Agenda and draft minutes
Lleoliad: Arcadia Room, Venue Cymru, Llandudno LL30 1BB
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 327 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 28 Medi 2017 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017. |
|
Materion yn Codi Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. Cofnodion: Dim. |
|
BYW’N IACHACH, CADW’N IACH PDF 312 KB Adroddiad gan Sally Baxter (BIPBC) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Sally
Baxter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Strategaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, yr adroddiad er mwyn rhannu gwybodaeth ar y blaenoriaethau
drafft o fewn Rhaglen Strategaeth Gorfforaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, Byw’n Iachach, Cadw'n Iach, ac i geisio adborth gan y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd cyfeiriad
strategol hir dymor arfaethedig y Bwrdd Iechyd ar gyfer y deng mlynedd nesaf
wedi ei gyflwyno i gyfarfod y Bwrdd Iechyd a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2017.
Mae’r ymgynghoriad yn cau ym mis Rhagfyr 2017 a byddai’r strategaeth yn cael ei
gorffen yn y Flwyddyn Newydd. Roedd fersiwn
gryno o’r ddogfen ymgysylltu â'r gymuned wedi ei chynnwys gyda’r papurau a
gylchredwyd ar gyfer y cyfarfod oedd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer tair
blynedd gyntaf y strategaeth. Wedi
mireinio pellach yn dilyn adborth o’r broses ymgysylltu gyfredol, byddai'r
rhain yn arwain cynllun tair blynedd y Bwrdd Iechyd a fyddai’n cael ei ddatblygu
ar gyfer 2018 – 21. Byddai gwaith
pellach gyda phartneriaid yn cael ei geisio er mwyn sicrhau bod cysondeb gyda,
ond dim dyblygiad o waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n cael ei symud
ymlaen drwy'r Cynlluniau Lles. Roedd y Rhaglen
wedi ei chefnogi drwy ymgysylltu parhau â chynrychiolwyr sefydliadau partner,
rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol, pobl gyda phrofiad o wasanaethau a gofalwyr. Yn ystod 2017,
cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau penodol i roi gwybod am faterion penodol o
fewn y rhaglen strategaeth a sgyrsiau mwy cyffredinol gydag amrywiaeth ehangach
o grwpiau, oedd wedi cynnwys ymgysylltiad staff. Byddai cyfnod
pellach o ymgysylltu yn cael ei gynnal er mwyn casglu adborth ar y
blaenoriaethau cyffredinol sy’n dod i’r amlwg. Cadarnhawyd y
byddai’r dangosyddion yn cael eu defnyddio i werthuso effaith y prosesau a’r
camau gweithredu yn erbyn yr amcanion. PENDERFYNWYD bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn ystyried
blaenoriaethau drafft yr adroddiad Byw’n Iachach, Cadw’n Iach |
|
CYNGOR SIR DDINBYCH – CYNLLUN CORFFORAETHOL PDF 317 KB Adroddiad gan Mohammed Mehmet (Cyngor Sir Ddinbych) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych Gynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2017 -
2022 er gwybodaeth. Cymeradwyodd
Cyngor Sir Ddinbych ei Gynllun Corfforaethol yn Hydref 2017. Nodwyd pum
blaenoriaeth ar gyfer cyfnod 2017 - 2022: a.
Tai –
Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion b.
Clymu
Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a
gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da c.
Cymunedau
gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth
a chadernid d.
Amgylchedd
- mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant
economaidd e.
Pobl
ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau
i wneud hynny Y maen prawf ar
gyfer beth sy’n gwneud Blaenoriaeth oedd “rhywbeth newydd a fydd yn gwneud
gwahaniaeth arwyddocaol i'n trigolion".
Byddai’r holl weithgarwch arall yn cael ei gynnwys
ym Mhortffolio Corfforaethol y Cyngor. Roedd y
Blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol hwn wedi eu creu drwy
broses drylwyr a chlir o gasglu tystiolaeth a dadansoddi (Asesiad Lles) ac
ymgynghoriad dwys gyda'r cymunedau (Sgwrs y Sir). Unwaith roedd y
Blaenoriaethau wedi eu drafftio, cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda staff Cyngor
Sir Ddinbych a sefydliadau partner perthnasol er mwyn creu syniadau ynglŷn
â sut i fynd i’r afael â'r blaenoriaethau. Crewyd a
datblygwyd y syniadau gyda grŵp trawsbleidiol o Aelodau a swyddogion
hefyd, er mwyn dod i gonsensws bod yr addewidion yr oedd Dinbych yn ymrwymo
iddynt yn ddigon uchelgeisiol a realistig. Byddai gwaith
Sgwrs y Sir yn parhau drwy fywyd y Cynllun Corfforaethol. Fel byddai pob Blaenoriaeth yn cael ei
datblygu ymhellach ac yn cael chyflawni, byddai Strategaeth Gyfathrebu’r
Cynllun Corfforaethol yn cael ei defnyddio i gadw ffocws ar y cynllun. Yn ystod y
drafodaeth: ·
Cadarnhawyd
bod popeth o fewn y Cynllun Corfforaethol wedi ei fapio yng Nghynllun Lles y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ar wahân i Tai. ·
Cytunodd
y Bwrdd bod synergedd eglur rhwng cynlluniau'r Awdurdod Lleol a'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. ·
Roedd
dau Fwrdd Corfforaethol i gael eu sefydlu er mwyn llywio'r Cynllun Corfforaethol.
