Agenda and draft minutes
Lleoliad: Coed Pella, Conwy Road, Colwyn Bay LL29 7AZ
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan: Y Cyng. Hugh
Evans – Cyngor Sir Ddinbych Y Cyng. Sam
Rowlands – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Jason Devonport –
Heddlu Gogledd Cymru Teresa Owen -
Iechyd Cyhoeddus Cymru Sam Owen - Y
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 468 KB Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 23 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Tudalen 8-
Adolygu Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) - cadarnhawyd bod un
Cynghorydd Tref a Chymuned o Gonwy ac un Cynghorydd Tref a Chymuned o Sir Ddinbych
yn cael eu cynnwys yn aelodaeth y PSB. Cadarnhawyd y
byddwn yn cysylltu â Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned Conwy i gyflwyno
cynrychiolydd ac y byddwn yn cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned yn Sir
Ddinbych i ofyn am gynrychiolydd. Ar ôl
cytuno ar ddau gynrychiolydd, byddent yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd
y PSB. Cadarnhawyd y
byddai gwahoddiad yn cael ei anfon at Gartrefi Cymunedol Cymru i gyflwyno
cynrychiolydd tai i fynychu cyfarfodydd PSB. PENDERFYNWYD
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FLAENORIAETHAU’R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 221 KB Hysbysu’r Aelodau
o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar
gyfer meysydd gwaith penodol. (a) Lles Meddwl Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan
Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru) (b) Ymrymuso’r Gymuned Derbyn
y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan
Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr,
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) (copi ynghlwm) (c) Gwydnwch Amgylcheddol Derbyn
y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm) 2.15 p.m.– 3.00 P.M. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (a) Lles Meddyliol Cyflwynodd Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru) y wybodaeth ddiweddaraf
ar flaenoriaeth Lles Meddyliol.
Cadarnhaodd bod gwaith yn dechrau datblygu ar y flaenoriaeth hon, gyda
chyfarfodydd wedi’u cynnal gyda BIPBC a Thîm Gweithredu Lleol (LIT) ar gyfer Conwy
a Sir Ddinbych. Yn edrych ar ganolbwynt gwledig ynghyd ag effaith Brexit. Roedd gwaith llyfrgelloedd yn parhau gan
gysylltu gyda LIT (Tîm Gweithredu Lleol) ac ICAN. Roeddent yn sefydlu hyfforddiant iechyd
meddwl a hunanladdiad ac yn gobeithio mynd â hynny ymhellach. Byddai papur yn cael ei gynhyrchu a’i
ddosbarthu i holl aelodau’r PSB. Roedd adroddiad yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, gyda mesuriadau data ar
gael mewn oddeutu wythnos. Bydd hyn yn
darparu’r sefyllfa ddiweddaraf ar y flaenoriaeth ac yn cynnwys dewisiadau ar
gyfer symud elfen o’r gwaith ymlaen. Gofynnodd y Cadeirydd bod y papur yn cael ei ddosbarthu i’r Bwrdd ddechrau
mis Ionawr, i’w ystyried gan yr Aelodau. Cytunwyd
y byddai nodyn briffio cyn y cyfarfod yn cael ei gyflwyno gyda phecyn y rhaglen
yn y dyfodol. (b) Ymrymuso’r Gymuned Hysbysodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, y Bwrdd
bod gwaith partneriaeth yn gweithio'n dda gyda chyfleoedd ar gyfer cydweithio'n
cael eu harchwilio. Bydd yr
is-grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2020 i symud ymlaen â’r gwaith
hwn. O ran rhaglen Ymwybyddiaeth o Ddementia dan arweiniad y Gymuned, nodwyd bod
cryn dipyn o waith dan arweiniad y gymuned wedi'i weithredu. Ym mis Ionawr 2020 bydd gwaith cynllunio ar
gyfer wythnos Cyfeillgar i Ddementia yn dechrau yn barod ar gyfer Mai
2020. Awgrymwyd bod y PSB yn cymryd
dull cydweithredol i gefnogi gweithgareddau yn ystod Wythnos Dementia. Hysbysodd HW yr aelodau bod DVSC wedi bod yn dderbynnydd llwyddiannus Cronfa
Her yr Economi Sylfaenol i gefnogi ail-agor Neuadd y Farchnad Rhuthun gyda
Chyngor Sir Ddinbych. Bydd Neuadd y
Farchnad yn cael ei rhedeg fel Menter Gymdeithasol i gefnogi twf economaidd
cynhwysol yn yr ardal. Bydd cyfarfod yn
cael ei gynnal yn Rhuthun a phapurau’n cael eu rhannu gan Lywodraeth
Cymru. Nid
oedd gwaith ar ddigartrefedd wedi’i ddarparu oherwydd materion capasiti. Cadarnhawyd
cyn y gellir darparu diweddariad, roedd angen blaenoriaethu materion a chynnal
gwaith pellach. Roedd y Loteri
Genedlaethol wedi darparu cyllid blaenoriaeth ar gyfer cynlluniau digartrefedd.
