Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh Jones (CSDd).

 

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (CSDd) egluro bod penodi Cadeirydd yn troi ymhlith yr Awdurdodau Lleol gan mai Cyfarfod Blynyddol oedd hwn.  Ar gyfer y 12 mis nesaf, dylai’r Cadeirydd fod o aelodaeth CSDd.  Cadarnhawyd parhau gyda’r Cadeirydd presennol tan cyfarfod nesaf yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol pan fyddai Cadeirydd o CSDd yn cael ei enwebu.  Fodd bynnag, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd (CSDd) nad oedd cytundeb y pwyllgor yn nodi’r angen i gylchdroi Cadeirydd/Is-Gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Penodi’r Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod presennol.

(ii)              Penodi’r Cynghorydd Carolyn Thomas (CSFf) yn Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor.

 

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25 TACHWEDD 2016 (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a derbyn cofnodion y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir.

 

 

4.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 10 MAWRTH 2016 (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 539 KB

Cofnodion:

Fel Cadeirydd y Bartneriaeth, dywedodd Andy Worthington wrth y Cydbwyllgor fod cyfarfod wedi ei gynnal ddydd Gwener yr wythnos flaenorol.  Nid oedd cofnodion ar gael eto.

 

Cynhaliwyd seminar ym mis Mawrth 2017 a threuliwyd amser gyda gwirfoddolwyr ac roedd y dangosyddion wedi bod yn gadarnhaol y byddai statws menter Dark Skies yn cael ei gyflawni.

 

Daethpwyd i gytundeb ar elfennau allweddol yr adroddiad tirweddau’r dyfodol. 

 

Gwnaeth y Cadeirydd gadarnhau ei bod yn amlwg na fyddai’r cyflawniad dros y 12 mis diwethaf wedi’i sicrhau heb waith y Bartneriaeth a Chyfeillion.  Mynegodd ei ddiolchgarwch i’r Bartneriaeth a Chyfeillion.  Mae gan Aelodaeth Cyfeillion Bryniau Clwyd fwy na 190 o aelodau.

 

Roedd gan Scottish Power gynllun roeddent yn bwriadu ei gynnal ar draws Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys 5 cynllun posibl dan y ddaear.

 

Roedd Fforwm Blynyddol Aelodau Lleol a Chynghorau Cymuned wedi’i gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Froncysyllte.   

 

Cynigiwyd y dylid cael “Cefnogwr” ar gyfer yr AHNE ar bob un o’r Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn codi unrhyw faterion sy’n berthnasol i’r AHNE. 

 

Cadarnhaodd Swyddog yr AHNE fod llythyrau wedi’u hanfon i bob Cyngor Tref a Chymuned oedd eu hardal, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yn yr AHNE, gan ofyn eu bod yn cynnig “Cefnogwr” AHNE.

 

Cadarnhawyd fod trefniadau am gael eu gwneud i’r Cefnogwyr fynychu Fforwm yn y dyfodol a byddai Swyddogion AHNE yn mynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Cynllun Pori Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWGS) - yr her oedd rhoi sylw i safleoedd nad oedd ganddynt dir pori.  Byddai’r prosiect yn canolbwyntio ar dirluniau nad oeddent yn cael eu pori ar hyn o bryd a byddai'n cynnwys Hillside Prestatyn a Choed Moel Famau yn ogystal â safleoedd o fewn Dyffryn Dyfrdwy. 

 

Un o faterion mwyaf Heddlu Gogledd Cymru oedd aflonyddu ar ddefaid.  Roedd gwaith wedi bod yn cael ei wneud gyda Swyddogion Heddlu gwledig.  Roedd arwyddion newydd wedi’u creu, hysbysiadau wedi’u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol a bu presenoldeb cryf ar Foel Famau i ddosbarthu taflenni i sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn.  Byddai presenoldeb mewn sioeau cŵn hefyd i ddosbarthu taflenni a thenynnau cŵn.  Roedd llawer o waith yn cael ei wneud i roi’r wybodaeth i’r cyhoedd i gadw cŵn ar dennyn.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion drafft y cyfarfod Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

 

 

 

 

5.

CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Gareth Williams adroddiad ar Gyllideb y Cydbwyllgor ar gyfer 2017/18, a’r Alldro a Chyfrifon ar gyfer 2016/17.

 

Mynegodd Gareth Williams ei ddiolch i Paula O’Hanlon am ei holl waith caled ar y gyllideb.

 

Dywedodd ei bod wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall gyda thanwariant o £15,000.00.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Nodi’r alldro ariannol ar gyfer 2016/17

(ii)             Cymeradwyo cyllideb 2017/18

(iii)            Bod Aelodau yn derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a nodi Balansau’r Gronfa Wrth Gefn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2017.

 

 

 

6.

TIRWEDDAU'R DYFODOL YNG NGHYMRU A MABWYSIADU GWELEDIGAETH (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE adroddiad ar Tirweddau’r Dyfodol: Yn Cyflawni dros Gymru – Adolygu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyd-bwyllgor yn craffu a chymeradwyo'r Adolygiad ac yn mabwysiadu'r weledigaeth a rennir o'r Adolygiad. 

