Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Oherwydd nifer yr ymddiheuriadau a dderbyniwyd, ni
fyddai’r cyfarfod yn gworwm. Felly,
cytunwyd gan bawb yn bresennol i barhau gyda’r cyfarfod a darparu’r
argymhellion i’r Bwrdd eu hystyried trwy e-bost a’u hadolygu a’u cymeradwyo nhw
yn y cyfarfod BGC nesaf. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 437 KB Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, i gymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Dim materion yn
codi. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR FLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 298 KB Hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y
meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol. (a) Lles Meddwl Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar
flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru) (b) Ymrymuso’r Gymuned Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar
y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr,
CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych) (c) Gwydnwch amgylcheddol Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm) gan y Cadeirydd 2.10 p.m. – 3.00 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (a) Lles Meddwl Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan
Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
Cadarnhaodd bod gweithdy wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2018. Roedd wedi
trafod lles meddwl da i bob oedran i alluogi pobl i fyw yn effeithiol ac i
osgoi problemau iechyd meddwl yn y dyfodol. Mae
datblygu mentrau a chyfleoedd i gysylltu
â blaenoriaethau eraill wedi’u nodi.
Mae’r term lles meddwl yn eithaf aneglur. Felly byddai gwaith yn parhau yn y misoedd
nesaf i ddiffinio camau gweithredu a chyflwyno'r adroddiad mewn cyfarfod BGC yn
y dyfodol. (b) Ymrymuso’r Gymuned Cafwyd diweddariad ar flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Nicola Kneale,
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd). Cynhaliwyd cyfarfod gyda Steve Grayson (BIPBC),
Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Adrannau Hamdden yr
Awdurdodau Lleol i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i fynd i’r afael â rheoli
pwysau. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda Iechyd
i sicrhau fod ymarferwyr a phartneriaid iechyd yn cynnig rhaglenni rheoli
pwysau a lle i gyfeirio pobl er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i fentrau
‘presgripsiynu cymdeithasol’. Mae wedi cael ymateb dda a bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu ar gyfer y
dyfodol. Roedd y cyfarfod wedi digwydd
yr wythnos flaenorol a bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu darparu mewn
cyfarfodydd BGC yn y dyfodol. Cawn ddiweddariad ar raglen Ymwybyddiaeth Dementia dan arweiniad y Gymuned
CSDd yn y cyfarfod nesaf. (c) Gwydnwch Amgylcheddol Cafwyd diweddariad gan Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant
Corfforaethol (CBSC) ar yr Addunedau Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi’r
Amgylchedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Ar ôl cymeradwyo’r Addunedau Gwyrdd yng nghyfarfod Gorffennaf, mae’r
brandio wedi'i wella yn ôl y gofyn.
Cadarnhawyd bod yr adran farchnata yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
wedi cael ei gomisiynu o’r grant BGC rhanbarthol i lansio a hyrwyddo
addunedau. Bydd lansio’r cynllun peilot
yn digwydd ar ôl gorffen y pecyn gwaith ac yn cael ei gyfathrebu i'r timau
