Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Guildhall, Wrexham
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: Yn
absenoldeb y Cadeirydd, llywyddodd Is-Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, y
Cynghorydd Carolyn Thomas. Cyflwynwyd
ymddiheuriad am absenoldeb ar ran y Cynghorydd Tony Thomas, Cyngor Sir
Ddinbych. Gofynnodd y Cadeirydd
i bawb oedd yn bresennol gyflwyno eu hunain. |
|
COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 22 MEHEFIN 2018 PDF 337 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018. Materion yn
Codi: Eitem 3, tudalen
4 – mewn perthynas â
sbwriel wedi’i daflu ar ochr y ffyrdd ac amlder clirio sbwriel oddi ar y tair
cefnffordd (A55, A494 a’r A5), dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones ei fod wedi
ysgrifennu at Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Chludiant Llywodraeth
Cymru. Mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd
a Chanolbarth Cymru (ACGChC) yn awr wedi rhoi’r gorau i roi arian i awdurdodau
lleol glirio sbwriel oddi ar ochr y ffyrdd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
yn parhau i glirio sbwriel ar hyd yr A483 ac o fewn y safle Treftadaeth y Byd
ar ei draul ei hun. Eitem 8, tudalen 6 - mewn perthynas â chŵn
yn baeddu, mae polisi ‘ffon a fflic’ yn ei le gan GNC ar ei dir ei hun.
Mae gan Awdurdodau Lleol bolisi ychydig yn wahanol. PENDERFYNWYD - y dylid cadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018 a’u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 13 HYDREF 2018 PDF 455 KB Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Andy Worthington, Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE i’r cyfarfod. Amlygodd Andy
Worthington y prif bwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod Partneriaeth a rhoddodd
ddiweddariadau perthnasol lle bo hynny'n berthnasol. Wrth ystyried y
cofnodion, cododd Aelodau’r materion canlynol yn benodol: ·
Prosiect
Gylfinir Cymru ·
Roedd yr RSPB wedi cyflwyno cais am arian
i Lywodraeth Cymru ar ran y Grŵp Partneriaeth. Menter Awyr Dywyll/Cynllun Goleuo: Croesawyd
y gwaith y mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud i newid eu goleuadau stryd am
fylbiau kelvin 3000. Dywedodd y
Cynghorydd David Kelly mai’r Cynghorau Cymuned sy’n gyfrifol am oleuadau stryd
mewn llawer o ardaloedd ac y dylid eu hannog hwythau i ddefnyddio bylbiau
kelvin 3000 pan fydd eu lampau ar fin cael eu newid. Hefyd dylid ystyried ardaloedd byffer i atal
gollyngiad golau o dir ger ffin yr AHNE. ·
Tân
Mynydd Llandysilio-yn-Iâl Dywedodd Gary Williams (CSDd) y bydd cyfarfod
arbennig o Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei gynnal ym
mis Chwefror/Mawrth 2019 er mwyn sicrhau
y defnyddir y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad i wella ymatebion
amlasiantaeth i argyfyngau tebyg yn y dyfodol a hefyd i bennu a ellid gwneud gwell defnydd o arferion
rheoli tir ac i asesu effaith y tân ar yr ardal leol, yr amgylchedd a busnesau. Bydd y cyfarfod yn cael ei
gynnal yn Llangollen a bydd ar agor i'r cyhoedd. PENDERFYNWYD – y dylid nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth yr AHNE. |
|
CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Gareth O Williams (Cyngor Sir
Ddinbych) yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi crynodeb o
