Agenda and draft minutes
Lleoliad: by Video Conference
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorydd Hugh
Evans – Cyngor Sir Ddinbych Jo Whitehead -
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 320 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 17 Mai 2021 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021 fel
cofnod cywir. |
|
OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU’R CYFARFOD PDF 394 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd
Hannah Edwards adroddiad olrhain camau gweithredu’r cyfarfod a thynnodd sylw'r
Bwrdd at y camau gweithredu agored canlynol i’w hystyried ymhellach /
gweithredu fel sy’n briodol - ·
Roedd dau gam gweithredu cyntaf wedi eu hamlygu,
‘defnyddio’r adnodd prawfesur polisïau gwledig ar
gyfer y tri maes blaenoriaeth’ ac ‘wrth ymgymryd â’r
adolygiad o’r asesiad ar effaith, ystyried a oes unrhyw feysydd cydraddoldeb
mae'r Bwrdd angen bod yn ymwybodol ohonynt’. Roedd y bwrdd yn cytuno na ellir
cau’r camau hyn, fodd bynnag, awgrymwyd amlygu pwyntiau allweddol y camau i
asesu yn hytrach na chael diweddariadau ym mhob cyfarfod Bwrdd Gwasanaeth
Cyhoeddus. ·
Byddai’r diweddariad iechyd meddwl a lles yn cael ei
drafod yn fwy manwl yn ddiweddarach yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd. |
|
MATERION YN CODI Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem lafar hon. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion o’r cofnodion blaenorol wedi eu trafod. |
|
DIWEDDARIAD CYNNYDD ASESU LLES A CHYMERADWYO YMGYNGHORI AC AMSER CYNLLUN PDF 254 KB Nicola Kneale (CSDd) a Fran Lewis (CBSC) i gyflwyno'r
Diweddariad Cynnydd Asesiad Llesiant a cheisio Cymeradwyaeth ar yr Ymgynghoriad
a Chynllunio'r llinell amser. 2:05pm – 2:35pm Cofnodion: Cyflwynodd Nicola Kneale (CSDd) yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi diweddariad i’r BGC ar gynnydd yr Asesiad
Lles ac i ddechrau paratoi amserlen ar gyfer ymgynghori. Mae Asesiad o Lesiant statudol wrthi’n cael ei
gynhyrchu, a fydd yn sail i gynllun llesiant nesaf y BGC (y mae’n rhaid ei
gyhoeddi erbyn Mai 2023 fan bellaf) a chynlluniau llesiant ei sefydliadau
cyfansoddol. Bwriadwyd i ddrafft fod yn barod ym mis Tachwedd 2021, fyddai’n
mynd drwy broses ymgynghoriad statudol. Roedd Nicola
Kneale yn egluro er mwyn galluogi dealltwriaeth o’r cyfoeth o wybodaeth
gymhleth oedd wedi’i chynnwys o fewn yr Asesiad Lles, byddai cyflwyniad o
gasgliadau allweddol o’r dadansoddiad o gynnwys yr Asesiad yn sail i'r
ymgynghoriad a bod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf ar gyfer cymeradwyaeth. Eglurodd Nicola
Kneale nad oedd yn fwriad i drafod datblygiad y cynllun yn fanwl heddiw, ond
bod aelod arweiniol o’r BGC yn cael ei nodi a bod cynnig ar gyfer datblygu’r
Cynllun Lles yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Roedd yna gonsensws ymhlith aelodau’r bwrdd na fyddai un arweinydd yn
ddigonol, oherwydd ymrwymiadau gwaith ond hefyd heb wybodaeth o feysydd eraill
o fewn ardal y BGC. Roedd Bethan Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
ynghyd â Sarah Schofield (Adra) a Tom Barham (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) wedi cytuno i arwain ar y mater cynllun llesiant
ar y cyd. Roedd Iwan Davies CBSC wedi ail-gadarnhau’r hyn a drafodwyd yn ystod camau
cynnar y BGC ble cytunwyd y byddai'n canolbwyntio ar feysydd nad oedd
sefydliadau eraill yn gweithio arnynt. Roedd hyn i osgoi dyblygu gwaith. Roedd y bwrdd yn
teimlo mai gwaith y dyfodol y BGC ddylai adolygu newidiadau a wnaed gan Lywodraeth
Cymru ar lefel mwy lleol gyda CBSC a CSDd a chytunwyd
y byddai’n fuddiol gwahodd gweithgorau lleol ar bynciau penodol a gofyn sut y gallai’r BGC eu cefnogi.
