Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Derek Butler (Cyngor Sir Y Fflint). Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. Gofynnodd y Cadeirydd i bawb gyflwyno eu hunain. |
|
ETHOL CADEIRYDD Cofnodion: Enwebodd y Cadeirydd oedd yn gadael, y Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) y Cynghorydd Tony Thomas (CSDd) i’w olynu fel Cadeirydd Cyd-bwyllgor yr AHNE, cafodd yr enwebiad ei eilio gan y Cynghorydd Carolyn Thomas (CBSC) a chafodd ei ethol yn unfrydol. Mynegodd y Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) gymaint o bleser a gafodd o fod yn Gadeirydd a diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas am y sylfeini yr oedd hi wedi eu gosod fel Cadeirydd, ac am ei chefnogaeth barhaol. Diolchodd hefyd i swyddogion am eu hymroddiad a'u brwdfrydedd. Diolchodd y Cynghorydd Tony Thomas i'r Cynghorydd Jones am ei wasanaeth ac ategodd ei ddiolch i swyddogion oedd wedi ei gynorthwyo o'r bartneriaeth. Myfyriodd y Cynghorydd Thomas ar y 12 mis diwethaf fel Cynghorydd, gan nodi faint o wersi oedd wedi eu dysgu a nodi ei fod wedi ymweld â llawer o lefydd na wyddai amdanynt cyn hynny gyda swyddogion AHNE. |
|
COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 2 CHWEFROR 2018 PDF 274 KB Cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2018 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2018. Materion yn
codi Eitem 5, tudalen 4, roedd Karen Weaver (Swyddog Cyfathrebu'r AHNE) wedi llwyddo i berswadio Theatr Clwyd i ddangos dwy ffilm fer yr AHNE a gyflwynwyd gan Helen Mroweic (Uwch Swyddog Hamdden) o flaen y ffilmiau roeddynt yn eu dangos. Eitem 9, tudalen 7, roedd dau grant wedi eu cytuno ar gyfer arwyddion gan yr Asiantaeth Gefnffyrdd ac roedd cyfarfod wedi ei drefnu gyda chymuned Trefor i drafod Llwybr Clincer. Eitem 11, tudalen 7, roedd y Cynghorydd Hugh Jones wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn holi pa mor aml oedd sbwriel yn cael ei glirio oddi ar y 3 gefnffordd (A55, A494 a’r A5)/ Trafododd y Pwyllgor gyflwr amrywiol gefnffyrdd a thrafodwyd pwy oedd yn ariannol gyfrifol am glirio sbwriel? Dywedodd y Cynghorydd David Kelly mai torri’r isdyfiant oedd wedi datgelu’r sbwriel ac felly dylai cyllideb yr Asiantaeth Gefnffyrdd dalu am ei lanhau. Trafododd y Pwyllgor fanteision lleihau faint o lystyfiant sy'n cael ei dorri a gwario'r arian hwnnw yn hytrach ar waredu sbwriel. Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Hugh Jones yn anfon y llythyr anfonwyd at y Gweinidog ymlaen at y Cadeirydd er mwyn iddo fynd ar ei ôl. PENDERFYNWYD:
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH YR AHNE A GYNHALIWYD AR 9 MAWRTH 2018 PDF 361 KB Ystyried
cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchion i Andy Worthington (AW) ar ei ailbenodiad fel Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE a gofynnodd iddo ddiweddaru’r Pwyllgor ar waith y Bartneriaeth. Gan gyfeirio at gofnodion y Bartneriaeth (a gylchredwyd eisoes) rhoddodd sylwadau ar:
Soniodd AW hefyd am yr ohebiaeth ddiweddar gan Hannah Blythyn AC yn ceisio adborth gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol presennol yn gofyn a oeddynt am gael cydraddoldeb â Pharciau Cenedlaethol wrth symud ymlaen. Roedd y Pwyllgor yn dymuno cael adroddiad yn y dyfodol ar fanteision ac anfanteision dynodiad Parc Cenedlaethol. Roedd Partneriaeth yr AHNE wedi gofyn i Swyddogion gynhyrchu adroddiad dichonoldeb / dadansoddiad cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau ar ddynodiad posib fel Parc Cenedlaethol, i'w gyflwyno yng nghyfarfod mis Hydref. Gofynnodd y Pwyllgor am gefnogaeth i barhau i ymchwilio, a chytunwyd ar hynny. Cytunwyd hefyd i ychwanegu eitem am y Parciau Cenedlaethol ar agenda cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE. PENDERFYNWYD:
