Agenda and draft minutes
Lleoliad: Cynhadledd Fideo
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Alan Price,
Swyddog Partneriaeth y Gogledd Ddwyrain,
Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11.9.20 11 MEDI 2020 PDF 371 KB Ystyried cofnodion
cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 11 Medi 2020 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 11
Medi 2021. Cytunwyd eu bod yn gyfnod
cywir ac nid oedd unrhyw fater yn codi. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a
gynhaliwyd 11 Medi 2020. |
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 19 CHWEFROR 2021 PDF 473 KB Nodi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd y cofnodion drafft Partneriaeth Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 19
Chwefror 2021 er gwybodaeth. PENDERFYNWYD nodi cofnodion drafft Partneriaeth Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. |
|
DIWEDDARIAD AR GYLLID Y CYDBWYLLGOR PDF 218 KB Adroddiad
Eitem Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynir gan Steve Gadd - Pennaeth Cyllid ac Eiddo a Paula O’Hanlon - Senior Finance – Uwch Swyddog Cyllid
a Sicrwydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd,
yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Mae’r adroddiad yn darparu crynodeb o sefyllfa
refeniw derfynol amcanol yr AHNE ar gyfer 2020/21 a fanylir yn Atodiad 1. Mae'r
sefyllfa refeniw derfynol yn dangos cyfraniad o £11,705 o’r gronfa wrth gefn.
Mae £2,614 o’r swm hwn yn cefnogi’r gyllideb refeniw a’r £9,091 arall yn ariannu
aelod o staff dros dro rhan-amser drwy grant Llywodraeth Cymru (cronfeydd
wedi’u derbyn). Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo a fu yna
lwyddiant yn gwneud cais am grantiau Covid er mwyn parhau i allu cydymffurfio â
chanllawiau Covid ar gyfer ymwelwyr i atyniadau twristiaid poblogaidd. Trafodwyd y problemau ynglŷn â phan fydd
rheolau’r cyfnod clo eu llacio, ni fyddai capasiti yn y meysydd parcio ar gyfer
y nifer o ymwelwyr. Roedd hon yn broblem
ar draws y Sir ac roedd angen gweithio gyda’r Adran Priffyrdd a Heddlu Gogledd
Cymru. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y byddai
cyllid Covid ar gael am y chwe mis nesaf ac roedd angen llenwi ffurflen hawlio
gwariant misol. Roedd pob Awdurdod Lleol
yn cydnabod y byddai hyn yn bwysau wrth symud ymlaen. PENDERFYNWYD - Nodi'r rhagolwg diweddaraf o sefyllfa
ariannol derfynol yr AHNE ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1) a chynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. |
|
DIWEDDARIAD MAES: ·
PROSIECT PARC POCED WENFFRWD A MOEL FAMAU (Llafar) (DS) ·
SMS A PHWYSAU YMWELWYR YN YSTOD COVID (Llafar) (RJ) ·
EIN TIRLUN DARLUNIADWY (Llafar) (KT) ·
PROSIECT RHOSTIR (Llafar) (GB) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Prosiect Parc Poced Wenffrwd a Moel Famau. Rhoddodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn
Gwlad yr AHNE, adroddiad llafar ynglŷn â Phrosiect Parc Poced Wenffrwd a
Moel Famau. Yn ystod y cyfnod clo, penderfynwyd cau
Loggerheads, Moel Famau a Maes Llantysilio.
Gosodwyd arwyddion ar yr A494 i roi gwybod i ymwelwyr bod y parciau ar
gau. Yn sgil yr eira dros y Nadolig, penderfynwyd hefyd i gau’r ffyrdd dynesu
er mwyn atal ymwelwyr. I wneud hyn, bu’n
rhaid gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gogledd
Cymru. Bu gwaith yn digwydd hefyd gyda’r Tîm Cyfathrebu
er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y neges bod y Parciau ar gau, ond parhaodd pobl i geisio ymweld â’r parciau yn
ystod y cyfnod yma. Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru a
defnyddiwyd rhywfaint o’r arian hwnnw i gynnal adroddiad o lif traffig ar Forestry Road sy’n arwain at brif
feysydd parcio Moel Famau. Prif
argymhelliad oedd cyflwyno cyfyngiadau parcio.
Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt ynglŷn â chyflwyno llinellau
melyn dwbl neu ffordd glir neu beidio. Roedd yna hefyd gynnig i ddarparu llefydd
parcio ar y stryd wrth nesáu at y giatiau sy’n cael eu cloi dros nos er mwyn i
ymwelwyr allu ymweld fin nos. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Adran
Priffyrdd hefyd i ail ddylunio cynllun y gilfan y tu allan i’r maes parcio. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i gynyddu
capasiti’r meysydd parcio i greu 50-60 o lefydd parcio ychwanegol. Yn ogystal, bydd y peiriannau talu ac
arddangos yn cael eu hamnewid gyda pheiriannau sy’n derbyn cardiau a byddai
gwaith yn mynd rhagddo i wella’r llwybrau troed. (b) SMS a Phwysau Ymwelwyr yn ystod Covid. Arweiniodd Rachel Jones (Arweinydd Tîm y
Gogledd AHNE), yr aelodau trwy gyflwyniad. Fe eglurodd yr Arweinydd Tîm wrth yr
aelodau y cymerir gofal wrth ystyried pa anifail fyddai’n cael eu cyflwyno ar
safleoedd. Roedd anifeiliaid hefyd yn
cael eu symud o amgylch safleoedd ond cyn eu symud i safle, roeddynt yn cael
ychydig ddiwrnodau ar y safle er mwyn iddynt gael addasu. Roedd Ymgysylltu â'r Gymuned yn arbennig o
bwysig. (c) Tirlun Darluniadwy i gael ei ohirio tan y
cyfarfod nesaf. (d) Prosiect Rhostir. Nid oedd Graham Berry, Swyddog Rhostir yn
gallu mynychu’r cyfarfod a chyflwynodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr
AHNE, yr adroddiad ar lafar yn ei habsenoldeb. Roedd y Swyddog Rhostir wedi cael ei
phenodi ym mis Tachwedd 2020 ac roedd hi’n gweithio ar brosiect tair blynedd o
hyd. Rhoddodd yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad
drosolwg o’r Prosiect. Mynegwyd pryder am faint o rasio ceir sy’n
digwydd yng nghefn Mynydd Llandegla gan fod gan rai ceir y potensial i achosi
tân. Fe gadarnhawyd y byddai’r Swyddog
Rhostir yn edrych at y mater. PENDERFYNWYD bod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn nodi’r newyddion diweddaraf a
dderbyniwyd. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 386 KB Ystyried rhaglen
gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog AHNE rhaglen gwaith i'r dyfodol cydbwyllgor yr AHNE
(dosbarthwyd yn flaenorol). Cadarnhawyd eu bod yn aros am gyllid gan Gyfoeth
Naturiol Cymru ac fe fyddai yna grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru. Byddai Cynllun Rheoli yr AHNE yn mynd gerbron y
Pwyllgor ym mis Mehefin. Fe nodwyd bod y Fforwm wedi’i ohirio ar hyn o bryd
tan fis Medi 2021. Roedd dyraniad o £225,000 o gyllid Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf wedi cael
ei glustnodi ar gyfer nifer o brosiectau. Roedd cyllid refeniw ar gyfer newid hinsawdd wedi
cael ei ddyrannu a byddai Swyddog Dalgylch a Newid Hinsawdd yn cael ei
ph/benodi. Gofynnwyd bod cyflwyniadau’n cael eu dosbarthu i’r
aelodau cyn y cyfarfod a chytunwyd y byddai cyflwyniadau’n cael eu cynnwys
gyda’r pecyn Rhaglen. PENDERFYNWYD bod
Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy yn nodi’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dydd Gwener 25 Mehefin 2021 Dydd Gwener 5 Tachwedd 2021 Dydd Gwener 18 Mawrth 2022 Dydd Gwener 24 Mehefin 2022 Dydd Gwener 4 Tachwedd 2022 |