Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNTY HALL, MOLD, FLINTSHIRE

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr: Hugh Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Bobby Feeley (Cyngor Sir Ddinbych), Derek Butler a Carolyn Thomas (Cyngor Sir y Fflint) a Mr Tom Woodall (Cyngor Sir y Fflint)

 

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

2.

COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 394 KB

Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018.

 

Cywirdeb

 

Eitem 7 – Eglurwyd na phenodwyd i'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar gyfer Anifeiliaid Pori eto.

 

Materion yn Codi

 

Eitem 3 – O ran y fenter Awyr Dywyll, adroddwyd bod Swyddog Awyr Dywyll (Dani Robertson) wedi’i phenodi drwy’r bartneriaeth gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, AHNE Ynys Môn ac AHNE Llŷn.  Mae’r swydd yn cynnwys cyd-drefnu digwyddiadau ac ymgysylltu â busnesau, yn ogystal â datblygu un dynodiad Awyr Dywyll posib ar draws ardaloedd gwarchodedig Gogledd Cymru.

 

Eitem 3 – Bydd adroddiad sy’n ystyried y gwersi a ddysgwyd o dân mynydd Llantysilio yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod arbennig Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych ar 20 Mawrth 2019 ym Mhafiliwn Llangollen.  Cafwyd manylion fformat y cyfarfod diwrnod llawn, fydd ar agor i’r cyhoedd, gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd CSDd (GW).

 

Er i’r tân hwn gael ei gynnau y tu allan i’r tymor llosgi a ganiateir (Hydref i Fawrth yng Nghymru), roedd tîm yr AHNE hefyd wedi ymgysylltu â’r Gwasanaeth Tân mewn perthynas â thanau diweddar yng Nglyndyfrdwy a Choed Hyrddin yng Nglyn y Groes.

 

 Eitem 7 - Cafwyd eglurhad gan Swyddog Cynorthwyol yr AHNE am rai o’r safleoedd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru a ddylai elwa ar y Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar gyfer Anifeiliaid Pori.   Dywedodd y byddai gwybodaeth fwy manwl a diweddar am gynnydd y cynllun ar gael i’w rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

Yn amodol ar y diwygiad, derbyn cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

3.

COFNODION DRAFFT PROSIECT EIN TIRWEDD HARDD pdf eicon PDF 278 KB

Nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod mis Ionawr Grŵp Llywio Prosiect Ein Tirwedd Hardd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Kelly, cafodd aelodaeth y Grŵp Llywio ei egluro gan Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS).

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn cofnodion cyfarfod y Grŵp Llywio a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019.

 

4.

CYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 217 KB

Adroddiad Eitem Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynwyd gan Paula O'Hanlon, Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd / Gareth O Williams, Rheolwr Cyllid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid CSDd (GOW) yr adroddiad ar sefyllfa derfynol ddisgwyliedig cyllideb refeniw’r Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19.  Dosbarthwyd gwybodaeth ychwanegol na chynhwyswyd yn yr adroddiad a argraffwyd.

 

Parhawyd i reoli’r gyllideb yn dda, gyda thanwariant bychan wedi’i ragamcan ar gyfer diwedd y flwyddyn.  Y prif reswm am hyn oedd swydd wag sydd bellach wedi’i llenwi.  Croesawodd y Pwyllgor y newyddion bod y tri Awdurdod wedi ymrwymo i’r un lefel o gyllid ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi'r rhagolwg diweddaraf o’r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2018/19, ynghyd â’r cynnydd yn erbyn y gyllideb y cytunwyd arni.

 

5.

ADRODDIAD CYTUNDEB CYFREITHIOL pdf eicon PDF 239 KB

Derbyn gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd CSDd (GW) adroddiad oedd yn ystyried y Cytundeb Cyfreithiol ar gyfer y Cyd-bwyllgor, sy’n nodi diben, Cylch Gorchwyl a threfniadau allweddol rhwng y tri Awdurdod.   Roedd y Cytundeb i fod i gael ei adolygu, ei ddiwygio neu ei addasu cyn iddo gyrraedd diwedd ei 5 mlynedd ar ddiwedd Mawrth 2019.

 

Awgrymodd Swyddog yr AHNE (HS) y gallai ef a’r swyddogion cyfreithiol ddiweddaru’r ddogfen i adlewyrchu rhai mân newidiadau, a’i chyflwyno eto yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

Y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a Swyddog yr AHNE yn diweddaru cytundeb Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor ac yn cyflwyno'r fersiwn derfynol yn y cyfarfod nesaf i gael ei fabwysiadu am y pum mlynedd nesaf.

 

 

6.

CYDWEITHIO GYDA BWRDD SAFLE TREFTADAETH Y BYD - DATGANIAD O FWRIAD AR Y CYD AC YMWELIAD MAES POSIBL DROS YR HAF

Ystyried cyflwyniad ar lafar gan Howard Sutcliffe.

 

Cofnodion:

Cynigiodd Swyddog yr AHNE (HS) y dylid trefnu cyfarfod rhwng Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor a Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd, er mwyn cytuno ar ddatganiad o fwriad ar y cyd i adlewyrchu’r berthynas waith.

 

PENDERFYNWYD:

Y byddai Swyddog yr AHNE yn trefnu cyfarfod rhwng Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd.

 

 

7.

DEDDF CEFN GWLAD A HAWLIAU TRAMWY 2000 ADRAN 85 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

Derbyn diweddariad ar lafar gan Howard Sutcliffe.

