Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YR YSTAFELL FWRDD, CANOLFAN OPTIC, LLANELWY, LL17 0JD

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Andy Jones – Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Gary Doherty – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Judith Greenhalgh – Cyngor Sir Ddinbych
Rebecca Masters – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Wendy Jones – Cefnogaeth Wirfoddol Cymunedol Conwy

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 310 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 i’w cymeradwyo.

 

Materion yn codi -

 

Tudalen 8 – Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych – nodwyd fod Graham Boase, CSDd, yn bresennol i ddarparu trosolwg o’r Cynnig Twf Rhanbarthol.

 

Tudalen 8 – Goblygiadau Brexit – nodwyd y byddai Sioned Rees, Llywodraeth Cymru, yn dilyn yr elfen ariannu.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

 

3.

MATERION YN CODI<0} pdf eicon PDF 300 KB

(a)  Llythyr BIPBC – Newidiadau i’r aelodaeth (copi ynghlwm)

(b)  Enwebiad ar gyfer cyfweliad ffôn y Tîm Diogelu Cenedlaethol (copi ynghlwm)

9.30 a.m. – 9.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a) Llythyr BIPBC – Newidiadau i’r Aelodaeth

 

Roedd llythyr (a gylchredwyd yn gynharach) wedi ei dderbyn gan Gary Doherty, Prif Weithredwr BIPBC, yn cynghori fod aelodau BIPBC ar y BGC yn newid.  Eglurodd Iwan Davies, CBSC fod gan y Bwrdd Iechyd ddau aelod statudol a oedd yn cynnwys Cadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd neu berson(au) a enwebwyd ganddynt. Roedd y Cadeirydd yn parhau i ddirprwyo ei le i Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal ac roedd Gary Doherty ei hun yn bwriadu mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

 (b) Enwebiad ar gyfer y Tîm Diogelu Cenedlaethol
Cyfweliad Ffôn

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir ar y Tîm Diogelu Cenedlaethol yn ogystal â sgript ar gyfer cyfweliadau ffôn gyda sefydliadau sy’n fudd-ddeiliaid (a gylchredwyd yn flaenorol). Teimlai swyddogion y dylai’r BGC gael y cyfle i ystyried p’run ai i gymryd rhan yn yr arolwg ai peidio.  Dymunai aelodau gefnogi’r gwaith hwnnw a chael eu cyfweld ond ystyriwyd ei bod yn rhy gynnar yn y broses a chytunwyd i ymdrin â’r mater eto unwaith yr oedd y blaenoriaethau wedi eu datblygu mewn mwy o fanylder a PHENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

 

4.

CYNLLUN LLES – CYMERADWYAETH DERFYNOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 254 KB

Cymeradwyo Cynllun Lles Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (copi ynghlwm) a’i gyhoeddi ar y wefan – adroddiad gan y Cadeirydd.

9.45 a.m. – 9.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (a gylchredwyd yn gynharach) yn rhoi adborth i aelodau gan fyrddau gweithredol y partneriaid statudol mewn perthynas â Chynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2018 – 2023 a cheisio cymeradwyaeth i grynodeb a fersiwn technegol y Cynllun a chymeradwyaeth i’w gyhoeddi ar y wefan.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Cynllun wedi bod trwy systemau llywodraethu sefydliadau partner a bod yr holl sefydliadau sy’n aelodau o’r BGC wedi cytuno i’r cynllun.  Roedd nifer o ymholiadau wedi eu codi gan Gyfoeth Naturiol Cymru a oedd wedi eu cynnwys yn nogfennaeth yr adborth a darparodd Siân Williams wybodaeth bellach ynglŷn â hyn.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryder fod diffyg manylion yn nhermau beth fyddai'n cael ei wneud i gwrdd â'r amcanion ond roedd wedi ei sicrhau mai'r cam nesaf oedd i lunio'r manylion hyn. Yn ystod y drafodaeth ymhelaethodd ar y dull fforensig a fabwysiadwyd gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried pob un o 19 o Gynlluniau Lles y BGC a darparodd drosolwg o’r canlyniad. O ran Cynlluniau’r BGC yr adborth gan aelodau oedd tra bod yna wahaniaethau yn nhermau cyflwyno, nid oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol ym mhrif themâu a dyheadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Cymru. Codwyd yr angen i osod y Cynllun o fewn sefydliadau partner fel mater allweddol a sicrhau ymgysylltu ar draws awdurdodau a phartneriaid, ac ystyriodd aelodau sut y byddai'r Cynllun yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau eraill o fewn eu sefydliadau. Cytunwyd y dylai adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi ac y dylid cynnal trafodaeth bellach ar sut yr oedd partneriaid yn gweithredu’r Cynllun o fewn eu sefydliadau a sut roeddent yn dylanwadu ar gamau gweithredu.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y gwaith allweddol oedd wedi ei wneud er mwyn llunio'r Cynllun a diolchodd i bawb fu'n rhan o hynny.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      cymeradwyo’r crynodeb a’r fersiwn technegol o Gynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2018 – 2023 (manylion yn atodiad A a B i’r adroddiad);

