Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cyng. Hugh
Evans – Cyngor Sir Ddinbych Uwcharolygydd
Simon Williams – Heddlu Gogledd Cymru Byddai Cynghorydd
Carol Marubbi yn hwyr i’r cyfarfod |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 102 KB Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Tachwedd 2020 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 16
Tachwedd 2020. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU’R CYFARFOD PDF 391 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd Hannah Edwards adroddiad olrhain camau
gweithredu’r cyfarfod a thynnodd sylw'r Bwrdd at y camau gweithredu agored
canlynol i’w hystyried ymhellach / gweithredu fel sy’n briodol - ·
roedd
gweithdy wedi’i gynnal gyda Phrifysgol Glyndŵr ym mis Ionawr 2021 a byddai
gweithdy dilynol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2021 os yw hynny'n
bosibl ·
roedd
cyfarfod yr Is-grŵp Cadernid Amgylcheddol wedi'i drefnu ar gyfer mis
Mehefin 2021. Roedd grŵp datgarboneiddio rhanbarthol wedi’i sefydlu ac
roedd gwaith yn parhau i geisio eglurhad pellach am ei gylch gorchwyl a’i
gysylltiadau â’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus. ·
roedd
cyfarfod Is-grŵp Iechyd Meddwl a Lles wedi’i gynnal ym mis Ebrill 2021 ond
roedd angen mireinio’r aelodaeth ymhellach ynghyd ag adolygu’r sefydliadau
arweiniol gan fod Richard Firth wedi newid swyddi o fewn Iechyd Cyhoeddus
Cymru. Roedd yr adolygiad wedi cael ei gynnwys
fel eitem 7 ar y rhaglen a’r gobaith oedd y byddai Teresa Owen, Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn ymuno â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem honno i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf ·
roedd
y Bwrdd wedi cytuno yn y gorffennol gwahodd Alwen Williams, Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru, i un o gyfarfodydd y dyfodol i drafod gwaith sy’n
cael ei wneud i fynd i’r afael â chysylltedd digidol. Er mwyn rhoi trosolwg mwy cynhwysfawr o’r
sefyllfa ledled Conwy a Sir Ddinbych, cytunodd y Bwrdd y byddai hefyd yn
ddefnyddiol trafod prosiectau cysylltedd lleol eraill yn y drafodaeth honno er
mwyn nodi unrhyw fylchau a chyfleoedd yn y dyfodol. Nicola Kneale i ymgymryd â’r cam gweithredu
hwnnw. PENDERFYNWYD - (a) nodi'r cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd, a (b) trefnu trafodaeth ar y cyd am isadeiledd digidol gan gynnwys gwaith i’w
wneud gan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a phrosiectau cysylltedd lleol
eraill mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
MATERION YN CODI Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem lafar hon. Cofnodion: Nododd Aelodau’r
prif faterion a oedd yn codi o gofnodion y cyfarfod diwethaf - ·
Tudalen
6, Eitem 2 – Prifysgol Glyndŵr – roedd y gweithdy gyda Phrifysgol
Glyndŵr am flaenoriaethau BGC wedi’i gynnal ym mis Ionawr 2021 ·
Tudalen
12, Eitem 10 – (pwynt bwled un) byddai’r cam gweithredu i sefydliadau partner
enwebu cynrychiolwyr i eistedd ar yr Is-grŵp Prosiect Blaenoriaeth Lles
Meddyliol yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod o dan eitem 7 ar y
rhaglen ·
Tudalen
12, Eitem 10 – (pwynt bwled dau) roedd cyfarfod yr Is-grŵp Cefnogi
Cadernid Amgylcheddol i ail-edrych ar y blaenoriaethau presennol wedi'i drefnu
ar gyfer mis Mehefin 2021. O ran y
grŵp datgarboneiddio rhanbarthol, rhoddodd Sarah Schofield ychydig o wybodaeth
gefndirol i’r Bwrdd gan esbonio bod y grŵp wedi’i sefydlu i ddechrau gan y
cymdeithasau tai tua deunaw mis ynghynt i gydweithio ar ddatgarboneiddio ac ar
ôl hynny roedd awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i fynychu. Cynigodd ddarparu adroddiad diweddaru neu unrhyw wybodaeth bellach yn ôl y
gofyn. Bu trafodaeth hefyd am y gwaith
yr oedd Rhys Horan o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo fel rhan o
agenda newid hinsawdd ehangach a sefydlu grŵp rhanbarthol. O ystyried pwysigrwydd a’r pwyslais cynyddol
ar newid hinsawdd, cytunodd y Bwrdd y byddai’n fanteisiol gwneud rhywfaint o
waith i fapio’r gwahanol fentrau a grwpiau sy’n gweithio ar yr agenda hwn a
chanfod y ffordd orau i’r BGC ychwanegu gwerth.
