Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL LL18 3DP
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod ac estyn croeso arbennig i Judith Greenhalgh, Prif
Weithredwr Sir Ddinbych i’w chyfarfod cyntaf o Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Andy Jones (Y
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol) Gary Doherty - Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Simon Smith –
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Stephen Hughes –
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 454 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
16 Ebrill 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Lleol Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd
ar 16 Ebrill 2018. Materion yn codi - Tudalen 5 –
Presenoldeb –Roedd Teresa Owen yn bresennol yn y cyfarfod yn rôl Cyfarwyddwr
Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Tudalen 9 – Y
berthynas rhwng y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru – Cadarnhaodd y Cadeirydd fod eitem ar y rhaglen wedi
ei nodi i’w drafod yn fanwl yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018 fel cofnod
cywir. |
|
a.
Cynulliad Cymru – ymchwiliad BGC (llythyr ynghlwm)
b.
Llywodraethu Partneriaeth rhaglen ACE (diweddariad
llafar) 2.30-2.40 p.m. Cofnodion: (a)
Cynulliad Cymru – ymchwiliad Bwrdd y
Gwasanaethau Cyhoeddus Cyflwynwyd yr ymateb gan Fwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych (a gylchredwyd yn flaenorol) i'r
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cadarnhaodd y Cadeirydd
fod cyfarfod wedi ei gynnal i drafod y materion a godwyd. Roedd cynrychiolwyr
niferus o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus amrywiol wedi bod yn bresennol.
Gofynnwyd i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus archwilio elfennau allweddol pob
Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus gan gynnwys yr adnoddau ar gael, cynaliadwyedd y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r cymhlethdod yn ymwneud â'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus. Byddai canfyddiadau’r cwestiynau hyn a ofynnwyd yn cael eu bwydo’n
ôl. (b)
Llywodraethu Mewn Partneriaeth rhaglen ACE Cafodd gwybodaeth gefndir ar y rhaglen ACE
ei darparu yn ogystal â’r cynigion o ran llywodraethu mewn partneriaeth ar
gyfer y rhaglen. Un o’r cynigion oedd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
lywodraethu’r rhaglen ranbarthol. Fodd bynnag mewn cyfarfod o Brif Swyddogion
Gweithredol Traws Sector yn ddiweddar gofynnwyd am edrych ar opsiynau pellach
ar gyfer trefniadau llywodraethu rhanbarthol, gan gynnwys y Grŵp
Trawsnewid Plant a'r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel, yn ogystal â bod gan y
Grŵp o Brif Swyddogion Gweithredol Traws Sector ei hun rôl. Roedd yna
gydnabyddiaeth nad oedd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y mecanwaith mwyaf
addas i lywodraethu’r rhaglen hon yn rhanbarthol. PENDERFYNWYD fod
aelodau’n derbyn ac yn nodi’r diweddariad. |
|
GWASANAETH GWIRFODDOL - CONWY A SIR DDINBYCH – CEFNOGI YMRYMUSO'R GYMUNED Derbyn cyflwyniad gan Wendy Jones, Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a
Helen Wilkinson, Cyngor y Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. 2.40-3.10 p.m. Cofnodion: Rhoddodd Wendy
Jones o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, gyflwyniad power point ar
gefnogi ymrymuso’r gymuned. Cynghorwyd
aelodau ar rôl Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a’r gwasanaethau a
ddarparwyd. Rhoddwyd manylion hefyd yn ymwneud â’r cyllid a gâi'r elusen
gofrestredig gan Lywodraeth Cymru a chyllid oedd yn cynnwys cefnogaeth gan
wasanaethau trydydd sector. Roedd anogaeth ac arweiniad yn allweddol i’r gwaith
a wnaed gan y gwasanaeth. O’r cyflwyniad