 

 (b)      cymeradwyo cyhoeddi’r Cynllun Lles ar wefan BGC Conwy a Sir Ddinbych a

 

 (c)       chyflwyno adroddiad cynnydd i gyfarfod mis Medi a chynnal trafodaeth bellach ar sut yr oedd y Cynllun yn cael ei weithredu o fewn sefydliadau partner.

 

 

5.

BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – CYNNIG TWF RHANBARTHOL

Derbyn adroddiad ar lafar gan Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a Pharth Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych.

9.50 a.m. – 10.30 a.m.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych, gyflwyniad power point ar y Cynnig Twf Rhanbarthol.

 

Cynghorwyd aelodau ynglŷn â rôl Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r gwaith o ddatblygu Cynnig Twf i Ogledd Cymru ar gyfer buddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraethau Cymru a’r DU a’r potensial am bwerau datganoledig. Darparwyd manylion hefyd ynglŷn â’r Bwrdd Twf Cysgodol gan gynnwys aelodaeth a threfniadau llywodraethu yn ogystal â’r broses lunio penderfyniadau a fyddai mor gynhwysol â phosib o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth.  Byddai Swyddfa Rhaglen Ranbarthol yn cael ei sefydlu i gyflawni prosiectau.

 

Roedd y Cynnig Twf wedi ei rannu i dair thema allweddol – cysylltu, gwydn a CAMPUS.  Roedd prosiectau ar hyn o bryd yn cael eu mireinio ac ymhelaethodd Graham Boase ar bob un o’r 12 ymyrraeth strategol o dan y penawdau canlynol – (1) Safleoedd ac Adeiladau (Cyflogaeth); (2) Galluogydd Tai; (3) Mynediad i Ynni; (4 a 5) Canolbwynt Adnodd Technoleg ac Arloesi; (6) Cronfa Twf Busnes; (7) Canolbwynt Sgiliau a Chyflogaeth; (8) Cronfa Sgiliau a Chyflogaeth; (9) Academïau Sgiliau; (10) Cysylltedd Digidol; (11) Cronfa Gludiant Ranbarthol; (12) Corff Cludiant Rhanbarthol.

 

Y cyfanswm cyllid dyheadol fyddai ei angen yw £343m o fuddsoddiad cyfalaf a £55.4m o refeniw i gefnogi'r darparu hyd at 2035. Pe byddai’r lefel honno o fuddsoddiad yn cael ei sicrhau byddai’n dod â £1bn o’r sector preifat i Ogledd Cymru a fyddai'n cael effaith allweddol ar yr economi.

 

Rhoddodd Arweinyddion Conwy a Sir Ddinbych eu persbectif eu hunain ar y Cynnig Twf fel y gwnaeth partneriaid eraill gan bwysleisio risgiau i'w rheoli yn nhermau isadeiledd lleol i ymdopi gyda galw ychwanegol; effaith ar ddarparwyr gwasanaeth a pheidio creu anghyfartaledd pellach mewn cymunedau, yn ogystal â chyfleoedd a synergedd gyda Cynllun Lles y BGC, yn arbennig yn nhermau tai, iechyd, addysg a gwella ansawdd bywyd ar gyfer preswylwyr. Ystyriwyd fod gan yr holl bartneriaid rôl i’w chwarae o ystyried yr amrediad o themâu trawsbynciol a chyfeiriwyd at bwysigrwydd y trydydd sector, gan gynnwys y gymuned gymdeithasol a mentrau busnes. Teimlwyd hefyd y byddai ymgysylltu pellach gyda phartneriaid sector cyhoeddus yn helpu i gefnogi'r camau gweithredu a’r isadeiledd cymdeithasol ac y byddai’n werth ehangu cynrychiolaeth y sector cyhoeddus ar y Bwrdd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hugh Evans at fanylion y Cyd-gronfa Ffyniant i leihau anghyfartaledd a theimlai y dylid gwneud mwy i ddylanwadu ar y drafodaeth honno.

