Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RUTHUN
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr B. Attridge (Cyngor Sir y
Fflint), Hugh Evans (CSDd), Ian Roberts (CBSW) a Paul Mitchell a Carol
Rothewell (CNC). Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
||
COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN, 2015 PDF 112 KB Derbyn Cofnodion
cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 26 Mehefin, 2015 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Clwydian Range and Dee
Valley Area of Outstanding Natural Beauty Joint Committee a gynhaliwyd ar
26 Mehefin 2015. Cywirdeb:- Hefyd yn
bresennol: - Nodwyd fod Tom Woodall yn cael ei gyflogi gan Gyngor Sir y Fflint
ac nid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Awgrymwyd hefyd
bod Martin Howarth yn cael ei restru cyn David Shiel ar y rhestr o swyddogion
yn bresennol. 5. Cyfansoddiad
Drafft a Chylch Gorchwyl y Bartneriaeth AHNE: - Gofynnodd y Cadeirydd am
eglurhad bod y farn a fynegwyd yn nodi
ei bod yn "annheg" y dylai Aelodau Etholedig yr Awdurdod Lleol gael
dirprwyon tra bod grwpiau eraill ddim yn cael rhai. Cyfeiriodd
y Cadeirydd at frawddeg olaf y trydydd paragraff ar dudalen 11 "Ar ben
hynny, ni fydd unrhyw ddirprwyo ar swyddogaethau gweithredol yn atal yr
Awdurdod ei hun rhag bod yn gyfrifol am y swyddogaethau hynny, a bydd hyn bob
amser yn cael ei gadw" a chyfeiriodd at yr angen am eglurhad. Eglurodd y Dirprwy
Swyddog Monitro/Cyfreithiwr mai’r Awdurdodau eu hunain sy’n peidio â bod yn
gyfrifol am y swyddogaethau o dan sylw. Mewn achos yr Awdurdod yn gofyn i'r Awdurdod arall i
gynnal swyddogaeth weithredol ar ei ran, byddai'n dal i gadw'r cyfrifoldeb
cyffredinol am gynnal y swyddogaeth benodol. Crynhowyd manylion dirprwyo swyddogaethau gweithredol gan
yr Awdurdod gan y DMO/S. Nodwyd
hefyd y dylid diwygio’r cyfeiriad at "Cais Cynllunio", yn y pedwerydd
paragraff ar dudalen 11, i ddarllen fel "Pwyllgor Cynllunio". PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r
cofnodion fel cofnod cywir. |
||
COFNODION CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 16 HYDREF, 2015 PDF 400 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Partneriaeth yr AHNE a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2015 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2015. Amlygodd
y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy y prif bwyntiau o fewn y
cofnodion a oedd yn cynnwys:- ·
Gwerth y Cynllun Arddangos Bathodyn AHNE
a oedd wedi ennyn busnesau lleol i gymryd rhan, ac amlinellwyd manteision y
cyrsiau. ·
Fframwaith a Chylch Gorchwyl yr AHNE. Cytunwyd y dylai
tymor swydd ar gyfer Cadeirydd y Partneriaethau fod yn flwyddyn o hyd, a bod
aelodau eraill yn cael eu dirprwyo ar gyfer pob categori. ·
Ystyriwyd a chytunwyd ar benodi Aelodau
i Grwpiau Gweithio mewn Partneriaeth. Mae manylion y
pum Gweithgorau wedi eu darparu. ·
Bellach roedd gan Gyfeillion AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 120 o aelodau.
Cytunodd y Pwyllgor fod llythyr o ddiolch yn cael ei
anfon i Gyfeillion AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cydnabod y gwaith a
wnaed ganddynt. Maent hefyd yn cymeradwyo’r awgrym eu
bod yn cael eu gwahodd i roi cyflwyniad i gyfarfod o'r Cydbwyllgor yn y
dyfodol, yn amlinellu'r gwaith a wnaed ganddynt. ·
Darparwyd manylion o ymweliadau safle,
ac amlygwyd pwysigrwydd cynnal y bartneriaeth. Cyfeiriodd
y Cadeirydd at werth a manteision cynyddu ymwybyddiaeth.
