Agenda and draft minutes
Lleoliad: Glasdir, Llanrwst
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh Evans - Cyngor Sir Ddinbych Y Cynghorydd Sam Rowlands– Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Gary Doherty - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Jason Devonport – Heddlu Gogledd Cymru Teresa Owen – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(Cynrychiolydd Iechyd Cyhoeddus Cymru) Wendy Jones – Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 386 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 25 Mawrth 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 i’w cymeradwyo. Byddai PSB sy’n canolbwyntio fwy ar gamau gweithredu yn cael ei drafod yn y
cyfarfod nesaf ym mis Medi. Bethan Jones (BIPBC) – Holodd a fyddai’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn gweithio’n agos gydag iechyd i sicrhau bod tai yn
diwallu anghenion iechyd pobl. Roedd CSDd a CBSC yn
y camau ymgynghori a byddent yn
gweithio’n agos gyda BIPBC. Nododd Sian Williams y dylid cynnwys mynediad at ofodau gwyrdd yn y CDLl hefyd. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019
fel cofnod cywir. |
|
MATERION YN CODI 9:30am – 9:35am Cofnodion: Hysbysodd ID y Bwrdd
bod cyfarfod agoriadol cyd-bwyllgor craffu'r BGC wedi'i gynnal ym
mis Mai 2019. Etholwyd y Cyng. Brian Cossey o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel cadeirydd a'r Cyng.
Graham Timms o Sir Ddinbych fel
is-gadeirydd. Bu’r Pwyllgor
yn craffu adroddiad blynyddol y BGC. Mae’r cyd-bwyllgor yn datblygu eu cynllun
gwaith i’r dyfodol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis
Medi a bydd yn canolbwyntio ar flaenoriaeth yr amgylchedd. Cytunwyd hefyd y byddai trefniadau craffu’r BGC yn cael eu trafod gyda BGCau eraill ar draws Cymru, gan mai Conwy a Sir Ddinbych yw'r rhai cyntaf i lunio cyd-bwyllgor. Y cysylltiadau ar gyfer y cyd-bwyllgor craffu yw Dawn Hughes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Rhian Evans yng Nghyngor Sir Ddinbych. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 676 KB Hysbysu'r aelodau o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol. a. Pobl – Lles meddyliol I dderbyn diweddariad ar lafar ar y flaenoriaeth lles meddwl. Teresa Owen (Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus) b. Cymuned – Grym cymunedol i. To receive an update on the Community Empowerment priority and to seek approval for the approach and resourcing of the weight management project. Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSD) ii. I dderbyn diweddariad ar lafar am y rhaglen dan arweiniad y gymuned sy'n ymwybodol o ddementia. Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, CGGSD) c. Lle – Gwydnwch amgylcheddol I dderbyn diweddariad ar flaenoriaeth Cydnerthedd yr Amgylchedd a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Sefyllfa Addewidion Gwyrdd y Gymuned a'r Amgylchedd. Iwan Davies (Prif Weithredwr, CBSC) Cwestiynau i'r Bwrdd eu hystyried
– ·
A ddylid cymryd ymagwedd ranbarthol at y blaenoriaethau? (e.e. amgylchedd) ·
Ymrwymo
staff / adnoddau ariannol / penodi arweinwyr ·
Pwy
all gyfrannu tuag at y blaenoriaethau (cynrychiolwyr ar bob gweithgor) ·
Sut mae gwaith
y Bwrdd wedi'i sefydlu yn eich
sefydliad? 9:35am – 10:35am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: a.
Pobl – Lles Meddyliol Eglurwyd nad oedd
unrhyw brif wybodaeth i'w gyflwyno ers y diweddariad diwethaf. Nodwyd nod BGCau eraill ar draws Cymru yn mynd i’r afael ag iechyd
meddwl yn wahanol. Awgrymwyd y gallai’r BGC gysylltu â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Tîm Gweithredu
Lleol. Byddai’n fuddiol trafod pa elfennau o waith oedd yn cael eu cyflawni gan
y ddau sefydliad. Roedd tirlun y gwaith sy’n cael ei gyflawni o ran iechyd
meddwl wedi'i rannu'n glystyrau a byddai eglurder ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei gyflawni'n fuddiol. Cytunwyd mai Lles
Meddyliol fyddai canolbwynt cyfarfod nesaf y BGC. b.