 

Cytunodd Graham Boase i roi adborth ynglŷn â safbwyntiau aelodau a threfnu i’r cyflwyniad ynghyd â thaflen yn crynhoi'r prosiectau cyfredol i gael eu cylchredeg.

 

PENDERFYNWYD yn ddibynnol ar sylwadau'r aelodau uchod, fod y cyflwyniad ar y Cynnig Twf Rhanbarthol yn cael ei dderbyn a'i nodi.

 

 

6.

DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y BLAENORIAETHAU pdf eicon PDF 323 KB

(a)  Pobl – Lles Meddyliol

(b)  Cymuned – Grym Cymunedol (Wendy Jones/Helen Wilkinson)

(c)  Lle – Cadernid Amgylcheddol (copi ynghlwm) – Iwan Davies/Teresa Owen

(d)  Adolygiad canlyniadol o aelodaeth Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (adroddiad ar lafar gan y Cadeirydd)

10.30 a.m. – 11.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd diweddariad ar y cynnydd o ran y blaenoriaethau fel a ganlyn -

 

 (a) Pobl – Lles Meddyliol

 

Dywedodd Siân Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw’r Is-Grŵp wedi llwyddo i gyfarfod eto ac y byddai’n adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf.

 

 (b) Cymuned – Grym Cymunedol

 

Dywedodd Nicola Kneale, CSDd, fod Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Sir Ddinbych yn arwain ar y flaenoriaeth hon.  Roedd cyfarfod wedi ei gynnal i drafod a nodi’r meysydd hynny y dylid canolbwyntio arnynt a oedd yn cynnwys tai, cyfleoedd cyflogaeth ac isadeiledd cynaliadwy ac roedd yna lawer yn y Cynnig Twf a fyddai’n cyfrannu at hynny.  Byddai sesiwn yn cael ei threfnu i edrych ar gyfleoedd cydweithio ac ychwanegu gwerth.

 

 (c) Lle – Gwydnwch amgylcheddol

 

Cyfeiriodd Iwan Davies, CBSC at nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd (a gylchredwyd yn gynharach) a soniodd am y camau nesaf i ymgymryd â'r hyn a nodwyd.

 

Nododd aelodau ei bod yn parhau yn gyfnod cynnar iawn ar y gwaith o gefnogi’r meysydd blaenoriaeth a gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad cynnydd pellach ar gyfer cyfarfod mis Medi gyda mwy o fanylion ar yr effeithiau a’r canlyniadau.

 

 (d) Adolygiad Dilynol Aelodaeth y BGC

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau y cytunwyd yn wreiddiol i gadw aelodaeth y BGC yn fach ac o bosib ehangu aelodaeth yn ddibynnol ar y meysydd blaenoriaeth.  Gofynnodd i'r aelodau adael iddi wybod os yr oeddent yn ystyried y byddai o fudd yn strategol i ehangu'r aelodaeth honno.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd o ran y blaenoriaethau a darparu diweddariad pellach ar gyfer cyfarfod mis Medi.

 

 

7.

Y BERTHYNAS RHWNG BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS A BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 1 MB

Bydd y Cadeirydd yn arwain ar hyn (gohebiaeth ynghlwm).

11.15 a.m. – 11.35 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i Gadeiryddion y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (cylchredwyd yn flaenorol) yn ceisio trafodaeth bellach ar y ffordd orau ymlaen i ddatblygu perthnasoedd gwaith cryf rhwng Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Roedd y Cadeirydd am glywed safbwyntiau'r aelodau ar y cynigion fel yr oeddent yn cael eu nodi yn yr adroddiad, ac yn benodol yr egwyddor sylfaenol fod "Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am gamau gweithredu a’r hyn gaiff eu cyflawni o ran datblygiadau iechyd a gofal yn lleol, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am osod egwyddorion strategol ar lefel ranbarthol".  Tra roedd gan aelodau beth cydymdeimlad gyda’r cynigion a thra roeddent yn cefnogi gwell cysylltiadau i gydweithio mwy, teimlwyd, o ystyried y ddeddfwriaeth wahanol sy'n llywodraethu gwaith y ddau Fwrdd, na fyddai'r BGC yn gallu cwrdd â'i rwymedigaethau statudol pe bai’n gweithio i’r egwyddor gaiff ei gynnig.  Hefyd teimlwyd nad oedd rôl y BGC yn cyflawni’r Cynllun Lles lleol wedi ei wneud yn glir o fewn yr adroddiad heb unrhyw gyfeiriad at flaenoriaethau lleol.  Cytunwyd i ymateb i'r llythyr ar y sail hwnnw a hefyd gwahodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i gyflwyno eu blaenoriaethau rhanbarthol i gyfarfod y BGC yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno ymateb i'r llythyr gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru gan nodi safbwyntiau’r aelodau ar y cynigion fel y cyfeirir atynt uchod ac estyn gwahoddiad iddynt i fynychu cyfarfod y BGC yn y dyfodol i gyflwyno eu blaenoriaethau rhanbarthol.