marchnata gan sefydliadau BGC eraill. Mae
Datganiad Polisi'r Amgylchedd (Atodiad C) wedi cael ei adolygu yn unol â’r
drafodaeth yng nghyfarfod mis Gorffennaf. Mae bellach yn canolbwyntio ar ddau
ardal ymrwymiad (ymrwymiad 1 – carbon a ynni ac ymrwymiad 2 – addasu i newid
hinsawdd) gyda'r 7 ‘ymrwymiadau’ eraill blaenorol yn dod yn ganlyniadau yr
ymrwymiad perthnasol. Trwy ganolbwyntio
ar yr ymrwymiadau penodedig bydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni yr
ardaloedd allbwn eraill. Cadarnhawyd bod
angen nodi mesurau allweddol. Cafodd
cais ei wneud i bartneriaid enwebu swyddogion arweiniol i gefnogi'r gwaith o
fewn eu sefydliadau. Trafododd y Bwrdd yr amserlenni ynghlwm â chyflawni'r camau gweithredu a
gynigir. Pwysleisiwyd fod sefydliadau
partner ar wahanol gyfnodau o gyrhaeddiad ar y dechrau ac yn gwerthfawrogi'r
amser a gymerwyd i gyrraedd y gwahanol gamau yn amrywio rhwng partneriaid. Felly nid oes amserlenni penodol i
sefydliadau gyflawni'r gwaith ar wahân i'r amserlenni cenedlaethol. Eglurwyd fod dyddiadau statudol wedi’u
cynnwys yn y ddogfen, ond roedd y datganiad fwy am gefnogaeth ar y cyd a rhannu
arferion da. Cafwyd
trafodaeth ynglŷn â ddylai lleihau carbon erbyn 2030 fod yn darged neu
ddyhead. Cytunwyd newid y geiriad i “uchelgais" i
leihau allyriadau carbon erbyn 2030. Cadarnhawyd mewn gweithdy a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, bod llawer o
drafod wedi bod ynglŷn â newid hinsawdd, materion arfordirol a gweithredu
gan y gymuned. Cadarnhaodd Dirprwy
Arweinydd CBSC, y Cynghorydd Goronwy Edwards bod gwarchod yr arfordir angen bod
yn un o'r prif flaenoriaethau gan ei fod yn bryder sylweddol i'r bobl y mae'n
nhw'n eu cynrychioli. I dawelu meddwl y
Cynghorydd Edwards dywedwyd bod llifogydd arfordirol wedi’i gynnwys yn
Natganiad Polisi’r Amgylchedd. Roedd yr holl aelodau yn gytûn i’r Bwrdd ddatblygu dull rhanbarthol. ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADOLYGU AELODAETH Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 230 KB Adolygiad
ffurfiol o aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl datblygu’r meysydd
blaenoriaeth (copi ynghlwm). Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon. 3.00 p.m. – 3.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad o Aelodaeth BGC (wedi’i ddosbarthu’n barod). Gofynnodd y Bwrdd
i aelodaeth gael ei adolygu’n ffurfiol ar ôl datblygu’r meysydd blaenoriaeth. Dechreuwyd y
drafodaeth i ystyried y cynrychiolaethau canlynol: (i)
Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri (ii)
Cynrychiolwyr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (iii)
Cynrychiolydd
Cynghorau Tref a Chymuned, a (iv)
Cynrychiolydd
Tai ac Adfywio. Mynegwyd pryder
gan aelodau y gallai aelodaeth gynyddu’n ormodol ac felly ni fyddai gan y Bwrdd
fodel darparu effeithiol. Awgrymwyd y dylai
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a
Chynrychiolydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Sir Ddinbych gael eu
cynrychioli ar lefel is-grŵp. Argymhelliad pellach oedd bod Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yn cael eu gwahodd i eistedd ar unrhyw grŵp rhanbarthol
sydd yn cael ei sefydlu yn dilyn datblygu cynigion gweithdy'r amgylchedd. Awgrymodd Aelodau
fod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd ond yn cydnabod
y trafferthion posib o benodi un cynrychiolydd i gynrychioli'r holl Gynghorau
Tref a Chymuned. Roedd Aelodau yn
argymell y dylid edrych i fewn i hyn ymhellach.