Darparodd Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
fanylion o ymweliadau safle i ddod a oedd yn cynnwys ymweliad â Chwarel
Aberduna, Yr Wyddgrug. PENDERFYNWYD - derbyn y cofnodion. |
||
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 240 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (copi'n amgaeedig). Cofnodion: Mae copi o’r rhaglen waith i’r dyfodol diweddaraf
wedi’i ddosbarthu yn flaenorol. Mae aelodau'r Cydbwyllgor yn ystyried y Rhaglen Waith i'r Dyfodol ac
amlygwyd y pwyntiau amlwg canlynol:- -
Mae’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynllun Rheoli AHNE wedi
ei gwblhau, ac mae'r ddogfen wedi'i ddosbarthu. -
Mae gwaith wedi cael ei wneud mewn perthynas â'r
Strategaeth Gwirfoddoli ac Allgymorth. -
Roedd y Bartneriaeth AHNE wedi’i sefydlu ac y byddai y
Cylch Gorchwyl yn cael ei ystyried gan y Cydbwyllgor. -
Roedd Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi’i benodi, a
darparwyd manylion am yr aelodaeth. -
Bellach roedd gan Gyfeillion AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy 120 o aelodau. -
Mae manylion y gwaith
a wnaed ar Facebook wedi’u darparu mewn perthynas â Phen-blwydd Bryniau Clwyd
yn 30 oed. -
Roedd staff yn mynychu
cyfarfodydd Twristiaeth a Datblygu Gwledig mewn perthynas â'r Strategaeth
Twristiaeth AHNE. -
Mae'r gweithredu a hyrwyddo llenyddiaeth newydd wedi ei
wneud mewn perthynas â'r Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy nad oedd
gwaith wedi cychwyn eto mewn perthynas â'r Prosiect Trefoli, oedd yn golygu
mynd i mewn i gytundeb â NEWTRA a Phriffyrdd yr Awdurdod Lleol i barchu natur
wledig yr AHNE. PENDERFYNWYD - Derbyn yr
adroddiad a nodi’r cynnwys. |
||
CEISIADAU CYNLLUNIO AHNE Y PENDERFYNWYD ARNYNT PDF 366 KB Derbyn crynodeb o
Ymgynghoriadau Cynllunio AHNE ar gyfer y cyfnod Ebrill, 2015 hyd at fis Medi,
2015 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Crynodeb o Ymgynghoriadau Cynllunio AHNE ar gyfer y
cyfnod o fis Ebrill, 2015 i fis Medi 2015 eisoes wedi'u dosbarthu er
gwybodaeth. Ystyriodd y Cydbwyllgor y crynodeb o Ymgynghoriadau Cynllunio AHNE a
ddosbarthwyd. Cyfeiriodd y Cadeirydd at achosion mewn adroddiadau lle mae pryderon wedi'u
mynegi a dewisiadau eraill wedi cael eu hawgrymu. Teimlai y byddai o
fantais pe gellid darparu arwydd ynghylch a ydi argymhellion o'r fath wedi cael
eu derbyn. Awgrymodd y Swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy y gellid cyflawni hyn drwy ddefnyddio proses codio lliw. Cefnogodd y
Pwyllgor yr awgrym y dylid archwilio Ceisiadau Cynllunio a gyflwynir dros
gyfnod o nifer o flynyddoedd, mewn perthynas â'r AHNE a Safle Treftadaeth y
Byd, i weld a oeddent wedi cael eu derbyn. Awgrymodd y Cadeirydd y gellid manteisio ar y cyfle i argymell y gellid
defnyddio cyllid Adran 106 gan rai o'r prosiectau. Eglurodd y Swyddog ANHE Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fod 103 o Geisiadau wedi dod i law. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Cynllunio AHNE Bryniau Clwyd am y gwaith a wnaed mewn
perthynas â'r ceisiadau a dderbynnir. PENDERFYNWYD – y dylid
derbyn yr adroddiad a nodi a gweithredu’r sylwadau. |
||
CYFLWYNIAD EIN TIRWEDD DDARLUNIADWY I dderbyn cyflwyniad, "Ein Tirwedd