(c) Gwydnwch amgylcheddol Darparodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC)
y wybodaeth ddiweddaraf ar Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi
Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Yn dilyn cymeradwyaeth yr Addewidion Cymunedol ym mis Gorffennaf 2019 gan y
Bwrdd, mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda thîm marchnata Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy i gefnogi ymgysylltiad y cynllun.
Mae cyfarfod wedi’i drefnu gyda Swyddogion Cyfathrebu o sefydliadau
partner PSB i rannu a cheisio safbwyntiau ar y gwaith hwn a thrafod sut y gall
partneriaid gynorthwyo i hyrwyddo ac annog cyfranogiad yn y cynllun. Bydd yr Addewidion Cymunedol yn cael eu lansio’n ffurfiol yn y Flwyddyn
Newydd. Yn y cyfamser mae swyddogion yn
defnyddio gweithgareddau ymgysylltu partneriaid fel lansiad ysgafn o’r cynllun
i hysbysu grwpiau o ran sut y gallant gael cyfranogiad. Roedd
Datganiad y Sefyllfa Amgylcheddol wedi’i ddiwygio i ganolbwyntio ar 2 faes
ymrwymiad, Carbon ac Ynni ac Addasu Newid Hinsawdd. Hysbysodd FL yr aelodau bod mesurau drafft wedi’u nodi, ond roedd rhai
camau gweithredu lle na nodwyd mesurau ar gyfer rhai camau gweithredu gan fod
angen gwaith pellach i nodi’r cyfeiriad.
Bydd is-grŵp yr amgylchedd yn ailymgynnull yn y Flwyddyn Newydd i
symud ymlaen â’r gwaith ac i gadarnhau’r mesuryddion perfformiad. Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer Bwrdd Rhaglen Amgylchedd
Rhanbarthol gan y Cadeirydd. Yn dilyn digwyddiad amgylcheddol rhanbarthol a gynhaliwyd ym mis Medi 2019, roedd cynigion i sefydlu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Derbyn Adolygiad
Swyddfa Archwilio Cymru o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – (copi ynghlwm) Bydd y Cadeirydd
yn arwain yr eitem hon. 3.00 p.m.– 3.20 P.M. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad Adolygiad PSB WAO - Drafft Cynllun Gweithredu (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adolygiad yn cynnwys argymhellion, yn ymwneud yn bennaf â chysylltiad gyda
chymunedau a gwella craffu. Trafodwyd y
Cynllun Gweithredu drafft. O ran
argymhelliad 3A, ystyriodd yr aelodau y dylid defnyddio'r cynllun lles i
gyflawni cynlluniau eraill. Cytunwyd gan
fod y cynllun lles wedi'i ddatblygu, yn dilyn ymgysylltiad helaeth, ac nad oes
cynlluniau i ddiwygio eu blaenoriaethau, ni fyddai'n briodol cyflawni
ymrwymiadau eraill ar hyn o bryd.
Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried hyn fel rhan o gynllun lles nesaf
y PSB. Cadarnhawyd bod y
Cynllun Gweithredu drafft yn cael ei ddiweddaru o safbwynt yr Awdurdod Lleol,
byddai’r Cynllun Gweithredu’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgorau Archwilio ynghyd
â Chydbwyllgor Craffu’r PSB. PENDERFYNWYD
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRANT RHANBARTHOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU PDF 331 KB Derbyn
diweddariad ar Grant Rhanbarthol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru
(copi ynghlwm). Judith Greenhalgh
(Prif Weithredwr, CSDd) a Nicola Kneale (CSDd) 3.20 p.m.– 3.30 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale, adroddiad gyda’r
wybodaeth ddiweddaraf am Grant Rhanbarthol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd
Cymru. Cyfanswm Grant
Cefnogaeth PSB 2019/20 ar gyfer Gogledd Cymru gan Lywodraeth Cymru oedd
£83,117.00. Roedd y cyllid yn cael ei gynnig ar ôl troed ehangach yn adlewyrchu
ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol i geisio annog mabwysiadu dull cyson a lleihau
dyblygu ymdrechion ar draws y PSBau. Trafodwyd
crynodeb y cynnig a chymeradwyaeth. Cadarnhawyd bod
pob PSB ar gam gwahanol o ran datblygiad, asesu lles lleol a chynlluniau
lles. Roedd gwaith ar y meysydd hynny'n
dameidiog a graddol ond yn parhau i ddatblygu drwy gydol y flwyddyn. Roedd llawer o weithgarwch i gefnogi’r PSBau
hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o fusnes presennol yr awdurdodau partner ac
yn cael eu derbyn yn unol â'r capasiti sydd ar gael. PENDERFYNWYD: ·
bod yr aelodau’n nodi’r cynnydd presennol
mewn perthynas â dyraniad a gwariant Grant Cefnogaeth PSB ar gyfer 2019/20. ·
Dylai prosiectau PSB Conwy a Sir Ddinbych
sydd wedi derbyn dyraniad o arian ond sydd heb wario eu dyraniad eto sicrhau
bod anfonebau’n cael eu hanfon at Sir Ddinbych i’w prosesu neu gytuno i
ddyrannu unrhyw danwariant posibl yn nyraniad y PSB i ategu at gronfa Prosiect
Ymchwil Teithio. |
|
(a) Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol I’w gadarnhau
(b) Cyflwyniad ar y wybodaeth ddiweddaraf ar y
Tîm Gweithredu Lleol (Tesni Hadwin) (c) Ystyried cynigion ar gyfer cyllid
trawsnewidiol 2020/21 (Bethan Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
(copi ynghlwm) 3.30 p.m.– 4.10 p.m. Cofnodion: (a) Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol – nid oedd modd i gynrychiolwyr fynychu. Bydd
yr eitem hon yn cael ei gohirio i gyfarfod yn y dyfodol. (b) Cyflwynodd Tesni Hadwin, Rheolwr
Gwasanaethau Pobl Ddiamddiffyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu
Lleol (LIT). Lansiwyd LIT yn 2017. Diben LIT yw darparu tîm amlddisgyblaethol, o'r
gwaelod i'r brig, yn seiliedig ar le i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles,
cytuno ar fodel gofal sy'n ofynnol yn lleol a chynhyrchu dewisiadau ar gyfer
model amlddisgyblaethol sy'n gwella canlyniadau gwella pobl. Mae LIT yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth Law
yn Llaw at Iechyd Meddwl sydd yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Ym mis Tachwedd 2019, dyfarnwyd £2,320,000 ar gyfer elfen Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl ar gyfer Gogledd Cymru o'r Cyllid Trawsnewid. Bwriad y gronfa oedd diwallu costau
