Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bernie Attridge (Cyngor Sir y
Fflint). |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYDBWYLLGOR Penodi cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014 / 15 Cofnodion: Cynigwyd y
Cynghorydd Hugh Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) i’w benodi fel
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor gan y Cynghorydd Huw Jones. Eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts y
cynnig. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau
eraill a phenodwyd y Cynghorydd Hugh Jones yn gadeirydd. PENDERFYNWYD - bod y Cynghorydd Hugh Jones yn
cael ei benodi’n gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2014/15. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYDBWYLLGOR Penodi is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2014 / 15. Cofnodion: Cynigwyd y Cynghorydd Huw Jones (Cyngor Sir
Ddinbych) fel is-gadeirydd y Cydbwyllgor gan y Cynghorydd Derek Butler; ac fe
eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hugh Evans. Heb unrhyw
enwebiadau eraill: PENDERFYNWYD – bod y
Cynghorydd Huw Jones yn cael ei benodi’n is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer
blwyddyn y cyngor 2014/15. |
|
MABWYSIADU CYFANSODDIAD AHNE BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY PDF 124 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i’r Cyd-bwyllgor fabwysiadu’r cyfansoddiad (sydd ynghlwm fel atodiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Bennaeth Gwasanaethau'r Gyfraith, AD a
Democratiaeth Cyngor Sir Ddinbych adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol)
oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cydbwyllgor i fabwysiadu cyfansoddiad y
Cydbwyllgor (rheolau sefydlog). Cynghorodd y
Pennaeth fod y cyfansoddiad atodol eisoes wedi’i gymeradwyo gan adrannau
cyfreithiol y 3 awdurdod a’u tystio gyda sêl pob awdurdod. Amlinellodd rai o rannau allweddol y ddogfen;
bod aelodaeth y Cydbwyllgor yn cynnwys aelodau gweithredol pob awdurdod (e.e.
Aelodau Cabinet neu'r Bwrdd Gweithredol) a bod gan bob awdurdod ddau aelod,
darpariaethau ar gyfer cyfarfod blynyddol a chyfarfodydd bob 4 mis. Byddai lleoliadau’r cyfarfodydd yn cael eu
cylchdroi rhwng pob awdurdod. Adroddodd ynglŷn â chworwm a
threfniadau pleidleisio fel y dengys y rheolau sefydlog a chadarnhaodd y byddai
Sir Ddinbych fel awdurdod arweiniol yr AHNE yn paratoi, cyhoeddi a chylchredeg
pecynnau rhaglen ar gyfer pob cyfarfod y Cydbwyllgor, ond byddai’r awdurdod
sy’n cynnal y cyfarfod yn cynhyrchu'r cofnodion. Amlygodd Pennaeth
y Gyfraith, AD a Democratiaeth wall yn y rheolau sefydlog ac y dylai rheol
sefydlog 8.6 gyfeirio at reol sefydlog 14 (nid 4) wrth ymdrin â gweithgarwch
niwsans. Cwestiynodd y
Cynghorydd Martyn Holland reol sefydlog 13 oedd yn gwahardd datgan anghytundeb. Cynghorodd y Pennaeth fod y ddarpariaeth yn
atal cofnodi anghytundeb yn y cofnodion ar ôl cynnal pleidlais. Cadarnhaodd y gellir cofnodi anghytundeb yn y
cofnodion fel rhan o’r drafodaeth ac y gellir defnyddio pleidlais wedi’i
chofnodi i gofnodi sut y pleidleisiodd bob aelod. PENDERFYNWYD bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo’r
cyfansoddiad (rheolau sefydlog) sydd ynghlwm yn atodiad 1 (yn amodol ar gywiro
rheol sefydlog 8.6). |
|
TROSOLWG O GYTUNDEB Y CYDBWYLLGOR PDF 167 KB Ysyried adroddiad (copi ynghlwm) i’r aelodau ymgyfarwyddo â chytundeb y Cydbwyllgor a’i oblygiadau ar gyfer yr holl bartïon. Cofnodion: Cyflwynodd
Bennaeth y Gyfraith, AD a Democratiaeth adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol) oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r cytundeb cyfreithiol sy’n
