Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD

Cofnodion:

Agorwyd y cyfarfod gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaethau Ceidwaid. Croesawodd bawb i’r cyfarfod ac awgrymodd wrth y Cadeirydd, y Cynghorydd David Hughes a’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Nigel Williams fod Win Mullen-James - a oedd yn bresennol yn Siambr y Cyngor - yn cadeirio’r cyfarfod oherwydd bod modd iddynt weld rhai a oedd yn bresennol ar-lein ac yn y Siambr. Cytunodd y Cynghorwyr Hughes a Williams.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Aelod y Cyd-bwyllgor, y Cynghorydd Emrys Wynne (Cyngor Sir Ddinbych).

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

2.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR BLAENOROL (HS) pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried cofnodion (copi ynghlwm) cyfarfod blaenorol Cydbwyllgor AHNE a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022.

 

Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir.

 

Materion yn codi:

 

Eitem 4 – Amrywiad i gytundeb cyfreithiol i gynyddu aelodaeth y Cyd-bwyllgor i dri fesul Awdurdod. Nodwyd bod Cyfansoddiad Cyngor Sir Ddinbych yn caniatáu enwebu dirprwy gynrychiolydd pe na bai unrhyw un o’i aelodau’n gallu mynychu. Nid oedd cadarnhad wedi dod i law o ran sefyllfa Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Swyddog AHNE i ddilyn trywydd hyn gyda CBSW.

 

Eitem 6 – Cofnodion Drafft cyfarfod blaenorol Partneriaeth yr AHNE. Roedd gwobr yn cael ei chyflwyno i’r Grid Cenedlaethol am eu Menter Gwella Tirwedd. Roedd gwahoddiadau wedi’u dosbarthu i’r seremoni wobrwyo.

 

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022 yn cael eu cymeradwyo.

 

3.

COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE (HS) pdf eicon PDF 338 KB

Nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022 er gwybodaeth.

 

Roedd nifer o Wasanaethau wedi bod yn rhan o gynllun gweithredu er mwyn osgoi’r tagfeydd yn Rhaeadr y Bedol yn ystod y blynyddoedd blaenorol gan gynnwys:

·       Rhwystr uchder ar y maes parcio a fyddai’n atal cerbydau mawr rhag mynd i mewn i’r maes parcio.

·       Sicrhau llinellau melyn gweladwy.

 

Cafodd Baddondy Rhufeinig Prestatyn ei gynnwys mewn arddangosfa yn Llyfrgell Prestatyn, a oedd yn boblogaidd iawn, yn enwedig gyda grwpiau ysgol.

 

PENDERFYNWYD: Nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.

4.

COFNODION DRAFFT EIN PARTNERIAETH TIRLUN DENIADOL (DS) pdf eicon PDF 346 KB

Nodi cofnodion drafft ein Partneriaeth Tirlun Deniadol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023. 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 er gwybodaeth.

 

Roedd gwaith wedi’i gwblhau ym Mhorthdy Castell Dinas Brân. Roedd y rwbel a gafodd ei symud fel rhan o’r gwaith cloddio wedi’i ddefnyddio i wella’r llwybr mynediad igam-ogam.

 

Byddai’r gwasanaeth Bws Darluniadwy yn rhedeg am y drydedd flwyddyn o amgylch safleoedd yn ardal Dyffryn Dyfrdwy gan gynnwys maes parcio Pafiliwn Llangollen, er mwyn helpu i liniaru rhai o’r materion parcio.

 

Roedd gwaith paratoi’n mynd rhagddo gan weithio gydag artistiaid lleol a chymunedau ar gyfer arddangosfa olaf y flwyddyn yn Oriel Dory yn Llangollen.

 

Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng y Bartneriaeth a chyllid y Loteri am bosibilrwydd o ymestyn y prosiect, i wneud iawn am y 2 flynedd a gollwyd i gyfyngiadau Covid.

 

PENDERFYNWYD: nodi cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023.

 

5.

ADOLYGIAD 10 MLYNEDD A DIWEDDARIAD LLYWODRAETHU AHNE 2023 Ar lafar (HS)

Derbyn diweddariad ar lafar gan Swyddog a Rheolwr Gwasanaeth Ceidwad AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

 

Cofnodion:

Atgoffodd Swyddog yr AHNE a Rheolwr y Gwasanaethau Ceidwaid, Howard Sutcliffe (HS) y Pwyllgor fod y cytundeb cyfreithiol ar gyfer y Cyd-bwyllgor wedi’i adolygu a’i ddiweddaru 18 mis yn ôl. Wrth symud ymlaen, byddai adolygiad yn cael ei gynnal o’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Bartneriaeth a chylch gorchwyl newydd ar gyfer y Cefnogwyr, yn ogystal ag adolygu’r gweithgorau, gan eu cysylltu â phenawdau penodau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Rheoli.