Awgrymodd Aelodau y dylai fod yna gynrychiolydd Adfywio Tai ar y
Bwrdd. Awgrymwyd gofyn i Gartrefi Cymunedol
Cymru am enwebiad a fyddai’n cynrychioli Conwy a Sir Ddinbych. Awgrymwyd
ychwanegu Cadwch Cymru’n Daclus a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y rhestr
rhanddeiliaid hefyd. Yn dilyn
trafodaeth, awgrymwyd croes gyfeirio’r rhestr o aelodau posib ar gyfer y
grŵp rhanbarthol posib yn erbyn yr is-grŵp amgylchedd a
chynrychiolwyr gweithdy. PENDERFYNWYD
|
|
CYDBWYLLGOR ARCHWILIO BGC: RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 231 KB Rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar raglen gwaith i’r
dyfodol pwyllgor archwilio’r BGC (copi ynghlwm). Bydd y Cadeirydd yn
arwain ar yr eitem hon. 3.15 p.m. – 3.25 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cadeirydd bod cyfarfod Pwyllgor Craffu BGC ar y Cyd i gael ei gynnal ar ddydd
Gwener, 27 Medi 2019 yn cael ei ganslo. Cadarnhawyd bod
cyfarfodydd Pwyllgor Craffu BGC ar y Cyd yn cymryd lle’r cyfarfodydd BGC. Mae’r dyddiadau wedi eu gosod gan y Pwyllgor
Craffu BGC ar y Cyd ac nid y Pwyllgor BGC. PENDERFYNWYD –
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Llafar / Cyflwyniad: (a)
Y
wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
(b) Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm
Gweithredu Lleol (c) Ystyried cynigion ar gyfer cyllid
trawsnewidiol 2020/21 3.25 p.m. – 4.15 p.m. Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem tan cyfarfod BGC ar 9 Rhagfyr 2019. |
|
Ystyried risgiau, a thrafod a chytuno ar
weithredoedd i liniaru'r risgiau hynny (copi ynghlwm). 4.15 p.m. – 4.30
p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae’r Rheolwr Tîm
Cynllunio Strategol (CSDd), Nicola Kneale wedi cyflwyno adroddiad Cofrestr Risg
(wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i ystyried y risgiau ac i drafod a chytuno ar
gamau gweithredu i leihau’r risgiau hynny. PSB1 – y risg bod diffyg cyllid, adnoddau a chymhwysedd gan y BGC i gyflawni
blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynllun Lles. Cadarnhawyd y
byddai grant BGC Rhanbarthol o £80k.
Byddai’r risg yn cael ei israddio i D3 ond byddai’n cael ei fonitro. PSB2 – y risg bod y sefydliadau partner ddim yn bwyllgor i’r Bwrdd. Cadarnhaodd y
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol y byddai’r risg yn cael ei israddio i C3 gan
fod sefydliadau yn ymrwymo'n dda gyda BGC Conwy a Sir Ddinbych. Byddai’r sefyllfa yn cael ei fonitro, ac os
byddai unrhyw broblemau yn codi byddai'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd. PSB3 – y risg bod y BGC yn methu a gwneud y mwyaf o'r effaith posib y gellir ei
gyflawni drwy ddull o gydweithio. Cadarnhaodd y
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol eu bod yn disgwyl am adroddiad
gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y BGC. PSB4 – y risg bod tirwedd partneriaeth cymhleth yn rhanbarthol ac yn
is-ranbarthol yn cael effaith ar ddarparu’r Cynllun Lles. Roedd y sgôr yn
briodol ar hyn o bryd ond byddai angen cymryd camau gweithredu i leihau’r risg. PSB5 – y risg bod y cyllid sydd ar gael trwy’r UE ddim ar gael wedi Brexit gan
effeithio ar y byd academaidd, diwydiannau amaethyddol a rhaglenni amddifadedd. Yn dilyn
trafodaeth cytunwyd bod risg PSB5 yn risg i Awdurdodau Lleol ond ddim ar gyfer
y BGC ac felly dylid ei dynnu o'r Gofrestr Risg. PENDERFYNWYD bod
Cofrestr Risg BGC yn cael ei ddiweddaru a’i ddosbarthu i’r holl aelodau BGC i’w
gymeradwyo a’i arwyddo. |
|
GWASANAETH DEHONGLI IAITH ARWYDDION PRYDAIN - CYNLLUN PEILOT CONWY Derbyn cyflwyniad gan Fran Lewis (CBSC) mewn
perthynas â’r Gwasanaeth Dehongli Iaith Arwyddion Prydain – Cynllun Peilot
Conwy. 4.30 p.m. – 4.45 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) gyflwyniad ar y Gwasanaeth
Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (Cynllun Peilot Conwy). Dyma gynllun
peilot 12 mis fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019. Roedd y cynllun mewn
cytundeb â Sign Solutions. Mae’r gwasanaeth
ar gael 24/7/365 ac am ddim i’r cwsmer.
