Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Derek Butler (CSyFf) a Tony Thomas (Cadeirydd CSDd) a’r Swyddogion Anna Irwen (Uwch Swyddog Cadwraeth a’r Amgylchedd, CBSW), Ceri Lloyd (Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE, CSDd) ac Andy Worthington Cadeirydd Partneriaeth AHNE.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Tony Thomas (Cadeirydd), cadeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cyfarfod.

 

Roedd rhai Cynghorwyr wedi ei chael yn anodd cael mynediad at becyn y rhaglen o’r ddolen rhyngrwyd a gylchredwyd drwy e-bost, roedd copïau caled ar gael yn y cyfarfod.

 

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

2.

COFNODION Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 8 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 304 KB

Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 8 Mawrth 2019.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2019.

 

Cywirdeb.

 

Roedd y Cynghorydd David Kelly yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 5, eitem 2 – roedd Cydlynydd wedi ei benodi i'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy Anifeiliaid Pori.

Tudalen 6, eitem 6 – Bu cyfarfod rhwng Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor a Chadeirydd Bwrdd STB i ddrafftio datganiad o fwriad ar y cyd i adlewyrchi’r bartneriaeth weithredol. Byddai’r Datganiad yn cael ei gyflwyno yn y Cyd-bwyllgor AHNE nesaf.

Tudalen 7, eitem 8 – Drafftiwyd llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, Arweinwyr Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gydweithio ar bynciau penodol.

 

PENDERFYNWYD: Yn amodol ar y diwygiad, derbyn cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

3.

COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE 22 Mawrth 2019 pdf eicon PDF 444 KB

Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog AHNE (HS) wrth y Pwyllgor fod cyfarfod pellach o Bartneriaeth yr AHNE wedi’i gynnal ers y cyfarfod ar 22 Mawrth, ond nid oedd y cofnodion ar gael hyd yma.

 

Dyma rai o’r sylwadau ar y cofnodion:

Tudalen 12 – Tân Rhostir ar Fynydd Llantysilio. Nid oedd Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE yn cytuno gyda’r datganiad ynghylch y ffaith fod y gostyngiad yn nifer y defaid oedd yn pori yn rhannol gyfrifol am ledaeniad y tân ar Fynydd Llantysilio, a’i resymeg oedd nad oedd defaid yn pori ar rug. Roedd y rheolaeth wael o’r tyfiant grug eang yn fwy o ystyriaeth.

Tudalen 13 - Flailbot Roedd Cadeirydd y Gweithgor Hamdden, Mwynhad a Dealltwriaeth (JR) wedi bod i gyfarfod Partneriaeth yr AHNE diweddaraf (yr wythnos diwethaf). Cafwyd trafodaeth ddiddorol ar y Flailbot a allai weithredu mewn ardaloedd anodd, gan glirio grug a chynnig rhwystr tân.

 

Tudalen 13 - Onnen yn Gwywo Holodd y Cynghorydd David Kelly am ddosbarthiad Pecynnau a rheolaeth o goed oedd wedi marw neu yn marw?

 

Dywedodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol (TW) fod Cyngor Sir y Fflint yn ystyried sut i fwrw ymlaen. Byddai seminar yn yr wythnosau nesaf ar gyfer Swyddogion Coed Sir y Fflint, ac roedd gweithgor yn cael ei ffurfio i nodi cynllun gweithredu. Roedd coed yn cael eu hystyried fesul un. Roedd torri coed cyffredinol yn cael ei osgoi rhag ofn bod coed wedi datblygu gwydnwch yn erbyn yr clefyd Nodwyd nad oedd y clefyd yn lladd y coed ond yn ei gwneud yn fwy agored i glefydau eraill a fyddai’n eu lladd.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, cytunwyd y byddai codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fuddiol, fel y byddai rhif cyswllt ffôn penodol os oedd achosion newydd yn cael eu nodi.

 

PENDERFYNWYD nodi cofnodion Bwrdd Partneriaeth yr AHNE ar 22 Mawrth 2019.

 

4.

COFNODION DRAFFT EIN PARTNERIAETH TIRWEDD DDARLUNIADOL 11 Ebrill 2019 pdf eicon PDF 259 KB

Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2019 (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Llwybrau Digidol (ibeacon) yn cysylltu gydag awdurdodau eraill Gogledd Cymru ac roedd y Digwyddiadau Dathlu a restrwyd ar dudalen 21 yn cael eu trafod yn yr adroddiad blynyddol a fyddai’n cael ei gyflwyno’n ddiweddarach ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD nodi cofnodion drafft cyfarfod y Bartneriaeth Ein Tirwedd Ddarluniadol ar 11 Ebrill 2019.

 

5.

CYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 223 KB

Adroddiad eitem sefydlog (copi ynghlwm) wedi’i chyflwyno gan Paula O’Hanlon, Uwcg Swyddog Cyllid a Sicrwydd/ Gareth Williams, Rheolwr Cyllid.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (SG). Eglurodd SG bod:

 

·         atodiad 1 yn adolygu’r hyn a wariwyd o’i gymharu â’r hyn oedd yn y gyllideb;

·         roedd atodiad 2 yn dangos y gyllideb dros y flwyddyn nesaf.

Roedd cyllid yn ei le ar yr un lefel (gyda chynnydd bychan ar sail chwyddiant gan Sir Ddinbych);

·         atodiad 3 oedd y fframwaith cyfreithiol ynghylch y Cydbwyllgor, gan gynnwys y Datganiad Statudol Blynyddol a oedd angen i Gadeirydd ei lofnodi i’w anfon ymlaen at yr archwilwyr allanol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, dyma oedd ymateb y Prif Gyfrifydd:

·         Roedd y Grant SDF a dderbyniwyd yn hwyr yn dangos cynnydd yng nghronfeydd wrth gefn yr AHNE o £119,000 i £259,000

Roedd hynny’n gamarweiniol gan ei fod wedi ei neilltuo’n rhannol ac felly nid oedd y cyfan ar gael. Ystyriwyd fod lefel y gronfa wrth gefn yn synhwyrol.

·         Yr un ffynonellau cyllid oedd yr incymau a restrir ar atodiadau 1 a 2 (ond eu bod wedi cael eu labelu’n wahanol).

Cytunwyd i roi'r un enw iddynt mewn adroddiadau yn y dyfodol.

·         Dylai canlyniad ariannol, cyfrifon a chyllideb ddrafft y Cydbwyllgor ar gael ar wefannau Wrecsam a Sir y Fflint yn ogystal ag un Sir Ddinbych (SG i wirio).

 

Aeth y Prif Gyfrifydd drwy’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn gofyn i’r Pwyllgor gadarnhau pob datganiad a restrwyd.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

      I.        Dylid nodi canlyniad ariannol 201/19;

    II.        Cymeradwyo cyllideb drafft 2019/20.;

   III.        Cytuno ar Ddatganiad Blynyddol 2018/19 a

  IV.        Nodi balansau’r gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2019.

 

6.

CYNLLUN RHEOLI AHNE

Derbyn diweddariad ar lafar gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE (DS) y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar Gynllun Rheoli’r AHNE, yn egluro eu bod ar flwyddyn olaf y Cynllun Rheoli a bod dyletswydd statudol arnynt i gynhyrchu un newydd. Ar ôl sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i’w symud ymlaen, roedd angen penderfyniad o ran a ddylid cynnal adolygiad neu ddiwygiad llawn o’r cynllun.

 

Dywedodd DS yr hoffai weithio gydag amryw o weithgorau a phartneriaethau i ganfod blaenoriaethau cyn mynd â’r ymgynghoriad yn ehangach i gymunedau. Rhagwelwyd y byddai’r cynllun drafft yn cael ei gwblhau a’i gyflwyno i’r Pwyllgor erbyn gwanwyn 2020.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DATBLYGIAD CYNALIADWY

Ystyried diweddariad ar lafar oddi wrth Ceri Lloyd, Swyddog Datblygiad Cynaliadwy AHNE.

 

Cofnodion:

Yn anffodus nid oedd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD ailgyflwyno’r eitem ar gyfer Cydbwyllgor nesaf yr AHNE ar 22 Tachwedd 2019.

 

8.

ADRODDIAD CYTUNDEB CYFREITHIOL Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad oddi wrth Lisa Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (LJ) y Pwyllgor am y Cytundeb Cyfreithiol Awdurdodau Lleol AHNE 5 mlynedd a fyddai’n cael ei adolygu’n fuan. Roedd y cyfle’n cael ei gymryd i ddiweddaru’r amserlenni ac ati. I’r perwyl hwnnw, byddai angen i bob Awdurdod Lleol gydsynio i ddiwygiadau’r Cydbwyllgor cyn llofnodi a selio’r cytundeb.

 

Roedd y diwygiadau a argymhellwyd yn rhai bychan ac eisoes wedi eu rhannu gyda Phennaeth y Gyfraith yn Wrecsam a Sir y Fflint. Amlygodd LJ y diwygiadau a restrwyd yn adran 4 yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Wrth adolygu’r diagram Strwythur yn Atodlen 3, nododd y Pwyllgor fod:

·         Angen i fwy o’r saethau llif gwybodaeth fod i’r ddau gyfeiriad o amgylch y blwch Cydbwyllgor – yn arbennig yn ôl i’r Awdurdodau Lleol unigol,

·         Roedd enw’r Gweithgor Tirlun a Chynllunio yn anghywir ac

·         Nid oedd unrhyw gyfeiriad at y Grŵp Twristiaeth.