Ddarluniadwy", gan yr Uwch Swyddog Hamdden (CSDd). Cofnodion: Esboniodd yr Uwch Swyddog Hamdden (CSDd) (USH) mai "Ein Tirlun
Darluniadwy” a fyddai un o brif ffocws y gwaith ar gyfer y Tîm AHNE dros y
saith mlynedd nesaf. Eglurwyd mai dyma’r ail Gais a wnaed i Gronfa
Dreftadaeth y Loteri, a oedd yn cynnwys ardal wahanol i'r Cais cyntaf. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gofyn i faes
penodol gael ei nodi a chefnogwyd yr ail Gais. Eglurwyd bod y Prosiect
Darluniadwy yn seiliedig ar dirlun ysbrydoledig Dyffryn Afon Dyfrdwy a'i Llwybrau
Hanesyddol. Derbyniodd y
Cydbwyllgor gyflwyniad, "Ein Tirwedd Ddarluniadwy", gan yr Uwch
Swyddog Hamdden (CSDd) a oedd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â "Ein
Darluniadwy":- -
Siwrneiau’r Gorffennol. -
Gwerth Treftadaeth. -
Angen Prosiect. -
Partneriaid y Prosiect. -
Yr hyn yr hoffem ei wneud. -
Cymunedau Ymgysylltiol. -
Mynediad i'r Darluniadwy. -
Gwarchod y
Darluniadwy. Dosbarthwyd copi o'r cyflwyniad yn y cyfarfod. Cytunwyd
hefyd i fersiwn electronig o'r
cyflwyniad gael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor, ynghyd â chopi o'r crynodeb
byr o'r prosiect a fyddai'n cael ei ddosbarthu gyda'r disgrifiad swydd. Ymatebodd y USH i gwestiwn oddi wrth y Cadeirydd a chadarnhaodd y byddai
map llwybr neu raglen waith i’r dyfodol ar gael mewn pryd mewn tua pedair mis
ar ddeg. Eglurodd y byddai cyfweliad ar gyfer Rheolwr
Prosiect ym mis Ebrill, 2016. Hysbyswyd yr Aelodau mai AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a fyddai’n
bartner arweiniol ar gyfer y prosiect, gyda chyfrifoldeb a rennir, a fyddai'n
cael ei fonitro gan CDL. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau y byddai adroddiadau
diweddaru rheolaidd yn cael eu cyflwyno i'r Cydbwyllgor. Mae effaith y prosiect ar Ogledd Ddwyrain Cymru, o ran cysylltiadau
allgymorth a phrosiect, wedi’u darparu gan yr USH. Amlygodd y
Cynghorydd D. Butler y pwysigrwydd o sefydlu cysylltiadau gyda'r gymuned leol
ac i ddatblygu Map Reidiau Ardaloedd Gwledig. Cyfeiriodd y Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy at y safon uchel ac amrywiaeth o gysylltiadau cludiant
cyhoeddus sydd ar gael yn yr ardal, a chyfeiriwyd yn arbennig at y gwasanaethau
bws lleol a thacsis dŵr. Eglurodd yr USH bod y Prosiect wedi deillio o'r
meysydd a nodwyd yn y gwaith o reoli Cynllun Treftadaeth y Byd a Chynllun
Rheoli AHNE, lle mae'r cyhoedd wedi mynegi ffafriaeth am deithiau cerdded byr. Pwysleisiwyd y
byddai'n bwysig i adeiladu a datblygu ar y wybodaeth a dderbyniwyd gan y
cymunedau lleol a oedd wedi dod i law drwy ymgynghoriadau cyhoeddus. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
||
CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR PDF 104 KB I dderbyn
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (CSDd) (copi’n amgaeedig) ar Gyllideb y
Cydbwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd yr
adroddiad yn flaenorol gan yr Uwch Gyfrifydd Rheoli (CSDd) sy’n rhoi manylion
sefyllfa monitro cyllideb refeniw yr AHNE ar gyfer 2015/16 yn ogystal â'r
gyllideb arfaethedig ar gyfer 2016/17. Mae'r UGRh, gyda chymorth gan yr Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd (CSDd),
wedi cyflwyno’r adroddiad a oedd yn
