Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Agorwyd y cyfarfod gan Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Howard Sutcliffe.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dave Hughes (CSFf), David Healy (CSFf)  a Nigel Williams (CBSW).

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnodion:

Ceisiodd Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy enwebiadau gan y Pwyllgor ar gyfer enwebu ar gyfer Cadeirydd.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Alan James i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD: penodi’r Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

 

3.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor AHNE blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024 fel cofnod cywir.

 

 

4.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH Y DIRWEDD GENEDLAETHOL pdf eicon PDF 538 KB

Ystyried y cofnodion (copi ynghlwm) o gyfarfod Partneriaeth y Dirwedd Genedlaethol a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2025.

 

Cofnodion:

Arweiniodd Cadeirydd Pwyllgor Partneriaeth Tirweddau Cenedlaethol yr aelodau drwy gofnodion cyfarfod Partneriaeth Tirweddau Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2025.

 

Bydd dathliadau 40 mlynedd y dynodiad ar y Tirweddau Cenedlaethol yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf 2025, a digwyddiadau a dathliadau'n cael eu paratoi i nodi'r achlysur.

 

Darparwyd manylion ynghylch Prosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a De Clwyd.

 

Trafodwyd y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan y Swyddog Tirweddau Cenedlaethol, a dywedodd aelodau o Gyngor Sir y Fflint (CSFf) a Chyngor Sir Dinbych (CSDd) eu bod wedi cyflwyno cais am fanylion pellach ar faterion cyllid a chynllunio i Gyfoeth Naturiol Cymru o ran y cynnig ar gyfer y Prosiect Parc Cenedlaethol newydd.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi cofnodion cyfarfod y Bartneriaeth Tirweddau Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2025.

 

 

5.

ADRODDIAD CWMPASU ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 665 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) ynglŷn ag Adroddiad Cwmpasu Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yr Adroddiad Cwmpasu Archwilio Mewnol i'r Pwyllgor.

 

CSDd oedd yr awdurdod arweiniol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a oedd yn cynnwys monitro a rheoli'r Tirweddau Cenedlaethol. Cafwyd cyfraniadau gan bob un o’r tri awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, a oedd wedi'u dyrannu’n unol â'r ardaloedd a ddyrannwyd o fewn y tri awdurdod lleol.

 

Y risgiau a amlygwyd yn yr adroddiad oedd - 

·       Trefniadau cyfreithiol

·       Gwytnwch ariannol

·       Trefniadau llywodraethu

·       Diffyg eglurhad ynghylch cyfrifoldeb ac atebolrwydd tir

·       Dim Cofrestr Asedau na Chofrestr Benthyciadau

Er bod Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ill dau wedi cyfrannu tuag at ariannu’r AHNE, nid oedd trywydd archwilio i ddangos sut daethpwyd i gytundeb ynghylch y cyfraniadau ariannol pan ymunodd y tri awdurdod lleol â’r AHNE yn 2013. Roedd hwn yn gytundeb hirhoedlog, ac roedd angen ei adolygu i ystyried costau fel chwyddiant, costau staff a phwysau cyllidebol eraill (risg 1).

 

Er bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer monitro cyllideb yr AHNE, roedd y gwasanaeth wedi nodi gostyngiad yn y cyllid ar gyfer 2024-25 a 2025-26. Roedd hyn yn ei gwneud yn anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol o safbwynt costau staffio a chyflawni prosiectau (risg 2).

 

Cyfarfu Cyd-bwyllgor yr AHNE dair gwaith y flwyddyn. Roedd yr aelodau’n cynnwys swyddogion arweiniol o bob awdurdod, swyddog arweiniol Cyfoeth Naturiol Cymru ac aelod arweiniol i gynrychioli pob awdurdod. Cadarnhawyd drwy adolygu’r cofnodion nad oedd cworwm ymhob cyfarfod a bod y pwyllgor felly’n methu â gwneud penderfyniadau allweddol (risg 3).

 

Roedd adborth gan swyddogion ac aelodau CSDd, CSFf, CBSW a CNC wedi cadarnhau bod gan yr AHNE drefniant cydweithio effeithiol ar waith. Er bod y bartneriaeth yn gweithio'n dda, roedd angen trafodaeth bellach ynghylch eglurder gwaith a chyfrifoldebau atebolrwydd gyda CBSW (risg 4).