Awgrymodd Iwan Davies bod Rhys Horan mewn safle delfrydol i ymgymryd â’r
gwaith a chynigodd gysylltu ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â hynny. PENDERFYNWYD - (a) nodi’r materion a oedd yn codi a’r cynnydd a wnaed ers y cyfarfod diwethaf,
a (b) bod Iwan Davies yn cysylltu â Rhys Horan yn uniongyrchol ynglŷn â
mapio gwahanol fentrau a grwpiau sy’n gysylltiedig â'r agenda newid hinsawdd. |
|
ENWEBIADAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Bydd y Cadeirydd
yn arwain y drafodaeth ar yr eitem lafar hon i adolygu'r Gadeiryddiaeth a'r
Is-gadeiryddiaeth yn unol ag Adran 7 o'r Cylch Gorchwyl. 10.10 am – 10.20 am Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i adolygu’r
Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn unol â Chylch Gorchwyl y Bwrdd. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ymgymryd â’r rôl
dros y deuddeng mis diwethaf ond oherwydd newidiadau yn ei threfniadau gwaith
yn y dyfodol, mae’n bosibl na fydd yn gallu parhau. Roedd y Bwrdd yn cefnogi ailbenodi’r Cadeirydd
presennol am ddeuddeng mis arall, os oedd hynny’n bosibl, a derbyniodd hithau’r
rôl ar y dealltwriaeth y byddai’n rhaid ailystyried y swydd pe bai ei
threfniadau gwaith yn newid yn y dyfodol.
Diolchodd i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus. Gofynnwyd am enwebiadau hefyd ar gyfer swydd yr
Is-gadeirydd a oedd yn wag yn dilyn ymadawiad Judith Greenhalgh fel Prif
Weithredwr CSDd. Cynigwyd ac eiliwyd y
dylid penodi Iwan Davies, Prif Weithredwr CBSC yn Is-gadeirydd. Derbyniodd Mr Davies y penodiad. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod Siân Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) ac Iwan Davies
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) yn cael eu penodi yn
Gadeirydd ac Is-Gadeirydd (yn y drefn honno) y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus am y flwyddyn i ddod. |
|
CYMERADWYO ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2020/21 PDF 631 KB Nicola Kneale (CSDd) a Fran Lewis (CBSC) i gyflwyno
adroddiad blynyddol 2020/21 ar gyfer ei gymeradwyo (copi’n amgaeedig). 10.20 am – 10.30 am Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad blynyddol drafft y BGC 2020/21 (a gylchredwyd eisoes) i’w
gymeradwyo. Roedd yn ddogfen statudol
i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Lles Cenedlaethau'r
Dyfodol Cymru. Rhoddodd Nicola
Kneale drosolwg o’r trydydd adroddiad blynyddol a oedd yn cwmpasu effaith
pandemig y coronafeirws dros y flwyddyn ddiwethaf a dywedodd bod nifer o gamau
gweithredu Cynllun Lles y BGC wedi cael eu gohirio tra bo sefydliadau sy’n
aelodau o’r Bwrdd yn ymateb i’r argyfwng.