darparu crynodeb o gyllideb refeniw yr AHNE ar gyfer 2015/16, fel y
manylir yn Atodiad 1. Roedd cyllideb gwariant gros yr AHNE yn £420K, gyda’r
sefyllfa yn ragolwg gorwariant o £3k. Mae'r adroddiad hefyd
yn rhoi crynodeb o'r gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2016/17 yn Atodiad
2, sy'n cynnig cyllideb gwariant gros o £440K. Caiff y gyllideb ei chyflwyno fel 2 ran; Craidd a Rhanbarthol. Mae'r gyllideb
Craidd yn ymwneud â'r swyddogaethau hynny sy'n isafswm swm cyfredol sy'n
ofynnol i weithredu'r gweithgareddau AHNE yn ystod y flwyddyn gyfredol. Eglurwyd y gall
y gyllideb amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar gyllid allanol a mewnol. Mae'r gyllideb
Ardal yn ymwneud â gwariant i gyflawni prosiectau yn y gwahanol ardaloedd ALl
o’r AHNE. Gallai'r gyllideb gynnwys staff nad ydynt yn rhai
craidd yn gweithio ar brosiectau penodol yn yr AHNE yn ystod y flwyddyn. Bydd y gyllideb
hon yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn a hyd yn oed o fewn y flwyddyn yn dibynnu
ar gynnydd y prosiect a ffynonellau cyllid. Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod y codiad gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei gynnwys yn y cronfeydd wrth gefn. Hysbyswyd yr Aelodau fod y ffigyrau Yswiriant Gwladol a Phensiynau wedi
cael eu hymgorffori yn y ffigurau yn Atodiad 2. Fodd bynnag, nid yw lwfans ar
gyfer dyfarniad cyflog wedi ei gynnwys. Cadarnhawyd y gallai
hyn fod yn oddeutu 1%. Hysbyswyd y Pwyllgor bod lwfans wedi cael ei
gynnwys ar gyfer y posibilrwydd o gynnwys swydd Partneriaeth Gymunedol. Cyfeiriodd y Cynghorydd H.Ll. Jones
at y gyllideb o £1.5k ar gyfer gwisgoedd ar gyfer 2016/17, a oedd wedi'u
cynnwys yn Atodiad 2. Rhoddodd y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fanylion dyraniad o’r
gyllideb mewn perthynas â nifer y staff. Hysbysodd y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy y Pwyllgor y bu cynnydd o £1.4k mewn perthynas â'r tanysgrifiadau i
Gymdeithas Genedlaethol y AHNEau Roedd manylion risgiau posib a’r broses ymgynghori a gynhaliwyd wedi’u
hymgorffori yn yr adroddiad. Cadarnhawyd y gallai unrhyw newidiadau i lefelau
incwm beri risg i gyflwyno prosiectau yn y dyfodol a'r gallu i gyflawni yn
erbyn y blaenoriaethau yn y Cynllun Rheoli AHNE. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor:- (a)
yn nodi'r
cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer y flwyddyn
ariannol eleni, fel yn Atodiad 1, ac yn (b) cymeradwyo cyllideb arfaethedig 2016/17 |
||
SWYDD BOSIBL PARTNERIAETH GYMUNEDOL CYFOETH NATURIOL CYMRU PDF 185 KB I dderbyn
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad (copi’n amgaeedig) am y potensial i
sefydlu Swydd Partneriaeth Gymunedol ar gyfer rhan ddeheuol yr AHNE mewn
partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad (CSDd) ei ddosbarthu yn
flaenorol am y potensial i sefydlu Swydd Partneriaeth Gymunedol ar gyfer rhan
ddeheuol yr AHNE mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Hysbyswyd y Cydbwyllgor gan yr
Uwch Swyddog Cefn Gwlad bod penderfyniad wedi cael ei geisio i sicrhau bod
adnoddau ar gael er mwyn cael arian cyfatebol ar gyfer Swydd ar y cyd rhwng
