Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Hugh Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Huw Rees (Rheolwr Cefn Gwlad a Threftadaeth).

 

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

2.

COFNODION Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 21.11.19 pdf eicon PDF 306 KB

Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019 (copi ynghlwm).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019. Cytunwyd eu bod yn gywir ac nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019 yn cael eu cymeradwyo.

 

3.

COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE 14.2.20 pdf eicon PDF 296 KB

Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2020 (copi ynghlwm).

Cofnodion:

Darparwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2020 er gwybodaeth.

 

Materion yn Codi.

 

Eitem Rhif 4, Tudalen 9:

 

·         Adolygiad Gwasanaethau Corfforaethol CSDd. Roedd rôl y Swyddog Cyfathrebu wedi’i hadolygu a’i hailysgrifennu fel Cydlynydd AHNE.

·         Tirweddau Dynodedig – arian cyfalaf ychwanegol. Roedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ennill y cais i gynnal y Fforwm Tirweddau Dynodedig ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael eu derbyn.

 

4.

DATGANIAD BLYNYDDOL Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 223 KB

Adroddiad Eitem Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynir gan Steve Gadd - Pennaeth Cyllid ac Eiddo a Paula O’Hanlon - Senior Finance – Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan dynnu sylw at yr agweddau canlynol:

·         crynodeb o’r sefyllfa ariannol derfynol;

·         Datganiad Statudol (roedd angen cytundeb a llofnodion o’r cyfarfod) a

·         chyllideb ddrafft i’w chymeradwyo ar gyfer 2021 (wedi’i gohirio oherwydd bod cyfarfodydd wedi’u canslo o ganlyniad i Covid-19).

 

Ni wnaeth datganiad y Prif Swyddog Cyllid (tudalen 16) amlygu unrhyw newid i gyfraniadau gan naill ai Cyngor Sir y Fflint neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac roedd lefel y grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau yn gyson â 2019/20.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cronfeydd Wrth Gefn a ddangoswyd ar y fantolen o £315,000 yn cynnwys arian a gafodd ei ddyrannu i brosiectau penodol. Yr union falans a oedd ar gael i gefnogi cyllideb 2020/21 a rheoli risg darparu prosiectau yn y dyfodol oedd £47,000.

 

Roedd Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllid Awdurdodau Lleol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai pecyn ariannol ar gyfer gweddill y flwyddyn (manylion heb eu cyhoeddi eto), yn ychwanegol at gyllid ad hoc a gafwyd hyd yma. Ni ellid cadarnhau cyfraniadau’r dyfodol i gyllid Pwyllgor yr AHNE.

 

Roedd y Cyfrifon Rheoli ar gyfer y Sefyllfa Derfynol (tudalen 19 a 20) yn dangos:

     I.        bod grantiau wedi cael eu derbyn;

    II.        bod mwy o wariant wedi bod a

  III.        bod cyfraniadau wedi’u defnyddio o gronfeydd wrth gefn.

 

Roedd y Gyllideb Ddrafft Graidd (atodiad 2) yn dangos bod y costau cyflogaeth yn dal i fod yn gyson. Bu cynnydd o ran y Grant Datblygu Cynaliadwy a rhywfaint o gynnydd o ran gwariant ond dim byd a oedd yn codi unrhyw bryderon.

 

Mae’r Fantolen (tudalen 24) yn adlewyrchu holl gronfeydd wrth gefn yr AHNE – gwerth net £315,000 – roedd atodiad 4 yn egluro sut roeddent yn cael eu hariannu.

 

Roedd angen i’r Datganiad (Statudol) Blynyddol gael ei gymeradwyo gan adolygiad archwilio mewnol ac allanol. Oherwydd yr oedi (a achoswyd gan gyfnod clo Covid‑19), roedd y datganiad wedi bod yn destun adolygiad rhagarweiniol gan Archwilio Cymru a byddai’n cael ei anfon i gael ei gymeradwyo ganddynt ar ôl cael cytundeb gan y Cydbwyllgor y diwrnod hwnnw.

 

Bu rhai diwygiadau i’r datganiadau blynyddol yn dilyn cyngor gan Archwilio Mewnol:

·         Datganiad 1 – testun ychwanegol – “Due to Covid 19 the meeting to approve the annual return has been delayed until the 11 September. If approved this will enable WAO to sign off the Accounts by the statutory deadline of 15 September.”