Cynhaliwyd adolygiad o’r blaenoriaethau a darparwyd trosolwg o gynnydd
yn ystod y flwyddyn ynghyd â chamau gweithredu a oedd ar y gweill a chamau
gweithredu i’r dyfodol. Tynnodd sylw
hefyd at y dasg dros y deuddeng mis nesaf sef cynhyrchu’r asesiad lles statudol
(i’w drafod yn nes ymlaen ar y rhaglen). PENDERFYNWYD cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol BGC 2020/21 [Nid oedd Teresa Owen (Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ymuno â’r cyfarfod ar
gyfer eitem 7 ar y rhaglen eto, felly penderfynwyd ystyried yr eitem yn nes
ymlaen ar y rhaglen.] |
|
ASESIAD LLES AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED PDF 332 KB Rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r aelodau am y dull a'r cynnydd a wnaed o ran adnewyddu'r asesiad
(copi’n amgaeedig). 10.45 am – 11.15 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Nicola
Kneale ei hadroddiad (a gylchredwyd eisoes) gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am
gynnydd i ddatblygu Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych. Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am grant
BGC Gogledd Cymru a cheisiwyd cymeradwyaeth ar gyfer y cynigion rhanbarthol i
gefnogi gwaith ymchwil ac ymgysylltu. Roedd gofyn i
Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad lles bob 5 mlynedd ac
roedd gweithgor wedi’i sefydlu gyda phartneriaid y BGC i ddechrau’r broses
honno. Roedd adolygiadau cyflym wedi
cael eu cynnal ar bynciau ac roedd unrhyw waith ymgysylltu diweddar wedi’i
fapio. Byddai gweithgareddau ymgysylltu
â'r gymuned yn cael eu cynnal dros yr haf i hysbysu'r asesiad ac i’r gwrthwyneb
hefyd. Cynigwyd y byddai fersiwn drafft
yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2021 yn barod ar gyfer ymgynghoriad. Mae Llywodraeth
Cymru wedi ail-gyflwyno’r grant cymorth BGC ar gyfer 2021/22, ac mae £87,273 ar
gael ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.
Roedd meini prawf clir ar gyfer y cyllid a chynigiwyd bod y grant yn cael
ei ddefnyddio er mwyn gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi themâu sy’n berthnasol
i ranbarthau ac is-ranbarthau. Roedd
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi datblygu cynnig model partneriaeth i
gefnogi’r gwaith ymchwil ac roedd CSDd yn arwain ar ddatblygu cytundeb model
cyflenwi gwasanaeth amgen. Roedd
grŵp swyddogion BGC gogledd Cymru wedi datblygu cynnig ymgysylltu
rhanbarthol i ffurfioli trefniadau i gefnogi ymgysylltiad. Yn olaf cyfeiriwyd at fanteision gweithio
gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wedi i grŵp swyddogion BGC Gogledd
Cymru gyflwyno datganiad o ddiddordeb yn hyn o beth. Diolchodd y Bwrdd
i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a chydnabuwyd pwysigrwydd yr asesiad
lles a fyddai’n sylfaen i gynlluniau strategol cyrff cyhoeddus dros y blynyddoedd
nesaf. Yn ystod y ddadl ddilynol,
tynnodd aelodau sylw at bwysigrwydd gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol, a oedd hefyd yn cynnal asesiad o anghenion, i sicrhau dull
gweithredu cwbl gydlynol, a hefyd ffocws ar effaith Covid-19 wrth edrych tua’r
dyfodol mewn perthynas â gwersi hirdymor.