 

Cytunodd y Swyddog AHNE i ddiweddaru’r Siart Strwythur cyn iddo gael ei lofnodi.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y diwygiadau uchod a chynnwys y Cytundeb Cyfreithiol y dylid ei gymeradwyo a'i fabwysiadu gan y tri Chyngor partner.

9.

ADRODDIAD A CHYFLWYNIAD AR ASTUDIAETH GWERTHUSIAD YMWELWYR pdf eicon PDF 314 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) a chyflwyniad gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil anhawster wrth gael mynediad at y pecyn rhaglen cyn y cyfarfod a’r swm sylweddol o wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn adroddiad yr ymgynghorydd, cytunwyd y byddai’r eitem yn cael ei hailgyflwyno yng Nghydbwyllgor nesaf yr AHNE.

 

Rhoddodd Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE (DS) gyflwyniad yn crynhoi canfyddiadau’r adroddiad. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar chwe prif safle ar draws yr AHNE a rhoddodd ddadansoddiad o’r gwerth economaidd fesul safle fel:

 

·         Traphont Ddŵr y Waun - £3,574,797

·         Parc Gwledig Loggerheads - £2,290,187

·         Parc Gwledig Moel Famau - £4,648,031

·         Panorama - £1,127,811 (gwariwyd yn Llangollen yn bennaf)

·         Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Basn Trefor - £9,273,469

·         Rhaeadr y Bedol a Lawnt Llantysilio - £3,156,015 (gwariwyd yn Llangollen yn bennaf).

 

Roedd y chwe safle’n cefnogi 449 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a oedd yn 19% o’r holl swyddi twristiaeth yn Sir Ddinbych wledig yn 2018 (nid oedd CBSW a CSyFf yn casglu data ar ardaloedd gwledig.

 

O safbwynt lles a chyfraniad at lefel bodlonrwydd bywyd, ymatebodd 92% o drigolion a oedd yn byw mewn/ ger yr AHNE yn gadarnhaol. Roedd ymwelwyr yn ymelwa o tua £8.8 miliwn (gan ddefnyddio’r fethodoleg prisio lles), 6.5% yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.

 

Amcangyfrifwyd bod y bendithion iechyd (ymarfer cardio a rheoli pwysau) a ddeilliwyd o gerdded yn gyfystyr ag osgoi £38.1 miliwn o wariant ar iechyd ar faterion yn ymwneud â chlefydau cardio fasgwlaidd a diabetes math 2.

 

Roedd effaith cymdeithasol ymwelwyr yn y safleoedd hyn yn cynnwys:

·         Tagfeydd traffig a gorlenwi, nododd y gymuned o amgylch Rhaeadr y Bedol effaith negyddol.

·         Casglwyd 130 tunnell o ysbwriel.

·         Casglwyd 8.2 tunnell o faw cŵn yn Loggerheads, 4.7 tunnell yn Moel Famau.

·         Cost codi ysbwriel oedd £17,500.

·         Lladdwyd 14 o ddefaid gan gŵn dros y 3 blynedd diwethaf.

·         Bu cynnydd o 30% mewn digwyddiadau Achub ar Fynydd, achubwyd 9 yn 2018 yn unig.

·         Erydiad cefn gwlad, yn arbennig mewn ardaloedd cadwraeth arbennig.

 

Byddai’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio i greu cynllun gweithredu ar gyfer yr AHNE a oedd yn cynyddu bendithion cymdeithasol ac economaidd ymwelwyr â’r safleoedd hynny, a hefyd lleihau’r effaith amgylcheddol.

 

Awgrymwyd o ystyried y dystiolaeth o ran gwerth ariannol a bendithion iechyd ymwelwyr i gerdded, byddai llythyr yn cael ei lunio ar gyfer Pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, i geisio cymorth ariannol ar gyfer cynnal yr AHNE. Cynigiodd y Pwyllgor i wneud hynny ar ôl i’r cyfarfod gael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD y dylid ychwanegu’r Adroddiad Astudiaeth Werthuso Ymwelwyr ar raglen cyfarfod Pwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar 22 Tachwedd 2019.

 

10.

CYFLWYNIAD ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE

Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog AHNE (HS) wybod i’r Pwyllgor bod yr AHNE yn rhan o gymdeithas Genedlaethol a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75, roedd cynrychiolwyr wedi bod yn bresennol yn y Gynhadledd Genedlaethol.

 

Roedd AHNE yng Nghymru, ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i wella eu proffil. Hoffai Gweinidog Llywodraeth Cymru weld yr AHNE yn cael statws cyfartal â’r Parciau Cenedlaethol.