 

Prynwyd asedau â chyllid yr AHNE. Fodd bynnag, nid oedd cofrestr asedau na chofrestr benthyciadau ar waith (risg 5).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi Adroddiad Cwmpasu’r Archwiliad Mewnol.

 

 

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT DYNODIAD PARC CENEDLAETHOL GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

Derbyn diweddariad ar lafar gan Reolwr Rhaglen CNC (Ash Pierce (CNC) am Brosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cofnodion:

Rhannwyd cyflwyniad gan Reolwr Rhaglen CNC ar y cynnig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru a oedd yn cynnwys:

·       Amserlen Gwerthuso’r Cynnig

·       Proses Statudol

·       Casglu tystiolaeth barhaus

·       Prif themâu ar gyfer ymgysylltu

·       Y Camau Nesaf

Gofynnodd yr aelodau a fyddai unrhyw welliannau i'r ffiniau arfaethedig yn dilyn yr adborth a gafwyd. Esboniodd Rheolwr Prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai fod rhai newidiadau i ffiniau'r Parc Cenedlaethol i gynnwys y Warchodfa Natur a oedd wedi'i lleoli'n agos at y ffiniau gwreiddiol, a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt o ran hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Rhaglen CNC am ei gyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad ar Brosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain Cymru.

 

 

7.

ADRODDIAD CYLLID Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried Adroddiad Cyllid y Cyd-bwyllgor (copi ynghlwm) (SG a PO).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Rheolwr Cyllid a Sicrwydd yr aelodau'n fras drwy Adroddiad Cyllid y Cyd-bwyllgor.

 

Rhoddodd yr adroddiad grynodeb o sefyllfa refeniw derfynol y Tirweddau Cenedlaethol ar gyfer 2024-25. Y sefyllfa gyffredinol a ragwelir yw bod angen cyfraniad o’r refeniw o tua £45,000 i gefnogi’r costau, ychydig yn llai na’r disgwyl pan osodwyd y gyllideb. Darparwyd mwy o fanylion yn atodiadau 1 a 2 a ddosbarthwyd yn flaenorol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyllid a Sicrwydd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi Adroddiad Cyllid y Cyd-bwyllgor.

 

 

8.

CRYNODEB CYNLLUNIO 2024-2025 pdf eicon PDF 599 KB

Derbyn adroddiad gwybodaeth (copi ynghlwm) ynglŷn â Chrynodeb Cynllunio 2024-2025.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy y Crynodeb Cynllunio i'r Pwyllgor.

 

Roedd yr Ymgynghoriadau Cynllunio yn cwmpasu ystod eang o fuddiannau a oedd yn cynnwys:

·       Ceisiadau Deiliad Tŷ

·       Preswyl, gan gynnwys trawsnewid

·       Datblygiadau’n ymwneud â thwristiaeth

·       Amaethyddiaeth / Coedwigaeth 

·       Ceisiadau’n ymwneud ag ynni

·       Arall, mwynau, arwyddion, telathrebu

Ar y cyfan, roedd nifer y ceisiadau’n is na’r blynyddoedd blaenorol ar draws y 3 Awdurdod Cynllunio Lleol, yn rhannol oherwydd nifer y ceisiadau a ddelir yn ôl oherwydd mater yn ymwneud â ffosfforws. Cafwyd gostyngiad tebyg yn y nifer o Achosion Gorfodi a gyfeiriwyd at dimau gorfodi yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer ymchwiliad.  Un achos parhaus oedd ar dir i'r De-orllewin o Fryn Oerog, Ffordd Llangollen, Trefor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi Crynodeb Cynllunio 2024-25.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 403 KB

Ystyried y Rhaglen Waith (copi ynghlwm) gan Swyddog AHNE (HS).

 

Cofnodion:

Arweiniodd Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid yr aelodau drwy Raglen Waith y Pwyllgor, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid, gweithio mewn partneriaeth a Phrosiectau AHNE.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r Rhaglen Waith.

 

 

10.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

Er gwybodaeth - dyddiad cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE yw 27 Mehefin 2025.

 

Cofnodion:

Roedd y cyfarfod nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 27 Mehefin 2025.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25am.