Agenda and draft minutes
Lleoliad: Video conference
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan – Tom Barham -
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Y Cynghorydd Hugh Evans – Cyngor Sir Ddinbych Y Cynghorydd Carol Marubbi - Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy Mark Hughes – Cyfoeth Naturiol Cymru Louise Woodfine – Iechyd
Cyhoeddus Cymru Jo Whitehead – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Helena Kirk – Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Y Cynghorydd Graham Timms – Cyngor Sir Ddinbych Y Cynghorydd Nigel Smith – Cyngor Sir Ddinbych Hannah Edwards – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
|
Yn y cyfwng hwn, cadarnhaodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf
Bethan Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Estynnodd pawb eu gwerthfawrogiad iddi am ei
chyfraniadau i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 294 KB Cymeradwyo cofnodion
y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021. PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13
Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU'R CYFARFOD PDF 273 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yn eitem
hon (copi ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd,
Iwan Davies, adnodd Tracio Camau Gweithredu’r cyfarfod. PENDERFYNWYD bod adnodd Tracio Camau Gweithredu’r cyfarfod yn cael ei
nodi. |
|
Materion yn Codi Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yn eitem
Iafar hon Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion yn
codi i’w trafod. |
|
Yn y cyfwng hwn, newidiwyd
trefn y Rhaglen. |
|
DATBLYGU CYNLLUN LLES CONWY A SIR DDINBYCH PDF 208 KB I roi gwybod
i aelodau am y camau nesaf i ddatblygu’r Cynllun Lles (copi
ynghlwm). 2.35 p.m. – 2.45 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale yr
Adroddiad ar Ddatblygu Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r casgliadau o Weithdy Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2002. Roedd pedwar o feysydd blaenoriaeth wedi
codi o’r gweithdy ac mae’r meysydd fel a ganlyn: ·
Tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldeb ·
Swyddi, uwchsgilio ac
uchelgais pobl ifanc ·
Tai - fforddiadwyedd a
gwytnwch, a ·
Chapasiti ymchwil ac
ymgysylltu. Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar broses y camau nesaf ar gyfer y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran datblygu Cynllun Lles y BGC ac roedd yn
anelu i resymoli’r nifer o flaenoriaethau yn ôl lle y gallai ychwanegu’r gwerth
mwyaf. Barnwyd mai’r rhan yn ymwneud â dylanwad a rheolaeth o’r dadansoddiad oedd
bwysicaf er mwyn rhoi ystyriaeth ddigonol i lle y gallai’r BGC ychwanegu’r gwerth
gorau a dylanwad cryf o fewn pob thema. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaethau - ·
Awgrymwyd fod y BGC yn
canolbwyntio ar faterion sy’n benodol i Gonwy a Sir Ddinbych a sut y gallent
ddylanwadu ar y materion hynny. Dylid
osgoi dyblygu gwaith gyda phartneriaid eraill ac roedd angen monitro hyn. ·
Llawer mwy o waith i’w
wneud ar yr Agenda Werdd a sut y gallai BIPBC gynorthwyo. ·
Cytunwyd i sicrhau fod
gwerth ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer yr hinsawdd ac argyfwng natur
gydag ymagweddau rhanbarthol. ·
Cyflwynwyd yr adroddiad ar
gyfer trafodaeth ac nid ar gyfer penderfyniad a roddodd y cyfle i aelodau i
gael adnoddau ac i ymchwilio ymhellach er mwyn i benderfyniad gael ei wneud ar
sail gwybodaeth. Diolchodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol i’r aelodau am eu mewnbwn a
chadarnhaodd y byddai swyddogion yn asesu rôl yr arweinyddiaeth a lle y
byddai’r BGC yn cael effaith yn ogystal â beth oedd yn digwydd ar lefel
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod, ·
Fod y BGC wedi ystyried
cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys materion na chawsant eu trafod fel rhan o
weithdy’r BGC ym mis Ionawr ac atodiadau. ·
Fod y BGC yn ystyried beth
fyddai’r blaenoriaethau yn y dyfodol ac argymhellwyd fod aelodau’r BGC yn
cytuno i ganolbwyntio ar 3 o flaenoriaethau ar y mwyaf yn eu hymagwedd o ran
arwain. |
|
ASESIAD LLES CONWY A SIR DDINBYCH 2022 - CYMERADWYAETH I'W GYHOEDDI PDF 371 KB I geisio cymeradwyaeth i gyhoeddi’r Asesiad Lles cyn y dyddiad
statudol sef 5 Mai 2022 (copi ynghlwm) 2.05 p.m. – 2.35 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy), Amanda Jones, ei bod wedi dod i’r swydd yn lle Fran Lewis a chyflwynodd