 

Roedd ymgyrch recriwtio ar gyfer Cefnogwyr AHNE o Gynghorau Cymuned i gynorthwyo â gwaith cadwraeth ymarferol a stiwardio ardaloedd prysur ar benwythnosau yn mynd rhagddo. Bu cyfarfod yng Ngholeg Llysfasi a groesawyd, roedd adborth yn cynnwys awydd am gyswllt mwy rheolaidd.

 

Byddai hyfforddiant ar gyfer Cefnogwyr AHNE / ceidwaid gwirfoddol yn dechrau cyn hir.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad ar yr adolygiad 10 mlynedd a llywodraethu’r AHNE.

 

6.

ADRODDIAD ARIANNOL BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR (Eitem Sefydlog)(SG a PO’H) pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ac Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd (SG) nad y datganiad blynyddol oedd yr adroddiad – roedd hwnnw wedi’i gymeradwyo yn y cyfarfod blaenorol – ond adroddiad monitro arferol oedd hwn.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos nad oedd achos pryderu, er gwaetha’r cyfnod anodd o chwyddiant uwch. Ni fu unrhyw orwariant ac o ganlyniad i arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, dim ond ychydig o gyllid a ddefnyddiwyd o’r cronfeydd wrth gefn, a fyddai’n cael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd, Paula O’Hanlon, am ei chymorth parhaus â cheisiadau grant a chyllidebu ac ati, gan bwysleisio pwysigrwydd dilyniant ar ddarparu prosiectau’r AHNE.

 

PENDERFYNWYD: nodi Sefyllfa Derfynol a Chyfrifon 2022/23 Cyd-bwyllgor yr AHNE.

 

 

7.

DIWEDDARIAD PARC CENEDLAETHOL AR GYFER GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU (CNC)

Derbyn diweddariad gan gynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cofnodion:

Rhoddodd HS y wybodaeth ddiweddaraf am roi Statws Parc Cenedlaethol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru o neges e-bost a ddaeth i law gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Eglurodd ei bod yn broses ddeddfwriaethol araf, ond gobeithiwyd y byddai modd sefydlu statws Parc Cenedlaethol cyn diwedd tymor y Senedd (Mai 2026).

 

Roedd tîm cyfan wedi’i benodi i’r prosiect yn 2022 ac roeddent wedi dechrau gwaith yn yr ardal chwilio. Rhagwelwyd y byddent mewn sefyllfa cyn hir i rannu’r wybodaeth honno gyda budd-ddeiliaid – Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgor yr AHNE ac ati. Byddai cynrychiolydd o CNC, Ash Pierce, yn cael gwahoddiad i gyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE ar 23 Mehefin.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor i Gyd-bwyllgor yr AHNE fod yn rhan o ymgynghoriad ystyrlon dros yr ardal chwilio a gytunwyd yn hytrach na’i fod yn cael ei ddarparu fel fait accompli.

 

PENDERFYNWYD:

       I.          Bod diweddariad e-bost CNC yn cael ei ddosbarthu i aelodau Cyd-bwyllgor yr AHNE a

     II.          bod yr adroddiad diweddaru ar Barc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei nodi.

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL (Eitem Sefydlog) pdf eicon PDF 555 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol (copi ynghlwm) gan y Swyddog AHNE.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd HS y rhaglen gwaith i'r dyfodol a rhoddodd ddiweddariad ar lafar ar gynnydd yr eitemau a restrwyd, gan amlygu:

 

·       Roedd newidiadau i ddyraniadau grant CNC gan arwain at golli £20,000 wedi’i gwmpasu gan Gyllid Llenwi Bwlch Llywodraeth Cymru.

·       Roedd y Cynllun Twristiaeth yn datblygu, roedd Eryri Bywiol wedi’u comisiynu i ddarparu golwg ar y cyd.

·       Roedd gan raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy ddwy flynedd arall i redeg.

·       Roedd dau Swyddog Ffermio/Ymgysylltu wedi’u penodi.

·       Roedd prosiect Awyr Dywyll Cymru Gyfan yn datblygu’n dda. Roedd 5 digwyddiad wedi’u cynnal yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o’r prosiect Awyr Dywyll.

·       Roedd cais wedi’i gyflwyno i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol – dim ond 8 cais oedd yn cael eu derbyn bob blwyddyn.

·       Roedd Canllawiau Cynllunio Atodol Goleuo Da wedi’u cymeradwyo ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – roedd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ar ei fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

 

9.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

Er gwybodaeth, dyddiadau cyfarfodydd nesaf Cydbwyllgor AHNE yw:

 

·       23 Mehefin 2023 (CBC) ac

·       17 Tachwedd 2023 (CSFf)

 

 

Cofnodion:

Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal cyfarfod byr ar 23 Mehefin 2023 ac wedyn taith o amgylch yr AHNE [Karen Weaver i wirio argaeledd a threfnu]

 

PENDERFYNWYD: nodi dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.45 am