PENDERFYNWYD (i) Bod
y BGC yn nodi’r cynnydd a wnaed gyda’r asesiad o lesiant, ac yn cymeradwyo’r
llinell amser ar gyfer ymgynghori. (ii) Bod
y prif gasgliadau o’r asesiad lles yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf a
gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer ymgynghori ar yr asesiad. (iii) Bod
y BGC yn nodi cynhyrchu’r amserlen ar gyfer yr Asesiad o Lesiant a bod Bethan
Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ynghyd â Sarah Schofield (Adra) a Tom Barham
(Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) yn cael
eu penodi fel cyd aelodau arweiniol y bwrdd i weithio gyda swyddogion i ffurfio
cynnig i gynhyrchu’r cynllun llesiant nesaf. |
|
DIWEDDARIAD AR ARDALOEDD BLAENORIAETH Derbyn diweddariad ar y meysydd blaenoriaeth ganlynol - (a) Lles meddwl - Swyddog Iechyd Cyhoeddus Cymru (b) Grymuso Cymunedol (gan gynnwys diweddariad ar seilwaith digidol) - Nicola Kneale (c) Gwydnwch Amgylcheddol (gan gynnwys cytuno ar ymrwymiadau amgylcheddol) - Justin Hanson / Helen Millband 2:35pm – 3:05pm Cofnodion: Rhoddwyd y
wybodaeth ddiweddaraf ar y meysydd blaenoriaeth i’r BGC - (a) lles meddyliol
– hysbyswyd y BGC fod Louise Woodfine (Ymgynghorydd
ardal y canol) wedi’i phenodi fel cynrychiolydd newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fodd bynnag oherwydd ymrwymiadau blaenorol nid oedd yn gallu mynychu’r
cyfarfod. Roedd angen trafodaeth
bellach ar arweinydd blaenoriaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol. (b) Ymrymuso'r Gymuned (gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar
seilwaith digidol) – rhoddodd Nicola Kneale y wybodaeth ddiweddaraf i’r bwrdd
ar y gwaith a wnaed. Roedd y cynlluniau cysylltedd a oedd ar y gweill ar hyn o
bryd wedi eu hamlygu - ·
Roedd
cyflwyno ffibr llawn Llywodraeth Cymru yn dod i ben ym mis Mehefin 2022, ·
Roedd
Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol yn anelu i osod band eang ffibr llawn mewn
adeiladau cyhoeddus. Yna byddai Openreach yn cysylltu eiddo ar hyd y llwybr ac yng nghyffiniau adeiladau cyhoeddus. Fodd bynnag,
roedd yna rai pryderon gyda chynnydd gan ei fod yn dod i ben ym mis Medi 2021,
roedd y mater yn cael ei archwilio gan Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC). ·
Prosiect
Gigabit Llywodraeth Y DU, cyhoeddwyd yn wreiddiol yng
nghyllideb y gwanwyn 2020 ond cafodd ei ddal yn ôl gan oedi ac adolygiadau. Roedd yn seiliedig ar addewid y
llywodraeth i sicrhau bod gan 85% o eiddo’r DU fynediad i fandeang
gigabit erbyn 2025, roedd yna hyd at 234,000 o eiddo
gwledig yng Nghymru yn y cwmpas. ·
Ychydig
iawn o eiddo fyddai’n methu cael mynediad i’r band eang cyflym iawn, byddai’r
eiddo hyn yn cael eu dynodi fel ‘eiddo gwyn’. Byddai BUEGC hefyd yn rhoi sylw
i’r eiddo hyn drwy’r prosiect Ychydig Ganran
Ddiwethaf. ·
Roedd
Partneriaeth Ffibr Cymunedol yn defnyddio’r cynllun Taleb Band Eang Gigabit ac roedd yn gynllun cymhorthdal llywodraeth ar
draws y DU i ddarparu cysylltiadau ffibr llawn wedi eu diogelu at y dyfodol i
gartrefi a busnesau. Fodd bynnag, roedd
yna rai heriau gan na fyddai rhai ardaloedd yn gallu cydgrynhoi’r talebau hyn i
dalu am weithredu ffibr mewn rhai cymunedau.
