Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Derek Butler (Cyngor Sir Y Fflint).

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i bawb gyflwyno eu hunain.

2.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnodion:

Enwebodd y Cadeirydd oedd yn gadael, y Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) y Cynghorydd Tony Thomas (CSDd) i’w olynu fel Cadeirydd Cyd-bwyllgor yr AHNE, cafodd yr enwebiad ei eilio gan y Cynghorydd Carolyn Thomas (CBSC) a chafodd ei ethol yn unfrydol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) gymaint o bleser a gafodd o fod yn Gadeirydd a diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas am y sylfeini yr oedd hi wedi eu gosod fel Cadeirydd, ac am ei chefnogaeth barhaol.  Diolchodd hefyd i swyddogion am eu hymroddiad a'u brwdfrydedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Tony Thomas i'r Cynghorydd Jones am ei wasanaeth ac ategodd ei ddiolch i swyddogion oedd wedi ei gynorthwyo o'r bartneriaeth. Myfyriodd y Cynghorydd Thomas ar y 12 mis diwethaf fel Cynghorydd, gan nodi faint o wersi oedd wedi eu dysgu a nodi ei fod wedi ymweld â llawer o lefydd na wyddai amdanynt cyn hynny gyda swyddogion AHNE.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 2 CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 274 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2018 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2018.

 

Materion yn codi

 

Eitem 5, tudalen 4, roedd Karen Weaver (Swyddog Cyfathrebu'r AHNE) wedi llwyddo i berswadio Theatr Clwyd i ddangos dwy ffilm fer yr AHNE a gyflwynwyd gan Helen Mroweic (Uwch Swyddog Hamdden) o flaen y ffilmiau roeddynt yn eu dangos.

 

Eitem 9, tudalen 7, roedd dau grant wedi eu cytuno ar gyfer arwyddion gan yr Asiantaeth Gefnffyrdd ac roedd cyfarfod wedi ei drefnu gyda chymuned Trefor i drafod Llwybr Clincer.

 

Eitem 11, tudalen 7, roedd y Cynghorydd Hugh Jones wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn holi pa mor aml oedd sbwriel yn cael ei glirio oddi ar y 3 gefnffordd (A55, A494 a’r A5)/

 

Trafododd y Pwyllgor gyflwr amrywiol gefnffyrdd a thrafodwyd pwy oedd yn ariannol gyfrifol am glirio sbwriel? Dywedodd y Cynghorydd David Kelly mai torri’r isdyfiant oedd wedi datgelu’r sbwriel ac felly dylai cyllideb yr Asiantaeth Gefnffyrdd dalu am ei lanhau. Trafododd y Pwyllgor fanteision lleihau faint o lystyfiant sy'n cael ei dorri a gwario'r arian hwnnw yn hytrach ar waredu sbwriel. Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Hugh Jones yn anfon y llythyr anfonwyd at y Gweinidog ymlaen at y Cadeirydd er mwyn iddo fynd ar ei ôl.

 

PENDERFYNWYD:

  1. Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi a
  2. Bod y Cadeirydd yn ceisio ymateb i’r ymholiad glanhau sbwriel gan y Gweinidog.

 

4.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 9 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 361 KB

Ystyried cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchion i Andy Worthington (AW) ar ei ailbenodiad fel Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE a gofynnodd iddo ddiweddaru’r Pwyllgor ar waith y Bartneriaeth.

 

Gan gyfeirio at gofnodion y Bartneriaeth (a gylchredwyd eisoes) rhoddodd sylwadau ar:

 

  • Ostyngiad ym mhoblogaeth y Gylfinir
  • Rhannu’r Gweithgorau Hamdden a Thwristiaeth i grwp ar wahân
  • Cyflwyniad gan Ceri Lloyd ar y CDC
  • Penodi ymgynghorydd i arfarnu safleoedd ymwelwyr a
  • Chwilio am geisiadau ar gyfer y Wobr am gyfraniad arbennig i'r AHNE.

 

Soniodd AW hefyd am yr ohebiaeth ddiweddar gan Hannah Blythyn AC yn ceisio adborth gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol presennol yn gofyn a oeddynt am gael cydraddoldeb â Pharciau Cenedlaethol wrth symud ymlaen. Roedd y Pwyllgor yn dymuno cael adroddiad yn y dyfodol ar fanteision ac anfanteision dynodiad Parc Cenedlaethol.

 

Roedd Partneriaeth yr AHNE wedi gofyn i Swyddogion gynhyrchu adroddiad dichonoldeb / dadansoddiad cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau ar ddynodiad posib fel Parc Cenedlaethol, i'w gyflwyno yng nghyfarfod mis Hydref. Gofynnodd y Pwyllgor am gefnogaeth i barhau i ymchwilio, a chytunwyd ar hynny. Cytunwyd hefyd i ychwanegu eitem am y Parciau Cenedlaethol ar agenda cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE.

 

PENDERFYNWYD:

  1. nodi cofnodion Partneriaeth yr AHNE;
  2. cefnogodd y Pwyllgor ymchwil pellach y Bartneriaeth i ddynodiad Parc Cenedlaethol a
  3. Update on research on National Park status be added as an item to the AONB Joint Committee forward work programme.