sylfaen i’r Cydbwyllgor a chyfeiriodd at y pwyntiau canlynol. ·
Roedd y cytundeb yn creu’r Cydbwyllgor ac yn
sefydlu ei bwerau. ·
Roedd y cytundeb yn sefydlu grŵp
swyddogion i lunio argymhellion ar gyfeiriad strategol a’r gyllideb, i
weithredu’r cynllun rheoli, cynllun gweithredu blynyddol a phenderfyniadau’r
cydbwyllgor; byddai’r grŵp yn cynnwys aelodau cyfetholedig o Gyfoeth
Naturiol Cymru, swyddogion o’r 3 awdurdod perthnasol a gan bartneriaid eraill. ·
Byddai Sir Ddinbych yn darparu arbenigedd
ariannol, cymorth cyfreithiol a gweinyddol ar gyfer y Cydbwyllgor a chymorth gyda
chofnodion gan yr awdurdod sy’n cynnal cyfarfod y cydbwyllgor. ·
Proses
ar gyfer ariannu’r Cydbwyllgor i ddiwallu ei amcanion drwy gyllideb graidd sy’n
cael ei darparu gan y 3 awdurdod a chyllid grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru. ·
Byddai’n
cytundeb yn parhau hyd 2019 ac oni bai y caiff ei newid, ei dynnu’n ôl neu ei
ddiddymu yna byddai’n parhau am gyfnod arall o 5 mlynedd wedi hynny. ·
Gall unrhyw un o’r 3 awdurdod dynnu’n ôl o'r
Cydbwyllgor drwy roi dim llai na 18 mis o rybudd i’r awdurdodau eraill a’r
Ysgrifennydd (Pennaeth y Gyfraith, AD a Democratiaeth Sir Ddinbych). Cyfeiriodd y
Cynghorydd Hugh Evans at yr amcanion a nodir ar gyfer y Cydbwyllgor lle y
byddai’n ceisio ‘dylanwadu' o blaid pwrpas ddynodedig yr AHNE. Adroddodd y Cynghorydd Evans nad oedd yn glir
beth oedd ystyr diffiniad yr ymagwedd o ddylanwadu a beth oedd y
goblygiadau. Dywedodd ei fod wedi profi
effeithiau negyddol o ran gweithgarwch
yr AHNE lle yr oedd yn ceisio dylanwadu ar ganlyniadau penderfyniadau ar eiddo
a chymunedau tu hwnt i’r AHNE ei hun. Eglurodd Swyddog
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Swyddog AHNE) fod yr AHNE yn ddynodiad
cenedlaethol ac roedd angen i’r 3 awdurdod ystyried hynny. Adroddodd fod angen Cydbwyllgor i hyrwyddo
polisïau a phenderfyniadau oedd yn cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE yn
unol â’i bwrpas statudol. Ychwanegodd Bennaeth Gwasanaethau'r
Gyfraith, AD a Democratiaeth fod y cytundeb eisoes wedi’i gymeradwyo gan dimau
cyfreithiol y 3 awdurdod ac wedi’i gymeradwyo gan Gabinet neu Fwrdd Gweithredol
pob awdurdod. Cefnogodd y
Cynghorydd Stuart Davies y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Evans, gan
ychwanegu ei fod yn byw mewn ardal yr effeithir arni gan weithgareddau’r AHNE
ac yn ei farn ef roedd hyn yn cyfyngu’n annheg ar ryddid trigolion a
busnesau. Adroddodd y Cynghorydd Hugh
Jones y gallai’r Cydbwyllgor weithredu o fewn ei gylch gorchwyl yn unig, ac
roedd ganddo brosesau eglur a byddai’n datblygu rhaglen gwaith i’r dyfodol i
weithredu arno. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad. |
|
CYLLIDEB Y CYDBWYLLGOR 2014 / 15 PDF 104 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar sefyllfa ariannol bresennol yr AHNE ac i gymeradwyo'r gyllideb ar gyfer 2014/15 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr
Cyllid a Sicrwydd Sir Ddinbych adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar
gyllidebau refeniw’r AHNE. Adroddodd fod
y broses gosod cyllideb ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cydnabod fod yn rhaid
i’r AHNE gael cyllideb i weithredu ac y gallai gael ei gymeradwyo’n ffurfiol
gan y Cydbwyllgor yn awr. Adroddodd y
Rheolwr Cyllid a Sicrwydd ar y gorwariant bychan a’r tanwariant yn y cyllidebau
craidd ac ardal yn y drefn honno a chynghorodd fod y gyllideb ar gyfer 2014 /15
yn bendant ond rhybuddiodd efallai y bydd anawsterau yn y blynyddoedd sydd i
ddod. Wrth amlygu bod
yn rhaid i’r Cydbwyllgor gytuno ar gyllideb bob blwyddyn a bod gofyn i’r 3
awdurdod ddarparu cyfraniad priodol, cynghorodd y Cynghorydd Hugh Jones y