sefydlwyd fod rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i annog datblygiad unigolion a
rhannu profiad a gwybodaeth. Roedd cefnogaeth wedi’i rhoi i ddysgwyr i roi’r
grym iddynt i ymgymryd â dysgu a chefnogi unigolion eraill. Roedd cydweithio
wedi digwydd gyda Llandrillo gyda chyfradd basio ragorol. Roedd gwybodaeth
a chyngor wedi ei roi yn ymwneud â chyllid gyda chymorthfeydd wedi eu cynnal i
annog prosiectau a ffynonellau posib o gyllid i gwrdd a darparu adborth. Roedd
nifer fawr o gynigion prosiect wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn cyllid. Roedd
y cymorthfeydd wedi eu croesawu gan wirfoddolwyr a sefydliadau. Hefyd
cadarnhawyd y bydd porth canfod grant newydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach
eleni. Rhannwyd gydag
aelodau fod cynrychiolwyr o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy yn eistedd
ar dros 70 o fyrddau a grwpiau gwahanol i rannu eu harferion a chynnig
cefnogaeth. Ar adegau roedd hyn wedi creu problemau gan fod cyfarfodydd wedi
cyd-daro. Yn gyffredinol roedd y gwaith a gwblhawyd gan Gefnogaeth Gymunedol a
Gwirfoddol Conwy wedi bod yn gadarnhaol. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy am ei
chyflwyniad manwl i aelodau. Mynegodd bryder am y nifer o gyfarfodydd mae’n
rhaid iddynt fynychu, gan ofyn a oedd yna unrhyw gefnogaeth y gallai'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ei gynnig. Wrth ymateb i’r Cadeirydd, cadarnhaodd Wendy
Jones mai’r prif fater oedd cefnogi a rhoi adnoddau i waith partneriaeth. I
leddfu’r pwysau, adnoddau a chyllid ychwanegol ar gyfer mwy o amser swyddog
fyddai'r gefnogaeth fwyaf cadarnhaol. O ganlyniad i'r cyfanswm o wahoddiadau
cyfarfod a dderbyniwyd roedd rhaid i gynrychiolwyr wrthod presenoldeb er mwyn
blaenoriaethu gwaith. Cyflwynodd Helen
Wilkinson, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, y gwaith a wnaed gan y
sefydliad. Hysbyswyd aelodau o’r newidiadau diweddar i Gyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych gan gynnwys strwythur tîm newydd, logo newydd a gwefan
wedi'i diweddaru a lansiwyd yn 2018. Y flaenoriaeth i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych oedd i ddarparu cefnogaeth ragorol a gwybodaeth i wirfoddolwyr. Y
gobaith oedd y byddai gwell sylw yn y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at
ymgysylltu gyda'r cyhoedd. Eglurwyd fod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych fel Conwy yn wasanaeth cefnogi 3ydd sector a oedd yn derbyn cyllid gan
Lywodraeth Cymru a threfniadau partneriaeth. Sylwyd fod nifer
o newidiadau wedi digwydd o fewn Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych,
gyda'r tîm, yn dysgu a datblygu'r gwasanaeth yn barhaus i ddarparu gwasanaeth
cadarnhaol i sefydliadau a gwirfoddolwyr. Roedd ymgysylltu wedi ei sefydlu a
hyrwyddo'r gwasanaeth. Diolchodd y Cadeirydd i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am y
cyflwyniad ac roedd yn falch o weld fod gwaith wedi datblygu mewn dull
cadarnhaol. Roedd angen gwaith agos gyda chynghorau Gwirfoddol Conwy a Sir
Ddinbych a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gefnogi a hyrwyddo’r gwasanaeth
drwy sefydliadau eraill. Byddai o fudd archwilio strwythur y broses wirfoddol a
sut y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gefnogi. Gofynnodd y
Cadeirydd i’r cynrychiolwyr sut y teimlent y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus gynorthwyo a chefnogi'r gwasanaeth gwirfoddol. Pe baent yn gallu
trafod gyda’i gilydd a dod ag adroddiad i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r aelodau
ei drafod ac ymdrin â materion a phryderon. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r cyflwyniadau a’r wybodaeth. Cyflwyno adroddiad diweddaru fel y gofynnir amdano uchod i gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y BLAENORIAETHAU a.