Er bod y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr yn bwysig, roedd hefyd angen
deall rhywfaint o’r ymchwil cenedlaethol mewn perthynas â datblygiadau yn y
dyfodol. Ymatebodd y swyddogion i’r
materion a godwyd fel a ganlyn – ·
rhoddwyd
sicrwydd ynglŷn â chydweithio’n agos â chydweithwyr BPRh i sicrhau bod y
gwaith yn cael ei integreiddio a chysylltiadau'n cael eu gwneud ·
eglurwyd
bod y BPRh yn cynnal asesiad o anghenion y boblogaeth yr un mor aml ag asesiad
lles y BGCau ac y byddai eu gwaith yn bwydo i mewn i hynny – fodd bynnag byddai
gwaith y BPRh yn canolbwyntio’n arbennig ar grwpiau cleientiaid tra bo gwaith y
BGC yn seiliedig ar y boblogaeth gyffredinol ac ymyrraeth gynnar ·
wrth
ysgrifennu’r penodau ar gyfer y nodau lles a chynnal dadansoddiad o’r sefyllfa
yng Nghonwy a Sir Ddinbych, cadarnhawyd y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i
Covid-19 ac y byddai gwaith ymchwil yn sail i ragdybiaethau ynglŷn â beth
fyddai’n digwydd yn y dyfodol – ond oherwydd bod hon yn sefyllfa sy’n parhau ar
hyn o bryd, mae unrhyw gasgliadau sy’n cael eu cyrraedd yn rhai dyfaliadol a
gobeithiwyd y byddai Prifysgol Glyndŵr, fel partner gweithredol, yn helpu
i sicrhau bod y casgliadau yn yr asesiad yn cael eu hadolygu wrth i effaith y pandemig
ddod yn fwy amlwg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Cytunodd y Bwrdd bod angen i'r broses fod yn hyblyg er mwyn dod i gasgliadau a’u hadolygu wrth i’r sefyllfa ddatblygu a chroesawyd y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr fel rhan o’r profiad dysgu hwn a fyddai’n fanteisiol yn y broses honno. Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am y gwaith caled sy’n cael ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD CAFFAEL LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL PDF 235 KB Nicola Kneale
(CSDd) i gyflwyno'r adroddiad ar yr argymhelliad ar gyfer Byrddau Gwasanaethau
Cyhoeddus a'r cynnig gan CLES ynghylch adeiladu cyfoeth cymunedol a chaffael
cynyddol (copi’n amgaeedig) . Dolen gyswllt i
Atodiad 1: CYM-Section-20-Procurement-Review.pdf
(futuregenerations.wales) 11.15 am – 11.35 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nicola Kneale yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) ar
argymhelliad Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a’r cynnig gan y Ganolfan
Strategaethau Economaidd Lleol ynglŷn ag adeiladu cyfoeth cymunedol a
chaffaeliad blaengar. Roedd dolen gyswllt wedi’i darparu i’r adroddiad gan Swyddfa Comisiynydd
Lles Cenedlaethau’r Dyfodol am eu hadolygiad i gaffael Lles yng Nghymru, gan
gynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried yr adroddiad
ynghyd â’r cynnig o gefnogaeth gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol
i’r BGC gymryd rhan mewn cynllun peilot, a ariennir gan LlC, i gael mynediad at
yr arbenigedd a’r cymorth i archwilio dulliau adeiladu cyfoeth cymunedol ar
gaffael blaengar. Byddai ymrwymiad
cynhwysedd yn ofynnol gan gydweithwyr caffael cyrff cyhoeddus i ddarparu prosiect
effeithiol yn unol â'r dyddiad terfynu cyllid sef mis Rhagfyr 2021. Roedd trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd
ynglŷn â’r trefniadau ymarferol rhwng cydweithwyr yng Nghonwy a Sir
Ddinbych. Os oedd y Bwrdd yn cefnogi’r
cynllun, y bwriad oedd adrodd yn ôl unwaith y byddai’r cynllun peilot wedi’i
gwblhau ar ddiwedd y flwyddyn galendr. Ystyriodd y Bwrdd yr adroddiad ac roedd sefydliadau partner yn rhoi
cefnogaeth gyffredinol i symud y cynllun peilot ymlaen. Rhai materion i’w hystyried a gododd o’r
ddadl ddilynol oedd goblygiadau cenedlaethol caffael ar gyfer y partneriaid
mwy, herio pwyslais presennol LlC ar werth am arian a symud tuag at
ailddiffinio gwerth gorau gan gymryd i ystyriaeth y cyd-destun ehangach a
gwerth cymdeithasol gan gyfeirio at newid hinsawdd (gan gynnwys effaith carbon
trwy'r gadwyn gyflenwi), caffaeliad lleol a buddion cymunedol. Wrth ymateb i’r materion a godwyd,
cadarnhaodd Nicola Kneale y byddai’n adborthi sylwadau ynglŷn â phwyslais
ariannol caffaeliad i LlC gyda’r bwriad o gynnwys yr elfen honno o fewn cwmpas
y gwaith, a byddai gofyn i LlC hefyd ymateb i’r argymhellion yn adroddiad
Swyddfa’r Comisiynydd. Byddai modd
ystyried rhai o’r materion cenedlaethol hynny ymhellach ar ôl i ganlyniadau’r
cynllun peilot gael eu cyhoeddi.