·         Datganiad 5 – testun ychwanegol – “The Internal Audit report highlighted the need for a formal risk register to be brought together which will be undertaken during the current financial year.”

 

 [gweithredu, Paula O’Hanlon, Howard Sutcliffe a Steve Gadd i gyfarfod i lunio rhestr o risgiau ar gyfer y gofrestr ar gyfer cyfarfod nesaf Cydbwyllgor yr AHNE]

 

PENDERFYNWYD bod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn:

     I.        nodi sefyllfa ariannol derfynol 2019/20 (Atodiad 1);

    II.        cymeradwyo cyllideb ddrafft 2020/21 yn ffurfiol (atodiad 2);

  III.        adolygu ac awdurdodi’r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2019/20 (Atodiad 3) a

  IV.        nodi Balansau’r Gronfa Wrth Gefn ar 31 Mawrth 2020 (Atodiad 4).

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR Y CYNLLUN RHEOLI

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad AHNE.

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Ardal yr AHNE, David Shiel, wrth y Pwyllgor fod JBA Consultancy wedi’u penodi cyn y cyfnod clo ac roeddent wedi cynnal ymarfer mapio Budd-ddeiliad er mwyn sicrhau ymgysylltiad â chynifer ag sy’n bosibl o bobl wrth gynhyrchu’r cynllun. Roedd holiadur dechreuol wedi’i anfon i’r Bartneriaeth a’r Cydbwyllgor er mwyn cytuno ar gwmpas yr adolygiad.

 

Roeddent yn ceisio canfod ffyrdd o gynnal ymgynghoriad ystyrlon dan gyfyngiadau’r pandemig ac roeddent ar fin anfon holiadur Survey Monkey am nodweddion allweddol yr AHNE i gael barn o ran pa faterion ehangach allai fod o ran y bartneriaeth budd-ddeiliad gyfan yn ogystal â’i atodi i’r wefan.

 

Rhagwelwyd y byddai cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal i gynorthwyo ag amcanion y cynllun a gosod polisïau. Y bwriad oedd y byddai’r rhain yn gyfarfodydd wyneb i wyneb / gweithdai â thema’n ymwneud ag elfennau allweddol:

·         y cynllun rheoli;

·         yr amgylchedd hanesyddol;

·         yr amgylchedd naturiol;

·         rheoli tir a

·         thwristiaeth/hamdden.

Fodd bynnag, mae’r newid o ran canllawiau a chyfyngiadau LlC o ran pobl yn cwrdd yn golygu y byddai’r rhain yn gyfarfodydd ar-lein mae’n debyg – tua mis Hydref. Byddai amserlen o’r digwyddiadau ymgysylltu â budd-ddeiliaid yn cael ei dosbarthu cyn gynted ag y byddai ar gael.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

 

 

6.

ADRODDIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL 2019-20 pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan amlygu’r cydweithredu rhagorol rhwng yr awdurdodau lleol a’u gwelodd yn cyflawni canllaw cynllunio atodol (CCA) eisoes ac roeddent yn gobeithio cael CCA pellach ar ardaloedd Awyr Dywyll.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos bod mwyafrif y ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo - 87% gyda 83% o’r rheini lle roedd naill ai’r Awdurdodau Lleol yn cymryd rhan, neu â sylwadau’r AHNE.

Codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

·         Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, roedd ôl-groniad sylweddol o geisiadau cynllunio;

·         Roedd pwysau cynyddol ar gyfer ynni cynaliadwy, sy’n gweld nifer fawr o geisiadau;

·         Holwyd am gymeradwyo caniatâd cynllunio ar ardaloedd gorlifdir a chlywyd bod gwahanol gategorïau o ran gorlifdir – gallai rhai categorïau liniaru risg trwy gymryd camau perthnasol;

·         Nodwyd y cynnydd o ran ceisiadau twristiaeth, yn enwedig cabanau gwersylla / podiau. Weithiau, mae aelodau Cydbwyllgor yr AHNE sydd hefyd ar eu pwyllgorau cynllunio eu hunain yn teimlo bod gwrthdaro buddiannau. Gwnaethant holi a allai Cydbwyllgor yr AHNE gael polisi/rheol i arwain ar faterion o’r fath?