Pobl
– Lles
Meddyliol (Sian Williams) b.
Cymuned - Grym Cymunedol (Judith Greenhalgh) c.
Lle
– Cadernid
Amgylcheddol
(Teresa Owen) 3.10-3.40 p.m. Cofnodion: Darparwyd
diweddariad ar gynnydd y blaenoriaethau fel a ganlyn – (a)
Pobl – Lles Meddyliol Hysbysodd Siân Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru, y pwyllgor fod yr
Is-Grŵp wedi cyfarfod yn ddiweddar. Yn y cyfarfod cytunwyd fod gan Ogledd
Cymru strategaeth iechyd meddwl sefydledig mewn grym. Byddai’r strategaeth hon
yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer yr Is-Grŵp i ganiatáu trafodaethau ar ba
ddarpariaeth y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei gynnig i’r strategaeth
iechyd meddwl. Roedd yr Is-Grŵp wedi dechrau trefnu gweithdy oedd i’w
gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, i drafod y strategaeth. Cadarnhawyd y
rhoddir diweddariad yn y cyfarfod nesaf. Gofynnodd aelodau ar i gofnodion yr
Is-Grŵp diweddar gael eu cylchredeg wedi iddynt gael eu cwblhau. (b)
Cymuned – Grym Cymunedol Dywedodd Judith
Greenhalgh, Cyngor Sir Ddinbych fod gweithdy wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos
ganlynol. Roedd y Rheolwr Cynllunio strategol a'i thîm wedi trefnu’r cyfarfod i
drafod blaenoriaethau a strategaethau’r Is-Grŵp. Byddai adroddiad yn cael
ei gyflwyno i bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym Medi i ddiweddaru
aelodau ar ganlyniad y gweithdy. (c)
Lle – Gwydnwch Amgylcheddol Cafwyd cadarnhad gan Teresa Owen, Iechyd Cyhoeddus BIPBC, fod gweithdy wedi
ei drefnu ar gyfer 18 Gorffennaf i ddatblygu cynllun gweithredu manwl ar gyfer
y flaenoriaeth. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ar y cyd a’r
camau nesaf yn ymwneud â’r meysydd hyn - ·
Datganiad Datblygu Polisi Amgylcheddol Cyffredin ·
Datblygu Camau Gweithredu ar gyfer Gwydnwch
Amgylcheddol yng Nghonwy a Sir Ddinbych ·
Datblygu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel
dylanwadwr Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i
bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym Medi i ddiweddaru aelodau ar
ganlyniad y gweithdy. PENDERFYNWYD nodi
cynnydd y blaenoriaethau a rhoi diweddariad pellach ar gyfer cyfarfod mis Medi. |
|
TREFNIADAU CRAFFU DGC – DIWEDDARIAD AR GYNIGION PDF 273 KB Ystyried adroddiad gan Steve Price, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
(CSDd) yn trafod trefniadau Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gynigion a
chylch gorchwyl (copi ynghlwm). 3.20-3.35 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn rhoi i aelodau ymateb yr awdurdodau
lleol i’r cynnig i sefydlu Pwyllgor Craffu ar y cyd, ac i’r cylch gorchwyl
drafft. Arweiniodd Steve Price, Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir
Ddinbych, aelodau drwy'r adroddiad, gan ddarparu trosolwg o’r gwaith oedd wedi
ei wneud hyd yma i aelodau. Cadarnhaodd mai'r trefniant a ffafriwyd gan yr
aelodau yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym Medi 2017 oedd i
ddatblygu cydbwyllgor craffu ffurfiol a gofynnodd am gael safbwyntiau pwyllgor
dynodedig yr awdurdodau. Roedd yr adroddiad wedi cynnwys yr ymateb gan y ddau awdurdod
lleol i'r cais. Roedd y cynnig
wedi'i gyflwyno i'r ddau awdurdod gyda Rheolau a Gweithdrefnau y Cylch Gorchwyl
drafft (atodiad 2) ar gyfer sylwadau. Rhoddwyd cadarnhad fod grwpiau cydlynu
craffu y ddau awdurdod wedi derbyn yr adroddiad a hyd yma wedi cytuno i'r