|
|
CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR PDF 222 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar Gyllideb y Cydbwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid CSDd (GW) adroddiad ar Sefyllfa Ariannol Derfynol a Chyfrifon y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2017/18 a Chyllideb 2018/19 (a gylchredwyd eisoes). Gofynnwyd i’r Aelodau nodi'r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1) a chymeradwyo cyllideb 2018/19 yn ffurfiol (atodiad 2). Hefyd, gofynnwyd i’r Aelodau adolygu a llofnodi’r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 (Atodiad 3) a nodi Balansau’r Gronfa Wrth Gefn ar 31 Mawrth 2018 (Atodiad 4). Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas at yr anghysonder mawr yn y gyllideb a’r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer Rheoli Safle yn atodiad 1. Eglurodd Rheolwr yr AHNE (HS) eu bod yn mynd drwy gyfnod trawsnewidiol, bod peth gwaith o ddiwedd y flwyddyn flaenorol wedi ei gario ymlaen a bod unrhyw gyllid oedd heb ei ddefnyddio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau rheoli arian at raid. Cytunodd aelodau bod y cyfanswm gwariant o £176,341 yn dangos gwerth am arian arbennig. PENDERFYNWYD:
II.
chymeradwyo Cyllideb 2018/19. |
|
ADRODDIAD AR GANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL PDF 258 KB I ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar Ganllawiau Cynllunio Atodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog yr AHNE (HS) yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn hysbysu’r Pwyllgor bod y tri awdurdod cynllunio (CSDd, CSYFf a CBSW) wedi mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol a gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r ddogfen atodol (atodiad 1). PENDERFYNWYD: cymeradwyo Canllaw
Cynllunio Atodol AHNE Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy. |
|
UCHAFBWYNTIAU ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE PDF 243 KB I nodi
uchafbwyntiau adroddiad blynyddol AHNE (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd Swyddog yr AHNE (HS) bod angen i’r Cyd-bwyllgor, fel pwyllgor statudol, gynhyrchu adroddiad blynyddol (a gylchredwyd eisoes). Gan gyfeirio at yr adroddiad, amlygodd:
o cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor – 90% o Cyfarfodydd Partneriaeth – 77% o Cyfarfodydd Grŵp Swyddogion yr AHNE - 79%
Dywedodd Rheolwr yr AHNE wrth y Cyd-bwyllgor bod Clare Pillman - Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi ymrwymo i gysylltu ar eu rhan â Dŵr Cymru ynglŷn â'r gwaith trin carthffosiaeth o dan y draphont ddŵr. Gan ddiweddaru’r Cyd-bwyllgor ar gynllun meistr Safle Treftadaeth Y Byd, cyhoeddodd Rheolwr yr AHNE bod y gwaith yn mynd rhagddo yn dda, yn enwedig felly'r ymgysylltu gyda chymunedau lleol. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo adroddiad blynyddol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2017/18. |
|
UCHAFBWYNTIAU O WAITH TÎM CEIDWAID 2017-18 Derbyn cyflwyniad
ar waith Tîm y Ceidwaid. Cofnodion: Rhoddodd Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) gyflwyniad Powerpoint ar waith y Tîm Ceidwaid. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd:
Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a allai Cyfeillion yr AHNE ddod i mewn i roi diweddariad i’r Cyd-bwyllgor? Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog yr AHNE am y cyflwyniad cynhwysfawr. PENDERFYNWYD:
I.