Cymuned – Grym Cymunedol Cyflwynodd Judith
Greenhalgh -
Prif Weithredwr (JG) y wybodaeth
ddiweddaraf ar agwedd Gymunedol o flaenoriaeth y BGC. Mae’n debyg y
byddai gweithrediad y prosiect Rheoli Pwysau wedi’i leoli yn y Rhyl yn Sir Ddinbych, byddai gwaith agos gyda BIPBC ar y prosiect.
Byddwn yn ceisio enwebiadau ar gyfer sefydliadau i weithio ar y prosiect a’u
dychwelyd i’r BGC. Canmolwyd
gweithdy ymwybyddiaeth o ddementia, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth
o Ddementia, fel digwyddiad a arweiniwyd gan y gymuned, gyda budd-ddeiliaid yn
bresennol. Roedd adroddiad o effaith yn cael ei gynhyrchu a fyddai’n cael ei
gyflwyno yn yr hydref; wedi derbyn yr adroddiad byddai digwyddiad ar y cyd
rhwng CSDd a CBSC yn cael ei drefnu i ymgysylltu ag
ardal fwy. Tynnwyd sylw at
ymwybyddiaeth o ddementia gan y bwrdd a holwyd a fu gohebiaeth gyda Chymdeithas
Alzheimer. Nodwyd na fu gohebiaeth, ond byddai trafodaethau’n
cael eu cynnal yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y Gymraeg o fewn sefydliadau sy’n
gyfeillgar i Ddementia ac a oedd digon o
waith yn cael ei gyflawni gyda staff sy'n siarad Cymraeg. Mewn ymateb, nodwyd
bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o ddifrif, nodwyd
bod swyddi gwag presennol o fewn DVSC wedi’u nodi gyda'r Gymraeg yn hanfodol.
Cytunwyd y gellir hysbysebu swyddi gwag drwy
safleoedd CSDd hefyd. PENDERFYNWYD – bod
adroddiad cynnydd ar brosiectau dementia’n cael eu dychwelyd i’r BGC yn yr
hydref, gan gynnwys ystyriaethau ar gyfer ehangu’r gwaith a chynnwys
partneriaid. c.
Lle – Gwydnwch amgylcheddol Cyflwynodd Iwan Davies Prif Weithredwr (ID) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Addewidion Gwyrdd
Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Diben yr
adroddiad oedd bod aelodau yn nodi'r cynnydd gyda’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol
a Datganiadau Polisi Amgylcheddol. Mewn perthynas â’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol, cytunodd y Bwrdd y byddent
yn cymeradwyo'r gwaith. Cynigodd y
Cadeirydd bod unrhyw ddiwygiadau terfynol yn cael eu dosbarthu i'r swyddogion
prosiect erbyn diwedd Gorffennaf. Hysbyswyd y Bwrdd
bod cynllun cyfathrebu’n cael ei ddatblygu i lansio’r cynllun. Mae cyllid yn cael ei geisio
o grant rhanbarthol BGC i gefnogi’r gwaith hwn. Mewn perthynas â’r Datganiad Polisi Amgylcheddol, eglurwyd y byddai’n
fuddiol pe bai’r bwrdd yn cytuno canolbwyntio ar nifer penodol o ymrwymiadau o
fewn y datganiadau polisi amgylcheddol fel blaenoriaethau cychwynnol. Yr ymrwymiadau a
awgrymwyd i ganolbwyntio arnynt oedd y ddau gyntaf, sef: ·
Lleihau
ein defnydd o garbon ac ynni, felly erbyn 2030 byddem yn sector cyhoeddus
carbon niwtral. ·
Lleihau
faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu o’n gweithgareddau, felly erbyn 2050
byddai dim gwastraff yn cael ei anfon i’w dirlenwi. Cynghorwyd y
byddai dull partneriaeth tuag at yr ymrwymiadau yn fuddiol; gyda’r polisi amgylcheddol
yn benodol, gan fod gan yr holl sefydliadau o fewn y BGC eu dulliau eu hunain o
ddelio ag ymrwymiad carbon niwtral. Hysbyswyd y bwrdd bod gweithdy i drafod