ychwanegol â chyfyngiad amser o gyflwyno modelau iechyd a gofal cymdeithasol
newydd. Mae gwaith LIT yn gysylltiedig â llwybr integredig ICAN, yn symud o
ymyraethau lefel isel i gefnogaeth lefel uchel - ·
Canolfan
Gymunedol ICAN ·
Gofal
Sylfaenol ICAN ·
Gofal
heb ei drefnu ICAN, a ·
ICAN
+ cam i fyny / cam i lawr Mae ymgyrch ICAN yn ceisio - ·
Rhoi
llais i bobl gyda phrofiad bywyd ·
Symud
canolbwynt gofal i atal ac ymyrraeth gynnar ·
Grymuso
pobl i gynnal eu hiechyd meddwl a lles, ac ·
Annog
sgyrsiau agored a llawn gwybodaeth am iechyd meddwl. I gyflawni’r nodau, mae’r LIT wedi datblygu- ·
Llwybr
cefnogaeth iechyd meddwl newydd ICAN ·
Rhaglen
cyflogaeth gwaith ICAN ·
Hyfforddiant
iechyd meddwl ICan ·
Cyfleoedd
i wirfoddoli ICan Hysbyswyd yr aelodau bod sawl canolfan gymunedol ICan wedi’u sefydlu ar
draws Conwy a Sir Ddinbych, rhai ohonynt yn lansio ym mis Ionawr 2020. Mae’r
gwasanaethau a’r ddarpariaeth yn amrywio o un ganolfan i’r llall. Mae hyn yn rhan o waith LIT i ymgymryd â
newid y system gyfan ac ail-fuddsoddi adnoddau i fodel atal, er mwyn i bobl
gael cefnogaeth gan ystod o ddewisiadau yn y gymuned. Hysbyswyd yr aelodau bod cynlluniau i ymgeisio ar gyfer rhagor o
ganolfannau, yn bennaf yn y Rhyl a Llandudno.
Fodd bynnag mae angen sicrhau bod darpariaeth gyfartal ar draws y
rhanbarthau, megis mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r LIT hefyd yn dymuno datblygu model cymunedol cydweithredol. Diolchodd y Bwrdd i Tesni am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf . (c) Darparodd Bethan Jones, BIPBC, adroddiad
cryno o’r cynigion ar gyfer cyllid trawsnewid 2020/21. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant trawsnewid, ac yn hytrach na
dyrannu’r cyllid, roedd yn rhaid cyflwyno cynigion ar gyfer yr arian. Mae’r rhaglen wedi sefydlu pedwar prosiect, ·
Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol – canolbwyntio ar ddatblygu lleoliadau
iechyd a gofal cymdeithasol cyfunol (yn seiliedig ar ddaearyddiaeth y clystyrau
gofal sylfaenol) a datblygu cysylltiadau gyda'r Timau Adnoddau Cymunedol. Mae pedwar clwstwr ar draws Conwy a Sir
Ddinbych. ·
Ymyrraeth gynnar a chefnogaeth ddwys
integredig ar gyfer plant a phobl ifanc- yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel rhan
o’r weledigaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau di-dor ar sail ardal. ·
Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd
Cymru - yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gofal brys
integredig di-dor ar gyfer unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl neu sydd
angen cefnogaeth ar unwaith. Mae prosiectau tebyg yn gweithredu yng Ngwynedd ac
Ynys Môn a Sir y Fflint a Wrecsam. ·
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Datblygu
model di-dor o wasanaethau anableddau dysgu- prosiect rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddatblygu
model o wasanaethau anableddau dysgu yn
seiliedig ar yr ‘hyn sydd o bwys’ i’r unigolion ac adeiladu ar gefnogaeth i
deuluoedd, rhwydweithiau anffurfiol, a modelau tîm adnoddau cymunedol. Y gwahaniaeth gyda’r cyllid trawsnewid yw mai dim ond ar ôl gwario arian y prosiect y gellir ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (3.30 p.m.) cafwyd toriad am 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 3.50 p.m. |