Asesiad Lles 2022 - Adroddiad cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Darparwyd trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar yr
asesiad lles a gofynnwyd am gymeradwyaeth gan y BGC ar gyfer cyhoeddi’r asesiad
lles cyn y dyddiad cau sef 5 Mai 2022. Yn dilyn trafodaeth fer - PENDERFYNWYD fod: ·
Y BGC yn cymeradwyo’r
asesiad lles ar gyfer ei gyhoeddi ·
Nodi’r adborth a’r
argymhellion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ac i swyddogion fynd i’r afael â’r
rhain dros y 3 mis nesaf. |
|
GRANT CEFNOGI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU 2022-23 PDF 265 KB I roi gwybod
i aelodau am y Grant sydd ar gael gan
Lywodraeth Cymru i ranbarth Gogledd Cymru yn 2022-23 (copi ynghlwm). 2.45 p.m. – 2.55 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy), Amanda Jones, y Grant Cefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gogledd Cymru 2022-23 (wedi’i gylchredeg eisoes). Darparwyd gwybodaeth i’r BGC am y grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru
(LLC) i ranbarth Gogledd Cymru yn 2022-23 a sut mae’r arian wedi’i ddyrannu ar
draws y meini prawf a nodir gan LLC, gan gynnwys manylion am y math o
weithgareddau a gynigir. Byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn monitro cynnydd y gwaith a
ariennir, gan sicrhau rheolaethau ariannol digonol. Byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu
darparu trwy rwydwaith BGC Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD bod – ·
Aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r adroddiad, ac yn arbennig
y swm bychan sydd ar gael a'r meini prawf sy'n berthnasol. ·
Bod gan aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y cyfle i awgrymu meysydd
o waith y gellir eu datblygu gyda’r cyllid cefnogi sydd ar gael. Gall y
gwariant yn erbyn y grant fod yn eitem sefydlog ar raglen y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus, fel y gellir darparu diweddariadau, ac ystyried meysydd a fyddai’n
elwa o’r buddsoddiad. |
|
ADEILADU CYFOETH CYMUNEDOL A CHAFFAEL BLAENGAR - DIWEDDARIAD CYNNYDD Rhoi diweddariad cynnydd i aelodau. 3.05 p.m. – 3.15 p.m. Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gwella a Datblygu Corfforaethol (Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy), Amanda Jones ddiweddariad ar lafar am Adeiladu Cyfoeth Cymunedol
a Chaffael Blaengar. Roedd y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol yn edrych ar y broses
caffael i fewnosod lleihau carbon.
Derbyniwyd adroddiad a byddai cyfarfod terfynol gyda’r Ganolfan Strategaethau
Economaidd Lleol yn cael ei gynnal ar ddechrau mis Ebrill. Yn dilyn y cyfarfod byddai’r wybodaeth yn
cael ei gyflwyno i Fwrdd Hinsawdd Conwy a Bwrdd Newid Hinsawdd Sir Ddinbych. Byddai gwybodaeth hefyd yn cael ei gyflwyno
yn y BGC a byddai John Hannigan o’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol yn
bresennol. PENDERFYNWYD bod aelodau o’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r diweddariad ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a Chaffael Blaengar. |
|
COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU AR Y CYD BGC CONWY A SIR DDINBYCH PDF 395 KB Rhoi trosolwy
I’r aelodau o gyfarfod diweddar y pwyllgor. 2.55
p.m. – 3.05 p.m. Cofnodion: Nodwyd |
|
EGWYL – 3.00 P.M. – 3.15 P.M. |
|
BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - TROSOLWG O'R RHAGLEN Alwen Williams i roi diweddariad ar lafar. 3.15 p.m. – 3.35 p.m. Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru, Alwen Williams
gyflwyniad yn rhoi trosolwg o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cafodd y cyflwyniad ei gylchredeg i holl
aelodau’r BGC yn dilyn y cyfarfod er gwybodaeth. Cadarnhawyd bod y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn creu’r Bwrdd
Uchelgais yng Ngogledd Cymru. Roedd
angen denu buddsoddiad preifat i’r rhanbarth a fyddai yna’n denu swyddi a
sgiliau newydd i’r ardal. Roedd gwaith
ar y gweill i atal sgiliau rhag gadael y rhanbarth. Cadarnhawyd hefyd y byddai’n fanteisiol i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a BGC y rhanbarth gydweithio i gefnogi blaenoriaethau’r BGC. Byddai hyn yn atal dyblygu gwaith. Bu i’r aelodau ddiolch i Alwen Williams am fynychu. PENDERFYNWYD bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r cyflwyniad gan Alwen Williams, Bwrdd
Uchelgais. |
|
CYNLLUN GWAITH YMLAEN PDF 430 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yn eitem hon (copi ynghlwm) 3.35 p.m. – 3.45 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd copi o’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 3.50
P.M. |