Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Swyddog Pwyllgorol 01824 706204 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Enwebwyd ac
eiliwyd y Cynghorydd Hugh Evans fel Cadeirydd yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD bod
y Cynghorydd Hugh Evans yn cael ei benodi’n gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai ymddiriedolwyr ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
un sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodir i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni wnaeth unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu mewn perthynas
ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
YSGOL UWCHRADD Y RHYL – TROSGLWYDDO STATWS YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL Y TIR Ystyried adroddiad cyfrinachol i Ymddiriedolwyr
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir y Fflint (copi ynghlwm) sydd yn
diweddaru’r Ymddiriedolwyr ar y cynigion ar gyfer aildatblygu Ysgol Uwchradd Y
Rhyl a’r goblygiadau ar gyfer tir yr Ymddiriedolaeth. Cofnodion: Roedd adroddiad cyfrinachol gan y
Gwasanaethau Prisio, Ystadau ac Eiddo wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r
cyfarfod. Roedd yr
adroddiad yn cynghori ynglŷn â’r cynigion ar gyfer ailddatblygu Ysgol
Uwchradd y Rhyl a’r goblygiadau ar gyfer tir yr ymddiriedolaeth. Roedd
yn ceisio cymeradwyaeth yr Ymddiriedolwyr i gyfnewid y tir er mwyn gallu
trosglwyddo’r statws elusennol o un safle i un arall, o fewn ffin yr Ysgol, er
mwyn hwyluso adeiladu’r ysgol newydd. Roedd safle Ysgol
Uwchradd y Rhyl yn cynnwys tua 19.3 erw (7.81 Ha) ac wedi’i amlinellu’n goch er
mwyn ei ddangos ar y cynllun atodedig, Atodiad 1. Roedd y tir mewn glas (9.7
erw (3.93Ha)) yn amodol ar ymddiriedolaeth elusennol hanesyddol a ddelir gan
Gyngor Sir Ddinbych fel Ymddiriedolwr ar ran Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg
Bellach Sir y Fflint. Caffaelwyd y tir yn wreiddiol mewn dau
ddarn, y cyntaf yn 1889 yn cynnwys tua 4.5 erw, a’r ail yn 1929 yn cynnwys 5.2
erw (gyda chyfanswm o 9.7 erw). Roedd y Ganolfan Hamdden yn cael ei rhedeg
gan Wasanaethau Hamdden Sir Ddinbych. Roedd Ysgol y Rhyl ac ysgolion eraill yn defnyddio’r
cyfleuster yn ystod oriau ysgol ac yn destun Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) rhwng
yr Adran Hamdden a Dysgu Gydol Oes, tu hwnt i oriau ysgol roedd y gymuned
ehangach yn defnyddio’r cyfleuster. Ymddengys bod y Comisiwn Elusennol yn fodlon o ran
presenoldeb y Ganolfan Hamdden ar dir yr Elusen. Roedd y tir sy’n
Wyrdd ar y cynllun, tua 9.96 erw (4.03 Ha), o fewn teitl rhydd-ddaliad Sir
Ddinbych. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar y teitl
cofrestredig fyddai’n effeithio ar ddefnyddio’r safle i adeiladu a gweithredu
ysgol newydd. Roedd y
cynnig i ailddatblygu safle Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cynnwys ail-ffurfweddu’r
safle cyfan. Byddai cynllun presennol y safle’n
cael ei drawsnewid tra byddai’r Ganolfan Hamdden yn aros fel y mae, ond
byddai’r Ganolfan Ieuenctid yn cael ei dymchwel. Byddai’r
cynigion yn effeithio ar y tir elusennol gan na fyddai’r tir sydd â statws
elusennol ar hyn o bryd yn safle prif swyddogaeth addysg yr ysgol a byddai’n
ffurfio rhan o’r safle fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion hamdden yn
bennaf. Y cynnig oedd trosglwyddo Statws Elusennol y tir i
safle adeiladau newydd yr ysgol ar y tir Gwyrdd. Roedd y safleoedd
Glas a Gwyrdd yn eithaf tebyg o ran maint, dynodiad cynllunio, defnydd,
lleoliad, topograffeg, gwerth ac ati. Roedd y tir Gwyrdd wedi’i ystyried yn
safle amgen addas fel derbynnydd statws elusennol y tir glas, yn amodol ar
gymeradwyaeth yr Ymddiriedolwyr. Roedd
y Cabinet wedi cymeradwyo achos busnes ar gyfer ailddatblygu Ysgol newydd y
Rhyl a chymeradwywyd y cais cynllunio. Roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi cynllun y
datblygiad newydd mewn perthynas â’r safle a’r isadeiledd presennol. Roedd y Prisiwr
Rhanbarth wedi cyflawni prisiad o’r tir Glas a Gwyrdd i benderfynu os byddai
buddion yr elusen yn parhau pe bai’r statws elusennol yn cael ei drosglwyddo,
ac i ddarparu sicrwydd i’r Ymddiriedolwyr a’r Comisiwn Elusennol bod y tir
newydd yn dderbynnydd addas ar gyfer statws elusennol. Roedd y prisiad wedi bod ar werth y farchnad,
yn unol â chymeradwyaeth RICS a Datganiad Ymarfer Prisiad 3.2 a nodyn canllaw
UKGN4, a gan ystyried Rheoliadau Elusennau (Adroddiad Syrfewyr Cymwys) 1992.
Casglodd adroddiad y Prisiwr Rhanbarth, Atodiad 3, bod trosglwyddo statws
elusennol o un safle i un arall yn hyfyw yn ariannol a bod y tir amgen yn addas
fel derbynnydd y statws elusennol. Roedd
y Comisiwn Elusennol wedi nodi eu bod yn fodlon gyda thelerau Adroddiad y
Prisiwr Rhanbarth, a’r cynnig i drosglwyddo’r statws elusennol o’r Tir Glas i’r
Tir Gwyrdd. Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r dogfennau ategol cadarnhaodd ... view the full Cofnodion text for item 4. |