Agenda and draft minutes
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Hugh Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a
Huw Rees (Rheolwr Cefn Gwlad a Threftadaeth). Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
COFNODION Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 21.11.19 PDF 306 KB Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019. Cytunwyd eu bod yn gywir ac nid
oedd unrhyw faterion yn codi. PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2019 yn
cael eu cymeradwyo. |
|
COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE 14.2.20 PDF 296 KB Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2020 (copi ynghlwm). Cofnodion: Darparwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2020 er gwybodaeth. Materion yn
Codi. Eitem Rhif 4, Tudalen 9: · Adolygiad Gwasanaethau Corfforaethol CSDd. Roedd rôl y Swyddog Cyfathrebu wedi’i hadolygu a’i hailysgrifennu fel Cydlynydd AHNE. · Tirweddau Dynodedig – arian cyfalaf ychwanegol. Roedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ennill y cais i gynnal y Fforwm Tirweddau Dynodedig ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru. PENDERFYNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael eu derbyn. |
|
DATGANIAD BLYNYDDOL Y CYD-BWYLLGOR PDF 223 KB Adroddiad Eitem Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynir gan Steve Gadd - Pennaeth Cyllid ac Eiddo a Paula O’Hanlon - Senior Finance – Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan
dynnu sylw at yr agweddau canlynol: ·
crynodeb
o’r sefyllfa ariannol derfynol; ·
Datganiad
Statudol (roedd angen cytundeb a llofnodion o’r cyfarfod) a ·
chyllideb
ddrafft i’w chymeradwyo ar gyfer 2021 (wedi’i gohirio oherwydd bod cyfarfodydd
wedi’u canslo o ganlyniad i Covid-19). Ni wnaeth
datganiad y Prif Swyddog Cyllid (tudalen 16) amlygu unrhyw newid i gyfraniadau gan
naill ai Cyngor Sir y Fflint neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac roedd
lefel y grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau yn gyson â 2019/20. Dywedwyd wrth y
Pwyllgor fod y Cronfeydd Wrth Gefn a ddangoswyd ar y fantolen o £315,000 yn
cynnwys arian a gafodd ei ddyrannu i brosiectau penodol. Yr union falans a oedd
ar gael i gefnogi cyllideb 2020/21 a rheoli risg darparu prosiectau yn y
dyfodol oedd £47,000. Roedd Covid-19
wedi cael effaith sylweddol ar gyllid Awdurdodau Lleol. Roedd Llywodraeth Cymru
wedi dweud y byddai pecyn ariannol ar gyfer gweddill y flwyddyn (manylion heb
eu cyhoeddi eto), yn ychwanegol at gyllid ad
hoc a gafwyd hyd yma. Ni ellid cadarnhau cyfraniadau’r dyfodol i gyllid
Pwyllgor yr AHNE. Roedd y Cyfrifon
Rheoli ar gyfer y Sefyllfa Derfynol (tudalen 19 a 20) yn dangos: I.
bod
grantiau wedi cael eu derbyn; II.
bod
mwy o wariant wedi bod a III.
bod
cyfraniadau wedi’u defnyddio o gronfeydd wrth gefn. Roedd y Gyllideb
Ddrafft Graidd (atodiad 2) yn dangos bod y costau cyflogaeth yn dal i fod yn
gyson. Bu cynnydd o ran y Grant Datblygu Cynaliadwy a rhywfaint o gynnydd o ran
gwariant ond dim byd a oedd yn codi unrhyw bryderon. Mae’r Fantolen
(tudalen 24) yn adlewyrchu holl gronfeydd wrth gefn yr AHNE – gwerth net
£315,000 – roedd atodiad 4 yn egluro sut roeddent yn cael eu hariannu. Roedd angen i’r
Datganiad (Statudol) Blynyddol gael ei gymeradwyo gan adolygiad archwilio
mewnol ac allanol. Oherwydd yr oedi (a achoswyd gan gyfnod clo Covid‑19),
roedd y datganiad wedi bod yn destun adolygiad rhagarweiniol gan Archwilio
Cymru a byddai’n cael ei anfon i gael ei gymeradwyo ganddynt ar ôl cael
cytundeb gan y Cydbwyllgor y diwrnod hwnnw. Bu rhai
diwygiadau i’r datganiadau blynyddol yn dilyn cyngor gan Archwilio Mewnol: ·
Datganiad
1 – testun ychwanegol – “Due to Covid 19 the meeting to approve the annual
return has been delayed until the 11 September. If approved this will enable
WAO to sign off the Accounts by the statutory deadline of 15 September.” ·
Datganiad
5 – testun ychwanegol – “The Internal Audit report highlighted the need for a
formal risk register to be brought together which will be undertaken during the
current financial year.” [gweithredu, Paula O’Hanlon, Howard Sutcliffe
a Steve Gadd i gyfarfod i lunio rhestr o risgiau ar gyfer y gofrestr ar gyfer
cyfarfod nesaf Cydbwyllgor yr AHNE] PENDERFYNWYD bod Cydbwyllgor
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn: I.