byddai angen i’r Cydbwyllgor gyfarfod i drafod drafft y gyllideb mewn pryd er
mwyn cyflwyno argymhellion ynglŷn â chyllid i’r awdurdodau. Trafododd yr
Aelodau'r mater o sicrhau fod y gyllideb yn cael ei rhannu’n deg rhwng yr
awdurdodau. Mewn ymateb eglurwyd fod y rhan fwyaf o’r AHNE
yn Sir Ddinbych ac felly roedd rhan fwyaf y gwaith a’r gwariant yn Sir
Ddinbych. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad a bod y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2014/15 yn cael ei chymeradwyo’n
ffurfiol. |
|
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i gwblhau’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y cytundeb cyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr AHNE adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghylch cadarnhau
trefniadau llywodraethu ar gyfer cytundeb cyfreithiol y Cydbwyllgor. Fe gynghorodd fod Partneriaeth yr AHNE yn
cael ei thrawsnewid fel rhan o’r cytundeb gyfreithiol gan ddisodli'r
Cydbwyllgor Ymgynghorol Dros Dro gyda Phartneriaeth yr AHNE (Grŵp
Budd-ddeiliaid) a fforymau perthnasol. Adroddodd Swyddog
yr AHNE mai cynhyrchu cynllun rheoli oedd prif faes gwaith y Bartneriaeth a
chyfeiriodd at y rhestr o aelodau fyddai’n ffurfio Partneriaeth yr AHNE fel y
dengys yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod y
Cydbwyllgor yn:- (i) Cymeradwyo penodiad is-grŵp yn
cynnwys y Cynghorwyr Derek Butler, Huw Jones ac Ian Roberts i benodi
Partneriaeth yr AHNE (yn amodol ar gadarnhad ffurfiol aelodaeth yr is-grŵp
drwy weithdrefnau penderfyniadau dirprwyol pob awdurdod); (ii) Byddai
dyddiad ar gyfer cyfarfod Fforwm yr AHNE a Chyngor Tref a Chymuned yn cael ei
gadarnhau ar ôl ymgynghori gyda’r cyfranogwyr; gyda gwahoddiad i aelodau
etholedig y 3 awdurdod. |
|
DERBYN DOGFENNAU O'R RHAGLEN WAITH PRESENNOL 2014 / 15 Derbyn
dogfennau (copïau
i'w darparu yn y cyfarfod) ar y canlynol: ·
Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy · Rhaglen Waith Newid yn yr Hinsawdd Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
yr AHNE adroddiad ar lafar a chyflwyno Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy a
Chynllun Gweithredu. Cynhyrchwyd y
Strategaeth gan y Cwmni Twristiaeth ar ôl cynnal gweithdai ymgynghori er mwyn
deall y sefyllfa i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy. Byddai digwyddiad
cyhoeddusrwydd i hyrwyddo’r Strategaeth yn cael ei gynnal yng Nghorwen yr
wythnos ganlynol. Dosbarthodd
Swyddog yr AHNE rhaglen waith newid hinsawdd ac egluro fod y ddogfen yn llunio
awgrymiadau sut y gallai ffermydd, trigolion a busnesau o fewn yr AHNE addasu i
liniaru effeithiau newid hinsawdd.
Cynghorwyd yr Aelodau fod gan y rhaglen ddogfennau cysylltiol gan
gynnwys un ar gyfer plant oedd yn ceisio ymdrin â’r bwlch mewn darpariaeth a
gobeithir y byddai’n denu teuluoedd ac eraill sydd â diddordeb mewn materion
sy’n ymwneud â newid hinsawdd i’r AHNE. Holodd y
Cynghorydd Hugh Jones os oedd polisi dosbarthu ar gyfer y dogfennau hyn, a
chadarnhawyd fod rhwydwaith ddosbarthu dda yn Sir Ddinbych, ond nad oedd
pwyntiau dosbarthu, megis canolfannau croeso, yn Sir y Fflint a Wrecsam wedi’u
cysylltu cystal. PENDERFYNWYD bod Strategaeth
Gyfathrebu, gan gynnwys monitro effeithiolrwydd cyfathrebu, yn cael eu
hychwanegu at raglen gwaith i’r dyfodol y Cydbwyllgor. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 144 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar gyfer datblygu rhaglen waith i’r dyfodol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr AHNE adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar ddatblygiad rhaglen
gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Cydbwyllgor er mwyn ystyried blaenoriaethau a
meysydd gwaith y pwyllgor ar gyfer y dyfodol.
