Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 472 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 12 Rhagfyr 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a
gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 i’w cymeradwyo. Dywedodd Helen
Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) fod Debbie Neale wedi mynychu
cyfarfod y Bwrdd ar ei rhan. Eglurodd mai Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych oedd yn arwain yr hyfforddiant ar Ddementia o fewn Sir Ddinbych ac nid
Conwy. Cadarnhaodd y byddai’n trafod y mân wallau gyda Swyddog Datblygu’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl y cyfarfod. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy
a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn Codi ·
Cydbwyllgor
Craffu (diweddariad ar lafar gan Hannah Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy) 1.30 p.m. – 1.40 p.m. Cofnodion: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drefniadau Cydgraffu y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: Cadarnhawyd bod
Cyd Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi’i
sefydlu. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ym mis Chwefror 2019. Byddai aelodaeth
y Pwyllgor Craffu yn cynnwys 8 aelod etholedig o Gonwy ac 8 o Sir Ddinbych.
Roedd y cyfarfod cyntaf am gael ei gynnal ar 21 Mai 2019 ac roedd Cynghorwyr
wedi gofyn i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fynychu’r cyfarfod. |
|
ENWEBIADAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Derbyn enwebiadau i benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd i ddechrau’r rôl o fis Mehefin 2019 ymlaen. 1.40 p.m. – 1.50 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd. Dywedodd nad oedd
y Cadeirydd presennol nag ef fel Is-Gadeirydd yn bwriadu parhau yn eu rolau.
Felly, gofynnodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd. Enwebwyd ac
eiliwyd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rôl y Cadeirydd. Derbyniodd Sian y rôl ond awgrymodd y dylid
penodi cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru arall i’r Bwrdd yn ystod ei chyfnod
fel Cadeirydd. Enwebwyd ac
eiliwyd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, ar gyfer rôl yr
Is-Gadeirydd. Mewn perthynas â
mynychu cyfarfod cyntaf y cyd bwyllgor craffu, cytunodd yr aelodau y byddai o
fudd i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd newydd fynychu’r cyfarfod, gyda chefnogaeth
y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd presennol (os yw amserlenni yn caniatáu hynny). PENDERFYNWYD: (i)
Mai
Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru fydd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus o fis Mehefin 2019 ymlaen. (ii)
Mai
Judith Greenhalgh o Gyngor Sir Ddinbych fydd Is-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus o fis Mehefin 2019 ymlaen. |
|
Ar y pwynt hwn, newidiwyd trefn yr Eitemau ar y
Rhaglen. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2018/2019 BGC CONWY A SIR DDINBYCH PDF 508 KB Derbyn a
chymeradwyo’r adroddiad blynyddol drafft i’w ystyried yn y cydbwyllgor craffu
BGC agoriadol ym mis Mai 2019. Bydd yr eitem hon hefyd yn cynnwys diweddariad
ar y blaenoriaethau, adolygiad o aelodaeth BGC a thrafodaeth o flaenoriaethau’r
dyfodol. Fran Lewis a
Hannah Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) 2.40 p.m. – 3.10 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd Fran
Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad
blynyddol drafft (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Lluniwyd yr adroddiad
i roi trosolwg bras o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi cynllun lles y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018. Roedd rhaid sicrhau bod y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu adlewyrchu ar y
meysydd yr oedd yn gwneud gwahaniaeth ynddynt yn unol â’r pum ffordd o weithio,
ynghyd ag amlinellu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Eglurwyd y byddai’r adroddiad blynyddol drafft yn cael ei gyflwyno i’r
Cydbwyllgor Craffu ym mis Mai cyn cael ei ail gyflwyno ger bron y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mehefin er mwyn cael ei gymeradwyo’n derfynol. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Ystyriwyd
aelodaeth y Bwrdd fel rhan o’r gwaith wrth symud ymlaen. Awgrymwyd y dylid gwahodd
cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Eryri i ymuno â’r Bwrdd, yn ogystal â
chynrychiolwyr o’r Adran Tai ac Adfywio. Nodwyd, pe bai cynrychiolydd o'r Parc
Cenedlaethol yn cael ei wahodd, byddai’n rhaid cynnwys cynrychiolydd o AHNE.
Hysbyswyd y Bwrdd bod Cynghorau Tref a Chymuned hefyd wedi gofyn i gael
cynrychiolydd ar y Bwrdd. Mynegwyd pryder y gallai aelodaeth gynyddu’n ormodol
ac felly ni fyddai gan y Bwrdd fodel darparu effeithiol. Cytunodd yr aelodau i adolygu aelodaeth yn
ffurfiol yn ystod y cyfarfod nesaf. ·
Newid
y rolau arweiniol ar gyfer y meysydd blaenoriaeth – roedd rhai aelodau o’r farn
y byddai’n amser delfrydol i aelodau’r Bwrdd, sy’n arbenigwyr o fewn eu
meysydd, gyflawni’r blaenoriaethau priodol.
