Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Andy Jones (Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol) Gary Doherty - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Sioned Rees – Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru Teresa Owen – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Cynrychiolydd Iechyd
Cyhoeddus Cymru) Y Cynghorydd Hugh Evans – Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych
|
||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 396 KB Cymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2018 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2018. |
||
a.
Agenda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol (llythyr wedi’i atodi) b. Diweddariad
Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (diweddariad ar lafar) c. Dyddiad
ar gyfer y dyddiadur – sesiwn datblygu ‘Byrddau Iechyd’ 09:30 a.m. – 09:45 a.m. Cofnodion: a. Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Tynnwyd sylw’r aelodau at y ffaith bod y llythyr atodedig wedi gofyn am
adborth aelodau o ran rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cadarnhawyd bod adolygiad o Fwrdd Rhan 9 wedi’i gynnal a bod adroddiad
wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod nesaf y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaethau daeth y pwyllgor i’r casgliad i ohirio ymateb i
lythyr Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru nes bod gwybodaeth o’r cyfarfod
Grŵp Prif Weithredwr wedi’i derbyn. PENDERFYNWYD, yn dilyn y cyfarfod Grŵp Prif Weithredwr i drafod adolygiad Rhan 9, aelodau i drafod y canlyniadau ac ymateb i lythyr Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. b. Diweddariad Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Cadarnhawyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych wedi
derbyn ac archwilio’r cynnig am Gydbwyllgor Craffu. Amlygwyd mai cam nesaf y datblygiad oedd derbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan
Gyngor Llawn Conwy a Chyngor Llawn Sir Ddinbych. Yn dilyn y penderfyniad
hwnnw, byddai’r materion ffurfiol o greu cydbwyllgor yn dechrau. Roedd disgwyl,
pe bai’r trefniadau cyd-graffu yn cael eu cymeradwyo, y byddai’r pwyllgor yn
cwrdd am y tro cyntaf yn y flwyddyn ariannol newydd. c. Dyddiad ar gyfer y Dyddiadur – Sesiwn Datblygu
‘Byrddau Iechyd’ Rhoddodd Nicola Kneale (Cyngor Sir Ddinbych) wybod i’r aelodau mai’r
dyddiad a gadarnhawyd ar gyfer gweithdy Academi Cymru oedd prynhawn dydd Llun,
28 Ionawr 2019. Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau ymgynghori â swyddogion a pharatoi barn a chwestiynau cyn y gweithdy. |
||
ADRODDIAD 'FUTURES FOR WALES' PDF 8 MB Derbyn
diweddariad ar lafar ar adroddiad 'Futures for Wales’. 09:45 a.m. – 10:00 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd Fran Lewis - Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBS
Conwy), yr adroddiad ar ‘Futures for Wales’. Hysbyswyd yr aelodau bod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi o'r blaen ac wedi
cynnwys 14 argymhelliad a oedd wedi’u hanelu at y Byrddau Gwasanaethau
Cyhoeddus. Roedd yr adroddiad cryno yn cynnwys y cynllun hirdymor ar gyfer
Cymru. Archwiliodd yr aelodau’r crynodeb gweithredol yn fanwl. Eglurodd y Cadeirydd mai pwrpas yr adroddiad oedd hysbysu’r Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus o waith a fydd yn siapio Cymru yn y dyfodol. Mae’r
sefyllfa bresennol yn ei gwneud yn anodd ystyried dyheadau’r dyfodol. Roedd aelodau’n ddiolchgar iawn o’r adroddiad ac o’r farn bod gwybodaeth
blaengynllunio yn bwysig. Pryder a fynegwyd gan yr aelodau oedd nad oedd
enghreifftiau o’r hyn y gallai ddigwydd yn y dyfodol wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad os yw rhai agweddau’n newid. Teimlwyd y byddai hyn yn bwysig er mwyn
cael dealltwriaeth gynhwysfawr. Dywedodd Helen Wilkinson Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych y gallai sawl ffactor newid a dylanwadu ar
y dyfodol a bod angen ystyried y ffactorau hyn a’u hymchwilio ymhellach.