Ystyriodd yr
Aelodau'r materion canlynol: ·
Roedd
Strategaeth Edeyrnion yn cael ei datblygu gan bartneriaid yn ne’r AHNE ·
Bwriad
y Strategaeth Estyn Allan a Gwirfoddolwyr oedd cynyddu nifer y gwirfoddolwyr a
gwneud y gorau o’u cyfraniad at amcanion yr AHNE. Trafododd yr
Aelodau gynhyrchiant canllawiau cynllunio atodol ar gyfer yr AHNE, ac roedd y
Cynghorydd Hugh Evans yn pryderu fod perygl y byddai’r AHNE yn niweidio ei enw
da wrth geisio dylanwadu ar ganlyniadau ceisiadau cynllunio a dylid bod yn
ofalus yn hyn o beth. Roedd y drafodaeth
a ddilynodd yn cynnwys: ·
Pryderon
y gallai costau ychwanegol i gydymffurfio â chanllawiau’r AHNE atal trigolion a
busnesau rhag cyflwyno cais, gan arwain at ddiffyg datblygiad o fewn yr AHNE. ·
Dadleuodd
y Cynghorydd Carolyn Thomas mai bwriad y canllawiau oedd darparu cyngor
defnyddiol i’w ystyried cyn cyflwyno cais cynllunio. ·
Rôl
yr AHNE i hyrwyddo ei amcanion a rôl yr awdurdodau cynllunio i benderfynu ar
deilyngdod a safbwyntiau’r rhai sy’n hyrwyddo neu’n gwrthwynebu’r ceisiadau
cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Derek
Butler mai rôl y Cydbwyllgor oedd eirioli amcanion yr AHNE ac y byddai cyrff ac
unigolion eraill yn gwneud yr un fath o ran eu hamcanion a'u cylch gwaith. PENDERFYNWYD: (i) Bod adolygiad o arian a chyllid yr AHNE yn
cael ei ychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol; a (ii) Chymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
ADOLYGIAD YMGYNGHOROL CYFREDOL LLYWODRAETH CYMRU O DIRWEDDAU DYNODEDIG YNG NGHYMRU Ystyried adroddiad
ar lafar ar yr ymgynghoriad Cofnodion: Darparodd Swyddog
yr AHNE adroddiad ar lafar ynglŷn â’r adolygiad fyddai’n archwilio
dynodiadau tirwedd a phwrpas a buddion dynodi tirweddau Cymru dan un math o
ddynodiad. Cynghorwyd yr Aelodau y byddai’r
adolygiad hefyd yn ystyried trefniadau llywodraethu'r tirweddau dynodedig ac yn
ystyried Mesur Cynllunio (Cymru) o ran trefniadau ar gyfer cynllunio yn y
dyfodol mewn Parciau Cenedlaethol. Mewn ymateb i
gwestiynau, cynghorwyd yr aelodau mai prif amcan adolygiad Llywodraeth Cymru
oedd y trefniadau llywodraethu.
Trafodwyd y posibilrwydd o osod dynodiad tebyg i barc cenedlaethol ar yr
AHNE ynghyd â’r posibilrwydd y gallai llywodraethu parciau cenedlaethol
ddychwelyd i fod yn gyfrifoldeb i’r awdurdodau lleol unwaith eto. Cynghorwyd yr
Aelodau y gallai’r Aelodau gyfrannu at
yr ymgynghoriad naill ai fel Cydbwyllgor neu fel unigolion ac roedd y
Cydbwyllgor Gweithredu Dros Dro eisoes wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Roedd y
Cynghorydd Hugh Jones o’r farn nad oedd gan y Cydbwyllgor ddigon o wybodaeth
ynglŷn â’r adolygiad i lunio ymateb i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL Cofnodion: Adroddodd Rheolwr
y Gwasanaethau Democrataidd fod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cydbwyllgor yn
nodi y dylid cynnal cyfarfodydd 2015 ym mis Ionawr, Mehefin a Thachwedd. Cynghorodd yr Aelodau y byddai’n well
ganddynt pe bai’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar foreau Gwener lle bo modd. Gan fod y
cadeirydd newydd yn Gynghorydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cytunwyd
y dylid ystyried Wrecsam fel lleoliad ar gyfer cyfarfod mis Ionawr y
Cydbwyllgor. PENDERFYNWYD bod cyfarfodydd
y Cydbwyllgor yn cael eu trefnu ar gyfer mis Ionawr, Mehefin a Thachwedd 2015. |