AHNE – CNC. Ers 2011 mae AHNE Bryniau Clwyd wedi ei ymestyn i ymgorffori Dyffryn
Dyfrdwy, ac ers 2011 nid oes unrhyw adnodd staffio ychwanegol wedi bod i helpu
ddatblygu cysylltiadau gyda'r cymunedau hyn i gwrdd â'r potensial i ddatblygu
gwaith prosiect. Felly, mae'n fwy anodd i’r cymunedau hyn gael mynediad at y manteision a
ddaw yn sgil bod yn rhan o'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar hyn o bryd mae gan yr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drefniant partneriaeth gyda thimau
gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan ganolog o Fryniau Clwyd, o amgylch
ystâd goedwig Cyfoeth Naturiol Cymru ym Moel Famau, Nercwys a Llangwyfan. Mae'r swydd Ceidwad
Cymunedol a ariannwyd mewn partneriaeth ar y cyd wedi bod yn llwyddiannus wrth
ddatblygu nifer o brosiectau cymunedol o amgylch bioamrywiaeth, pobl ifanc ac
ysgolion, sgiliau a gwelliannau mynediad, ac wedi cyrraedd cymunedau yn Sir y
Fflint a Sir Ddinbych. Mae yna botensial i ehangu’r
bartneriaeth hon i Ddyffryn Dyfrdwy am gyfnod o 2 flynedd ac i greu Swydd
Ceidwad Partneriaeth arall i weithio'n benodol gyda chymunedau o rannau newydd
yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Roedd CNC wedi dyrannu adnoddau i ariannu’r swydd yn
rhannol ac roeddent yn awyddus i ehangu'r bartneriaeth i ardal ddeheuol yr
AHNE. Byddai'r Swydd yn caniatáu i'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
ddatblygu gwaith prosiect gyda'r cymunedau yn y rhan newydd o'r Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol, yn arbennig allbynnau gan gynnwys:- ·
Datblygu Ceidwaid Ifanc
ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy ·
Cyfleoedd i wirfoddoli ·
Hyfforddiant mewn
sgiliau traddodiadol ·
Prosiectau cadwraeth
bywyd gwyllt cymunedol. ·
Prosiectau ysgol ·
Gwelliannau mynediad -
teithiau cerdded cylchol Byddai cost y swydd Warden yn
gyfraniad gan CNC o £12,000 y flwyddyn am ddwy flynedd, gyda £12,000 y flwyddyn
am ddwy flynedd yn cael ei geisio gan yr AHNE. Mae manylion y bwriad a chanlyniad yr Asesiad Effaith ar
Gydraddoldeb a gynhaliwyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Teimlai'r Cynghorydd D. Butler ei fod wedi bod yn gam rhagweithiol i
hyrwyddo’r swydd a mynegodd ei gefnogaeth ar gyfer y penodiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y swyddogion bod
adnoddau digonol wedi cael eu neilltuo i gefnogi ymgymryd â’r gwaith
cysylltiedig. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn darparu adnoddau i gyd-fynd â chyfraniad cyfatebol o gronfa CNC
at Swydd Partneriaeth. |
||
I dderbyn
adroddiad gan y Swyddog AHNE (copi'n amgaeedig) ar Fframwaith a Chylch Gorchwyl
Partneriaeth yr AHNE. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad yn flaenorol gan Swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
(CSDd). Eglurodd y Swyddog ANHE
bod y ddogfen newydd wedi cael ei hadolygu eto gan Swyddogion Gweithgor AHNE ar 10 Medi,
2015. Ymgynghorwyd â Phartneriaeth AHNE ar 16 Medi, 2015, ac ail-ymgynghorodd y
Cyd-bwyllgor ar 22 Medi, 2015. Mae’r Cyfansoddiad a’r Cylch Gorchwyl diwygiedig
wedi ei gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad. Eglurodd y Swyddog AHNE fod Aelodau'r Bartneriaeth yn bartneriaid allweddol