gyllideb refeniw’r AHNE ar gyfer 2018/19 fel y manylwyd yn Atodiad 1. Gofynnwyd i'r aelodau hefyd nodi Datganiad
Blynyddol Swyddog Archwilio Cymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 31 Mawrth
2018 (Atodiad 2). PENDERFYNWYD - y dylid derbyn y diweddariad a
nodi’r cynnwys. |
|
TIRWEDDAU'R DYFODOL YNG NGHYMRU PDF 54 KB Derbyn
diweddariad ar lafar am gyfarfod dilynol yr uchod ar 14 Tachwedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd Howard
Sutcliffe (Swyddog AHNE) at lythyr, dyddiedig 14 Mai 2018, gan Hannah Blythyn, AC,
Gweinidog yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, yn gofyn am farn swyddogion AHNE ar
faterion sydd angen sylw er mwyn sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng yr AHNE a
Pharciau Cenedlaethol Cymru. Paratowyd ymateb ar y cyd gan y bum aelod arweiniol yr AHNE yng Nghymru
mewn cydweithrediad â chydweithwyr o GNC a Chymdeithas
Genedlaethol yr AHNE. Mae deuddeng
cynnig wedi eu cyflwyno i Weinidogion gan gynnwys cynigion yn ymwneud â statws a phroffil. Wrth ystyried yr
adroddiad, codwyd y materion canlynol:- ·
Ar
hyn o bryd nid yw’r AHNE yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio
yn eu hardal. ·
Gall
Parciau Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol orfodi rhai arferion
ffermio penodol yn eu hardal. ·
Croesawyd
yr awgrym y dylid cael cynrychiolaeth AHNE ar Bartneriaeth Cenedlaethol ar
gyfer Tirwedd Dynodedig’ newydd nad yw eto wedi ei chynnull. PENDERFYNWYD – nodi'r adroddiad a bod diweddariad
pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor hwn maes o law. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DATBLYGU CYNALIADWY 2017-2018 Er gwybodaeth yn
unig. Cofnodion: Cyflwynodd Ceri Lloyd
(Swyddog Datblygiad Cynaliadwy yr AHNE) yr adroddiad a dywedodd bod yr arian
grant o 50k a gafwyd gan Gronfa Datblygiad Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn
2017/18 wedi cefnogi 19 o brosiectau unigol, 3 aelod o staff a dros 3000 o
oriau gwirfoddolwyr. Roedd y nawdd
cyfatebol a gafwyd mewn arian cyhoeddus/preifat ac amser yn cyfatebol i
£270k. Wedi hynny dywedodd sut yr oedd
arian y prosiect CDC wedi cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cynllun Rheoli’r
AHNE. Nododd y
Cadeirydd lwyddiant diamheuol y rhaglen a'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i
amrywiaeth o weithgareddau ac o ran sicrhau ymgysylltiad y cymunedau yn
nalgylch yr AHNE. PENDERFYNWYD – y dylid nodi'r adroddiad a bod y
Cadeirydd yn anfon copi ohono at Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu'r gwaith da
sy'n cael ei wneud gan y cynllun. |
|
CYNLLUN RHEOLI CYNALIADWY AR GYFER ANIFEILIAID SY’N PORI Cofnodion: Rhoddodd David
Shiel (Swyddog AHNE Cynorthwyol) ddiweddariad ar lafar gan ddweud y cafwyd
arian ar gyfer 2018/20 a bod dau aelod o staff, i'w lleoli ym Mharc Gwledig
Loggerheads, wedi eu penodi. Mae’r
cynllun yn cynnig grantiau ar gyfer grwpiau cydweithredol er mwyn ailsefydlu
ardaloedd ymylol o dir nad ydynt o fewn ardaloedd ffermio. Bydd y prosiect yn cynorthwyo deugain o
safleoedd. Croesawyd y
fenter gan rai Aelodau fel ffordd o ddiogelu, hybu a chynnal y fferm fynydd draddodiadol
Gymreig. CYTUNWYD – y dylid nodi’r adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Howard
Sutcliffe (Swyddog AONB) yr adroddiad a dywedodd fod Rhwydweithiau Ynni
Scottish Power yn ystyried cynigion ar gyfer ardaloedd i’w cynnwys yng ngham