nodi
sefyllfa ariannol derfynol 2019/20 (Atodiad 1); II.
cymeradwyo
cyllideb ddrafft 2020/21 yn ffurfiol (atodiad 2); III.
adolygu
ac awdurdodi’r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2019/20 (Atodiad 3) a IV.
nodi
Balansau’r Gronfa Wrth Gefn ar 31 Mawrth 2020 (Atodiad 4). |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR Y CYNLLUN RHEOLI Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad AHNE. Cofnodion: Dywedodd Rheolwr
Ardal yr AHNE, David Shiel, wrth y Pwyllgor fod JBA Consultancy wedi’u penodi
cyn y cyfnod clo ac roeddent wedi cynnal ymarfer mapio Budd-ddeiliad er mwyn
sicrhau ymgysylltiad â chynifer ag sy’n bosibl o bobl wrth gynhyrchu’r cynllun.
Roedd holiadur dechreuol wedi’i anfon i’r Bartneriaeth a’r Cydbwyllgor er mwyn
cytuno ar gwmpas yr adolygiad. Roeddent yn
ceisio canfod ffyrdd o gynnal ymgynghoriad ystyrlon dan gyfyngiadau’r pandemig
ac roeddent ar fin anfon holiadur Survey Monkey am nodweddion allweddol yr AHNE
i gael barn o ran pa faterion ehangach allai fod o ran y bartneriaeth
budd-ddeiliad gyfan yn ogystal â’i atodi i’r wefan. Rhagwelwyd y byddai cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal i
gynorthwyo ag amcanion y cynllun a gosod polisïau. Y bwriad oedd y byddai’r
rhain yn gyfarfodydd wyneb i wyneb / gweithdai â thema’n ymwneud ag elfennau
allweddol: ·
y
cynllun rheoli; ·
yr
amgylchedd hanesyddol; ·
yr
amgylchedd naturiol; ·
rheoli
tir a ·
thwristiaeth/hamdden. Fodd bynnag,
mae’r newid o ran canllawiau a chyfyngiadau LlC o ran pobl yn cwrdd yn golygu y
byddai’r rhain yn gyfarfodydd ar-lein mae’n debyg – tua mis Hydref. Byddai
amserlen o’r digwyddiadau ymgysylltu â budd-ddeiliaid yn cael ei dosbarthu cyn
gynted ag y byddai ar gael. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf. |
|
ADRODDIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL 2019-20 PDF 300 KB Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe, yr adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes) gan amlygu’r cydweithredu rhagorol rhwng yr awdurdodau lleol a’u
gwelodd yn cyflawni canllaw cynllunio atodol (CCA) eisoes ac roeddent yn
gobeithio cael CCA pellach ar ardaloedd Awyr Dywyll. Roedd yr
adroddiad yn dangos bod mwyafrif y ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo - 87%
gyda 83% o’r rheini lle roedd naill ai’r Awdurdodau Lleol yn cymryd rhan, neu â
sylwadau’r AHNE. Codwyd y
pwyntiau canlynol gan yr Aelodau: ·
Oherwydd
cyfyngiadau Covid-19, roedd ôl-groniad sylweddol o geisiadau cynllunio; ·
Roedd
pwysau cynyddol ar gyfer ynni cynaliadwy, sy’n gweld nifer fawr o geisiadau; ·
Holwyd
am gymeradwyo caniatâd cynllunio ar ardaloedd gorlifdir a chlywyd bod gwahanol gategorïau
o ran gorlifdir – gallai rhai categorïau liniaru risg trwy gymryd camau
perthnasol; ·
Nodwyd
y cynnydd o ran ceisiadau twristiaeth, yn enwedig cabanau gwersylla / podiau.