·
Byddai’r
chwe Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd
i rannu blaenoriaethau yn barod ar gyfer y cais twf rhanbarthol. Cytunwyd
dosbarthu gwybodaeth cais twf i holl Aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth. Er mwyn sicrhau bod
gwybodaeth yn cael ei basio ymlaen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ynglŷn
â'r Cais Twf, cadarnhaodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych bod cyfarfod
Grŵp Prif Weithredwr ac Uwch Swyddogion yn cael ei gynnal ac y gellid
cyflwyno trosolwg o'r cyfarfod hwnnw i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd y Cadeirydd i gynnwys diweddariad yn
y gweithdy sy’n digwydd ar ddiwedd Ionawr 2018. PENDERFYNWYD: (i)
bod y Bwrdd yn cydnabod Cynllun
Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych. (ii)
gwahodd cynrychiolydd o Fwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru i fynychu gweithdy Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ionawr 2018,
er mwyn rhoi trosolwg o’r Cais Twf Rhanbarthol i’r Bwrdd. |
|
GOBLYGIADAU BREXIT Cyflwyniad gan Ken Cook (Llywodraeth Cymru) Cofnodion: Rhoddodd Ken
Cook, Pennaeth Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru adroddiad llafar ynglŷn
â goblygiadau Brexit. Pwysleisiodd Mr
Cook bod tri maes i Brexit: ·
Beth
sydd gennym nawr a beth sy’n mewn peryg ·
Beth
fydd yn digwydd yn 2019, a ·
Sgwrs
a fyddai’n cychwyn gyda chyhoeddi rhai cynigion gan Lywodraeth Cymru cyn
datblygiad economaidd Nadolig. Roedd Cymru yn
elwa o oddeutu £680 miliwn o gyllid Ewropeaidd bob blwyddyn, oedd yn cael ei
ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru. O ran beth
fyddai’n digwydd ar 29 Mawrth 2019, doedd dim ymateb pendant i hynny eto. Roedd y Canghellor wedi gwarantu unrhyw
gyllid cyn gadael yr UE. Felly, byddai
unrhyw brosiectau a gymeradwywyd hyd at y dyddiad hwnnw yn sicr o dderbyn
cyllid. Roedd ansicrwydd
pellach am y cyfnod trosglwyddo na fydd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn hirach na 2
flynedd. Roedd Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at
Lywodraeth y DU ar ddechrau 2017 er mwyn gosod chwech egwyddor i’w sicrhau ar
gyfer y dyfodol. O safbwynt y
cyfnod wedi Brexit, roedd strategaeth gan Lywodraeth y DU. Pe byddai dull gweithredu heriol yn cael ei
gymryd byddai hyn yn mynd i'r afael ag anawsterau strwythurol o fewn
Cymru. Mae Llywodraeth Cymru am gyhoeddi
Papur cyn y Nadolig yn nodi’r egwyddorion wrth symud ymlaen. Gofynnwyd am
ddosbarthu canllaw gwarantu'r trysorlys i Aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth. Cadarnhaodd Ken
Cook hefyd y byddai prosiectau yn parhau i gael eu cyflwyno ar gyfer cyllid a
gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau’r Bwrdd edrych am flaenoriaethau oedd angen
cyllid cyn Brexit. Diolchodd y Bwrdd
i Mr Cook am ei adroddiad llafar llawn gwybodaeth. PENDERFYNWYD bod: (i)
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod
adroddiad goblygiadau Brexit. (ii)
swyddogion Llywodraeth Cymru yn cylchredeg
canllawiau’r trysorlys i Aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (iii)
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cymryd
camau dilynol gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru pan fydd sefyllfa Brexit yn
dod yn fwy eglur |
|
Ar y pwynt hwn (3.10 p.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 3.25 p.m. |
|
TRAFODAETH AR YR HERIAU PRESENNOL O RAN YR ARWEINYDDIAETH A’R RISGIAU I’R SIROEDD Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad llafar ynglŷn â Heriau Presennol o ran yr
Arweinyddiaeth a'r Risgiau i'r Siroedd. Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai holl Gynlluniau Corfforaethol y partneriaid yn cael eu
rhaglennu i becynnau Rhaglenni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy gydol
cyfarfodydd y dyfodol er gwybodaeth. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Sut
gellid mynd i’r afael â'r heriau o ran yr arweinyddiaeth a pha gymorth fyddai
ei angen gan yr holl bartneriaid, gan gynnwys beth y dylid ei ychwanegu at