 

Cofnodion:

Bu i Swyddog yr AHNE (HS) adrodd am gyfarfod cadarnhaol gyda Dŵr Cymru i gytuno ar gynllun tirlunio ar gyfer gwaith trin dŵr islaw’r draphont ddŵr yn Nhrefor, sydd bellach yn gofyn iddo ymgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Wrth i Scottish Power Energy Networks gynnal gwaith diweddaru llinellau trydan tanddaearol, nodwyd bod nifer o ardaloedd newydd yn cael eu hystyried, gan gynnwys Y Mwynglawdd.  Mae llinell y Grid Cenedlaethol o Legacy i Nercwys, sydd union y tu allan i ffin yr AHNE, yn aros am gymeradwyaeth ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

8.

LLYTHYR/CYFARFOD CYFLEOEDD ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL GENERIG O FEWN AWDURDODAU LLEOL

Derbyn diweddariad ar lafar gan Howard Sutcliffe.

 

Cofnodion:

Cafwyd esiamplau gan Swyddog yr AHNE (HS) o broblemau gydag arwyddion ledled yr ardal a allai fod wedi elwa o ymgynghoriad â'r Cyd-bwyllgor.  Awgrymodd y gellid amlygu rôl y Cyd-bwyllgor drwy i’r Cadeirydd ysgrifennu at Awdurdodau Lleol neu drwy gynnal cyfarfod rhwng Aelodau a swyddogion i rannu gwybodaeth am bynciau penodol, fel y gwelwyd gyda’r prosiect Awyr Dywyll.

 

 Cytunodd y Cadeirydd y dylid cymryd y ddau gam hyn.

 

PENDERFYNWYD:

Y byddai Swyddog yr AHNE yn trefnu i anfon llythyr gan y Cadeirydd i Awdurdodau Lleol a chynnal cyfarfodydd rhwng Aelodau Arweiniol a swyddogion fel y bo'n briodol.

 

9.

Y DIWEDDARAF AM EIN PROSIECT TIRWEDD HARDD

Derbyn diweddariad ar lafar gan Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth.

 

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirwedd Hardd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ar y cynnydd a wnaed ar y prosiect pum mlynedd sy’n canolbwyntio ar Ddyffryn Dyfrdwy.  Dyma’r prif bwyntiau:

 

·         Roedd Kate yn un o dri o swyddogion yn y tîm sydd wedi’i leoli ym Mhlas Newydd.

·         Roedd y rhaglen waith yn cynnwys prosiectau ar gyfer pob un o’r pum mlynedd, gyda rhai’n cael eu dwyn ymlaen wrth i gyllid ddod ar gael.

·         Rhannwyd gwybodaeth am waith cadwraeth oedd yn defnyddio gwirfoddolwyr a thimau Cefn Gwlad i wella golygfeydd a mynediad, gan gyflawni buddion amgylcheddol ar yr un pryd.

·         Ymgysylltu â grwpiau cymunedol i blannu coed a gwella’r coetir, gyda chanolbwynt y dyfodol ar reoli’r cynllun coetiroedd.

·         Cydweithio â phobl leol drwy’r fenter ‘Cysylltu pobl â Thirwedd Hardd’.

·         Gwella mynediad i’r Glyn ym Mhlas Newydd ac adfer y nodweddion allweddol o’r cyfnod pan oedd Merched Llangollen yn byw yno.

·         Defnyddio gwaith celf a gomisiynwyd o ardal y prosiect er dibenion hyrwyddo.

 

PENDERFYNWYD - y dylid nodi’r cyflwyniad.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 377 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard Sutcliffe.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, gan adrodd ar y prif eitemau ar y rhaglen.   Y prif bwyntiau o ddiddordeb oedd:

 

·          O ran cynllun rheoli’r AHNE, rydym yn aros am gyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru a gallai pwysau ar y gyllideb arwain at fod angen cyfraniadau ariannol gan Lywodraeth Cymru.

·         Cafwyd nifer dda o fynychwyr yn Fforwm AHNE Llanrhaeadr Springs.

·         Roedd y prosiect Newid Hinsawdd wedi’i oedi ar hyn o bryd, ond roedd yn dal i fod yn ddyhead.

·         Llinellau rhwydwaith SP – rhoddwyd esiampl o gynlluniau posib ym Mhlas Newydd a llwybr Clawdd Offa.

 

Tynnwyd sylw at wybodaeth am brosiectau oedd yn cael eu cynnal gan bob un o’r gweithgorau partneriaeth, gan ddefnyddio’r cyllid a ddyrannwyd.  Bu i Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) adrodd bod y Grŵp Rheoli Tir wedi comisiynu ffilm oedd yn amlygu pwysigrwydd coed ynn i’r dirwedd, ac arolwg o’r awyr i dynnu lluniau Dyffryn Alyn yn Loggerheads er mwyn monitro effaith y clefyd coed ynn.

 

Aeth Swyddog yr AHNE (HS) yn ei flaen i nodi bod prosiect gan y gweithgor Deall a Mwynhau yn cynnwys gwaith adfer tair camfa garreg ger Cilcain.  Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd David Kelly am gamfeydd carreg hanesyddol ger Y Mwynglawdd nad oeddent yn cael eu gwarchod gan Cadw, nododd y swyddog bod cynllun rheoli’r AHNE yn ceisio cydnabod pwysigrwydd cadw nodweddion hanesyddol o’r fath yn y dirwedd.

 

PENDERFYNWYD – Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

11.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL 2019

21 Mehefin Rhuthun a 22 Tachwedd Wrecsam

 

Cofnodion:

21 Mehefin 2019 yn Rhuthun

22 Tachwedd 2019 yn Wrecsam

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ef a Swyddog yr AHNE yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am eu cyfarfod gyda Chadeirydd AHNE Llŷn.