wrth gyflwyno’r Cynllun Rheoli, ac y byddai'r ddogfen ddiwygiedig yn cyfrannu
tuag at lywodraethu effeithiol. Hysbyswyd y Cydbwyllgor mai sero fyddai’r gost, ac
eithrio amser swyddogion, a bod copi o'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
(EqIA) a wnaed ar y penderfyniad wedi ei gynnwys fel Atodiad 2 i'r adroddiad. Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhawyd y byddai gofyniad i
gydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg a chadarnhaodd Cyfreithiwr (CSDd) y
gallai hyn gael ei gynnwys yn y ddogfen. Gwnaeth y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyfeirio'n benodol at y Pwyntiau canlynol o fewn Atodiad 2:- -
Pwynt 5 - y frawddeg "Nid
yw’r Cydbwyllgor hwn yn gorff allanol". Pwysleisiodd y Cyfreithiwr (CSDd) nad oedd y Cydbwyllgor a Phartneriaeth
AHNE yn gorff allanol, ond bod Cydbwyllgor o'r tri Awdurdod perthnasol. Tynnodd y Swyddog
ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sylw'r Aelodau at Atodiad 2,
sef y Diagram o Strwythur AHNE. -
Pwynt 16 - Cytunwyd bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y
Bartneriaeth yn cael eu hethol gan y Bartneriaeth AHNE llawn am gyfnod o 1
flwyddyn. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Butler,
cadarnhaodd y Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy bod cytundeb wedi’i wneud y gallai unrhyw Aelod o'r
Bartneriaeth gael ei benodi/phenodi'n Gadeirydd neu Is-gadeirydd. -
Pwynt 26 - Cael ei ddiwygio i ddarllen fel "Mae’r
Swyddog AHNE a Swyddog CNC gyda’r awdurdod dirprwyol i benderfynu ceisiadau am
grantiau o hyd at £3000". Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd dyma’r Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor yn
diolch i'r swyddogion am y gwaith a wnaed. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn cefnogi Fframwaith a Chylch Gorchwyl y Bartneriaeth AHNE. |
||
ADRODDIAD CYNLLUN DIRPRWYO CYNLLUNIO AHNE PDF 127 KB I dderbyn
adroddiad gan y Swyddog AHNE (copi'n amgaeedig) ar yr ymateb i ymgynghoriadau
cynllunio a datblygiad y cyfeirir at yr AHNE ar gyfer sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol
gan y Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn galluogi'r Cydbwyllgor i ymateb mewn modd
amserol, effeithiol ac effeithlon i ymgynghoriadau cynllunio, gan yr Awdurdodau
awdurdodau cyfansoddol. Eglurodd y Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mai un o swyddogaethau'r Cydbwyllgor ar gyfer AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw
ymateb i ymgynghoriadau cynllunio a datblygu y cyfeirir at yr AHNE am sylwadau. Mae'r rhan
fwyaf o ymgynghoriadau yn ymwneud â chynigion yn yr AHNE, ond maent hefyd yn
cynnwys y rhai y tu allan i'r ardal ddynodedig sydd o fewn lleoliad y dirwedd
warchodedig all effeithio ar yr AHNE. Darparodd Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Gyd-Gynllun Dirprwyo
Ymgynghoriadau Cynllunio a Datblygu AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn
Atodiad 1 i'r adroddiad. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Cyd-Gynllun Dirprwyo
Ymgynghoriadau Cynllunio a Datblygu AHNE wedi gosod fframwaith ar gyfer yr AHNE
i gynyddu nifer y Ymgynghoriadau Cynllunio y mae'n cyfrannu ato. Cadarnhawyd mai