·         Gofynnwyd i adolygiad gael ei gynnal ar draws y 3 awdurdod lleol i edrych ar effaith gynyddol twristiaeth a datblygiad ar yr AHNE ac

·         Amlygwyd bod rhai preswylwyr yn poeni am ehangu posibl yr AHNE, ond byddai’r gyfradd gymeradwyo 87% ar gyfer cynllunio yn dangos nad oedd sail i’w hofnau.

Awgrymodd Swyddog yr AHNE y gellid diwygio CCA yr AHNE o ran cabanau gwersylla/podiau, ond i ddechrau roedd angen dealltwriaeth o ran beth oedd yn digwydd eisoes o ran y rhain.

PENDERFYNWYD:

       I.        Bod gwybodaeth yn cael ei chasglu am leoliad a chroniad llety gan gynnwys carafanau, cabanau gwersylla/podiau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam;

     II.        Bod y polisi presennol o ran carafanau, cabanau gwersylla/podiau ym mhob Awdurdod Lleol a’r

    III.        Adroddiad Cynllunio Blynyddol yn cael eu nodi.

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL pdf eicon PDF 385 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE raglen gwaith i'r dyfodol Cydbwyllgor yr AHNE (a ddosbarthwyd eisoes). Eglurodd fod Cadeiryddion y pum gweithgor, y Bartneriaeth a’r Cydbwyllgor wedi cael cyfarfod dros y we yn ystod y cyfnod clo, a oedd wedi gweithio’n dda. Rhagwelwyd y byddai’r cyfarfodydd hynny yn parhau yn yr un fformat wrth symud ymlaen.

 

Pe bai cyfyngiadau Covid-19 yn parhau i gael eu llacio, gobeithiwyd y byddai grwpiau bach yn gallu cwrdd ar ddiwedd mis Hydref i edrych ar y gwaith ym Mhlas Newydd gydag Ein Tirlun Darluniadwy.

 

Dywedodd y Swyddog AHNE wrth y Pwyllgor:

·         Roedd Scottish Power wedi tynnu’r llinellau a’r polion a oedd yn arwain at eu hen orsaf bŵer ar gyrion yr Heneb Gofrestredig ar Foel Hiraddug.

·         Roedd deiliaid diawdurdod wedi achosi rhywfaint o ddifrod ar Glawdd Offa yn y Waun – roedd CADW wedi ymyrryd i atal difrod pellach.

·         Roedd 35 erw o dir wedi’i brynu fel rhan o’r brif llwybr i fyny at Dinas Brân, a gaiff ei adnabod yn lleol fel ‘the pancake’.

·         Roedd gwaith yn cael ei wneud gyda Swyddog Landmap newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ganllawiau datblygu o ran Newid Hinsawdd.

 

Trafododd y Pwyllgor effaith pwysau cynyddol ymwelwyr ar yr AHNE, yn enwedig o ran parcio, cyfleusterau toiled a sbwriel. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gyllid i edrych ar dagfeydd a byddai gweinidog yn cwrdd â Chadeirydd y Cydbwyllgor ym Moel Famau y dydd Llun canlynol i drafod ymhellach. Roedd angen rheoli gormodedd o dwristiaeth ac roedd angen sicrhau bod y safleoedd ymwelwyr a oedd yn dirweddau gwarchodedig yn addas i’r diben – twristiaeth gynaliadwy. Cytunwyd i ailedrych ar y Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy.

 

Roedd y tîm AHNE wedi bod yn adolygu dau enwebiad ar gyfer Gwobr yr AHNE – Grŵp Celf Llanferres a oedd yn defnyddio Loggerheads fel eu canolbwynt ac a oedd yn cynnal arddangosiadau cyhoeddus yn Loggerheads, ac Ysgol Gynradd Cilcain (Ysgol Y Foel) yn Sir y Fflint, a oedd yn gweithio i fod yn Garbon Niwtral.

 

PENDERFYNWYD:

     I.        Bod y Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy yn cael ei hadolygu a

    II.        Bod rhaglen gwaith i'r dyfodol Cydbwyllgor yr AHNE yn cael ei nodi.

  III.        Bod y Cydbwyllgor yn nodi derbynnydd arfaethedig Gwobr yr AHNE.

 

 

8.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

Cofnodion:

13 Tachwedd 2020