Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Graham Boase (CSDd), Arweinydd, Cynghorydd Jason McLellan (CSDd), IoIo McGregor (CSDd), Elgan Owen (CBSC)

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Mawrth 2024 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024. Felly:

 

PENDERFYNWYD: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024 yn gofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

3.

ENWEBIADAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD

Y Cadeirydd i arwain y trafodaethau ar gyfer enwebiadau Cadeirydd ac Is-Gadeirydd.

2.10pm- 2.20pm

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2024/25.  Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid enwebu’r Arweinydd; y Cynghorydd Jason McLellan (CSDd) yn Gadeirydd. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer penodi Is-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2024/25.  Cynigiwyd ac eiliwyd ail-benodi’r Cynghorydd Charlie McCoubrey (CBSC) fel Is-gadeirydd. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD: bod yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan yn cael ei benodi fel Cadeirydd a’r Cynghorydd Charley McCoubrey yn cael ei benodi fel Is-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2024/25.

 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2023/24 pdf eicon PDF 526 KB

Cael Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2023/24 gan y Cynghorydd Jason McLellan (copi ynghlwm).

2.20pm – 2.35pm.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Rheolwr Datblygu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Bwrdd drwy adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) 2023/24.

Roedd adroddiad blynyddol 2023/24 yn rhoi trosolwg o beth oedd y Bwrdd wedi ei gyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun Lles diweddaraf. Roedd yn bwysig bod y BGC yn atebol i’r cyhoedd ac roedd yr adroddiad yn cynorthwyo’r BGC i hunan-fyfyrio ar ble roeddent yn teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth, yn unol â’r 5 ffordd o weithio yn ogystal ag amlinellu cyfeiriad y Bwrdd yn y dyfodol.

 

Roedd y canllawiau a ddarparwyd ar gyfer y ddeddf yn nodi bod yn rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi’r camau a gymerwyd gan y Bwrdd i gyflawni’r amcanion a osodwyd yn eu cynllun llesiant. Fodd bynnag, gall yr adroddiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall roedd y Bwrdd yn ei ystyried yn briodol. Felly, roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu - 

 

·       Cyflawniadau yn y flwyddyn ddiwethaf

·       Meysydd gwaith eraill

·       Meddyliau’r Bwrdd ar ôl eleni ac edrych ymlaen; a

·       Sut gall pobl gymryd rhan.

Roedd yr adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi manylion rhai mesurau cyd-destunol allweddol hefyd, oedd yn berthnasol i’r themâu lles. Roedd y rhain yn ddangosyddion lefel uchel oedd yn nodi pam bod y themâu yn parhau’n flaenoriaeth i’r BGC ac yn helpu i roi ffocws ar drafodaethau wrth symud ymlaen. 

Roedd angen i’r Bwrdd anfon copi o’u hadroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig y Bwrdd.

Roedd prif gyflawniadau yn ystod 2023-2024 yn cynnwys - 

Strwythurau a llywodraethu BGC gwell:

Cyflwyno cyfarfodydd anffurfiol: Roedd hwn yn gyfle i hwyluso rhwydweithio i holl aelodau, gan helpu i ddatblygu ymddiriedaeth a siarad yn agored ar faterion a heriau a wynebir, roedd yna hefyd adolygiad o Gylch Gorchwyl y Bwrdd.

 

Trafodwyd risgiau ac achosion cyffredin gyda sefydliadau partner all gael effaith ar ddarparu dyheadau Cynllun Lles y Bwrdd. Teimlwyd ei bod yn werth edrych ar risgiau ac achosion newydd fel rhanbarth Gogledd Cymru gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill.

 

Datblygu dulliau ‘system gyfan’ o weithio a chydweithio ar draws y rhanbarth:

 

Cafwyd cyflwyniadau ar Feddwl Trwy Systemau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (timau lleol a chenedlaethol). Roedd hyn o gymorth wrth edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio’r ymagwedd hwn tuag at ein huchelgais o chwarae rôl fwy arweiniol.