Cytunodd hefyd sicrhau bod y Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am
ddatblygiadau o ran cwmpasu’r prosiect ynghyd â chanlyniad y cynllun
peilot. Roedd Jo Whitehead yn ystyried
hyn yn gam cadarnhaol os oedd cyllid gan LlC yn cynnwys cydnabyddiaeth y gallai
costau caffaeliad gynyddu o ganlyniad i’r gwaith hwn. Teimlai’r Bwrdd hefyd y gallent elwa o wybodaeth a hyfforddiant pellach
ynglŷn â’r cysyniad o werth cymdeithasol a soniodd Tom Barham (Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) am brofiad y Cynghorau Gwasanaethau
Gwirfoddol yng Ngogledd Cymru o ran mesur gwerth cymdeithasol a chytunodd i
ddarparu sesiwn ymwybyddiaeth yn y cyfarfod nesaf. Ar ddiwedd y ddadl ailadroddodd y Cadeirydd
bod y Bwrdd yn cefnogi’r prosiect peilot ac edrychai ymlaen at gael y wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Bwrdd - (a) yn cadarnhau yr hoffai gymryd rhan yn y rhaglen i gael mynediad at
arbenigedd a chefnogaeth i archwilio dulliau adeiladu cyfoeth cymunedol, gyda
ffocws ar gaffaeliad blaengar, (b) bod DVSC yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth am y cysyniad o werth cymdeithasol
yn y cyfarfod nesaf, a (c) bod y swyddogion sy’n gyfrifol am arwain y prosiect hwn yn darparu'r
wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Fran Lewis (CBSC) i gyflwyno’r adroddiad sy’n darparu
trosolwg i’r aelodau o’r canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer BGLl. Dolen gyswllt i’r
adroddiad: Cyflawni
ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn (senedd.cymru) 11.35 am – 11.55 am Cofnodion: Cyflwynodd Fran
Lewis yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) gan ddarparu trosolwg o’r
canfyddiadau a’r argymhellion ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus. Roedd dolen gyswllt i adroddiad Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru wedi’i darparu gyda’r agenda. Roedd yr
ymchwiliad wedi’i arwain gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ac roedd yn
canolbwyntio ar y rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a
sut y gellid ei weithredu’n llwyddiannus yn y dyfodol. Roedd rhai aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd,
wedi cymryd rhan mewn sesiynau casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Cafodd y Bwrdd drosolwg o’r pedwar ar ddeg o
argymhellion, gan gynnwys argymhellion 2, 4 a 10 a oedd â chysylltiad
uniongyrchol â Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Yn y cam nesaf byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i ganfyddiadau’r
ymchwiliad a byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno wedyn i’r Bwrdd. Roedd swyddogion wedi croesawu rhai o’r
argymhellion yn ymwneud â chyllid a gallu ariannu’r BGC yn briodol ynghyd â’r
pwyslais ar gefnogaeth Swyddfa’r Comisiynydd i weithredu Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd y Cadeirydd
wedi mynychu’r sesiynau casglu tystiolaeth fel cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol
Cymru a’r Bwrdd Diogelu Cyhoeddus. Roedd
yn falch o nodi bod yr argymhellion yn adlewyrchu’r sgyrsiau yn y sesiynau yr
oedd wedi’u mynychu, gydag adborth cyffredinol tebyg gan bob un o’r gwahanol
sefydliadau a gynrychiolwyd, yn enwedig mewn perthynas â lefelau cefnogaeth,
cyfarwyddyd gan y Comisiynydd a'r cyfyngiadau ariannol. Byddai'n ddiddorol gweld ymateb Llywodraeth
Cymru i’r adroddiad. PENDERFYNWYD - (a) bod adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru yn cael ei dderbyn
a’i nodi, a (b) bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn dilyn ymateb
Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad. |
|
BLAENORIAETH LLES IECHYD MEDDWL – ADOLYGU’R SEFYDLIAD ARWEINIOL Hannah Edwards,
Swyddog Datblygu BGC i ddarparu diweddariad ar lafar. 10.30 am – 10.45 am Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Teresa Owen (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a oedd wedi cael ei
galw i gyfarfod gweithredol brys.