sero fyddai’r gost, ac eithrio amser swyddogion, a bod y Swyddog AHNE wedi
ymgynghori gydag adran Gyfreithiol Sir Ddinbych i wirio bod Swyddogion AHNE yn
cyfarfod ac yn dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol cywir. Ar hyn o bryd mae Swyddog Cynllunio AHNE yn derbyn dros 150 o geisiadau bob
blwyddyn; mae hyn wedi cynyddu 50% ers ymestyn yr AHNE i Ddyffryn Dyfrdwy. Fodd bynnag,
dim ond 2 ddiwrnod yr wythnos wnaeth Swyddog Cynllunio AHNE ei weithio oni bai
na ellid ymateb i ddirprwyo ychwanegol o fewn modd amserol i roi cynigion
cynllunio a datblygu. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd dyma’r Cadeirydd yn diolch i'r swyddogion
am y gwaith a wnaed o ran y Ceisiadau a dderbyniwyd. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn mabwysiadu'r Cynllun Dirprwyo i Ymgynghoriadau Cynllunio a
Datblygu fel yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
||
ADRODDIAD YMGYNGHORIAD AR Y CYNLLUN RHEOLI PDF 148 KB I dderbyn
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad (copi'n amgaeedig) ar yr Ymgynghoriad
ar Reoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol ar yr ymgynghoriad ar Gynllun Rheoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy. Hysbyswyd y Cydbwyllgor gan yr USCG bod angen penderfyniad i fabwysiadu'r
Cynllun Rheoli AHNE yn ffurfiol. Daeth y cyfnod ymgynghori ar gyfer Rheoli AHNE i
ben ym mis Awst 2015, ac roedd y Cynllun Rheoli wedi’i ddiwygio lle bo hynny'n
briodol, yn unol â’r ymatebion a dderbyniwyd. Cafodd yr Adroddiad
Ymgynghori ei gynnwys gyda'r rhaglen. Eglurodd yr USCG bod gan yr Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol o dan
Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gynhyrchu Cynllun Rheoli a'i adolygu
bob 5 mlynedd. Mae'r Cynllun yn gosod agenda ar gyfer rheoli'r
AHNE yn unol â Rhinweddau a Nodweddion Arbennig a nodwyd, ac wedi’i wneud o
Strategaeth Rheoli, Adroddiad ar Gyflwr yr AHNE a Chynllun Gweithredu 5
Mlynedd. Eglurwyd bod y Cynllun Drafft wedi cael ei ystyried gan y Bartneriaeth AHNE
yn ei gyfarfod ar 15 Mai, 2015. Cafwyd cadarnhad bod adnoddau wedi eu nodi i
gyhoeddi'r Cynllun o fewn y gyllideb gyffredinol, a byddai'r gwariant yn cael
ei fonitro gydag unrhyw amrywiadau yn cael eu hadrodd trwy’r broses o fonitro'r
gyllideb. Mae risg i enw da’r AHNE a'r Awdurdodau Lleol gyda
methiant i gyhoeddi'r Cynllun Rheoli Statudol, gan y gallai cyllid gan CNC a
Llywodraeth Cymru gael ei dynnu’n ôl. Canmolodd y Cynghorydd D. Butler yr adroddiad a'r gwaith a wnaed, a
mynegodd y farn y bydd y lliwiad a’r ffotograffau a ddefnyddir wedi darparu
blas o’r ardal. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn mabwysiadu'n ffurfiol Cynllun Rheoli AHNE 2014 - 2019. |
||
DYHEADAU DYFFRYN CEIRIOG I'W GYNNWYS YN YR AHNE Ystyried
adroddiad ar lafar gan Gadeirydd y Cydbwyllgor. Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan sefydliadau amrywiol
yn Nyffryn Ceiriog, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, yn gofyn am gefnogaeth y
Cydbwyllgor ar gyfer cynnwys Dyffryn Ceiriog yn yr AHNE. Eglurodd fod yr ohebiaeth a dderbyniwyd yn gofyn y dylid ceisio barn
Aelodau ar y posibilrwydd fod y Pwyllgor, fel Cydbwyllgor statudol, yn cyflwyno