cynigion mewn egwyddor. Byddai adroddiad ac atodiadau'r cynnig yn cael eu
cyflwyno i Bwyllgorau Craffu dynodedig y ddau awdurdod i’w hystyried yn ystod
haf 2018. Yn dilyn hynny bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer ei gymeradwyo cyn mynd i'r Cyngor llawn ar
gyfer cymeradwyaeth ffurfiol fis Hydref eleni. Awgrymodd Sioned
Rees, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, y dylid cynnwys y ‘5 ffordd o weithio’
yn y Cylch Gorchwyl drafft. Cadarnhawyd fod yr atodiadau oedd wedi eu cynnwys
ar ffurf drafft a chroesawyd cynnwys neu hepgor gwaith ar gyfer trafodaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb oedd yn rhan o’r cyfathrebu rhwng awdurdodau a chroesawodd y
cynnig am graffu ar y cyd i herio gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. PENDERFYNWYD yn
ddibynnol ar sylwadau aelodau, y byddai’r adroddiad ar drefniadau Craffu’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu derbyn a'u nodi.
|
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD, eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol ar y sail ei fod yn cynnwys y posibilrwydd o orfod
datgelu gwybodaeth eithriedig |
|
BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL Derbyn adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) ar y berthynas rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. 3.40-4.10 p.m. Cofnodion: [Cytunodd y
Cadeirydd ar y pwynt hwn i gyfuno eitem rhif 7 ac 8 yn y rhaglen i'w trafod fel
un eitem ar y rhaglen] Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad cyfrinachol, gan egluro i aelodau fod yr adroddiad wedi
bod i gyfarfod blaenorol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Trafododd aelodau
bwysigrwydd cydweithio i sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu gan y cyrff
niferus ar draws awdurdodau. Mae partneriaethau niferus yn gweithio'n lleol i
gwblhau tasgau a swyddogaethau, roedd angen mabwysiadu ymagwedd o gydlynu i
symleiddio partneriaethau. Mae angen i
drefniadau rhanbarthol a threfniadau lleol edrych ar y dull mwyaf effeithiol o
weithio mewn partneriaeth. Roedd yr ymateb a ddarparwyd gan y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus i’r Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol yn angenrheidiol i
nodi barn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunwyd fod angen arweinyddiaeth
gref a rhaglen gadarn oedd yn trafod yr anghenion a nodwyd. Cefnogodd aelodau
well cysylltiadau i weithio ar y cyd, ond o ystyried y ddeddfwriaeth wahanol
sy'n llywodraethu gwaith y ddau Fwrdd ni fyddai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn gallu diwallu ei rwymedigaethau statudol pe bai'n gweithio i'r egwyddor fel
y'i cynigir. Ystyriwyd fod cyfathrebu yn hanfodol rhwng y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i drafod materion a chasgliadau. Awgrymwyd mai’r
Bwrdd Gwasanaethau Integredig fyddai’r fecanwaith fwyaf addas i gefnogi darparu’r
Bwrdd Rhan 9 yn lleol. Nododd y
Cadeirydd fod angen cyfathrebu pellach gyda’r ddau Brif Weithredwr a
chynrychiolwyr o'r Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut i symud ymlaen mwn dull
lle byddai pawb yn elwa, gan barhau i gwrdd â'r holl rwymedigaethau gofynnol. PENDERFYNWYD fod
y Cadeirydd yn cyfathrebu gyda Phrif Weithredwr Conwy a Sir Ddinbych yn ogystal
â chynrychiolwyr o'r Gwasanaethau Gwirfoddol o bob awdurdod i drafod
trafodaethau pellach yn ymwneud â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a dod ag