|
GWELLIANT CYMRU Derbyn cyflwyniad
gan Iain Roberts (Iechyd Cyhoeddus Cymru) 4.10 p.m.– 4.30 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Rhaglenni, Gwelliant Cymru, Iain Roberts, gyflwyniad ar gyfer Cymru
iachach. Ym mis Hydref
2019, ail-lansiwyd 1000 o Fywydau a Mwy fel Gwelliant Cymru. Gwelliant Cymru
oedd Gwasanaeth Gwelliant Cymru Gyfan ar gyfer GIG Cymru. Diben Gwelliant
Cymru oedd cefnogi creu’r system iechyd a gofal cymdeithasol o'r ansawdd gorau
yn y byd. Y weledigaeth
oedd bod holl staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella’n barhaus yn yr hyn
maent yn ei wneud, a sut maent yn ei wneud gyda’i gilydd - er mwyn i bobl yng
Nghymru gael y gofal ac iechyd o’r ansawdd gorau posibl. Y nod oedd
arwain, hyfforddi a hyrwyddo gwelliant, i ymgorffori ethos o welliant fel rhan
ganolog o iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai’r ymagwedd
newydd yn golygu: ·
Aliniad
cliriach o raglenni gwaith cenedlaethol y gellir eu newid i fod yn berthnasol i
gyd-destun lleoliadau lleol ·
Ymrwymiad
i adeiladu gallu i wella ar draws yr holl lefelau staffio ·
Fframwaith
cyflawni wedi’i adnewyddu i daenu a rhannu gwelliannau’n fwy effeithiol ·
System
o fesur i gefnogi’r gallu i ddangos gwerth a chanlyniad ·
Symudiad
cymdeithasol "calonnau a meddyliau" sy'n creu egni a chymell newid ·
Rhwydwaith
o welliant cenedlaethol sy’n gryfach ar draws Cymru drwy gynhadledd flynyddol,
sioeau teithiol lleol a dosbarthiadau meistr. ·
Papurau
Gwyn a Chanllawiau i gefnogi dysgu ac arwain agweddau Diolchodd y Bwrdd
i Iain am ei gyflwyniad. Cadarnhaodd y
Bwrdd y byddent yn adlewyrchu ar y wybodaeth a gyflwynwyd ac ystyried lle bo
angen cefnogaeth gan Welliant Cymru. |
|
GWASNAETH YNNI LLYWODRAETH CYMRU Derbyn cyflwyniad
gan Rhys Horan (Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Cymru) 4.30 p.m.– 4.55 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Strategol, Rhys Horan, o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyflwyniad
ar Wasanaeth Ynni a Chyfleoedd Rhanbarthol a sut y gellir cefnogi’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddai’r
Gwasanaeth Ynni yn darparu cefnogaeth technegol, masnachol a chaffael am ddim i
ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Byddai’r
gwasanaeth yn cynorthwyo gyda chynllunio ariannol a chyllid e.e. benthyciadau
heb log a grantiau. Roedd y
prosiectau sy’n cael eu cefnogi’n cynnwys: ·
Effeithlonrwydd ynni ystâd gyfan - gosod effeithlonrwydd ynni ar draws
safleoedd amrywiol i leihau'r defnydd o ynni a chostau (er enghraifft
insiwleiddio a goleuadau Effeithlon ac uwchraddio systemau gwresogi ar gyfer
adeiladau'r awdurdod lleol) ·
Datblygu ynni adnewyddadwy – gosod ynni adnewyddadwy mewn sawl safle i
leihau costau a chynhyrchu incwm. Paneli solar wedi’u cysylltu â phrosiectau effeithlonrwydd ynni. ·
Uwchraddio goleuadau stryd – Uwchraddio goleuadau stryd i leihau’r
defnydd o ynni a chostau (er enghraifft newid i lampau deuod allyrru golau (LED), rheolyddion clyfar a lleihau
oriau goleuo) ·
Prosiectau Ynni Adnewyddadwy – Cynlluniau sector cyhoeddus neu sy’n eiddo
i'r gymuned i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac incwm o wynt, solar, ynni dŵr
