidiadau hyn yn opsiwn oedd
ar gael. Teimlodd Aelodau’r Bwrdd y gallent wneud mwy ar y cyd i wella cyfleoedd o
ran secondiadau. O ran y gwaith a nodwyd ym meysydd blaenoriaeth y BGC, roedd
posibilrwydd y gellid eu datblygu fel prosiect bach a’u cyflawni drwy gyfleoedd
ar gyfer secondiadau. Byddai Prif Weithredwr CBSC (ID) yn mynd â’r ddogfen i gyfarfod o uwch
reolwyr CBSC ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd ar y casgliadau o’r cyfarfod. PENDERFYNWYD
– Nodi’r
adroddiad. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a
ganlyn ar y sail eu bod yn cynnwys y posibilrwydd o orfod datgelu gwybodaeth
eithriedig. (Ar y pwynt hwn, cytunodd y Bwrdd i newid trefn yr adroddiadau er mwyn
rhoi cyfle i siaradwyr gwadd wneud cyflwyniad). |
|
AMDDIFFYNFEYDD MÔR A PHERYGL O LIFOGYDD HEN GOLWYN I Derbyn cyflwyniad cyfrinachol ar amddiffynfeydd môr Hen Golwyn a pherygl llifogydd. 12:10pm – 12.25pm Cofnodion: Dangoswyd i’r Bwrdd gyflwyniad gan Dyfed Rowlands (Rheolwr Perygl Llifogydd
ac Isadeiledd) yn amlygu’r pryderon o ran amddiffynfeydd y môr ar bromenâd Bae
Colwyn. Roedd y mater o ran Amddiffynfa’r Môr wedi’i nodi fel risg A1 ar y gofrestr
risg, oedd yn risg critigol. Nodwyd cynllun 10 mlynedd ar gyfer yr
amddiffynfeydd môr yn 2010 i fynd i’r afael â’r pryderon. Hysbyswyd y Bwrdd bod yr amddiffynfeydd môr presennol yn dyddio o’r cyfnod
Fictoraidd ac nad oeddynt yn addas bellach. Roedd y morglawdd wedi’i godi ar
dywod a graean, y gellid eu llusgo allan yn ystod stormydd. Gallai hyn greu
gwagleoedd y tu ôl i’r morglawdd, fyddai’n gwanio’r ffordd sy’n rhedeg yn
gyfagos iddo. Roedd yr amddiffynfeydd môr yn agos i Linell Reilffordd Caergybi i Gaer a Gwibffordd yr A55. Pe bai’r
amddiffynfeydd yn methu, gallai’r rhain gael eu heffeithio’n ddifrifol. Roedd
pibell garthffosiaeth Dŵr Cymru’n rhedeg o dan y ffordd hefyd, wrth ymyl y
morglawdd. Roedd y costau cynnal parhaus ar gyfer y morglawdd yn destun pryder. Yn y
flwyddyn ariannol ddiweddaraf, gwariwyd £300k yn trwsio difrod i’r morglawdd
a’i gyffiniau. Cyfrannodd Dŵr Cymru 50% o’r costau ar gyfer y gwaith
atgyweirio diweddaraf. Roed y diffyg buddsoddiad gan randdeiliaid eraill wedi
achosi pryder, yn enwedig yn y cyfnod hwn o gyni ariannol. Roedd cyllid CRMO
Llywodraeth Cymru’n ffrwd gyllido y gellid ei defnyddio gan CBSC i amddiffyn y
ffryntiad. Awgrymodd y Bwrdd y dylid cynnal asesiad risg ac effaith manwl, i ystyried
yr effaith ar isadeiledd a materion cymdeithasol ehangach. Cytunwyd y byddai
CBS Conwy’n arwain ar yr asesiad ac yn casglu gwybodaeth er mwyn cael darlun
cliriach o’r effaith bosibl ar Gonwy a Gogledd Cymru. Cynigiodd Judith
Greenhalgh (CSDd) adnoddau CSDd i helpu gyda chasglu gwybodaeth ar gyfer asesiad
effaith, gan y byddai unrhyw ddiffyg yn y morglawdd yn effeithio ar Sir
Ddinbych hefyd. PENDERFYNWYD
– Bod
|
|
DATBLYGU COFRESTR RISG Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS A HERIAU ARWEINYDDIAETH I dderbyn adroddiad cyfrincachol ar gofrestr risg datblygu'r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a heriau arweinyddiaeth (copi ynghlwm) 11:55am – 12:10pm Cofnodion: Awgrymodd y Cadeirydd y byddai’r eitem hon yn cael ei thrafod yn fanylach
mewn cyfarfod o’r BGC yn y dyfodol. Hysbyswyd y Bwrdd bod swyddogion wedi
dechrau mapio risgiau corfforaethol allweddol partneriaid, y gellid eu
cylchredeg i aelodau’r Bwrdd. Awgrymodd y Bwrdd y gellid trafod risgiau yng
ngweithdy’r BGC yn Ionawr, cyn eu trafod eto yng nghyfarfod nesaf y BGC ym
Mawrth 2019. PENDERFYNWYD
– Ystyried y gofrestr
risg a’r heriau o ran arweinyddiaeth yng ngweithdy nesaf y BGC ac yng
nghyfarfod y BGC ym Mawrth 2019. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 425 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon. 12:25pm – 12:30pm Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y BGC (a gylchredwyd yn flaenorol)
i’w hystyried. Cadarnhaodd yr Aelodau yr agenda a’r adroddiadau oedd i’w
cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y BGC ym Mawrth 2019, fel a ganlyn:
Awgrymodd y Bwrdd y gellid ychwanegu’r Cynnig Twf i’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol, nodwyd mai Jane Richardson (CBSC) a Graham Boase (CSDd) oedd y
swyddogion allweddol i gysylltu â hwy ar gyfer yr eitem hon. PENDERFYNWYD – Cymeradwyo’r rhaglen
gwaith i’r dyfodol. |