Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Cynhadledd Fideo

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac

Alan Price, Swyddog Partneriaeth y Gogledd Ddwyrain,  Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

2.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11.9.20 11 MEDI 2020 pdf eicon PDF 371 KB

Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 11 Medi 2020 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 11 Medi 2021.  Cytunwyd eu bod yn gyfnod cywir ac nid oedd unrhyw fater yn codi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 11 Medi 2020.

 

 

3.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 19 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 473 KB

Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd y cofnodion drafft Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2021 er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi cofnodion drafft Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

 

4.

DIWEDDARIAD AR GYLLID Y CYDBWYLLGOR pdf eicon PDF 218 KB

Adroddiad Eitem Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynir gan Steve Gadd - Pennaeth Cyllid ac Eiddo a Paula O’Hanlon - Senior Finance – Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Mae’r adroddiad yn darparu crynodeb o sefyllfa refeniw derfynol amcanol yr AHNE ar gyfer 2020/21 a fanylir yn Atodiad 1. Mae'r sefyllfa refeniw derfynol yn dangos cyfraniad o £11,705 o’r gronfa wrth gefn. Mae £2,614 o’r swm hwn yn cefnogi’r gyllideb refeniw a’r £9,091 arall yn ariannu aelod o staff dros dro rhan-amser drwy grant Llywodraeth Cymru (cronfeydd wedi’u derbyn).

 

Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo a fu yna lwyddiant yn gwneud cais am grantiau Covid er mwyn parhau i allu cydymffurfio â chanllawiau Covid ar gyfer ymwelwyr i atyniadau twristiaid poblogaidd.  Trafodwyd y problemau ynglŷn â phan fydd rheolau’r cyfnod clo eu llacio, ni fyddai capasiti yn y meysydd parcio ar gyfer y nifer o ymwelwyr.  Roedd hon yn broblem ar draws y Sir ac roedd angen gweithio gyda’r Adran Priffyrdd a Heddlu Gogledd Cymru.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y byddai cyllid Covid ar gael am y chwe mis nesaf ac roedd angen llenwi ffurflen hawlio gwariant misol.  Roedd pob Awdurdod Lleol yn cydnabod y byddai hyn yn bwysau wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD - Nodi'r rhagolwg diweddaraf o sefyllfa ariannol derfynol yr AHNE ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1) a chynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

 

5.

DIWEDDARIAD MAES:

·    PROSIECT PARC POCED WENFFRWD A MOEL FAMAU (Llafar) (DS)

·    SMS A PHWYSAU YMWELWYR YN YSTOD COVID (Llafar) (RJ)

·    EIN TIRLUN DARLUNIADWY (Llafar) (KT)

·    PROSIECT RHOSTIR (Llafar) (GB)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a)  Prosiect Parc Poced Wenffrwd a Moel Famau.

 

Rhoddodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE, adroddiad llafar ynglŷn â Phrosiect Parc Poced Wenffrwd a Moel Famau.

 

Yn ystod y cyfnod clo, penderfynwyd cau Loggerheads, Moel Famau a Maes Llantysilio.  Gosodwyd arwyddion ar yr A494 i roi gwybod i ymwelwyr bod y parciau ar gau. Yn sgil yr eira dros y Nadolig, penderfynwyd hefyd i gau’r ffyrdd dynesu er mwyn atal ymwelwyr.  I wneud hyn, bu’n rhaid gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.   Bu gwaith yn digwydd hefyd gyda’r Tîm Cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y neges bod y Parciau ar gau, ond  parhaodd pobl i geisio ymweld â’r parciau yn ystod y cyfnod yma.

 

Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru a defnyddiwyd rhywfaint o’r arian hwnnw i gynnal adroddiad o lif traffig ar Forestry Road sy’n arwain at brif feysydd parcio Moel Famau.  Prif argymhelliad oedd cyflwyno cyfyngiadau parcio.  Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt ynglŷn â chyflwyno llinellau melyn dwbl neu ffordd glir neu beidio.

 

Roedd yna hefyd gynnig i ddarparu llefydd parcio ar y stryd wrth nesáu at y giatiau sy’n cael eu cloi dros nos er mwyn i ymwelwyr allu ymweld fin nos.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Adran Priffyrdd hefyd i ail ddylunio cynllun y gilfan y tu allan i’r maes parcio.

 

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i gynyddu capasiti’r meysydd parcio i greu 50-60 o lefydd parcio ychwanegol.  Yn ogystal, bydd y peiriannau talu ac arddangos yn cael eu hamnewid gyda pheiriannau sy’n derbyn cardiau a byddai gwaith yn mynd rhagddo i wella’r llwybrau troed.

 

(b)  SMS a Phwysau Ymwelwyr yn ystod Covid.

 

Arweiniodd Rachel Jones (Arweinydd Tîm y Gogledd AHNE), yr aelodau trwy gyflwyniad.

 

Fe eglurodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau y cymerir gofal wrth ystyried pa anifail fyddai’n cael eu cyflwyno ar safleoedd.  Roedd anifeiliaid hefyd yn cael eu symud o amgylch safleoedd ond cyn eu symud i safle, roeddynt yn cael ychydig ddiwrnodau ar y safle er mwyn iddynt gael addasu.  Roedd Ymgysylltu â'r Gymuned yn arbennig o bwysig.

 

(c)  Tirlun Darluniadwy i gael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

(d)  Prosiect Rhostir.

 

Nid oedd Graham Berry, Swyddog Rhostir yn gallu mynychu’r cyfarfod a chyflwynodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE, yr adroddiad ar lafar yn ei habsenoldeb.

 

Roedd y Swyddog Rhostir wedi cael ei phenodi ym mis Tachwedd 2020 ac roedd hi’n gweithio ar brosiect tair blynedd o hyd.

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Cefn Gwlad drosolwg o’r Prosiect.

 

Mynegwyd pryder am faint o rasio ceir sy’n digwydd yng nghefn Mynydd Llandegla gan fod gan rai ceir y potensial i achosi tân.  Fe gadarnhawyd y byddai’r Swyddog Rhostir yn edrych at y mater.

 

PENDERFYNWYD bod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn nodi’r newyddion diweddaraf a dderbyniwyd.

 

 

6.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 386 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AHNE rhaglen gwaith i'r dyfodol cydbwyllgor yr AHNE (dosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cadarnhawyd eu bod yn aros am gyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac fe fyddai yna grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru.

 

Byddai Cynllun Rheoli yr AHNE yn mynd gerbron y Pwyllgor ym mis Mehefin.

 

Fe nodwyd bod y Fforwm wedi’i ohirio ar hyn o bryd tan fis Medi 2021.

 

Roedd dyraniad o £225,000 o gyllid  Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf wedi cael ei glustnodi ar gyfer nifer o brosiectau.

 

Roedd cyllid refeniw ar gyfer newid hinsawdd wedi cael ei ddyrannu a byddai Swyddog Dalgylch a Newid Hinsawdd yn cael ei ph/benodi.

 

Gofynnwyd bod cyflwyniadau’n cael eu dosbarthu i’r aelodau cyn y cyfarfod a chytunwyd y byddai cyflwyniadau’n cael eu cynnwys gyda’r pecyn Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD bod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn nodi’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

 

7.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dydd Gwener 25 Mehefin 2021

Dydd Gwener 5 Tachwedd 2021

Dydd Gwener 18 Mawrth 2022

Dydd Gwener 24 Mehefin 2022

Dydd Gwener 4 Tachwedd 2022