a storio ynni. Sefydlwyd y
Gwasanaeth Ynni oddeutu 2 flynedd yn ôl ac yn ddibynnol ar ddarpariaeth
prosiect. Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys
nifer o bartneriaid gwahanol - Yr Ymddiriedolaeth Garbon, Ymddiriedolaeth Arbed
Ynni, Rhaglen Cronfa Cymru, a Phartneriaethau Lleol. Y weledigaeth
oedd darparu’r uchafswm posibl o ran buddion economaidd, cymdeithasol, ecolegol
a lles lleol o drawsnewid i economi twf glân erbyn 2035 a bod yn allforiwr net
o drydan carbon isel drwy gydweithrediad trawsffiniol a chydweithrediad
rhanbarthol. Diolchodd y Bwrdd
i Rhys am ei gyflwyniad a chadarnhau bod cwmpas i weithio gyda’n gilydd yn y
dyfodol ar flaenoriaeth yr amgylchedd, yn enwedig o ran datganiad sefyllfa’r
amgylchedd. Penderfynwyd bod
blaenoriaeth yr amgylchedd yn arwain i archwilio gyda Gwasanaeth Ynni LlC er
mwyn gweld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 342 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain yr eitem hon. 4.50 p.m.– 4.55 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i’w hystyried. Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 27 Ionawr 2020 a fyddai’n weithdy anffurfiol. Ar hyn o bryd nid oes thema ar gyfer y
gweithdy anffurfiol. Gofynnodd y
Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am awgrymiadau gan yr aelodau a byddant yn ystyried
a fydd y gweithdy’n cael ei gynnal . PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol. |
|
Unrhyw Fater Arall Y wybodaeth
ddiweddaraf ar Yr Economi Sylfaenol gan Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) 4.55 p.m.– 5.00 p.m. Cofnodion: Darparodd Prif Weithredwr,
DVSC, Helen Wilkinson y wybodaeth ddiweddaraf ar lansiad Llywodraeth Cymru o
ddigwyddiad Economi Sylfaenol. Pwysleisiodd bod
angen sicrhau, fel PSB, bod hyn yn cael ei gysylltu â gweithio rhanbarthol a
chaffael. Byddai ymagwedd
Llywodraeth Cymru yn cefnogi PSBau i ddefnyddio ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi
lleol. Byddai dulliau Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynorthwyo i wneud cynnydd cyflym. Roedd cyfle i’r
PSB gan fod y Bwrdd yn cynnwys aelodau’r trydydd sector ac roedd gan CSDd 2
brosiect yn barod. Cadarnhaodd
Sioned Rees bod trafodaethau wedi’u cynnal yn LlC lle y ceisiwyd data ar gyfer
Gogledd Cymru. Cadarnhawyd y
gellir darparu’r wybodaeth ar gyfer cyfarfod Mawrth 2020, ar gyfer trafodaeth
ar gyfleoedd posibl. Penderfynwyd bod
yr economi sylfaenol yn cael ei gynnwys fel testun yng nghyfarfod Mawrth 2020. |
|
ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O FYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig |
|
ADRODDIAD AR YR ECONOMI SYLFAENOL PDF 968 KB Copi ynghlwm er
gwybodaeth Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig |
|
ADOLYGIAD CLlLC A LLC O BARTNERIAETHAU STRATEGOL PDF 295 KB Copi ynghlwm er
gwybodaeth Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig |
|
Ar y pwynt hwn,
eglurodd Fran Lewis i'r Bwrdd mai dyma cyfarfod olaf Hannah Edwards, Swyddog
Datblygu PSB (CBSC) gan y byddai ar gyfnod mamolaeth o fis Ionawr 2020.
Diolchodd y Bwrdd i Hannah am ei gwaith a dymuno'n dda iddi ar ei chyfnod
mamolaeth. Byddai swyddogion CSDd yn
derbyn yr awenau dros dro yn absenoldeb Hannah. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 4.55pm. |