 

Yn dilyn trafodaethau cychwynnol, cynhaliwyd ymarfer mapio systemau i werthuso’r camau nesaf tuag at gyflawni’r Cynllun Lles. Roedd hyn ar gyfer nodi credoau a nodau’r system y gallwn gymryd perchnogaeth drostynt fel Aelodau BGC, a strwythurau systemau a digwyddiadau er mwyn i sefydliadau eu harwain.

 

Roedd y dull hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn cael y gwerth ychwanegol mwyaf o’r BGC a’r newid trawsffurfiol oedd eisiau ei gyflawni.

 

Gweithio gyda Chymunedau:

 

Mabwysiadwyd datganiad cenhadaeth ymgysylltiad ar y cyd. Roedd gwaith yn parhau i ddatblygu cynllun ymgysylltu cymunedol fel rhan o’r camau nesaf. 

 

Roedd gwaith yn parhau ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Wrecsam i gyflawni prosiect ymgysylltu mewn dwy gymuned yng Nghonwy a Sir Ddinbych (Pensarn a Pharc Bruton yn y Rhyl). Roedd y prosiect yn parhau, ac yn defnyddio dulliau creadigol (fel gwaith celf, ffotograffiaeth a fideo) i gefnogi cymunedau i adrodd eu hanesion ynglŷn â sut deimlad ydi byw yn eu cymuned.

 

Cynhaliwyd ymgysylltiad gyda chymunedau amrywiol i ddeall eu hanawsterau ac archwilio’r ffyrdd y gall y Sector Cyhoeddus helpu i rymuso pobl i mewn i’r byd gwaith. Nodwyd nifer o rwystrau ac awgrymiadau ar gyfer camau i’w cymryd. Roedd y gwaith yn cael ei wneud yn rhanbarthol ar ran tri BGC Gogledd Cymru.

 

Cynnydd mentrau allweddol BGC:

 

Roedd yna ymrwymiad i ddatblygu’r Siarter Teithio Iach yn ein sefydliadau drwy gynnal  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ASESIAD RISG NEWID HINSAWDD - TROSOLWG O DRAFODAETH Y CYFARFOD ANFFURFIOL

Cael diweddariad ar lafar ar yr Asesu Risg Newid Hinsawdd gan Mike Corcoran a Caryl Lewis, Rhwydwaith Cyd-Gynhyrchu.

2.35pm – 2.45pm.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Corcoran, Rhwydwaith Cyd gynhyrchu ddiweddariad ar lafar ar y drafodaeth yn y cyfarfod anffurfiol Asesu Risg Newid Hinsawdd i’r Bwrdd. 

 

Canolbwyntiodd y cyfarfod ar dri thestun trafodaeth:  Ym mha ffordd fyddai cynnal Asesiad Newid Hinsawdd yn helpu’r BGC i ddatblygu ei Gynllun Lles, beth oedd y cyfleoedd i’r BGC ystyried wrth gynnal Asesiad Risg Newid Hinsawdd a beth oedd y dull gorau ar gyfer datblygu unrhyw gyfleoedd a nodwyd ar lefel leol, ranbarthol a chymuned. 

 

Y prif themâu o drafodaethau o fewn y cyfarfod oedd

bod yna angen eglurder o amgylch y brîff, beth oedd y rhwymedigaeth statudol penodol o safbwynt yr Asesiad Risg Newid Hinsawdd ac eglurder o ran pa un a oedd cynnal Asesiad Risg Newid Hinsawdd yn ddewis neu’n rhwymedigaeth i BGCau.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r risgiau cyffredinol cysylltiedig â’r gwaith.   Sgyrsiau ynglŷn â sicrhau bod yna ddealltwriaeth glir o’r risgiau cysylltiedig â chynnal a pheidio cynnal Asesiad Risg Newid Hinsawdd.   Cydnabuwyd bod yna risg o ôl-osod asesiad risg newid hinsawdd o amgylch cynllun lles a gyhoeddwyd a chytunwyd arno.  Hefyd, cydnabuwyd y byddai yna faich adnoddau cysylltiedig â chynnal a gweithredu’r cynllun ac roedd hyn yn rhywbeth fydd yn rhaid i’r BGC ei gydnabod. 