newid hinsawdd wedi'i drefnu ar gyfer 18 Medi. Hysbyswyd y bwrdd bod CSDd a CBSC wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn ceisio sicrhau bod y ddwy sir ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2018/19 - CYMERADWYAETH DERFYNOL PDF 423 KB I dderbyn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018/19 i'w gymeradwyo'n derfynol. Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. 10:35am – 10:40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Fran
Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad
blynyddol drafft (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Eglurwyd y ceisir
cymeradwyaeth derfynol o’r Adroddiad Blynyddol, a gofynnwyd a oedd unrhyw
sylwadau. Nid oedd unrhyw
sylwadau gan aelodau’r bwrdd. PENDERFYNWYD bod
adroddiad blynyddol y BGC 2018/19 yn cael ei gymeradwyo. |
|
TROSOLWG CYFOETH NATURIOL CYMRU I dderbyn adroddiad ar lafar gan Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) ar drosolwg o Gyfoeth Naturiol Cymru. 10.40am – 11:00am Cofnodion: Cyflwynodd Sian
Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei
gyflawni gan NRW. Hysbyswyd y bwrdd
y bu ad-drefnu yn ddiweddar o fewn NRW, roedd Gogledd Cymru wedi’i rannu’n ddau
ranbarth Gorllewin a Dwyrain. Roedd rhanbarthau’r Gorllewin yn cynnwys Ynys
Môn, Gwynedd a Chonwy, a rhanbarth y Dwyrain yn
cynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Byddai gan y ddau
ranbarth eu blaenoriaethau a’u datganiadau Amgylcheddol, ac roedd bron pob
swydd yn yr aildrefniad wedi’i llenwi. PENDERFYNWYD -bod
y pwyllgor yn nodi’r trosolwg gan Gyfoeth Naturiol Cymru. |
|
TROSOLWG PROSIECT UWCH CONWY I dderbyn cyflwyniad gan Euros Jones (Cyfoeth Naturiol Cymru) ar brosiect Uwch
Conwy cyn yr ymweliad safle. 11:00am – 11:15am Diwedd Y Cyfarfod Ffurfiol Cofnodion: Cyflwynodd Sian Williams,
Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) drosolwg o'r ymweliad safle i Benmachno.
Nodwyd nad oedd
yr ymweliad safle i Benmachno yn brosiect sy'n
gysylltiedig â'r BGC yn uniongyrchol. Ond nodwyd y
gwaith partneriaeth da a gyflawnwyd ar y safle. Byddai’r ymweliad safle hefyd
yn tynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei gyflawni o ran atal llifogydd yn yr
ardal. Daeth y cyfarfod ffurfiol i
ben am 10:49. |
|
YMWELIAD SAFLE I GWM PENMACHNO Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon yn anffurfiol. |
|
ADOLYGIAD O YMWELIAD SAFLE I adolygu'r ymweliad safle a thrafod sut mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi'r prosiect. 1.15pm – 1.45pm Cofnodion: Trafodwyd yr
eitem hon yn anffurfiol. |
|
ADOLYGU'R CYNLLUN GWAITH I'R DYFODOL PDF 355 KB Bydd y Cadeirydd yn arwain ar yr eitem hon. 1.45pm – 1.55pm Cofnodion: Trafodwyd yr
eitem hon yn anffurfiol. |
|
UNRHYW FATER ARALL - ADOLYGIAD O BARTNERIAETHAU STRATEGOL Cofnodion: Trafodwyd yr
eitem hon yn anffurfiol. |
|
ER GWYBODAETH - EITEMAU SYDD WEDI'U RHANNU'N ELECTRONIG A) Astudiaethau llywodraeth leol Swyddfa Archwilio Cymru – Adolygiad o’r Bwrdd ac effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth (Wedi'i gylchredeg ar 08/05/19) B)
Astudiaethau llywodraeth leol Swyddfa Archwilio Cymru - Cais am Dystiolaeth (Wedi'i gylchredeg ar 22.05.2019) 1.55pm – 2:00pm Cofnodion: Trafodwyd yr
eitem hon yn anffurfiol. |