Cytunwyd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar flaenoriaeth yr
amgylchedd a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru / Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn arwain ar y flaenoriaeth lles meddyliol. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i arwain y
flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned gyda chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy. ·
Nodwyd
nad oedd y ffaith ein bod yn Fwrdd agored ar gyfer y cyhoedd wedi’i chyfleu yn
ddigon amlwg yn yr adroddiad. ·
Awgrymwyd
y dylid cynnwys y cyfeiriad ar gyfer y 12 mis nesaf o fewn yr adroddiad. ·
Gofynnodd
Helen Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) i gael golygu’r
elfen ddementia yn y flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned.
·
Tynnu’r
cyfeiriad at flaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. ·
Er
mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwahaniaeth yr oedd y Bwrdd yn ei
wneud, awgrymwyd y dylid cynnwys diagram i ddangos i ble yr oedd y llwybr yn
arwain ac yr hyn yr oeddem eisiau ei gyflawni (os yn bosib yn y cylch hwn o
adroddiadau). Ar y pwynt hwn,
dywedodd Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wrth yr aelodau eu bod yn dilyn
dull rhanbarthol o ran Newid Hinsawdd. Bydd y dull hwn yn ddefnyddiol i ddysgu
oddi wrth ein gilydd ac i sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Trwy’r
dull hwn bydd hefyd cyfle i gymharu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill. Cadarnhaodd y byddai’n cyflwyno’r cynlluniau,
y syniadau a’r wybodaeth ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar newid hinsawdd ar
hyn o bryd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai’r newidiadau a geisiwyd yn cael eu gwneud i’r adroddiad
blynyddol drafft a byddai’r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i
Aelodau’r Bwrdd er mwyn iddynt roi eu sylwadau.
Oherwydd terfynau amser, byddai dyddiad cau yn cael ei osod ar gyfer
unrhyw ddiwygiad gan y Bwrdd, cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgorau Craffu. PENDERFYNWYD ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN TAIR BLYNEDD 2019/2022 BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR PDF 2 MB Derbyn ac ymateb
i’r cynllun drafft tair blynedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. Gary Doherty (Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr) 1.50 p.m. – 2.10 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd Gary
Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer y cynllun tair blynedd 2019/2022, a oedd
yn ddogfen gwaith ar y gweill. Eglurodd yr
adroddiad sut yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio a beth
oedd y blaenoriaethau allweddol. Y tri maes blaenoriaeth oedd: ·
Gwell
iechyd a lleihad mewn anghydraddoldebau iechyd ·
Darparu
gofal yn nes at y cartref, a ·
Gofal
ardderchog yn yr ysbyty Dywedodd y Prif
Weithredwr fod angen gwella rhai meysydd allweddol. Er enghraifft, byddai ar y
system TG angen fersiwn safonol ar draws y tri safle aciwt. Roedd angen gwneud
gwaith ychwanegol i’r adran ar gyfer cleifion allanol er mwyn sicrhau ei bod yn
gweithredu’n effeithiol. Roedd
canolbwyntio ar y 1000 diwrnod cyntaf yn lwybr i fodel gofalu newydd. Newidiadau i iechyd meddwl ac i sicrhau lles
cymunedol yn hytrach nag aros nes bod argyfwng. Eglurodd fod y
Bwrdd Arweinwyr Rhanbarthol wedi bod yn edrych ar iechyd cyhoeddus ynghyd ag
addysg i wneud gwahaniaeth. Byddai ôl troed
carbon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn cael ei gynnwys o fewn y
cynllun tair blynedd drwy ffyrdd amrywiol. Roedd y cynllun tair blynedd am gael
ei gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd o fewn yr wythnos ac yna byddai’r adborth o
gyfarfod y Bwrdd hwnnw yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn y dyfodol. Gofynnwyd i gysylltu’r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynllun tair blynedd â thair blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Prif
Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i hyn. PENDERFYNWYD nodi cynllun Tair Blynedd 2019/2022 Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod
diweddariad yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn y dyfodol. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL CONWY A SIR DDINBYCH Derbyn adroddiad
ar lafar gan James Harland (CBSC) ac Angela Loftus (CSDd) ar y Cynlluniau
Datblygu Lleol ac ymateb i’r ymgynghoriad. 2.10 p.m. – 2.40 p.m. Cofnodion: Rhoddodd James
Harland, Rheolwr Polisi Cynllunio Strategol (CBSC) ac Angela Loftus, Rheolwr