adroddiad diweddaru i aelodau yn hwyrach yn y flwyddyn. |
|
STRWYTHURAU PARTNERIAETHAU LLEOL YNG NGHONWY A SIR DDINBYCH Derbyn adroddiad
cyfrinachol (copi ynghlwm) ar y Bartneriaeth Tirwedd ar gyfer Gogledd Cymru. Cofnodion: Arweiniodd y
Cadeirydd aelodau drwy’r adroddiad Strwythur Partneriaeth Lleol (a gylchredwyd
yn gynharach). Roedd gan yr wybodaeth a ddarparwyd gysylltiadau cryf â'r
rhaglen flaenorol ac roedd yn tanlinellu cymhlethdod y sefydliadau partner
niferus sy'n gweithio ar draws yr awdurdodau lleol. Trafodwyd dyblygu gwaith,
ffrydio gwaith i alluogi awdurdodau i gydweithio gyda’i gilydd a rhannu’r arfer
gorau. Ceisiwyd eglurder pellach i wahaniaethu cyfrifoldeb. PENDERFYNWYD bod
aelodau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn
(16.25 p.m.) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 16.35 p.m. |
|
CYFLEOEDD CYLLIDO Derbyn adroddiad
cyfrinachol (copi ynghlwm) ar ffynonellau ariannol sydd ar gael. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
yr adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd yn flaenorol) ar y ffynonellau cyllid
sydd ar gael i Wasanaethau Cyhoeddus. Gofynnodd i’r cynrychiolwyr gymryd amser
i ddarllen yr adroddiad yn drylwyr. Teimlai'r
Cadeirydd y byddai ymgynghoriadau pellach gydag aelodau Bwrdd y Gwasanaethau
Cyhoeddus yn ymwneud â dyraniad cyllid craidd y llywodraeth yn hybu
blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus unigol.
Teimlwyd y byddai trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r cyfyngiadau
a wynebir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fudd. Trafododd aelodau'r
pwysigrwydd o asesu anghenion yn unol â dyrannu cyllid. Pwysleisiodd
Judith Greenhalgh, Cyngor Sir Ddinbych bwysigrwydd dyrannu arian. Gall
cronfeydd yn aml gael eu neilltuo ar gyfer gwasanaethau penodol, gydag arian
eisoes wedi eu gosod mewn gwaith cyfredol. PENDERFYNWYD fod
yr adroddiad cyfrinachol yn cael ei nodi a thrafodaeth yn cael ei sefydlu gyda
Llywodraeth Cymru ar y cyfyngiadau mewn grym yn ymwneud â dyrannu cyllid. |
|
RISGIAU ARWEINYDDIAETH, HERIAU A CHYFLEOEDD Derbyn diweddariad
cyfrinachol ar lafar ar Risgiau,
Heriau a Chyfleoedd Arweinyddiaeth. Cofnodion: Agorodd y
Cadeirydd y drafodaeth gyfrinachol i ganiatáu aelodau i rannu materion neu
bwysau yr oeddent wedi’u profi. Rhoddwyd y cyfle i rannu arfer gorau a
chefnogaeth gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill. Hysbysodd Sian
Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr aelodau fod Prif Weithredwr newydd wedi ei
benodi a’u bod wedi dangos barn gadarnhaol tuag at weithio mewn partneriaeth. Roedd cyflwyno
deddfwriaeth newydd wedi creu llwyth gwaith ychwanegol yn ogystal â darparu
datganiadau ardal. Roedd gwaith wedi dechrau i gwblhau’r holl asesiadau
gofynnol. Y bwriad, wedi cwblhau’r asesiadau oedd rhannu'r canfyddiadau rhwng
gwasanaethau. Eglurwyd i aelodau gan ei bod yn parhau yn gyfnod cynnar, nad
oedd unrhyw ddeilliannau wedi eu harchwilio. Nododd Sian Williams y byddai’n
diweddaru’r pwyllgor unwaith y byddai’r deilliannau wedi’u derbyn. Cytunodd Sioned
Rees, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, fod rhannu gwybodaeth ac adnoddau'n
werthfawr. Byddai rhannu gwersi a ddysgwyd yn atal dyblygu ac yn rhoi grym i
wasanaethau. Byddai secondiadau rhwng gwasanaethau o fudd, nodwyd cydleoli a
rhannu desgiau fel dulliau eraill o wella gwybodaeth ar draws sefydliadau.