becynnau Rhaglenni’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol fel cymorth. ·
Gan
bod cymaint o doriadau o fewn sefydliadau cyhoeddus, sut gellid ymgorffori
gweithio yn fwy doeth a edrych hyd yn oed ar y posibilrwydd o sefydliadau
trydydd parti yn cymryd rhai elfennau o’r gwaith (y gallent wneud cais am arian
ei gyfer). ·
Rhannu
rhagdybiaethau cyllido'r dyfodol rhwng pob sefydliad a'r posibilrwydd o weithio
mwy doeth rhwng yr holl sefydliadau cyhoeddus er mwyn sicrhau nad oes dyblygu
gwaith. ·
Byddai
angen i bob partner ymrwymo er mwyn darparu Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei ddarparu’n gadarnhaol. ·
Darpariaeth
barhaol gwasanaethau. Gellid trafod hyn
mewn mwy o fanylder yn ystod y gweithdy sydd i'w gynnal ym mis Ionawr 2018. ·
Gofynnwyd
am gynnwys eitem sefydlog o fewn pecynnau Rhaglenni’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn y dyfodol er mwyn dangos y sail resymegol dros rai penderfyniadau
anodd ac i ddatblygu gwaith tîm. PENDERFYNWYD bod
y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cydnabod yr heriau presennol o ran arweinyddiaeth
a’r peryglon i’r siroedd. |
|
CYNLLUN LLES DRAFFT Diweddariad ar yr ymgynghoriad a chynnig ar gyfer Gweithdai.
Adroddiad llafar gan Fran Lewis a Nicola Kneale. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
yr adroddiad llafar ar y diweddariad ar y Cynllun Lles drafft. Cadarnhawyd bod y
Cynllun yn cael ei ymgynghori arno ar hyn o bryd. Roedd gwahoddiad agored wedi ei gylchredeg i
bob Grŵp cymunedol yn cynnig bod swyddog yn mynychu er mwyn trafod y
Cynllun Lles mewn mwy o fanylder os oedd angen. Cyflwynodd NRW,
CBSC, a BCU gynllun lles drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w cymunedau eu
hunain ac roedd wedi ei groesawu. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu gwaith ar y Cynllun. PENDERFYNWYD bod
Bwrdd y gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod ac yn cymeradwyo’r Cynllun Lles
Drafft. |
|
CADARNHAD O AMSERLEN Y CYNLLUN LLES PDF 44 KB Adroddiad llafar gan Fran Lewis a Nicola Kneale. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Tîm
Cynllunio Strategol (Cyngor
Sir Ddinbych) adroddiad llafar ar Amserlen y Cynllun Lles. Fel y nodwyd, ar
hyn o bryd roedd y Cynllun yn cael ei ymgynghori arno hyd at 22 Ionawr 2018, ac
wedi hynny byddai angen i holl sefydliadau Aelod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
gytuno arno. Byddai'r Cynllun
wedyn yn cael ei ail-gyflwyno i gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn
Ebrill 2018 er mwyn ei gymeradwyo. PENDERFYNWYD bod
Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod ac yn cymeradwyo amserlen y Cynllun
Lles. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 416 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol a nodwyd yr ychwanegiadau canlynol: ·
Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – trosolwg Cais Twf Rhanbarthol ·
Heriau
Presennol i'r Arweinyddiaeth a Pheryglon i'r Siroedd. ·
Cynlluniau
Corfforaethol gan amrywiol bartneriaid ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol – Heddlu
Gogledd Cymru yn bresennol yn y cyfarfod nesaf fis Ebrill 2018. |
|
YMCHWILIAD CYNULLIAD CYMRU PDF 223 KB Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwrthdlodi (er gwybodaeth) Adroddiad gan Fran Lewis a Nicola Kneale. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth,
cyflwynwyd yr ymateb gan y Bwrddd Gwasanaethau Cyhoeddus i Aelodau. Penderfynwyd bod
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cymeradwyo’r ymateb i’w gyflwyno i Gynulliad
Cymru, yn ddibynnol ar gynnwys y data ardal gymunedol o dan gwestiwn 3. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Gofynnwyd i bobl
‘tagio’ Aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pan fyddai rhywun yn trydar
neu’n anfon hysbysiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel na fyddai neb yn
methu’r hysbysiadau. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 4.00pm |