Tai a Chynllunio Strategol (CSDd), gyflwyniad llafar ar eu Cynlluniau Datblygu
Lleol ac ymateb i’r ymgynghoriadau. Eglurodd James
Harland (CBSC) ei bod yn broses 3 blynedd a hanner o hyd. Roedd protocol ar y
cyd rhwng CBSC a CSDd. Cynhaliwyd proses ymgysylltu dros 6 wythnos ac roedd y
tair elfen allweddol a ystyriwyd fel a ganlyn: (i)
Cynnig
Twf (ii)
Gofyniad
Tai Fforddiadwy (iii)
Capasiti. Roedd isadeiledd
yn allweddol. Roedd trafodaethau yn cael
eu cynnal gyda darparwyr gwasanaeth ac roedd cyfarfodydd hefyd yn cael eu
cynnal gydag addysg ac iechyd. Mae bwriad i fynd
â hyn drwy ddemocratiaeth Conwy ym mis Mehefin / Gorffennaf. Cadarnhaodd
Angela Loftus (CSDd) bod proses ymgysylltu â CBSC wedi’i chynnal. Roedd yr amserlen ar gyfer CSDd yn debyg iawn
i CBSC. Cafwyd problemau tebyg. Edrych ar aneddiadau o fewn y sir a pha
wasanaethau oedd yn weithredol. Canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol ac
ymgymryd ag asesiadau o effaith ar les. Hefyd, ymgymryd ag asesiadau o effaith
ar iechyd a fydd yn rhan o’r ymgynghoriad. Roedd angen mawr am dai fforddiadwy
ond nid oedd yn debygol y byddai’r angen yn cael ei ddiwallu. Roedd yn bwysig
cynyddu datblygiadau tai fforddiadwy. Un her fawr oedd
sut i gadw pobl ifanc o fewn y rhanbarth. Gofynnwyd i gadw tai fforddiadwy ar y
rhaglen. Cadarnhawyd o safbwynt
hyfywedd, roedd CBSC a CSDd yn cydweithio i gynorthwyo Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig. PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad gan James Harland ac Angela
Loftus. |
|
GRANT CEFNOGI BGC GOGLEDD CYMRU PDF 271 KB Derbyn
diweddariad ar lafar ar Grant Cefnogi BGC Gogledd Cymru 2018/19 ac ystyried y
cais cyllido dilynol ar gyfer 2019/20. Nicola Kneale
(Cyngor Sir Ddinbych) 3.10 p.m. – 3.20 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Strategol (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn
flaenorol) i hysbysu’r Bwrdd am y grant gan Lywodraeth Cymru oedd ar gael i
ranbarth Gogledd Cymru yn 2019/2020 a sut yr oedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar
draws y pedwar meini prawf sydd o fewn yr atodiad i’r adroddiad. Roedd yr arian ar
gael i gefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i fodloni eu hymrwymiadau mewn
perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn benodol i
gynorthwyo gyda datblygu cynlluniau lles, a’r datblygiad parhaus a chynnal
asesiadau lles lleol. PENDERFYNWYD: (i)
bod
aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r adroddiad ac yn cefnogi cais
2019/2020 am gyllid. (ii)
bod
diweddariadau rheolaidd ar wariant grant yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd. |
|
CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL CONWY A SIR DDINBYCH I dderbyn
adroddiad ar lafar gan Wendy Jones (CGGC) a Helen Wilkinson (CGGSD) i drafod pa
gymorth y gall BGC gynnig i’r trydydd sector. 3.20 p.m. – 3.40 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd Helen Wilkinson, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych a Wendy Jones, Prif Swyddog, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol
Conwy, adroddiad llafar ar y gefnogaeth y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ei roi i’r trydydd sector. Roedd y ddau
sector gwirfoddol eisoes wedi rhoi cyflwyniadau i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y cyflwyniadau wedi codi ymwybyddiaeth
o’r gwaith yr oedd angen ei wneud ond cytunwyd i ailddosbarthu y cyflwyniadau
i’r holl aelodau. Ariannwyd y
sectorau gwirfoddol gan Lywodraeth Cymru a thaliadau gan bartneriaid
amrywiol. Roeddent yn annog yr aelodau i
ystyried eu sectorau ar gyfer gwaith cydgynhyrchu. Roedd Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
yn bwriadu darparu hyfforddiant ar ddiogelu data a diogelu. Cadarnhawyd
hefyd y byddai gweithdai cydgynhyrchu yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol. PENDERFYNWYD bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi cynnwys
yr adroddiad llafar ac y dylid ailddosbarthu’r ddau gyflwyniad i’r holl aelodau
er gwybodaeth. |
|
GWASANAETHAU LLYWODRAETH LEOL I GYMUNEDAU GWLEDIG (ADOLYGIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU) PDF 1 MB I dderbyn yr
adolygiad ac i ymateb i argymhelliad 2 yn yr adroddiad. Fran Lewis
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) 3.40 p.m. – 3.55 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Roedd yr
adolygiad yn asesu sut yr oedd llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau yn
uniongyrchol i gymunedau gwledig a sut yr oedd cynghorau yn gweithio ag eraill.