nesaf y prosiect llinellau trydan tanddaearol mewn tirweddau gwarchodedig. Roedd map yn dangos llinellau uwchben y Grid
Cenedlaethol wedi’i ddosbarthu’n barod. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
ystyriaeth eisoes yn cael ei roi i roi’r llinell ger Eglwys Llangar o dan y
ddaear. ·
Roedd y Grid Cenedlaethol yn paratoi
Asesiad Cymeriad Tirwedd o’r llinell rhwng Legacy a Nercwys. Roedd y llinell
hon ger ffin yr AHNE ond roedd o fewn y dirwedd warchodedig. ·
Dylid
ystyried rhoi’r llinell uwchben ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr (yn bennaf ar hyd
Dyffryn Dyfrdwy) o dan y ddaear. ·
Roedd
y Grid Cenedlaethol yn rhoi arian ar gyfer Mentrau Gwella Tirwedd er mwyn helpu
i leihau effeithiau gweledol y seilwaith trydan. Gwnaed cais am gynllun plannu cloddiau gan
berchnogion tir yn Nyffryn Morwynion. ·
Cytunodd
Howard Sutcliffe y byddai’n gwneud rhagor o ymchwiliadau i linell uwchben
rhwydwaith ynni SP yn Chwarel y Mwynglawdd. PENDERFYNWYD – nodi’r wybodaeth a cheisio rhagor o
wybodaeth am statws y llinell drydan
uwchben yn y Mwynglawdd. |
|
Y DIWEDDARAF AM EIN PROSIECT TIRLUN DARLUNIADWY Cofnodion: Rhoddodd David
Shiel (Swyddog AHNE Cynorthwyol) adroddiad llafar ar y cynnydd a wnaed ers y
cyfarfod diwethaf ac amlygodd y pwyntiau canlynol yn benodol: ·
Mae
dau o’r tri phenodiad allweddol yn awr wedi eu gwneud. ·
Mae Kate Thompson wedi’i phenodi’n Swyddog
Partneriaeth ETD a Sallyanne Hall wedi’i phenodi’n Swyddog Cymuned ETD. Roedd y swydd Swyddog Cyfathrebu'n wag o hyd.
Bydd y tîm ETD wedi ei leoli yn y Caban, Plas Newydd. Mae cais nawdd
cyfatebol ETD ar gyfer Cynllun Cerdded Iach wedi ei gymeradwyo. ·
Mae
angen terfynu’r Rhaglen ‘Out and About’. ·
Cafwyd
nawdd gwerth £6k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect Llwybr Clincer o
Ganolfan Gymunedol Llangollen at Gamlas Llangollen. CYTUNWYD – y dylid nodi’r adroddiad. |
|
CRYNODEB O YMGYNGHORIADAU CYNLLUNIO’R AHNE O FIS EBRILL 2017 HYD AT FIS MEDI 2018 PDF 371 KB Er gwybodaeth yn
unig. Cofnodion: Cyflwynodd Howard
Sutcliffe (Swyddog AHNE) yr adroddiad, a oedd er gwybodaeth yn unig . CYTUNWYD – y dylid nodi’r adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 379 KB Derbyn rhaglen
gwaith i’r dyfodol ddiweddaraf y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd Howard
Sutcliffe (Swyddog AHNE) y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol (a ddosbarthwyd eisoes) ac
amlygodd y prif eitemau a restrwyd ar gyfer eu hystyried. Wrth drafod yr
adroddiad, nodwyd y materion canlynol, yn benodol: ·
Llinellau
rhwydwaith SP – mae cynlluniau Tŷ Mawr a Rhaeadr y Bedol ar y trywydd iawn
i’w cwblhau erbyn Mawrth 2019. Roedd pedwar cynllun ychwanegol yn cael eu gwerthuso. ·
Roedd
dyddiadau’n cael eu trefnu ar gyfer cyflwyno’r gwobrau am gyfraniadau neilltuol
i’r AHNE 2018/19. Gardd Gymunedol Corwen
(Gwobr AHNE) a John Lawton Roberts (Gwobr Gwirfoddolwr AHNE). PENDERFYNWYD – Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD YN Y DYFODOL 2019 8 Mawrth 2019 –
Yr Wyddgrug 21 Mehefin 2019 –
Rhuthun 22 Tachwedd 2019
– Wrecsam Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor y bydd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 8 Mawrth 2019. Awgrymwyd y dylid yn y dyfodol cynnal y cyfarfodydd hyn mewn gwahanol leoliadau ledled ardal yr AHNE. |