Mae’n darparu cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ar fideo i holl
dderbynfeydd y cynghorau. Mae preswylwyr
yn gallu cofrestru gyda Sign Solutions ar eu ffonau clyfar, tabledi a
gliniaduron gan leihau’r angen i fynychu swyddfeydd y cyngor mewn person. Mae tri grŵp
penodol o bobl gyda nam ar y synhwyrau: ·
Pobl
ddall ac yn rhannol ddall ·
Pobl
fyddar ·
Pobl
byddar a dall (yn bwysig i nodi fod rhai unigolion sydd yn fyddar ac yn ddall
yn gweld ac/neu’n clywed ychydig. Nid yw’n canolbwyntio ar faint mae unigolyn
yn gallu ei weld a’i glywed ond yn hytrach ar yr effaith y mae dau nam ar y
synhwyrau yn ei gael arnyn nhw.) Mae uwchsgilio staff trwy’r cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth Byddardod wedi cael
ei groesawu a hyd yma mae 200 o staff wedi cymryd rhan. Mae rhagor
o wybodaeth am y cynllun peilot ar gael ar wefan y Cyngor https://www.conwy.gov.uk/en/Council/Contact-Us/Sign.aspx Cafwyd ymateb
cadarnhaol gan yr holl aelodau Bwrdd yn bresennol i’r cyflwyniad a’r
gwasanaeth. PENDERFYNWYD bod
y BGC yn nodi’r cyflwyniad ar y Gwasanaeth Dehongli Iaith Arwyddion Prydain –
Cynllun Peilot Conwy. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 361 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon. Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i’w hystyried. Cadarnhaodd
aelodau y rhaglen a’r adroddiadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar 9 Rhagfyr 2019 fel a ganlyn: Eitemau i’w
penderfynu: i.
Y
wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - a.
Lles
Meddwl b.
Ymrymuso’r
Gymuned c.
Gwydnwch
amgylcheddol Eitemau i’w
trafod: ii.
Iechyd
a Lles – Gohiriwyd yng nghyfarfod 23 Medi 2019. a.
Y wybodaeth
ddiweddaraf ar y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. b.
Y
wybodaeth ddiweddaraf ar y Tîm Gweithredu Lleol c.
Ystyried
cynigion ar gyfer cyllid gweddnewidiol 2020/21 (Bethan Jones, BIPBC) iii.
Gwasanaeth
Ynni Cymru iv.
Economi
Sylfaenol a BGC (Helen Wilkinson) v.
Diweddariad
ar grantiau a dysgu o wariant. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
Rhaglen Waith. |
|
DIGWYDDIAD ECONOMI SYLFAENOL PDF 313 KB Cyflwyniad a chofnodion digwyddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
DIGWYDDIAD BPRH A BGC PDF 298 KB Llythyr
Gweinidogol ac adroddiad am y digwyddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth yn
unig. |
|
Unrhyw Fater Arall Cynhadledd Gwella
1000 o Fywydau Cymru 2019 Ailfeddwl Sut y Gallwn Wella Cadarnhaodd y
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) bod 1000 o fywydau yn
cynnig cymorth i helpu BGC gyda lles iechyd meddwl. MMae’n nhw’n canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd acíwt. Dywedodd y
Swyddog Datblygu BGC (CBSC) bod gwybodaeth ar gael ac y byddai’n ei ddosbarthu
i’r holl Aelodau Bwrdd. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 3.45 p.m. |