 

Roedd yn oes newydd ar gyfer y Tîm Ein Tirwedd Darluniadol (OPL) ym Mhlas Newydd, gyda chynllun gwaith newydd gan gynnwys:

·         mynediad cymunedol i Blas Newydd;

·         Mynediad i lwybr Trefor / Clincer at y gamlas;

·         gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc i ganfod beth oedd y Safle Treftadaeth y Byd yn ei olygu iddynt;

·         cysylltu â Scottish Power i ddisodli llinellau trydan uwch ben gyda cheblau tanddaearol yn y Ponderosa a thua’r gogledd.

·         sefydlu Natur er budd Iechyd; prosiect yn creu gerddi, lotments a gerddi cymunedol cyfeillgar i wenyn.

Hefyd yn awyddus i weithio ar fannau gwyrdd sy’n eiddo i Denbighshire.

 

Dyma rai o’r meysydd gwaith sylweddol eraill o fewn yr AHNE:

·         archeolegwyr yn edrych am dŵr hela yng Nghastell y Waun;

·         tirlunio maes carafanau yng Ngharrog

·         defnyddio Flailbot i drawslinio a chynnal llethrau serth (posibilrwydd o brynu un ar sail gwario i arbed);

·         roedd garej wedi ei adeiladu mewn modd sympathetig yn Nhremeirchion i gyd-fynd â’r ffermdy;

·         Roedd gwaith adfer y medrydd llwytho yn Sied Nwyddau Gallt Melyd ar fin dechrau a

·         Roedd sgwâr Llangollen wedi ei gwblhau drwy ddefnyddio’r Cronfeydd Datblygu Cynaliadwy, byddai rhagor o waith i fuddsoddi mewn priffyrdd a symudiadau traffig yn dilyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUNIO A DATBLYGU pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE (HS) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r Pwyllgor fod nifer tebyg o geisiadau cynllunio wedi bod o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roed crynodeb o’r holl geisiadau cynllunio ynghlwm.

 

Wrth drafod yr adroddiad, nododd y Pwyllgor:

·         gwrthdaro posibl rhwng twristiaeth a chynnal yr AHNE;

·         cynnydd yn y ceisiadau am Bodiau Glampio;

·         yr angen i geisiadau weddu i’r amgylchedd lleol;

·         pryder y byddai gor-grynhoad o safleoedd campio yn gostwng y pris/ cost ac yn effeithio ar yr incwm a gynhyrchwyd;

·         dylid annog yn erbyn safleoedd sy’n derbyn deiliadaeth 100% gan eu bod yn cael effaith negyddol ar ysgolion a chyfleusterau meddygol ac ati ac

·         roedd safleoedd newydd a adeiladwyd yn haws i'w rheoli o safbwynt cynllunio na safleoedd sefydledig.

 

Cododd y Cynghorydd Bobby Feeley (CSDd) bryderon ynghylch yr unedau cynhyrchu wyau enfawr a oedd yn cael eu hadeiladu yn yr ardal. Er nad ydynt yn yr AHNE nid ydynt yn cael effaith negyddol drwy fod o fewn golwg iddo. Awgrymwyd fod y Cynghorydd Feeley yn codi’r mater gyda’r Cynghorydd Martyn Holland (CSDd) a fyddai’n bresennol yng nghyfarfod y Gweithgor Tirwedd a Chynllunio (yn agored i’r cyhoedd) yr wythnos ganlynol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Adroddiad Blynyddol Cynllunio a Datblygu.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 380 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a nododd y prif eitemau ar y rhaglen. Nododd HS hefyd bod angen iddynt ystyried Cynllun Twristiaeth yr AHNE gyda gweithgorau partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint -  yn canolbwyntio ar y Cynllun Rheoli.

 

PENDERFYNWYD:

       I.        y dylid ychwanegu’r adroddiad Astudiaeth Werthuso Ymwelwyr i raglen cyfarfod y Pwyllgor ar 22 Tachwedd 2019 a

      II.        cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

13.

Y CYFARFOD NESAF

Friday

22nd November    2019

The Guild Hall

WCBC

Friday

3rd April                2020

 County Hall Mold

FCC

Friday

3rd July                 2020

 County Hall Ruthin

DCC

Friday

13th November     2020

 The Guild Hall

WCBC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd (POH) wrth y Pwyllgor fod y cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer 3 Gorffennaf 2020 yn rhy hwyr i gwblhau’r Datganiad Blynyddol.

 

Cytunodd Swyddog Cyfathrebu Bryniau Clwyd i ad-drefnu’r cyfarfod i ganiatáu cwblhau’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad yn amodol ar y dyddiadau uchod.