Yn seiliedig ar
ganfyddiadau’r archwiliad, daeth yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad nad
oedd cynghorau wedi canfod ffyrdd cynaliadwy o helpu cymunedau gwledig i
oresgyn yr heriau yr oeddent yn wynebu ac roedd angen iddynt feddwl a
gweithredu’n wahanol. Roedd rhan o’r adroddiad
yn adolygu sut yr oedd cynghorau a’u partneriaid yn bwriadu cefnogi a chynnal
cymunedau gwledig yn y dyfodol drwy waith y Byrddau Gwasanaethau Lleol. Roedd
argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
fel a ganlyn: Argymhellodd
Swyddfa Archwilio Cymru y dylai partneriaid gwasanaethau cyhoeddus y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ymateb y fwy effeithiol i’r heriau sy’n wynebu cymunedau
gwledig drwy: ·
Asesu
cryfderau a gwendidau eu cymunedau gwledig gwahanol gan ddefnyddio offeryn
prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad Llywodraeth Cymru a nodi a
chytuno ar y camau gweithredu lleol a strategol sydd eu hangen i gefnogi
cynaliadwyedd cymunedol; a ·
Sicrhau
bod y Cynllun Lles Lleol yn nodi gweledigaeth sy’n fwy optimistaidd ac
uchelgeisiol ar gyfer “lle” gyda chyd- flaenoriaethau a luniwyd ar y cyd gan
bartneriaid a gyda dinasyddion i fynd i’r afael â'r newidiadau cytunedig. Roedd angen i’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus edrych ar yr offeryn prawfesur polisïau o safbwynt
anghenion cefn gwlad gan Lywodraeth Cymru y gellid ei ddefnyddio gydag unrhyw
benderfyniad. Cytunwyd y dylid
gweithredu’r offeryn prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad â’r
tair blaenoriaeth. Cytunwyd bod
gwaith yn cael ei wneud ond bod ddiffyg mewn adnoddau i fynd i’r afael â’r
materion yn yr ardal wledig. Mynegwyd
safbwyntiau bod yr adroddiad yn gynamserol a byddai llawer iawn o waith yn cael
ei wneud yn y maes hwn yn y dyfodol.
Mewn ymateb i’r argymhellion, awgrymwyd y dylid cyfeirio’r gwaith a oedd
yn cael ei wneud gyda’r Cynlluniau Datblygu Cyhoeddus, Cynnig Twf Gogledd Cymru
a’r Cynllun Datblygu Gwledig a oedd yn gweithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Cytunwyd i lunio
ymateb drafft i’r argymhellion yn cynnwys cyfeirio at y meysydd gwaith uchod. PENDERFYNWYD: (i) nodi’r adroddiad a llunio ymateb i'r argymhellion. (ii) gweithredu’r offeryn prawfesur polisïau o
safbwynt anghenion cefn gwlad â’r tri maes blaenoriaeth. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 416 KB Bydd y Cadeirydd
yn arwain ar yr eitem hon. 3.55 p.m. – 4.00 p.m. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w hystyried. Cadarnhaodd aelodau y rhaglen a’r
adroddiadau a ddisgwyliwyd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ym mis Mehefin 2019 fel a ganlyn: ·
Cymeradwyaeth o adroddiad
blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018/2019 ·
Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar
Gynnig Twf Gogledd Cymru ·
Adroddiad ar ddull
rhanbarthol tuag at newid hinsawdd ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am
Y 1000 Diwrnod Cyntaf ·
CGGSDd – Prosiect Cenedl
sy’n deall Dementia ·
Cynllunio ar gyfer
Sefyllfaoedd y Dyfodol ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am
y Rhaglen Cyllid Hyblyg ·
Gwaith ar Flaenoriaethau’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Eitem Eithriedig – Trafodaeth ar ddatblygu
cofrestr risg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a heriau arweinyddiaeth. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r rhaglen
waith. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 3.45pm. |