Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh Jones (CSDd). Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
ETHOL CADEIRYDD Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd (CSDd) egluro bod penodi Cadeirydd yn troi ymhlith yr Awdurdodau
Lleol gan mai Cyfarfod Blynyddol oedd hwn. Ar gyfer y 12 mis
nesaf, dylai’r Cadeirydd fod o aelodaeth CSDd. Cadarnhawyd parhau
gyda’r Cadeirydd presennol tan cyfarfod nesaf yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol pan fyddai Cadeirydd o CSDd yn cael ei enwebu. Fodd bynnag, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd (CSDd) nad oedd cytundeb y pwyllgor
yn nodi’r angen i gylchdroi Cadeirydd/Is-Gadeirydd. PENDERFYNWYD: (i)
Penodi’r Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod presennol. (ii)
Penodi’r
Cynghorydd Carolyn Thomas (CSFf) yn Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor. |
|
COFNODION CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25 TACHWEDD 2016 (copi ynghlwm) PDF 228 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a derbyn cofnodion y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2016 fel cofnod
cywir. |
|
Cofnodion: Fel Cadeirydd y
Bartneriaeth, dywedodd Andy Worthington wrth y Cydbwyllgor fod cyfarfod wedi ei
gynnal ddydd Gwener yr wythnos flaenorol. Nid
oedd cofnodion ar gael eto. Cynhaliwyd seminar
ym mis Mawrth 2017 a threuliwyd amser gyda gwirfoddolwyr ac roedd y
dangosyddion wedi bod yn gadarnhaol y byddai statws menter Dark Skies yn cael
ei gyflawni. Daethpwyd i
gytundeb ar elfennau allweddol yr adroddiad tirweddau’r dyfodol. Gwnaeth y Cadeirydd
gadarnhau ei bod yn amlwg na fyddai’r cyflawniad dros y 12 mis diwethaf wedi’i
sicrhau heb waith y Bartneriaeth a Chyfeillion. Mynegodd
ei ddiolchgarwch i’r Bartneriaeth a Chyfeillion. Mae
gan Aelodaeth Cyfeillion Bryniau Clwyd fwy na 190 o aelodau. Roedd gan
Scottish Power gynllun roeddent yn bwriadu ei gynnal ar draws Gogledd Cymru a
oedd yn cynnwys 5 cynllun posibl dan y ddaear. Roedd Fforwm
Blynyddol Aelodau Lleol a Chynghorau Cymuned wedi’i gynnal yng Nghanolfan
Gymunedol Froncysyllte. Cynigiwyd y dylid
cael “Cefnogwr” ar gyfer yr AHNE ar bob un o’r Cynghorau Tref a Chymuned er
mwyn codi unrhyw faterion sy’n berthnasol i’r AHNE. Cadarnhaodd
Swyddog yr AHNE fod llythyrau wedi’u hanfon i bob Cyngor Tref a Chymuned oedd
eu hardal, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yn yr AHNE, gan ofyn eu bod yn cynnig
“Cefnogwr” AHNE. Cadarnhawyd fod
trefniadau am gael eu gwneud i’r Cefnogwyr fynychu Fforwm yn y dyfodol a byddai
Swyddogion AHNE yn mynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned. Cynllun Pori
Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWGS) - yr her oedd rhoi sylw i safleoedd nad oedd
ganddynt dir pori. Byddai’r prosiect yn canolbwyntio ar dirluniau nad
oeddent yn cael eu pori ar hyn o bryd a byddai'n cynnwys Hillside Prestatyn a
Choed Moel Famau yn ogystal â safleoedd o fewn Dyffryn Dyfrdwy. Un o faterion
mwyaf Heddlu Gogledd Cymru oedd aflonyddu ar ddefaid. Roedd
gwaith wedi bod yn cael ei wneud gyda Swyddogion Heddlu gwledig. Roedd
arwyddion newydd wedi’u creu, hysbysiadau wedi’u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol
a bu presenoldeb cryf ar Foel Famau i ddosbarthu taflenni i sicrhau bod
cŵn yn cael eu cadw ar dennyn.
Byddai presenoldeb mewn
sioeau cŵn hefyd i ddosbarthu taflenni a thenynnau cŵn. Roedd
llawer o waith yn cael ei wneud i roi’r wybodaeth i’r cyhoedd i gadw cŵn
ar dennyn. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion drafft y cyfarfod Partneriaeth AHNE a
gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2017 fel cofnod cywir. |
|
CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR (copi ynghlwm) PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Gareth
Williams adroddiad ar Gyllideb y Cydbwyllgor ar gyfer 2017/18, a’r Alldro a
Chyfrifon ar gyfer 2016/17. Mynegodd Gareth
Williams ei ddiolch i Paula O’Hanlon am ei holl waith caled ar y gyllideb. Dywedodd ei bod
wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall gyda thanwariant o £15,000.00. PENDERFYNWYD: (i)
Nodi’r alldro ariannol ar gyfer 2016/17 (ii)
Cymeradwyo cyllideb 2017/18 (iii)
Bod Aelodau yn derbyn y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol a nodi Balansau’r Gronfa Wrth Gefn fel yr oedd ar 31
Mawrth 2017. |
|
TIRWEDDAU'R DYFODOL YNG NGHYMRU A MABWYSIADU GWELEDIGAETH (copi ynghlwm) PDF 326 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog AHNE adroddiad ar Tirweddau’r Dyfodol: Yn Cyflawni dros Gymru – Adolygu
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru. PENDERFYNWYD bod
y Cyd-bwyllgor yn craffu a chymeradwyo'r Adolygiad ac yn mabwysiadu'r
weledigaeth a rennir o'r Adolygiad.