 

5.

CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar Gyllideb y Cydbwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid CSDd (GW) adroddiad ar Sefyllfa Ariannol Derfynol a Chyfrifon y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2017/18 a Chyllideb 2018/19 (a gylchredwyd eisoes).

 

Gofynnwyd i’r Aelodau nodi'r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1) a chymeradwyo cyllideb 2018/19 yn ffurfiol (atodiad 2). Hefyd, gofynnwyd i’r Aelodau adolygu a llofnodi’r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 (Atodiad 3) a nodi Balansau’r Gronfa Wrth Gefn ar 31 Mawrth 2018 (Atodiad 4).

 

Cyfeiriodd y  Cynghorydd Carolyn Thomas at yr anghysonder mawr yn y gyllideb a’r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer Rheoli Safle yn atodiad 1. Eglurodd Rheolwr yr AHNE (HS) eu bod yn mynd drwy gyfnod trawsnewidiol, bod peth gwaith o ddiwedd y flwyddyn flaenorol wedi ei gario ymlaen a bod unrhyw gyllid oedd heb ei ddefnyddio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau rheoli arian at raid.

 

Cytunodd aelodau bod y cyfanswm gwariant o £176,341 yn dangos gwerth am arian arbennig.

 

PENDERFYNWYD:

  1. Nodi sefyllfa ariannol derfynol 2017/18 a balansau wrth gefn ar 31 Mawrth 2018 a

    II.        chymeradwyo Cyllideb 2018/19.

6.

ADRODDIAD AR GANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL pdf eicon PDF 258 KB

I ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar Ganllawiau Cynllunio Atodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr AHNE (HS) yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn hysbysu’r Pwyllgor bod y tri awdurdod cynllunio (CSDd, CSYFf a CBSW) wedi mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol a gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r ddogfen atodol (atodiad 1).

 

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Canllaw Cynllunio Atodol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

7.

UCHAFBWYNTIAU ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE pdf eicon PDF 243 KB

I nodi uchafbwyntiau adroddiad blynyddol AHNE (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd Swyddog yr AHNE (HS) bod angen i’r Cyd-bwyllgor, fel pwyllgor statudol, gynhyrchu adroddiad blynyddol (a gylchredwyd eisoes). Gan gyfeirio at yr adroddiad, amlygodd:

 

  • gyfraddau presenoldeb (cyfartalog) amrywiol:

o   cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor – 90%

o   Cyfarfodydd Partneriaeth – 77%

o   Cyfarfodydd Grŵp Swyddogion yr AHNE - 79%

  • Cynnydd bychan mewn ceisiadau cynllunio a
  • Y nifer o gynlluniau wedi eu cwblhau gydag SP Energy – gan gynnwys £145,000 ym Moel y Parc a £37,000 yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte.

 

Dywedodd Rheolwr yr AHNE wrth y Cyd-bwyllgor bod Clare Pillman - Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi ymrwymo i gysylltu ar eu rhan â Dŵr Cymru ynglŷn â'r gwaith trin carthffosiaeth o dan y draphont ddŵr.

 

Gan ddiweddaru’r Cyd-bwyllgor ar gynllun meistr Safle Treftadaeth Y Byd, cyhoeddodd Rheolwr yr AHNE bod y gwaith yn mynd rhagddo yn dda, yn enwedig felly'r ymgysylltu gyda chymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo adroddiad blynyddol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2017/18.

 

8.

UCHAFBWYNTIAU O WAITH TÎM CEIDWAID 2017-18

Derbyn cyflwyniad ar waith Tîm y Ceidwaid.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) gyflwyniad Powerpoint ar waith y Tîm Ceidwaid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd:

  • Er bod ardaloedd lle mae Clymog Japan, doedd ddim mor ymledol â Jac Y Neidiwr o fewn yr AHNE.
  • Edrychodd y Bartneriaeth ar bob rhywogaeth oresgynnol a datblygwyd ymatebion iddynt.
  • Doedd y Llyffant Tarw (bull toad) ddim yn broblem eto yng Ngogledd Cymru fel ag y mae mewn rhannau eraill o’r DU.
  • Sefydlwyd grwpiau amrywiol o wirfoddolwyr drwy’r AHNE – gellid arddangos eu gwaith yn yr oriel yn Loggerheads.
  • Doedd dim achosion o Glwy Traed Alabama wedi eu hadrodd amdanynt yn yr AHNE.
  • Roedd y ceidwaid yn treulio llawer o’u hamser yn addysgu cerddwyr cŵn ar broblem baw cŵn, ond nid oeddynt yn gyfrifol am gosbi perchnogion oedd yn methu glanhau ar ôl eu cŵn.
  • Ar hyn o bryd does dim polisi’n ymwneud â’r arfer o chwipio baw ci gyda brigyn, byddai angen trafodaeth ar y polisi gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Choed Nercwys.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a allai Cyfeillion yr AHNE ddod i mewn i roi diweddariad i’r Cyd-bwyllgor?