Cytunwyd y dylid gohirio’r eitem tan y cyfarfod nesaf ac y dylai’r
Cadeirydd drafod y mater yn uniongyrchol gyda Teresa Owen yn y cyfamser. PENDERFYNWYD bod
yr eitem yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf. |
|
CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL PDF 474 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon (copi’n amgaeedig). 11.55 am – 12 noon Cofnodion: Cyflwynwyd copi o gynllun gwaith i'r dyfodol y BGC
a thrafodwyd y materion canlynol - ·
byddai’r
cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 16 Mehefin, yn weithdy caeedig i ddilyn ymlaen
o’r gweithdy a gynhaliwyd ym mis Ionawr, fodd bynnag ers hynny roedd Prifysgol
Glyndŵr wedi dweud na fyddent o bosibl ar gael ar y dyddiad hwnnw. Cytunodd y Cadeirydd drafod y mater gyda
Phrifysgol Glyndŵr y tu allan i’r cyfarfod er mwyn ystyried dewisiadau
posibl ·
ailddatganwyd
yr eitemau a restrwyd ar gyfer y cynllun gwaith i’r dyfodol yn y cyfarfod
ffurfiol nesaf ar 15 Medi, gan gynnwys y tair ffrwd waith sy’n cael
blaenoriaeth, ac anogodd y Cadeirydd bawb a oedd yn rhan o’r gwaith hwnnw i
barhau i gymryd rhan, er gwaethaf yr heriau eraill, er mwyn symud y
blaenoriaethau hynny ymlaen. Ailddatganwyd hefyd yr eitemau a gytunwyd
yn gynharach ar y rhaglen i’w cynnwys yn y cynllun gwaith i’r dyfodol ar gyfer
mis Medi gan gynnwys (1) y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr isadeiledd digidol o
safbwynt Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a throsolwg ehangach o
brosiectau cysylltedd lleol, (2) y wybodaeth ddiweddaraf am y grŵp
swyddogion carboneiddio rhanbarthol a gwaith mapio ychwanegol ar gyfer y
gwahanol fentrau a grwpiau sy’n ymwneud â’r agenda newid hinsawdd, a (3) DVSC i
ddarparu sesiwn ymwybyddiaeth o werth cymdeithasol ·
cafwyd
trafodaeth ynglŷn â manteision rhoi gwybod i’r Bwrdd am waith adfer
rhanbarthol sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Cydlynu Rhanbarthol, gan gynnwys
eu meysydd blaenoriaeth, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau hynny a
chysylltiadau posibl ar gyfer y BGC a ble gallent ychwanegu gwerth ar lefel
leol. Ystyriwyd y gellid cylchredeg y wybodaeth
hon i aelodau’r Bwrdd fel papur gohebiaeth neu ei chynnwys yn y sesiwn gweithdy
ym mis Mehefin – cytunodd y Cadeirydd ystyried y ffordd orau o symud y mater ymlaen
y tu allan i’r cyfarfod yn dibynnu ar argaeledd Prifysgol Glyndŵr ar gyfer
y gweithdy. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo'r cynllun gwaith i'r dyfodol. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyfraniadau. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.43 am |