 

 

8.

CYLLID GRANT BGC GOGLEDD CYMRU – CAIS 2018/19 pdf eicon PDF 277 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, ar y grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ogledd Cymru (copi ynghlwm).

11.35 a.m. – 11.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, CSDd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar y grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ranbarth Gogledd Cymru yn 2018-19 a sut yr oedd y cronfeydd wedi eu clustnodi ar draws y meini prawf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynigiwyd y cyllid ar batrwm bwrdd iechyd a siom oedd nodi mai cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru oedd £83,117, gyda’r cyllid yn cael ei dalu ar ddiwedd y cyfnod cyllido.  Byddai adroddiadau cynnydd yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru yn chwarterol.

 

Teimlai’r Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i gael dealltwriaeth o'r grantiau gwahanol a’r cyfundrefnau mewn grym o ran cynnig a chytunodd os oedd yna brosiect a fyddai'n cael effaith sylweddol ar yr ardal ei bod yn bwysig gwybod pa ffrydiau cyllido posib fyddai ar gael. Gofynnodd am i’r wybodaeth gael ei chysylltu â’r wybodaeth ar Gyllid Cymreig Ewropeaidd pan fyddai ar gael.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      bod aelodau'r BGC wedi darllen a deall yr adroddiad, ac yn benodol wedi cymryd sylw o'r symiau sydd ar gael a'r meini prawf sy’n weithredol, a

 

 (b)      bod gan aelodau o’r BGC y cyfle i awgrymu meysydd gwaith y gellir eu datblygu gyda’r cyllid cefnogi sydd ar gael. Gall y gwariant yn erbyn y grant fod yn eitem sefydlog ar raglen y BGC, fel y gellir darparu diweddariadau a rhoi ystyriaeth i feysydd a fyddai’n elwa o’r buddsoddiad.

 

 

9.

DIWEDDARIAD AR Y FLAENORIAETH GORFFORAETHOL – HEDDLU GOGLEDD CYMRU

Derbyn adroddiad ar lafar gan yr Uwch-arolygydd Sian Beck.

11.45 a.m. – 12.05 p.m.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Siân Beck, Heddlu Gogledd Cymru gyflwyniad power point ar flaenoriaethau strategol Heddlu Gogledd Cymru, gan roi manylion ar y galw am adnoddau a'r amcanion a nodwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

 

Yn ystod y cyflwyniad cynghorwyd aelodau ynglŷn â’r canlynol -

 

·         yr elfennau gwahanol o drosedd dreisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn gofyn am ymagwedd o weithio mewn partneriaeth i'w ddatrys.

·         y cynnydd mewn trosedd a gofnodwyd oedd o ganlyniad i gofnodi trosedd yn well

·         y gwahaniaethau rhwng troseddau gyda chymhlethdod uchel ac isel gyda'r mathau o drosedd sydd ar gynnydd yn droseddau cymhleth sydd angen adnoddau ychwanegol.

·         adroddwyd ar 12 dynladdiad rhwng Gorffennaf 2016 a Medi 2017

·         manylu ar Flaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd yn ogystal â sut fyddai’r Heddlu yn ymateb i’r meysydd blaenoriaeth hynny – Cam-drin Domestig, Caethwasiaeth Fodern, Trosedd wedi'i Threfnu, Cam-drin Rhywiol a Chreu Cymdogaethau Mwy Diogel

·         o dan flaenoriaeth y Drosedd wedi’i Threfnu pwysleisiwyd fod ‘Llinellau Sirol’ yn fater mwy na chyffuriau oedd yn torri ar draws nifer o feysydd thematig eraill a mathau o drosedd.