nodi gwaith y tîm Ceidwaid a
II.
gwahodd Cyfeillion yr AHNE i roi
diweddariad ar eu gwaith yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol. |
|
DIWEDDARIAD O EIN TIRLUN DARLUNIADOL Derbyn
diweddariad llafar ar ein Tirwedd Darluniadwy. Cofnodion: Dywedodd Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) wrth y Cyd-bwyllgor bod Cronfa Dreftadaeth Y Loteri wedi dyfarnu £2.1 miliwn i’w wario dros y 5 mlynedd nesaf. Fel amodau, roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gofyn am: · newidiadau i swydd ddisgrifiadau rolau swyddogion; · manylion pellach am waith arfaethedig y flwyddyn gyntaf; · eglurhad ar sut mae’r strwythur yn bwydo i Gyd-bwyllgor yr AHNE a Bwrdd Safle Treftadaeth Y Byd? Roedd angen cwblhau nifer o dasgau yn y chwe mis cyntaf, oedd yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd David Kelly bod adeilad gwag yng Nghanolfan Ymwelwyr Y Mwynglawdd y gellid o bosib ei ystyried PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad. |
|
UCHAFBWYNTIAU AC ADRODDIAD CRYNO 2017-18 O GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY PDF 916 KB I ystyried
cyflwyniad am uchafbwyntiau ac adroddiad cryno o am y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy. Cofnodion: Rhoddodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy yr AHNE (CL) gyflwyniad ar grynodeb o weithgareddau Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gysylltiedig â Blaenoriaethau’r Cynllun Rheoli yn 2017/18. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer gweithgareddau a gefnogodd 19 o brosiectau unigol, 3 swydd a mwy na 3000 o oriau gwirfoddolwyr. Daeth cyfraniad yr arian cyfatebol - arian cyhoeddus, arian preifat ac amser mewn nwyddau i bron £272,500. Roedd y CDC yn gysylltiedig â blaenoriaethau'r Cynllun Rheoli, mae gan y CDC amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys:
Aeth Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE ymlaen i ddangos sut mae prosiectau’r CDC yn cyfrannu at flaenoriaethau Cynllun Rheoli'r AHNE (Tudalen 97 y Cynllun Rheoli). Byddai adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno ddiwedd Mehefin, a byddai copi o’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Cyd-bwyllgor. Gan ymateb i gwestiynau Aelodau cadarnhaodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy'r AHNE:
PENDERFYNWYD:
|
|
CRYNODEB O YMGYNGHORIADAU CYNLLUNIO’R AHNE O FIS MAWRTH 2017 HYD AT FIS MEDI 2018 PDF 248 KB Adroddiad cryno
ar ymgynghoriadau cynllunio AHNE er gwybodaeth yn unig. Cofnodion: Cyfeiriodd Swyddog yr AHNE at yr adroddiad er gwybodaeth yn unig. PENDERFYNWYD: derbyn yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 131 KB Ystyried rhaglen
waith ddiweddaraf Cyd-bwyllgor yr AHNE. Cofnodion: 12
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Cyflwynodd Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (a gylchredwyd eisoes) ac adroddodd ar y prif eitemau oedd angen eu hystyried. Dywedodd wrth Aelodau nad oedd y dangosyddion Statws Coch, Oren a Gwyrdd yn y fformat hwn, ddim yn nodi eitem mewn trafferth ond yn un a oedd heb gychwyn, yn wahanol i’r arfer. PENDERFYNWYD: Nodi’r Rhaglen Waith i'r
Dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL A 23 TACHWEDD 2018 Ystyried
dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol o Gydbwyllgor Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Cofnodion: 13
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL A 23
TACHWEDD 2018 Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor y cynhelir cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE ddydd Gwener 23 Tachwedd am 10:00am yn Wrecsam. |