Gwirfoddolodd Helen Wilkinson, os oedd yr aelodau’n gytûn, i wneud gwaith ar
gynllunio sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol ac adrodd ei chanfyddiadau yng
nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd i Helen Wilkinson am y
cynnig a chytunodd yr aelodau i’r gwaith arfaethedig ar gynllunio sefyllfaoedd
ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD i.
y dylid derbyn y diweddariad a nodi’r cynnwys. ii.
cynnal gwaith pellach ar gynllunio sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol ac
adrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
DIWEDDARIAD AR GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 191 KB i.
Pobl - Lles
meddyliol (Sian Williams) ii.
Cymuned - Ymrymuso'r Gymuned
(Judith Greenhalgh) iii.
Lle – Cadernid
Amgylcheddol (Teresa Owen) 10:00
a.m – 10:45
a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd diweddariad ar gynnydd y blaenoriaethau fel a ganlyn – i.
Pobl – Lles Meddyliol Rhoddodd Siân Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru, wybod i’r
pwyllgor y byddai diweddariad, mewn perthynas â gweithdy sydd i ddod, yn cael
ei roi yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Eglurwyd i aelodau
bod heriau wedi codi wrth gysylltu ag asiantaethau ehangach am gymorth i
gydlynu’r gweithdy. ii.
Cymuned – Grym Cymunedol Rhoddodd
Nicola Kneale (Cyngor Sir Ddinbych) wybod i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus am y broses a ddilynwyd i ddatblygu’r camau nesaf yn y flaenoriaeth
Grym Cymunedol. Cynhaliwyd gweithdy ym mis Mehefin gan Gyngor Sir Ddinbych gyda
chefnogaeth gan Wasanaethau Gwirfoddol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Tywyswyd
aelodau drwy adroddiad ac atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a chyfeiriwyd
yn benodol at y 3 argymhelliad a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad Ychwanegodd
Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych) y byddai’r gwaith hwn yn ychwanegu
gwerth at waith blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus heb ddyblygu unrhyw
waith sydd wedi'i gwblhau. Trafododd yr aelodau'r effaith o ‘ragnodi cymdeithasol’
yn fanwl, a theimlwyd y byddai angen gwell dealltwriaeth o waith partneriaid
ehangach yn y maes hwn i asesu sut y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ychwanegu gwerth a chynnig cefnogaeth yn y maes hwn. Gofynnodd y
Cadeirydd bod gwaith pellach yn cael ei wneud i gael trosolwg o ragnodi
cymdeithasol yn y rhanbarth a nodi unrhyw drefniad llywodraethu sydd ar waith. Cytunwyd gan
aelodau bod llawer o waith wedi’i wneud ar Rymuso’r Gymuned. Diolchwyd i Nicola
Kneale a Judith Greenhalgh (Cyngor Sir Ddinbych) am yr wybodaeth fanwl a
ddarparwyd. Cytunwyd bod angen gwneud gwaith ac ymchwil pellach. iii. Lle – Gwydnwch Amgylcheddol Rhoddodd Fran Lewis (Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy) wybod i'r aelodau bod gweithdy wedi’i gynnal yn amlygu’r camau
gweithredu arfaethedig ar gyfer darparu Gwydnwch Amgylcheddol. Arwain aelodau drwy Gynllun Cyflawni 2018/19
a’r syniadau a’r camau gweithredu a awgrymir. Daeth nifer o bobl i’r gweithdy
ac fe gafwyd cyfraniadau gwerthfawr iawn. Mae angen gwneud gwaith pellach i
ddatblygu perthynas waith gadarn gyda sefydliadau. Cadarnhaodd Fran Lewis bod
angen gwneud gwaith ac ymchwil pellach a bod angen cyflwyno mwy o wybodaeth i’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn amlygu'r mesurau cyflawniad. Trafododd yr aelodau yr angen i lobïo’r pryderon a
godwyd i Lywodraeth Cymru ac aelodau lleol o’r Senedd i amlygu gwaith y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Codwyd pryderon ynghylch amddiffynfa fôr ac
isadeiledd, yn benodol o ran Hen Golwyn yn Sir Conwy. Cadarnhaodd y Cadeirydd
bod angen i’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth ymchwilio i bryderon o ran isadeiledd
a chwblhau asesiad risg er mwyn canatau i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
drafod. Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am eu
gwaith hyd yma ar y blaenoriaethau a’r wybodaeth a ddarparwyd. PENDERFYNWYD nodi
cynnydd y blaenoriaethau a darparu gwybodaeth gefndirol a gwybodaeth bellach ar
I.