adroddiad i'r corff priodol gan wneud argymhellion i gynnwys Dyffryn Ceiriog yn
yr AHNE. Mynegodd y Cynghorwyr H.Ll. Jones a D. Butler y
farn y byddai hyn yn fater adnoddau. Eglurodd y Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy y byddai'n rhan o gylch gwaith Cyfoeth Naturiol
Cymru i wneud argymhellion o'r fath, ac i Lywodraeth Cymru i gymeradwyo'r
argymhellion. Cyfeiriodd at yr ardal helaeth dan sylw a barn a
fynegir gan eraill sydd â diddordeb, megis Cyngor Sir Powys a chymunedau
ffermio, a lefel y gefnogaeth y gellid eu sicrhau. Eglurwyd gan Swyddog ANHE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy y byddai angen yr egwyddor yn yr achos hwn i
ddeillio o Lywodraeth Cymru, a oedd ar hyn o bryd yn adolygu tirweddau
gwarchodedig. Teimlai y gellid mewn egwyddor gynnig cefnogaeth gan y
Cydbwyllgor pe bai Aelodau yn dymuno hynny, ac awgrymodd y gallai'r mater gael
ei ddilyn gan geisio cael cefnogaeth Aelodau'r Cynulliad perthnasol a
Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunwyd bod ymatebion yn cael eu
hanfon, mewn ymateb i'r ohebiaeth a dderbyniwyd, gan esbonio bod y cais wedi
cael ei drafod a’u bod yn deall rhinweddau'r achos. Fodd bynnag,
mae pryderon wedi'u mynegi gan y Pwyllgor fod y mater hwn wedi bod yn seiliedig
ar adnoddau. Roedd Aelodau hefyd wedi nodi bod Llywodraeth Cymru
wrthi'n cynnal adolygiad o dirweddau dynodedig, ac y gallai'r cyswllt priodol
fod trwy Aelodau'r Cynulliad neu Weinidogion Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Swyddog ANHE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy y byddai swyddogion yn hapus i gysylltu a gweithio gyda Phartneriaeth Y
Waun a Dyffryn Ceiriog. PENDERFYNWYD - bod y
Cydbwyllgor yn cytuno:- (a)
derbyn yr adroddiad a
nodi’r safbwynt; (b)
bod ymatebion yn cael eu
hanfon, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor, yn ymateb i'r ohebiaeth a dderbyniwyd, a (c)
bod swyddogion yn
cysylltu ac yn gweithio gyda Phartneriaeth Y Waun a Dyffryn Ceiriog. |
||
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL Ystyried
dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol o Gydbwyllgor Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:- 24 neu 17
Mehefin, 2016 25 neu 18
Tachwedd, 2016 Cofnodion: Ystyriwyd y dyddiadau canlynol ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol o Gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:- 17 neu 24
Mehefin, 2016 18 neu 25
Tachwedd, 2016 Cytunodd y Pwyllgor fod Swyddog
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cysylltu ag Aelodau'r Cydbwyllgor a
chytuno ar ddyddiadau addas. Hysbysodd y DMO/S yr Aelodau mai
cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor fydd y cyfarfod blynyddol, a byddai'r agenda yn
cynnwys eitem fusnes yn ymwneud â Phenodi Cadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer y
flwyddyn ddilynol. PENDERFYNWYD :- (a)
Bod Swyddog AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cysylltu ag Aelodau o'r Pwyllgor ac yn
cytuno ar ddyddiadau addas ar gyfer cyfarfodydd Cydbwyllgor AHNE Bryniau Clwyd
a Dyffryn Dyfrdwy yn y dyfodol, a (b)
bod yr agenda ar gyfer
cyfarfod mis Mehefin, 2016 yn cynnwys eitem fusnes yn ymwneud â Phenodi
Cadeirydd y Cydbwyllgor am y flwyddyn ddilynol.
|