·         ymgysylltu gyda'r cyhoedd a phartneriaid, gan gynnwys y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Beck eglurhad ar nifer o faterion mewn ymateb i gwestiynau a thrafododd aelodau’r meysydd hynny lle byddai dull o weithio mewn partneriaeth o fudd.  Roedd gan aelodau ddiddordeb arbennig yn y ‘Llinellau Sirol’ lle teimlwyd y gallai partneriaid gael effaith gadarnhaol, yn arbennig o ran staff rheng flaen a fyddai yn y sefyllfa orau i adnabod nodweddion penodol a helpu i ddiogelu dioddefwyr.  Cadarnhaodd yr Uwcharolygydd Beck fod y ‘Llinellau Sirol’ yn fygythiad enfawr ac roedd swyddog wedi ei nodi i ddarparu’r cyflwyniad ar y ‘Llinellau Sirol’ gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r materion oedd yn rhan o hyn a chefnogi ymagwedd aml asiantaeth.  Anogodd y Cadeirydd bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r mater o fewn eu sefydliadau ac i dderbyn y cyflwyniad ar y ‘Llinellau Sirol’.  Cytunwyd i gylchredeg yr wybodaeth berthnasol i’r holl bartneriaid.  Roedd peth trafodaeth hefyd yn canolbwyntio ar y newidiadau i’r drefn o recriwtio swyddogion yr heddlu a thrafodwyd system fynediad newydd dair haen a thrafododd partneriaid yr heriau’n ymwneud â recriwtio o fewn eu sectorau unigol eu hunain a phwysigrwydd cynllunio ar gyfer olyniaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwcharolygydd Beck am ei chyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad ar flaenoriaethau strategol Heddlu Gogledd Cymru a’i nodi.

 

 

10.

CYFLEOEDD I FYND I’R AFAEL Â RISGIAU SEFYDLIADOL

Derbyn adroddiad ar lafar gan y Cadeirydd.

12.05 p.m. – 12.25 p.m.

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Cadeirydd y drafodaeth ar risgiau sefydliadol o ystyried fod cyfarfodydd y BGC nawr yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a phwysleisiodd yr angen i ystyried pan fo materion ar gyfer eu trafod mewn sesiwn gaeedig.  Cytunodd aelodau i neilltuo tua awr yng nghyfarfod mis Mehefin i drafod, mewn sesiwn gaeedig, y risgiau a'r pwysau ar eu sefydliadau ac i ystyried yr effaith ar bartneriaid ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a lle bo hynny'n bosib adnabod datrysiadau aml asiantaeth.  PENDERFYNWYD YN UNOL Â HYNNY.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 429 KB

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

12.25 p.m. – 12.30 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o raglen gwaith i’r dyfodol y BGC a thrafodwyd y materion canlynol -

 

·         Dywedodd Megan Vickers y nodwyd fod angen gwell cydweithredu o ran ymgysylltu â’r cyhoedd a bod cyfarfod cychwynnol wedi ei drefnu ar draws Conwy a Sir Ddinbych i ystyried y mater ymhellach.

·         Cytunwyd fod manylion y cyfarfod yn cael ei gylchredeg i aelodau ac yr adroddir ar y mater yng nghyfarfod y BGC yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at ddatblygiad cyd gytundeb  archwilio i gefnogi'r BGC a thrafodwyd yr amserlen – o ystyried ei bwysigrwydd gobeithiai’r Cadeirydd gael cynnig clir ar gyfer cyfarfod mis Mehefin<

·         Cytunwyd i symud y 'Cyflwyniad ar Iechyd Meddwl' a'r 'Wobr Draig Werdd' o eitemau'r dyfodol ar y rhaglen waith

·         Diweddariad ar Dirwedd Partneriaeth – pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i fod yn eglur ar y llywodraethu a'r broses o lunio penderfyniadau o gylch rhai o'r partneriaethau a chytunwyd i gadw’r eitem honno ar y rhaglen waith

·         Cyfeiriwyd at y papur gwyrdd ar adrefnu llywodraeth leol a thra cytunwyd fod angen i’r holl sefydliadau partner fod yn ymwybodol o’r cynigion cytunwyd i beidio ymateb fel BGC i’r ymgynghoriad cyffredinol hwnnw.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r rhaglen waith.

 

 

12.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Dim

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m.