·
Roedd
gosod ffibr yn ddrud, felly mae’r eiddo hynny sy’n arbennig o anodd eu cyrraedd
yn annhebygol o gael eu cynnwys mewn cynlluniau uwchraddio gan Openreach ac ni fydd yr arian ar gael gan CFPs yn ddigonol.
Heb ymrwymo buddsoddiad allanol yn yr ardaloedd hyn sy'n anodd i'w
cyrraedd, maent yn annhebyg o gael eu huwchraddio am beth amser. Roedd y Bwrdd yn
diolch i Nicola am y wybodaeth ddiweddaraf ar fater cymhleth. Roedd Graham Boase (CSDd)
yn awgrymu y gall y BGC edrych ar gysylltedd fel blaenoriaeth, gan ei fod yn
effeithio ar bob sefydliad. Roedd yn
sylweddoli na allai’r BGC weithredu gwaith, fodd
bynnag, gallai ddylanwadu sefydliadau oedd yn ymgymryd â’r
gwaith y soniwyd amdano a herio’r sefydliadau ar pa un a gyflawnwyd y gwaith.
Gallai hyn wneud cynnydd gyda’r gwaith. Trafodwyd y gallai'r sefydliadau trydydd sector dderbyn rôl i helpu i
symud cymunedau i gael cefnogaeth a chyllid i wella cysylltedd. Codwyd band eang
lloeren a sut yr oedd technoleg wedi’i ddatblygu a gallai fod yr unig ddewis
oedd yn hyfyw i rai o’r ardaloedd gwledig yng Nghymru. (c) Gwytnwch amgylcheddol – rhoddodd Jason Hanson (Cyfoeth Naturiol Cymru) gyflwyniad i'r BGC yn
amlygu gwaith a wnaed o ran y flaenoriaeth gwytnwch amgylcheddol. Roedd yr
is-grŵp wedi adolygu pob blaenoriaeth ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, yn
dilyn cais y BGC i wneud hynny. Roedd yr is-grŵp wedi cyfarfod ddwywaith
ers y cyfarfod BGC ddiwethaf. Roedd yna ffocws yn bennaf ar adolygu a newid
blaenoriaeth 1, y datganiad polisi amgylcheddol. Y chwech blaenoriaeth oedd - 1. Gweithio gyda’n partneriaid BGC i ddatblygu datganiad polisi amgylcheddol, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL PDF 361 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig). 3:05pm – 3:10pm Cofnodion: Cyflwynwyd copi
o gynllun gwaith i'r dyfodol y BGC a thrafodwyd y materion canlynol - ·
Hysbysodd y cadeirydd y pwyllgor y byddai’r cyfarfod
nesaf yn cynnwys -
Derbyn trosolwg o’r prif gasgliadau o’r asesiad lles a
chymeradwyo’r asesiad ar gyfer ymgynghori -
Adolygu canfyddiadau’r is-grŵp, ynglŷn â
datblygu’r cynllun llesiant nesaf. -
Derbyn gwybodaeth ar yr Addewid Sector Cyhoeddus a
Gweithwyr Llawrydd -
Adolygu canfyddiadau ac argymhellion y peilot Adeilad
Cyfoeth Cymunedol a Chaffael Cynyddol. -
·
Nid oedd aelodau’r bwrdd yn awgrymu unrhyw eitemau
pellach i’w trafod. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo'r cynllun gwaith i'r dyfodol. |
|
ANFFURFIOL - CAMAU NESAF YN DILYN BGC MIS MEHEFIN Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem lafar hon gan drafod y camau nesaf ar gyfer y BGC yn dilyn gweithdy mis Mehefin. 3:10pm – 3:40pm Cofnodion: Daeth y cyfarfod i ben am 16:10 |
|
ER GWYBODAETH - HADDEWID SECTOR CYHOEDDUS A GWAITH ANNIBYNNOL PDF 321 KB Cofnodion: Roedd yr eitem
hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod. |
|
Cofnodion: Roedd yr eitem
hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod. |
|
ER GWYBODAETH - GWYBODAETH CYFRANOGI CYNLLUN KICKSTART PDF 140 KB Cofnodion: Roedd yr eitem
hon er gwybodaeth ac ni thrafodwyd yn y cyfarfod. |