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog yr AHNE am y cyflwyniad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD:

              I.        nodi gwaith y tîm Ceidwaid a

            II.        gwahodd Cyfeillion yr AHNE i roi diweddariad ar eu gwaith yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.

 

9.

DIWEDDARIAD O EIN TIRLUN DARLUNIADOL

Derbyn diweddariad llafar ar ein Tirwedd Darluniadwy.

 

Cofnodion:

Dywedodd Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) wrth y Cyd-bwyllgor bod Cronfa Dreftadaeth Y Loteri wedi dyfarnu £2.1 miliwn i’w wario dros y 5 mlynedd nesaf. Fel amodau, roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gofyn am:

·         newidiadau i swydd ddisgrifiadau rolau swyddogion;

·         manylion pellach am waith arfaethedig y flwyddyn gyntaf;

·         eglurhad ar sut mae’r strwythur yn bwydo i Gyd-bwyllgor yr AHNE a Bwrdd Safle Treftadaeth Y Byd?

 

Roedd angen cwblhau nifer o dasgau yn y chwe mis cyntaf, oedd yn cynnwys:

 

  • hen safle’r domen yn Llangollen
  • ymgysylltu â chymunedau
  • ystyried y gofrestr risg a
  • sefydlu llety i staff yn Nyffryn Dyfrdwy (Froncysyllte).

 

Dywedodd y Cynghorydd David Kelly bod adeilad gwag yng Nghanolfan Ymwelwyr Y Mwynglawdd y gellid o bosib ei ystyried

 

PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad.

 

10.

UCHAFBWYNTIAU AC ADRODDIAD CRYNO 2017-18 O GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 916 KB

I ystyried cyflwyniad am uchafbwyntiau ac adroddiad cryno o am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy yr AHNE (CL) gyflwyniad ar grynodeb o weithgareddau Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gysylltiedig â Blaenoriaethau’r Cynllun Rheoli yn 2017/18.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer gweithgareddau a gefnogodd 19 o brosiectau unigol, 3 swydd a mwy na 3000 o oriau gwirfoddolwyr. Daeth cyfraniad yr arian cyfatebol - arian cyhoeddus, arian preifat ac amser mewn nwyddau i bron £272,500.

 

Roedd y CDC yn gysylltiedig â blaenoriaethau'r Cynllun Rheoli, mae gan y CDC amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys: 

  • Creu swydd neu gefnogi swyddi;
  • Cyfleoedd gwirfoddoli;
  • Cyflwyno sesiynau hyfforddi neu godi ymwybyddiaeth am gynaliadwyedd a
  • Cynnal lefel uchel o gyllid a ddaw o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol

 

Aeth Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE ymlaen i ddangos sut mae prosiectau’r CDC yn cyfrannu at flaenoriaethau Cynllun Rheoli'r AHNE (Tudalen 97 y Cynllun Rheoli). Byddai adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno ddiwedd Mehefin, a byddai copi o’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Cyd-bwyllgor.

 

Gan ymateb i gwestiynau Aelodau cadarnhaodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy'r AHNE:

 

  • Bod LlC wedi cadarnhau’r un cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy’n rhoi cyfle i gynllunio ymhellach o flaen llaw nag arfer.
  • Roedd y grant a dderbyniwyd gan LlC yr un faint ag unrhyw AHNE arall a
  • Gan gyfeirio at y Cynllun Cludiant Cymunedol, cadwyd cofnod a fyddai’n cael ei ddarparu er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

  1. Nodi’r cyflwyniad a
  2. Anfon cofnod y Cynllun Cludiant Cymunedol i’r Cyd-bwyllgor .

 

 

11.

CRYNODEB O YMGYNGHORIADAU CYNLLUNIO’R AHNE O FIS MAWRTH 2017 HYD AT FIS MEDI 2018 pdf eicon PDF 248 KB

Adroddiad cryno ar ymgynghoriadau cynllunio AHNE er gwybodaeth yn unig.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd Swyddog yr AHNE at yr adroddiad er gwybodaeth yn unig.

 

PENDERFYNWYD: derbyn yr adroddiad.

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 131 KB

Ystyried rhaglen waith ddiweddaraf Cyd-bwyllgor yr AHNE.

 

Cofnodion:

12          Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol

 

Cyflwynodd Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (a gylchredwyd eisoes) ac adroddodd ar y prif eitemau oedd angen eu hystyried. Dywedodd wrth Aelodau nad oedd y dangosyddion Statws Coch, Oren a Gwyrdd yn y fformat hwn, ddim yn nodi eitem mewn trafferth ond yn un a oedd heb gychwyn, yn wahanol i’r arfer.

 

PENDERFYNWYD: Nodi’r Rhaglen Waith i'r Dyfodol.

 

13.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL A 23 TACHWEDD 2018

Ystyried dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol o Gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Cofnodion:

13          DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL A 23 TACHWEDD 2018

 

Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor y cynhelir cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE ddydd Gwener 23 Tachwedd am 10:00am yn Wrecsam.