Gofynnodd y Cadeirydd am gyflwyno cynigion o secondiadau a gweithdai /
hyfforddiant yn y maes hwn yng nghyfarfod nesaf yr arweinyddiaeth. Pwysleisiodd Iwan
Davies, CBSC, yr her bosibl yn nyfodol addysg Arbenigol. Roedd cyfathrebu rhwng
cyfleustodau a gwasanaethau wedi profi'n anodd gan nad oedd cysylltiadau
arweiniol yn y maes. Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i gyfathrebu unrhyw
botensial o ran cyfleoedd cyswllt a rhannu gwybodaeth gyswllt gyda'i gilydd. Trafododd yr
aelodau y bwrdd iechyd. Cytunwyd fod gwella canfyddiad y cyhoedd yn hanfodol i
sicrhau ymgysylltu cadarnhaol gyda'i ddefnyddwyr. Roedd gwaith wedi'i wneud i
wella’r gwasanaeth a ddarparwyd. Roedd yn bwysig i wneud y cyhoedd yn ymwybodol
o'r gweithio cadarnhaol oedd wedi digwydd gan gynnwys gwaith i adrannau. Rhoddodd y
Cadeirydd wybodaeth gefndir i’r rhesymau y tu ôl i gau’r cyfleusterau i fyny’r grisiau
yn Inffyrmari Dinbych. Cadarnhaodd fod cyfathrebu’n parhau o ran dyfodol y
sefydliad. Byddai diweddariadau’n cael
eu darparu i’r pwyllgor yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod
- (a) y
diweddariad ar lafar o’r risgiau, heriau a chyfleoedd yn cael eu derbyn a’u
nodi; (b) diweddariad
yn cael ei ddarparu i’r bwrdd gan Sian Williams yn dilyn canlyniadau'r
datganiadau ardal; (c) secondiadau
a dysgu ar y cyd yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf yr arweinyddiaeth; (d) aelodau
yn cyfathrebu unrhyw wybodaeth gyswllt rhwng gwasanaethau; a (e) diweddariad
ar Inffyrmari Dinbych yn cael ei ddarparu unwaith roedd yr ymgynghoriad wedi ei
gwblhau. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 425 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. 5:25-5:30 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a gylchredwyd eisoes) i’w
hystyried. Cadarnhaodd aelodau y rhaglen ac adroddiadau a ddisgwyliwyd yng
nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym Medi 2018. ·
Adroddiad
diweddaru gan Wasanaeth Gwirfoddol Conwy a Sir Ddinbych - Sut all y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus gynorthwyo a chefnogi ·
Diweddaru'r
blaenoriaethau ·
Gosod
blaenoriaethau / gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sefydliadau sy’n
aelodau ·
Adolygu
aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Diweddariad
ar Gynnig Twf Gogledd Cymru ·
Dilyn
rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
rhaglen. |
|
UNRHYW FUSNES ARALL Cofnodion: Dim Daeth y Cyfarfod
i ben am 17:10 p.m. |