Ragnodi
cymdeithasol - cael trosolwg o ragnodi
cymdeithasol yn y rhanbarth a nodi unrhyw drefniad llywodraethu sydd ar waith.
II.
Cefndir i’r
3 argymhelliad Grymuso Cymunedol
III.
Gwydnwch
Amgylcheddol – cael mwy o wybodaeth ar yr amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn a
chysylltu â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.
|
||
Ar y pwynt hwn cytunodd yr aelodau i newid trefn yr adroddiadau er mwyn
caniatáu ar gyfer siaradwyr gwadd. |
||
TROSOLWG O GYNLLUNIAU DATBLYGU LLEOL AR GYFER CONWY A SIR DDINBYCH Derbyn cyflwyniad
gan James Harland (CBSC) ac Angela Loftus (CSDd) ar Gynlluniau Datblygu Lleol
Conwy a Sir Ddinbych. 11:15 a.m. – 11:45 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd
James Harland (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) ac Angela Loftus (Cyngor Sir
Ddinbych) y wybodaeth ddiweddaraf ar Gynlluniau Datblygu Lleol Conwy a Sir
Ddinbych. Eglurwyd i
aelodau bod gan Gonwy a Sir Ddinbych ofyniad statudol i gael cynllun datblygu
lleol. Roedd y ddau Gyngor ar y camau cyntaf o’u datblygu. Eglurodd James Harland y byddai cam cyntaf
Conwy yn cynnwys ymgynghoriad tua diwedd 2018 i nodi unrhyw fater a pharatoi ar
gyfer datblygiad pellach. Roedd angen
i’r weledigaeth a’r amcanion fod yn unol â gofynion a pholisïau. Adleisiodd
Angela Loftus yr uchod, gan bwysleisio proses hir a hynod reoledig y Cynllun
Datblygu Lleol. Hysbyswyd yr aelodau bod
grŵp Cynllunio Strategol wedi’i sefydlu yn Sir Ddinbych i fonitro gwaith. Roedd Conwy a
Sir Ddinbych wedi gofyn am dystiolaeth o safleoedd posibl i’w datblygu gan y
cyhoedd. Roedd gwaith i hyrwyddo’r cais
hwn wedi bod yn mynd rhagddo. Cadarnhaodd
James ac Angela y byddent yn parhau i hysbysu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o
ran y datblygiadau drwy gydol y broses. Codwyd sawl
mater yn ystod y drafodaeth, gan gynnwys - ·
Bydd blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn
cynnwys gofal dementia yn y gymuned – cadarnhawyd y byddai prosiectau cymunedol
a phrosiectau ar gyfer pobl hŷn yn cael eu sefydlu a’u cynnwys yn y polisi
cynllunio. ·
Adwerthwyr bwyd brys
- cadarnhaodd swyddogion bod canllaw cynllunio atodol wedi darparu
gwybodaeth ar newid dosbarthiadau ar gyfer adwerthwyr bwyd. Bu’n anodd ei reoli
gan fod newidiadau i ganiatâd cynllunio wedi’i gwneud yn haws i roi caniatâd. ·
Bodelwyddan – Cadarnhawyd bod y safle o fewn y Cynllun
Datblygu Lleol a bod caniatâd cynllunio wedi’i roi. Roedd y safle wedi bod yn
gysylltiedig â’r Cynnig Twf ac roedd monitro wedi parhau. ·
Meddygfeydd – cadarnhawyd eu bod yn cael trafferth cael
gwybodaeth ar Feddygfeydd. Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion am eu hamser ac am ateb y pryderon a godwyd gan
aelodau. Cytunwyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei roi ar adeg
ddiweddarach o’u datblygu. PENDERFYNWYD
|
||
Ar y pwynt hwn (11.30 a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45 a.m. |
||
YMGORFFORI BLAENORIAETHAU/ GWAITH Y BGC MEWN SEFYDLIADAU AELOD Derbyn adroddiad
ar lafar ar sefydlu Blaenoriaethau / gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar
gyfer sefydliadau sy’n aelodau. 10:45 a.m. – 11:00 a.m. Cofnodion: Gofynnodd Fran Lewis (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) i aelodau gynorthwyo
â’r gwaith o sefydlu blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn
sefydliadau trydydd parti. Roedd cefnogi gwaith gan swyddogion ar y
blaenoriaethau i adrodd yn ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn allweddol. Adleisiodd y Cadeirydd yr angen i bwysleisio blaenoriaethau’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus gyda swyddogion. Tynnwyd sylw at y ffaith mai
cyfrifoldeb aelodau oedd adrodd yn ôl i swyddogion arbenigol ar weithredoedd
pwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w sefydlu o fewn moeseg gwaith
dyddiol. PENDERFYNWYD bod aelodau’n derbyn ac yn nodi’r diweddariad. |
||
CYFLEOEDD CYLLIDO Ystyried
adroddiad ar lafar gan y Cadeirydd ar gyfleoedd cyllido y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus. 11:00 a.m. – 11:15 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd ddiweddariad ar lafar ar gyfleodd cyllid ar gyfer y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Atgoffwyd aelodau o’r drafodaeth flaenorol a
gafwyd yn ystod y cyfarfod diwethaf ym mis Mehefin. Casglwyd y gwaith ymchwil
i’r cyllid sydd ar gael tra bod gwaith yn parhau i gael ei archwilio. Cadarnhaodd y Cadeirydd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i gynnwys
mewn cynllun peilot o gyllid hyblyg. Teimlwyd ei bod yn bwysig i’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus dderbyn gwybodaeth o ran cynnydd y cynllun peilot. Roedd trafodaethau â Llywodraeth Cymru o ran anhawster i sicrhau cyllid
wedi parhau. Cytunwyd bod rhaid i‘r gwaith ar flaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus fod yn gost- effeithiol a bod rhaid darparu tystiolaeth i Lywodraeth
Cymru o’r anawsterau a wynebwyd. PENDERFYNWYD
y dylid cofnodi’r
pryderon cyllid a’u hadrodd yn ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddangos
tystiolaeth o’r canfyddiadau i Lywodraeth Cymru. Gofynnodd yr aelodau a fyddai
modd dosbarthu’r gwaith a oedd wedi'i gwblhau hyd yma ar y cyllid sydd ar gael
ymhlith yr aelodau. |
||
CYNLLUN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL PDF 1 MB Derbyn adroddiad
ar lafar ar y cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 11:45 a.m. – 12:05 p.m. Cofnodion: Fe wnaeth y Cadeirydd dywys yr aelodau drwy gyflwyniad o’r enw "Cymru
Iachach". Dangosodd y cyflwyniad yr uchelgais i gyfuno gwasanaethu iechyd
a gofal cymdeithasol. I ddiwallu anghenion unigolion mewn modd iach. Roedd rhai o’r pwyntiau allweddol a amlygwyd i aelodau yn cynnwys: ·
Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Adolygiad o’r trefniadau llywodraethu ·
Cronfa Drawsnewid £100m y gall y Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol ei defnyddio i wneud cais am gyllid. Pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i graffu ar flaenoriaethau’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus i arddangos yr angen am gyllid i greu achos busnes i
anfon ymlaen wrth wneud cais am gyllid ychwanegol. Bydd clystyrau o sefydliadau o fewn y gymuned yn cydweithio’n agosach â’i
gilydd i gefnogi a darparu gwasanaeth gwell i unigolion. Pwysleisiodd y
Cadeirydd bod nifer o glystyrau yn weithredol o fewn Conwy a Sir Ddinbych ar
hyn o bryd, byddai’n rhaid gwneud gwaith i weithio’n agosach yn y dyfodol. Codwyd sawl cwestiwn mewn perthynas â’r gronfa drawsnewid, gan gynnwys sut
fyddai’r gronfa yn effeithio ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i
flaenoriaethau. Pwysleisiodd y Cadeirydd wrth yr aelodau bod angen monitro
datblygiad y cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Diolchodd yr aelodau i’r Cadeirydd am y cyflwyniad a’r eglurhad manwl. Mynegwyd pryder gan yr aelodau o ran lefel yr
adnoddau a staff o fewn Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Daethpwyd i’r
casgliad y byddai trawsnewid yn golygu llawer iawn o waith a byddai’n rhaid
iddo fod yn gadarn. Cytunwyd y byddai cyllid yng Nghymru yn gadarnhaol ac yn
symud gwasanaethau yn eu blaenau yn sylweddol. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn monitro ac yn adrodd yn ôl ar ddatblygiadau sylweddol
i aelodau. PENDERFYNWYD
y dylid derbyn, cofnodi
a dosbarthu’r cyflwyniad a’r wybodaeth i aelodau. Dylai unrhyw ddatblygiad gael
ei gyflwyno yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.