 

Cafwyd trafodaeth am ddoethineb mabwysiadu agwedd Gogledd Cymru gyfan posibl ar gyfer asesiadau risg a thrafodwyd hyn mewn BGC cyfagos ar hyn o bryd.  

 

Nodwyd bod yna lawer o gynlluniau ac asesiadau lleol yn ymwneud â Newid Hinsawdd a sefydlwyd eisoes, a’r hyn oedd ei angen nawr oedd gorolwg rhanbarthol strategol. 

 

Ynglŷn â dull cyfannol, cydnabuwyd bod y mater Newid Hinsawdd yn llawer mwy na’r cylch gwaith i BGCau yn unig, fodd bynnag, cydnabuwyd y cyfle i gysylltu drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y risg newid hinsawdd o fewn holl feysydd eraill fel economeg a lles cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

 

Ynglŷn â’r dull Partneriaeth, rhestrwyd nifer o gyrff allweddol ble byddai Arweinyddiaeth yn dyheu i gysylltu â nhw i ddatblygu perthynas waith agos.  

 

I gloi, cafwyd trafodaeth am ymgysylltu a chynnwys y gymuned mewn unrhyw waith Asesu Risg Newid Hinsawdd a’r posibilrwydd i’r BGC gysylltu â sefydliadau lleol sy’n gweithio i newid hinsawdd i rannu eu harbenigedd yn y gwaith hwn.   

 

Diolchodd y Cadeirydd am y diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Dywedodd yr Aelodau fod eglurder am yr hyn a ddisgwylir gan y BGC yn fuddiol ac awgrymwyd y byddai ymchwilio i waith BGC Sir Benfro yn werthfawr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Asesiad Risg Newid Hinsawdd - Trosolwg o Drafodaeth Anffurfiol.

 

6.

SIAPIO LLEOEDD YNG NGHYMRU - DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN

Cael diweddariad ar lafar ar y Rhaglen Siapio Lleoedd yng Nghymru.

2.45pm – 2.55pm.

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y Rhaglen Siapio Lleoedd yng Nghymru i’r Bwrdd. 

 

Cynhaliwyd digwyddiad deuddydd yng Nghaerdydd ble mynychodd 45 cynrychiolydd o 11 BGC i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol ar y themâu Hinsawdd, Tlodi a Chymdogaeth.   Derbyniwyd adborth cadarnhaol o’r digwyddiad a chynhelir y digwyddiad nesaf ym mis Gorffennaf 2024.   Anfonir gohebiaeth at aelodau yn yr wythnos nesaf ynglŷn â dyddiadau digwyddiadau ar gyfer gweddill 2024. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd am y wybodaeth ddiweddaraf.   

 

PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad Siapio Lleoedd yng Nghymru.

 

 

7.

NARATIFAU CYMUNEDOL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y PROSIECT YM MHENSARN A PHARC BRUTON Y RHYL

Cael diweddariad ar lafar gan Dr Rachel Hughes (Prifysgol Wrecsam) ar y Prosiect Naratifau Cymunedol ar gyfer Pensarn a Pharc Bruton, y Rhyl. 2.55pm – 3.05pm.

 

Cofnodion:

Yn anffodus, nid oedd Dr Hughes yn gallu mynychu’r cyfarfod, hysbysodd Rheolwr Datblygu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Bwrdd fod Prosiectau Pensarn a Pharc Bruton y Rhyl yn eu camau cynnar a rhoddir diweddariad manwl yng nghyfarfod y BGC ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar y Prosiect Naratif Cymunedol a’i ohirio nes cyfarfod y BGC ym mis Medi.

 

8.

CYNLLUN GWAITH pdf eicon PDF 544 KB

Ystyried Cynllun Gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych (copi ynghlwm).

3.05pm – 3.10pm.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o Raglen Waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD: bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Dinbych yn cymeradwyo’r Rhaglen Waith.

 

           Daeth y cyfarfod i ben am 3pm