Weithiau, mae aelodau Cydbwyllgor yr AHNE sydd hefyd ar eu pwyllgorau cynllunio
eu hunain yn teimlo bod gwrthdaro buddiannau. Gwnaethant holi a allai
Cydbwyllgor yr AHNE gael polisi/rheol i arwain ar faterion o’r fath? ·
Gofynnwyd
i adolygiad gael ei gynnal ar draws y 3 awdurdod lleol i edrych ar effaith
gynyddol twristiaeth a datblygiad ar yr AHNE ac ·
Amlygwyd
bod rhai preswylwyr yn poeni am ehangu posibl yr AHNE, ond byddai’r gyfradd
gymeradwyo 87% ar gyfer cynllunio yn dangos nad oedd sail i’w hofnau. Awgrymodd
Swyddog yr AHNE y gellid diwygio CCA yr AHNE o ran cabanau gwersylla/podiau,
ond i ddechrau roedd angen dealltwriaeth o ran beth oedd yn digwydd eisoes o
ran y rhain. PENDERFYNWYD:
I.
Bod
gwybodaeth yn cael ei chasglu am leoliad a chroniad llety gan gynnwys
carafanau, cabanau gwersylla/podiau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam;
II.
Bod
y polisi presennol o ran carafanau, cabanau gwersylla/podiau ym mhob Awdurdod
Lleol a’r
III.
Adroddiad
Cynllunio Blynyddol yn cael eu nodi. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 385 KB Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog AHNE raglen gwaith i'r dyfodol Cydbwyllgor yr AHNE (a
ddosbarthwyd eisoes).
Eglurodd fod Cadeiryddion y pum gweithgor, y Bartneriaeth a’r Cydbwyllgor wedi
cael cyfarfod dros y we yn ystod y cyfnod clo, a oedd wedi gweithio’n dda.
Rhagwelwyd y byddai’r cyfarfodydd hynny yn parhau yn yr un fformat wrth symud
ymlaen. Pe bai
cyfyngiadau Covid-19 yn parhau i gael eu llacio, gobeithiwyd y byddai grwpiau
bach yn gallu cwrdd ar ddiwedd mis Hydref i edrych ar y gwaith ym Mhlas Newydd
gydag Ein Tirlun Darluniadwy. Dywedodd y
Swyddog AHNE wrth y Pwyllgor: ·
Roedd
Scottish Power wedi tynnu’r llinellau a’r polion a oedd yn arwain at eu hen
orsaf bŵer ar gyrion yr Heneb Gofrestredig ar Foel Hiraddug. ·
Roedd
deiliaid diawdurdod wedi achosi rhywfaint o ddifrod ar Glawdd Offa yn y Waun –
roedd CADW wedi ymyrryd i atal difrod pellach. ·
Roedd
35 erw o dir wedi’i brynu fel rhan o’r brif llwybr i fyny at Dinas Brân, a
gaiff ei adnabod yn lleol fel ‘the pancake’. ·
Roedd
gwaith yn cael ei wneud gyda Swyddog Landmap newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar
ganllawiau datblygu o ran Newid Hinsawdd. Trafododd y Pwyllgor effaith pwysau
cynyddol ymwelwyr ar yr AHNE, yn enwedig o ran parcio, cyfleusterau toiled a
sbwriel. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gyllid i edrych ar
dagfeydd a byddai gweinidog yn cwrdd â Chadeirydd y Cydbwyllgor ym Moel Famau y
dydd Llun canlynol i drafod ymhellach. Roedd angen rheoli gormodedd o
dwristiaeth ac roedd angen sicrhau bod y safleoedd ymwelwyr a oedd yn dirweddau
gwarchodedig yn addas i’r diben – twristiaeth gynaliadwy. Cytunwyd i ailedrych
ar y Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy. Roedd y tîm AHNE wedi bod yn adolygu dau
enwebiad ar gyfer Gwobr yr AHNE – Grŵp Celf Llanferres a oedd yn defnyddio
Loggerheads fel eu canolbwynt ac a oedd yn cynnal arddangosiadau cyhoeddus yn
Loggerheads, ac Ysgol Gynradd Cilcain (Ysgol Y Foel) yn Sir y Fflint, a oedd yn
gweithio i fod yn Garbon Niwtral. PENDERFYNWYD: I.
Bod
y Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy yn cael ei hadolygu a II.
Bod
rhaglen gwaith i'r dyfodol Cydbwyllgor yr AHNE yn cael ei nodi. III.
Bod
y Cydbwyllgor yn nodi derbynnydd arfaethedig Gwobr yr AHNE. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL Cofnodion: 13 Tachwedd 2020 |