|
||
BLAENORIAETHAU INETRIM a. Y 1000 diwrnod cyntaf (Teresa Owen) b. Cyfathrebu (Iwan Davies) 12:05 p.m. – 12:20 p.m. Cofnodion: a. Y 1000 diwrnod cyntaf Dim diweddariad ar hyn o bryd. b. Cyfathrebu Rhoddodd Iwan Davies (CBSC) y wybodaeth ddiweddaraf
i aelodau am y gwaith a oedd wedi'i wneud hyd yma o ran cyfathrebu'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a’i waith. Codwyd y pwyntiau canlynol - ·
Mae cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bellach yn
agored i’r cyhoedd (ac eithrio eitemau ar y rhaglen sydd wedi’u heithrio). ·
Caiff crynodeb o gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ei ddosbarthu ar ffurf newyddlen i bob sefydliad. ·
Caiff cofnodion eu dosbarthu i bob aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn iddynt eu trafod o fewn eu sefydliadau. ·
Caiff negeseuon cyfryngau cymdeithasol rheolaidd eu
trefnu ar gyfrifon Facebook a Twitter Sgwrs y Sir. Mae’r cyfrifon hefyd yn
rhannu negeseuon sefydliadol perthnasol ·
Mae’r gallu i weithio yn adeiladau ein gilydd bellach yn
bosibl oherwydd Crwydro (yn amodol ar ddiogelwch). ·
Nid oes unrhyw ddulliau ar y cyd pellach ar gyfer
ymgysylltu â'r gymuned wedi'u datblygu ers datblygiad cynllun llesiant y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. ·
Mae partneriaid yn agored i'r syniad o ganiatáu i staff o
sefydliadau partner rannu desgiau o’u
hadeiladau. Fodd bynnag,
gwneir hyn ar sail achlysurol neu ar sail pob achos unigol. ·
Nid yw’r rhan fwyaf o bartneriaid mewn sefyllfa i gynnig
mynediad agored ar hyn o bryd – yn bennaf oherwydd cyfyngiadau gofod. Daethpwyd i’r casgliad bod y cynnydd a oedd wedi’i
wneud o ran cyfathrebu hyd yma yn dderbyniol. Cytunodd yr aelodau ar yr angen i bwysleisio i
aelodau a’r cyhoedd bod cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn agored
i’r cyhoedd ac estynnir gwahoddiad i bawb. Dywedodd Nicola Kneale (Cyngor Sir Ddinbych) wrth y
pwyllgor bod gweithdy ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn cael ei
gynnig i dynnu sylw at waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hyd yma a sefydlu
sut/ lle y gallwn gydweithio yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod
aelodau’n derbyn ac yn nodi’r diweddariad.
|
||
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 423 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain
yr eitem hon. 12:20 p.m. – 12:25 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. Cadarnhaodd aelodau'r rhaglen ac
adroddiadau a ddisgwyliwyd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ym mis Rhagfyr 2018. ·
Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar
Gynnig Twf Gogledd Cymru ·
Gwaith ar Flaenoriaethau’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Camau dilynol o
gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol a Phapur Bwrdd
Llywodraethu Rhan 9 (dyddiad i’w
gadarnhau) ·
Cyngor Conwy – y Wybodaeth
Ddiweddaraf ar y Cynllun Corfforaethol ·
Datblygu Cofrestr Risg PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r rhaglen
waith. |
||
· Archwiliad Ail-sefydlu Ieuenctid 12:25 p.m. – 12:30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad ar yr Archwiliad
Ail-sefydlu Ieuenctid i’r aelodau er gwybodaeth. |
||
Daeth y cyfarfod i ben am 12:25 p.m. |