Gofynnwyd i bob un o'r Ardaloedd Gwarchodedig ystyried mabwysiadu’r weledigaeth ar y cyd ganlynol gan Lywodraeth Cymru:

 

Cymru fel cenedl sy’n gwerthfawrogi ei dirweddau am yr hyn y maent yn ei ddarparu i bobl Cymru a thu hwnt.  Mae tirweddau dynodedig Cymru yn darparu o fewn a thu hwnt i’w ffiniau i wella eu hadnoddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol; darparu’r buddion lles mwyaf ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol gan wella’r rhinweddau gwirioneddol sy’n eu gwneud yn unigryw ac yn annwyl i bobl.

 

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog AHNE gyflwyno Adroddiad Blynyddol AHNE a oedd yn tynnu sylw at y gweithgareddau a gynhaliwyd gan y Tîm AHNE a’i bartneriaid.

 

Cyfeiriodd Swyddog AHNE at y prif bwyntiau i’w hystyried.

 

Yn ystod y drafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Ar hyn o bryd roedd gan Gyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy dros 190 o aelodau.

·       Roedd pum Gweithgor wedi’i sefydlu:

Ø  Cymeriad y Tirlun a’r Amgylchedd Adeiledig

Ø  Rheoli Tir a’r Amgylchedd Naturiol

Ø  Yr Amgylchedd Hanesyddol

Ø  Mynediad Hamdden a Thwristiaeth, a

Ø  Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

·        Roedd tirfeddiannwr Tomen y Rhodwedd wedi cytuno i roi mynediad i’r cyhoedd at y safle ac roedd giatiau ac arwyddion newydd wedi eu gosod.   Roedd Swyddogion wedi cynnal astudiaeth fanwl yn enwedig ar barcio a fu’n fater mawr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog AHNE a’r holl staff a oedd yn gwneud gwaith ar sail ddyddiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol yr AHNE.

 

 

 

8.

STRATEGAETH GWIRFODDOLWYR (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog Partneriaeth Cymunedol gyflwyno Strategaeth Wirfoddoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Roedd Strategaeth Gwirfoddoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cysylltu Camau Gweithredu Cynllun Rheoli AHNE i'r datblygiad o ran sut y mae’r gwasanaeth yn gweithio ac yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr.  Roedd y cynllun yn cyflenwi cyfnod o bum mlynedd a byddai’n cael ei adolygu’n flynyddol.  Roedd yn adnabod perthynas waith gyfredol gyda grwpiau gwirfoddoli, rhwystrau a manteision gwirfoddoli, a sut y gall y gwasanaeth wella a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y Gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod y dynodiadau yn yr adroddiad y gyson a chyfeirir atynt fel yr AHNE.

 

Cadarnhawyd y byddai gwaith cydweithredol yn digwydd gyda sefydliadau eraill.

 

PENDERFYNWYD bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo’r Strategaeth Wirfoddoli ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, dirprwyo’r gwaith o’i gyflwyno i'r Swyddog AHNE.

 

 

 

9.

DIWEDDARIAD O 'EIN TIRLUN DARLUNIADOL - Diweddariad ar Lafar

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog AHNE Cynorthwyol gyflwyno adroddiad ar lafar gyda diweddariad o’r Dirlun Darluniadol.

 

Roedd cytundeb drafft wedi’i lunio gyda Sir Ddinbych, Wrecsam a Safle Treftadaeth y Byd Swydd Amwythig i ddod â’r AHNE a Safle Treftadaeth y Byd ynghyd.  Roedd gwaith yn dal i gael ei wneud ar ymddiriedolaeth y gamlas ac afon. 

 

Roedd £ ¾ miliwn o gyllid allanol wedi dod i law yn ystod y 12 mis blaenorol.

 

Roedd y Swyddogion AHNE yn rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o gais am grant i gynnal Gŵyl Gerdded flynyddol Safle Treftadaeth y Byd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad.

 

 

 

10.

CRYNODEB O YMGYNGHORIADAU CYNLLUNIO AHNE HYDREF 2016 I FAWRTH 2017 (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 435 KB

Eitem er gwybodaeth yn unig.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr AHNE yr adroddiad er gwybodaeth yn unig.

 

Diolchwyd i Tony Hughes am ei waith i lunio'r adroddiad.

 

Roedd Swyddogion Cynllunio yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ceisio cyflogi Ymgynghorydd i gwmpasu’r 3 Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad.

 

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL (copi ynghlwm) pdf eicon PDF 372 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr AHNE yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

 

12.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

24 Tachwedd 2017, 23 Chwefror 2018, 22 Mehefin 2018 a 23 Tachwedd 2018.

 

Cofnodion:

Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 24 Tachwedd 2017.

 

Roedd y Swyddog AHNE am gael dyddiadau cyfarfodydd CLlLC i osgoi gwrthdaro cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD nodi dyddiadau’r dyfodol.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.