Gofynnwyd i bob un o'r Ardaloedd Gwarchodedig
ystyried mabwysiadu’r weledigaeth ar y cyd ganlynol gan Lywodraeth Cymru: Cymru fel cenedl sy’n gwerthfawrogi ei dirweddau
am yr hyn y maent yn ei ddarparu i bobl Cymru a thu hwnt. Mae tirweddau dynodedig Cymru yn darparu o
fewn a thu hwnt i’w ffiniau i wella eu hadnoddau cymdeithasol, economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol; darparu’r buddion lles mwyaf ar gyfer cenedlaethau
heddiw a’r dyfodol gan wella’r rhinweddau gwirioneddol sy’n eu gwneud yn
unigryw ac yn annwyl i bobl. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE (copi ynghlwm) PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog
AHNE gyflwyno Adroddiad Blynyddol AHNE a oedd yn tynnu sylw at y gweithgareddau
a gynhaliwyd gan y Tîm AHNE a’i bartneriaid. Cyfeiriodd
Swyddog AHNE at y prif bwyntiau i’w hystyried. Yn ystod y
drafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Ar hyn
o bryd roedd gan Gyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy dros 190 o aelodau. ·
Roedd
pum Gweithgor wedi’i sefydlu: Ø
Cymeriad
y Tirlun a’r Amgylchedd Adeiledig Ø
Rheoli
Tir a’r Amgylchedd Naturiol Ø
Yr
Amgylchedd Hanesyddol Ø
Mynediad
Hamdden a Thwristiaeth, a Ø
Y
Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Roedd tirfeddiannwr Tomen y Rhodwedd wedi cytuno i roi mynediad i’r cyhoedd at y safle ac roedd giatiau ac arwyddion newydd wedi eu gosod. Roedd Swyddogion wedi cynnal astudiaeth fanwl yn enwedig ar barcio a fu’n fater mawr. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddog AHNE a’r holl staff a oedd yn gwneud gwaith ar sail
ddyddiol. PENDERFYNWYD bod
y Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol yr AHNE. |
|
STRATEGAETH GWIRFODDOLWYR (copi ynghlwm) PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog
Partneriaeth Cymunedol gyflwyno Strategaeth Wirfoddoli AHNE Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy. Roedd Strategaeth
Gwirfoddoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cysylltu Camau Gweithredu
Cynllun Rheoli AHNE i'r datblygiad o ran sut y mae’r gwasanaeth yn gweithio ac
yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Roedd y cynllun yn cyflenwi cyfnod o bum
mlynedd a byddai’n cael ei adolygu’n flynyddol. Roedd
yn adnabod perthynas waith gyfredol gyda grwpiau gwirfoddoli, rhwystrau a
manteision gwirfoddoli, a sut y gall y gwasanaeth wella a datblygu cyfleoedd
gwirfoddoli o fewn y Gwasanaeth. Gofynnodd y
Cadeirydd fod y dynodiadau yn yr adroddiad y gyson a chyfeirir atynt fel yr
AHNE. Cadarnhawyd y
byddai gwaith cydweithredol yn digwydd gyda sefydliadau eraill. PENDERFYNWYD bod
y Cydbwyllgor yn cymeradwyo’r Strategaeth Wirfoddoli ar gyfer AHNE Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, dirprwyo’r gwaith o’i gyflwyno i'r Swyddog AHNE. |
|
DIWEDDARIAD O 'EIN TIRLUN DARLUNIADOL - Diweddariad ar Lafar Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog
AHNE Cynorthwyol gyflwyno adroddiad ar lafar gyda diweddariad o’r Dirlun
Darluniadol. Roedd cytundeb
drafft wedi’i lunio gyda Sir Ddinbych, Wrecsam a Safle Treftadaeth y Byd Swydd
Amwythig i ddod â’r AHNE a Safle Treftadaeth y Byd ynghyd. Roedd
gwaith yn dal i gael ei wneud ar ymddiriedolaeth y gamlas ac afon. Roedd £ ¾ miliwn
o gyllid allanol wedi dod i law yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd y
Swyddogion AHNE yn rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o gais am grant i gynnal
Gŵyl Gerdded flynyddol Safle Treftadaeth y Byd. PENDERFYNWYD nodi’r
diweddariad. |
|
CRYNODEB O YMGYNGHORIADAU CYNLLUNIO AHNE HYDREF 2016 I FAWRTH 2017 (copi ynghlwm) PDF 435 KB Eitem er gwybodaeth yn unig. Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
yr AHNE yr adroddiad er gwybodaeth yn unig. Diolchwyd i Tony
Hughes am ei waith i lunio'r adroddiad. Roedd Swyddogion
Cynllunio yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ceisio cyflogi
Ymgynghorydd i gwmpasu’r 3 Awdurdod. PENDERFYNWYD nodi’r
diweddariad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL (copi ynghlwm) PDF 372 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr AHNE yr adroddiad. PENDERFYNWYD nodi'r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL 24 Tachwedd 2017, 23 Chwefror 2018, 22 Mehefin 2018 a 23 Tachwedd 2018. Cofnodion: Byddai’r cyfarfod
nesaf yn cael ei gynnal ar 24 Tachwedd 2017. Roedd y Swyddog
AHNE am gael dyddiadau cyfarfodydd CLlLC i osgoi gwrthdaro cyfarfodydd. PENDERFYNWYD nodi
dyddiadau’r dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |